Agenda item

Rhaglen Waith

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ac Atodiad 2. Esboniodd y Partner Busnes Ymchwil a Pherfformiad mai diben y gofrestr risgiau oedd rheoli risgiau ac i dystio bod prosesau ar waith i reoli’r risgiau hynny.

Prif bethau i’w hystyried:

           Ar ddiwedd Chwarter 4, roedd 14 risg gorfforaethol wedi’u cofrestru’n cynnwys 5 risg uchel, 8 risg ganolig ac 1 risg isel. 

           Gostyngodd y risgDeddfwriaethol’ o 16 i 12 yn y chwarter diwethaf a adlewyrchwyd y gwaith wedi’i wneud gyda’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

           Gostyngwyd risg Brexit yn y Chwarter blaenorol o 16 i 12 a adlewyrchwyd gohirio Brexit o fis Mawrth i fis Hydref 2019 gyda’r bygythiad o Brexit heb gytundeb gan yr UE. Byddai Risg Brexit yn parhau i gael ei monitro’n agos a byddai’r Cyngor yn cydgysylltu â Llywodraeth Cymru i fonitro unrhyw newidiadau.

           Risg 5 (Rheoli Ariannol yn Ystod y Flwyddyn) - Lleihaodd y risg hon o 8 i 4 yn y chwarter diwethaf a adroddwyd tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y Cyngor. Bydd angen monitro ac ailwerthuso’r risg o ganlyniad i bwysau parhaol ar wasanaethau’r Cyngor ar gyfer 2019/2020

 

Cwestiynau

Cyfeiriodd aelod y pwyllgor at dudalen 14 yr Adroddiad ar Risgiau Corfforol a gofynnodd ynghylch y term ‘risgiau corfforaethola’r hyn a olygir pan fo risgiau’n cael eu huwchgyfeirio i lefel gorfforaethol? Cadarnhawyd bod risgiau’n cael eu huwchgyfeirio i reolwyr gwasanaethau a’r uwch dîm rheoli.

 

Gofynnwyd cwestiwn mewn perthynas â sefyllfa ‘dim cytundeb’ o ran Brexit, gan fod sgoriau risgiau Brexit wedi gostwng, a ydy hyn yn golygu bod y Cyngor yn cefnogi Brexit heb gytundeb? Cadarnhawyd bod y risg wedi’i lleihau ers 29 Mawrth 2019 gan fod llawer o waith paratoi, gwaith gyda chymheiriaid ac ati. wedi bod. Pe bai sefyllfa dim cytundeb eto, byddai gwaith paratoi’n cael ei wneud yn syth. Dywedodd y Cadeirydd fod gwaith da wedi bod yn cael ei wneud ac nad oedd yn sicr a fyddai risg Brexit yn mynd i fyny neu i lawr ym mis Hydref.

 

Byddai’r gr?p gorchwyl yn parhau i fonitro ac addasu’r risg fel sydd angen a pha bynnag penderfyniad y byddai’r Llywodraeth yn ei wneud, gellid ei rheoli dros gyfnod hir.   Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Gofynnodd Aelod arall a allai risg nad ydym yn gwybod amdani effeithio ar y Cyngor, o ystyried y sefyllfa wleidyddol a byd-eang gyfredol.

 

Cadarnhaodd y Partner Busnes Ymchwil a Pherfformiad nad oes modd rhagweld hyn. Dywedwyd bod adolygiad o risgiau’n cael ei gynnal bob blwyddyn. Ystyriodd yr adolygiad o Risgiau Corfforaethol y cynllun gwasanaeth a’r gwasanaethau i edrych ar y tirlun risgiau. Beth oedd y risgiau posibl nawr ac mewn 10 mlynedd? Er enghraifft, beth fyddai effaith newid yn yr hinsawdd ar ddinas Casnewydd mewn 20-30 o flynyddoedd erial a sut byddai’r risg honno’n effeithio ar allu Cyngor Casnewydd i ddarparu gwasanaethau. Golygodd asesu risgiau nodi risgiau cyfredol ac yn y dyfodol.

Dywedodd aelod nad yw llawer o sefydliadau yn cydweithio a gallai hyn fod yn hunllef ac a oes unrhyw fecanweithiau ar waith i ni reoli hyn? Esboniwyd fod y broses risgiau ar waith i nodi unrhyw risgiau sy’n codi ac i reoli’r risgiau, caiff ei monitro’n gyson. 

 

Roedd gan Aelod arall gwestiwn ynghylch Rhaglen/Project Rheoli Risgiau a sut mae’n cael ei rheoli/ei reoli. Cadarnhawyd bod hyn yn cynnwys partneriaeth gwaith rhwng Cyngor Torfaen, heddlu Gwent ac yn y tymor hirach, fforwm Gwydnwch Lleol Dyfodol Gwent.

 

Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod unrhyw beth sydd angen iddo fod ar y gofrestr risgiau yn cael ei fwydo trwy gynlluniau gwasanaeth. Cyflwynwyd materion oedd modd eu nodi yn yr adran Archwilio gerbron y rheolwyr.

 

Dogfennau ategol: