Agenda item

Datganiadau Ariannol Drafft 2018/19

Presentation by Head of Finance

Cofnodion:

Cadarnhawyd i Aelodau pwyllgor dderbyn copi o’r Cyfrifon Ariannol Drafft ac roedd y Pennaeth Cyllid yn gobeithio cael mwy o sylwadau ac adborth gan y Pwyllgor. Y bwriad oedd ei gwblhau erbyn dydd llun 10 Mehefin 2019 ar yr hwyraf.

Dywedwyd bod problemau fformatio mewn cwpl o adrannau. 

Wedyn rhoddodd cyflwyniad i’r Pwyllgor a roddodd wybod i’r Pwyllgor am y prif agweddau ar y cyfrifon. 

Prif Bwyntiau:

-Paratowyd y cyfrifon Gr?p yn ychwanegol i’r cyfrifon unigol 

-Gorffennodd y Cyngor y flwyddyn gyda thanwariant o £2.4m.

-Gorwariwyd y cyllidebau Anghenion Addysgol Arbennig a Gofal Cymdeithasol yn sylweddol gan bron i £5m.

-Gostyngodd arian wrth gefn y Cyngor y gellir ei ddefnyddio gan £1.7m yn ystod y flwyddyn o £104.3m i £103.0m o arian wrth gefn y gellir ei ddefnyddio.

- Mewn perthynas â arian cyfalaf wrth gefn, roedd arian wrth gefn cyffredinol wedi’i gadw ar £6.5m oedd y swm gofynnol.

-Mae’r Datganiad Trosglwyddo Cronfeydd yn crynhoi arian wrth gefn y Cyngor yn y CIES (Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr) a gedwir gan y Cyngor.

-Mae’r datganiad llif arian yn dangos symudiadau arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian yn y Cyngor. Ar gyfer 2017/18, roedd diffyg ar ddarparu gwasanaeth o £53.5m oedd yn eithaf gwahanol i’r £21.4m dros ben ar gyfer 2017/18 a adroddwyd i’r Cabinet.

Cafodd sawl Atebolrwydd Amodol eu nodi ar 31 Mawrth 2019; MMI Insurances, Cartrefi Dinas Casnewydd ac ati.

Cwestiynau:

Gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i wneud sylwadau ar y Datganiad. 

Argymhellodd y Cadeirydd gwtogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a nodwyd hyn.

Gofynnodd aelod sut mae’n cymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol a cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod y broses wedi mynd yn dda ac y cafodd ei chwblhau wythnos yn gynt na’r llynedd a chwblhaodd yr adran Cyllid eu gwaith yn gyflym. 

Sylwodd Aelod ar y cyfrifon oedd angen eu cwblhau erbyn 31 Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn a gofynnodd a ellir gwneud unrhyw beth i gyflymu’r gwaith hwn. Dywedwyd y byddai angen i’r adran Archwilio newid prosesau, fel y drafodaeth ar risgiau ynghynt. Dywedwyd y gellir ei gyflawni pe bai 12 mis oedd yr amserlen.

Gwnaethpwyd sylwadau ar weithrediadau llif arian ar gyfer contractwyr ac na fyddai’n effeithio ar waith cyllid ond y byddai’n effeithio ar anfonebau ac ati.

Sylwodd y Cadeirydd ar dudalen 80 yr adroddiad ar gyfrifon ar gyfer y ffigur 755; nid oedd y bwrdd draenio’n bodoli mwyach a hefyd defnyddiodd tudalen 90 yr adroddiad y termau ‘hardcore’ a ‘topslice’ a holwyd am ystyr y rhain. Gofynnwyd am Saesneg symlach gan y Cadeirydd.

Dywedodd y Cadeirydd fod angen cysondeb trwy’r adroddiad gan fod problemau fformatio; roedd y cromfach enillion a cholledion yn wrthdro ac roedd y gweddill wedi’i ddangos fel term mewn cromfach, gan y gallai ennill fod yn rhif cadarnhaol.

Hefyd dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo fel mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu fel mae person yn siarad yn lle darllen fel dogfen ffeithiol.  Ar dudalen 8, sylwodd y Cadeirydd ar y diagram gan ddweud y dylai fod ganddo dalfyriadau byr a theimlwyd bod diffyg gwybodaeth.

Cytunodd y Pennaeth Cyllid bod angen adroddiad mwy ffeithiol ac argymhellodd y Cadeirydd y dylid dileu brawddeg neu fod angen esboniad yn lle.

Cyfeiriwyd at Ariannu’r gyllideb Gwariant Net ar dudalen 49 yr adroddiad a gwnaethpwyd sylwadau ar y tanwariant o £2.4m a sut roedd hyn yn hidlo trwy eglurhad sydd ei angen.

Dywedodd y Pennaeth Cyllid y byddai’r tanwariant yn cael ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn. Y gobaith oedd y byddai’r adroddiad yn hygyrch i unrhyw ddarllenydd y naratif nad oedd o bersbectif cyfrifyddu. 

Mewn perthynas ag atebolrwydd amodol yn adran 43, mewn perthynas â MMI Insurances, holodd y Cadeirydd am y dreth 15% ym mis Mawrth 2016 a chytunwyd bod angen ailweithio’r paragraff hwn a bod angen edrych ar y nodyn Darpariaethau.

Gofynnodd y Cadeirydd am y gwariant cyfalaf o £29m ac a yw hyn yn gyfateb i lithriad 50% ac a yw broblem yno.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod llithriad o 50% a bod angen edrych ar y Rhaglen Gyfalaf a bod angen rhoi rhywfaint o realaeth yn y gwaith o gyllidebu ac roedd y sylw hwn yn briodol ac yn gywir gan y Cadeirydd. Roedd angen i waith gyda rheolwyr barhau ac roedd angen diweddaru’r gwaith o gyflwyno rhaglenni’n raddol gan na allai fod yn gywir os yw llithriad.  Ai’r ffaith nad yw adnoddau’n cyflawni neu reoli gwael oedd y rheswm?

Dywedwyd nad yw Cyngor Dinas Casnewydd yn unigryw yn hyn o beth, roedd y prif feysydd megis Ysgolion ar Fand B a byddai’r projectau unigol mawr e.e. ysgolion newydd yn cael eu codi gyda chydweithwyr.

Mae IFRS 9 wedi cael effaith sy’n golygu mantolen wedi’i hadfer.

Nid oedd unrhyw effaith faterol gan IFRS 15.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb yn yr adran cyfrifon am eu gwaith caled.

Ni nodwyd unrhyw gamau penodol, a gofynnwyd i’r Pwyllgor Archwilio ddod yn ôl i’r tîm Cyllid gydag unrhyw sylwadau.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y siaradwyd â chydweithwyr eraill ac ar y dyddiad terfyn; 31 Mai cyflwynwyd y cyfrifon drafft gerbron yr adran Archwilio a chawson nhw eu cwblhau gan y Pennaeth Gwasanaeth.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: