Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

 

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:

 

Aeth lansiad Gwefan a phrosbectws Porth y Gorllewin yn fyw ddydd Mercher roedd hwn yn gydweithrediad cyffrous yr oedd y Cyngor yn aelod allweddol ohono.

 

Lansiwyd hyn gan Weinidogion y Cabinet ym mis Tachwedd y llynedd, ac ef oedd trydydd pwerdy’r DU. Y ddau arall yw’r Northern Powerhouse a’r Midlands Engine.

 

Aeth Porth y Gorllewin un cam ymhellach na'r pwerdai rhanbarthol a ffurfiwyd hyd yma - gan ymestyn ar ledled de Cymru a gorllewin Lloegr.

 

Roedd yr holl bartneriaid yn canolbwyntio ar dwf economaidd cynhwysol a glân ar raddfa fawr.

 

Amlinellodd y prosbectws newydd y weledigaeth newydd a'r uchelgeisiau allweddol ar gyfer y bartneriaeth economaidd, a ddatblygwyd drwy drafodaethau rhwng awdurdodau lleol, busnesau, Partneriaethau Cyflogaeth Lleol a dinas-ranbarthau'r bartneriaeth.  Mae'n nodi graddfa uchelgais Porth y Gorllewin ac yn nodi'r blaenoriaethau strategol newydd, sef cysylltedd, arloesi a dull rhyngwladol gydgysylltiedig o fasnachu a buddsoddi.

 

Daeth hwn cyn dogfen gweledigaeth lawn y bartneriaeth, yn dilyn Adolygiad Economaidd Annibynnol yn ddiweddarach eleni a fyddai’n cynnig sail dystiolaeth ar draws gwledydd, ardaloedd a rhanbarthau'r bartneriaeth. (www.western-gateway.co.uk)

 

         Rhoddodd bleser mawr i'r Arweinydd gadarnhau bod gwaith i adfer yr Arcêd y Farchnad hanesyddol bellach ar waith.  Mae’r Cyngor wedi cael arian gan y Gronfa Treftadaeth, Cadw a Llywodraeth Cymru ar gyfer y project. Roedd wedi bod yn gynllun cymhleth ac yn ffodus dechreuodd y gwaith adfer yr wythnos diwethaf.  Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganol y ddinas, gan fod o fudd nid yn unig i'r busnesau yn yr arcêd ond i'r rhai yn yr ardal gyfagos.  Byddai'r arcêd yn aros ar agor a disgwylid iddo gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.  Mae’r yn cynnwys adfer blaen y siopau ac adnewyddu'r canopi gwydr.  Yn bwysig, byddai'r Cyngor yn helpu i ddiogelu rhan bwysig o dreftadaeth y ddinas.

 

         Roedd y project paneli solar uchelgeisiol yn mynd rhagddo'n dda, gan wneud cyfraniad sylweddol i nod y Cyngor o fod yn sefydliad carbon niwtral.  Gan weithio mewn partneriaeth ag Egni Co-op, roedd paneli solar yn cael eu gosod ar doeau adeiladau'r Cyngor ledled Casnewydd.

 

Yn dilyn astudiaeth fanwl o ddichonoldeb, gyda chefnogaeth Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy Cymru a Chanolfan Gydweithredol Cymru, lluniwyd cynllun i osod 6,000 o baneli solar mewn 21 o safleoedd na fydd angen i’r Cyngor dalu amdanynt.  Ar ôl eu gosod, byddai'r paneli solar yn cynhyrchu mwy nag 1.9 miliwn o unedau o drydan adnewyddadwy glân y flwyddyn.

 

Roedd gwaith wedi’i gwblhau yn ddiweddar yng nghartrefi Gofal Preswyl Parklands a Blaen-y-Pant lle y gosodwyd 129 o baneli solar yn y ddau safle.  Bydd y rhan fwyaf o'r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle gan leihau allyriadau carbon y Cyngor gan 348 tunnell y flwyddyn.  Byddai rhywfaint o’r trydan hefyd yn cael ei allforio i'r grid i'w ddefnyddio yn y ddinas.

 

Roedd y Cyngor yn benderfynol o arwain y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thrwy weithio gydag Egni Co-op byddwn yn cyflawni 20 gwaith yn fwy o ynni adnewyddadwy trwy offer wedi’i osod ar ein hadeiladau.

 

         Cydnabu'r Arweinydd yr ymdrechion sylweddol a wnaed gan staff y cyngor mewn ymateb i Storm Dennis.  Er bod Casnewydd yn ddigon ffodus i beidio â chael ei tharo cyn waethed â rhannau eraill o Gymru a'r DU, cawsom fwy na 100 o geisiadau am gymorth dros y penwythnos hwnnw o hyd.

 

Rhoddwyd paratoadau ar waith ar gyfer amodau’r tywydd, a gweithiodd aelodau staff yn ddi-baid o ddydd Gwener i fore dydd Llun.  Syrthiodd lefelau uchel iawn o law ar dir oedd eisoes yn hynod wlyb ac i mewn i afonydd oedd eisoes yn orlawn oherwydd Storm Ciara.  Er gwaetha’r galw sylweddol ar adnoddau, deliodd timau’r Cyngor â phob galwad a digwyddiad yr adroddwyd amdano ar ryw bwynt yn ystod y penwythnos.

 

Roedd y rhan fwyaf o geisiadau am fagiau tywod, ond deliodd y criwiau hefyd â llifogydd ar briffyrdd, cau ffyrdd a choed wedi syrthio.  Diolchodd yr Arweinydd i bawb a oedd allan mewn amodau mor erchyll i helpu preswylwyr a sicrhau diogelwch ar ein ffyrdd ac o fewn cyfleusterau'r Cyngor.

 

Yn olaf, soniodd yr Arweinydd am ddau ddigwyddiad a fynychwyd yn ddiweddar, un ohonynt oedd y digwyddiad LBGTQ+ ar gyfer pobl iau.  Y llall oedd cyfarfod cyntaf y rhwydwaith staff du a lleiafrifol yn y Ganolfan Ddinesig - roedd mynd i’r ddau ohonynt yn anrhydedd ac yn fraint. 

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

         Deallodd y Cynghorydd M Evans fod yr Arweinydd yn mynychu cynhadledd yn Cannes, Ffrainc ym mis Mawrth, o'r enw Mippin a beth oedd yr Arweinydd yn gobeithio ei gyflawni, pwy oedd yn talu am hyn a pha waith hyrwyddo oedd yn cael ei wneud cyn mynychu.

 

Cywir, roedd yr arweinydd yn mynychu’r digwyddiad yn rhan o Brifddinas-ranbarth Caerdydd ym mis Mawrth ac fe wnaeth yn glir fod yr ymweliad yn cael ei ariannu gan y Brifddinas-ranbarth ac nid y Cyngor.  Roedd rhan o hyn yn cynnwys siarad yn y digwyddiad a mynd i 10 Downing Street.  Cynrychioli'r Prifddinas-ranbarth mewn sawl digwyddiad.  Y diben oedd sefyll yn falch a siarad yn agored ac yn onest am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud yn y ddinas. Roedd Casnewydd yn haeddu eistedd o amgylch y bwrdd gyda buddsoddwyr.

 

Atodol:

Roedd y Cynghorydd M Evans yn cefnogi’r ffaith bod yr Arweinydd yn mynychu’r digwyddiad ond cyfeiriodd at y brifddinas-ranbarth fel rhywbeth sy’n canolbwyntio ar Gaerdydd ond nad oedd dim ar y cyfryngau cymdeithasol am Gasnewydd yn cael ei hyrwyddo yn y digwyddiad.  A allai'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd yn dychwelyd am yr hyn a gyflawnwyd?

 

Atebodd yr Arweinydd a dywedodd fod Cyngor Sir Caerdydd yn hyrwyddo ei hun.  Roedd prosbectws buddsoddi yn cael ei ddatblygu ar gyfer Casnewydd yn debyg i Gaerdydd a byddai'r Arweinydd yn siarad â safleoedd allweddol ac yn cyflwyno adroddiad llawn i'r Cyngor ar ôl iddi ddychwelyd.

 

         Gofynnodd y Cynghorydd K a oedd yr Arweinydd mewn sefyllfa i wella estheteg mynedfa cylchfan Malpas Road a Shaftesbury yr M4 i Gasnewydd, yn arbennig, ger hen safle Sainsbury's.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y strategaeth twf economaidd a'r uwchgynllun, ac roedd llawer yn cael ei wneud yn y cefndir fel rhan o hyn.  Roedd gwaith wedi'i gynllunio hefyd yn yr ardal.  Mae hen safle Sainsbury's yn eiddo i berchennog preifat a byddai'r Arweinydd yn siarad â rhanddeiliaid allweddol ynghylch gwella'r safle.  Roedd gan y safle y potensial i greu 230,000 tr. sg. o swyddfeydd, cartrefi a chyfleusterau cyhoeddus eraill.  Mae’r ardal leol hon yn allweddol ac mae ganddi fanteision o ran cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus a'r M4.  Rhagwelir y byddai caniatâd cynllunio'n cael ei roi yn ddiweddarach eleni a byddai'r datblygiad yn dechrau yn yr hydref.  Mae’n cymryd amser i brojectau gychwyn ond byddai'r manteision yn gadarnhaol.

 

Atodol:

Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead a oedd trafodaethau gyda'r teulu Fear sydd wedi buddsoddi yn hen safle Sainsbury's ar y gweill.

 

Dywedodd yr arweinydd eu bod ar y gweill.

 

         Dywedodd y Cynghorydd C Townsend fod ffigurau diweddar wedi dangos mai Casnewydd oedd â'r ail nifer fwyaf o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru a gofynnodd, gyda'r gwaith glanhau diweddar, a allai'r Arweinydd ymrwymo i roi diweddariadau chwarterol ar y ddarpariaeth ar gyfer y digartref yn ogystal ag ymdrechion ychwanegol i gynnig llety i'r rhai sy'n byw ar y strydoedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn gallu rhoi'r wybodaeth  ddiweddaraf o heddiw ymlaen, ar ôl cyfarfod â Julie James AC.  Roedd y Cyngor wedi cyflogi gweithiwr allgymorth cysgu ar y stryd ac elfen fwyaf llwyddiannus y project oedd gweithio gyda grwpiau trydydd sector a dyngarol.  Roedd y swyddog yn ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd bob dydd a oedd yn gwneud y gwaith o fonitro'r sefyllfa'n fwy effeithiol.  Roedd hefyd yn gwneud ymarfer mapio i weld lle'r oedd unigolion a grwpiau wedi'u lleoli a siarad â hwy'n fwy rheolaidd.  Mae cyfleoedd i ailgartrefu wedi’i nodi trwy weithio gyda’r gymdeithas dai a phartneriaid fel Tai yn Gyntaf a Pobl.  Roedd hon yn broses a oedd yn cymryd llawer o amser oherwydd bod y bobl dan sylw yn agored i newid a byddai'n rhannu rhai astudiaethau achos gyda chydweithwyr:

 

Cafodd un unigolyn ei ailgartrefu a gwellodd ei iechyd meddwl a chorfforol bob dydd ac roedd bellach yn gwirfoddoli gydag elusennau tai.

 

Roedd ail berson oedd yn ymgysylltu â chydlynwyr yn rheolaidd yn ceisio gwaith cymorth gwirfoddoli yn y sector iechyd meddwl.  O ran tai yn gyntaf, roedd y niferoedd yn isel ond roedd lefel y gwaith yn eithaf blaengar.

 

Felly, roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaethau i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd.