Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

 

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for Assets and Member Development

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Social Services

   iv.        Cabinet Member for Regeneration and Housing

    v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

 

For information:  A digest of recent decision schedules issued by Cabinet, Cabinet Members and Minutes of recent meetings of Committees has been circulated electronically to all Members of the Council.

Cofnodion:

 

Y Dirprwy Arweinydd/Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:

 

'A wnaiff yr aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sut mae'r Ddinas wedi ymdopi â llifogydd diweddar ledled Casnewydd ac yn bwysig pa fentrau a mesurau ataliol y dylid eu cyflawni fel y bydd stormydd o'r maint yma yn effeithio’n llai andwyol arnom wrth symud ymlaen.'

 

Ymatebodd y Dirprwy Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas

 

Gweithiodd staff Gwasanaethau'r Ddinas ar sail amserlen shifftiau o brynhawn Gwener tan fore Llun yn rhoi camau ataliol ar waith ac yn ymateb i geisiadau am gymorth. Ymdriniwyd â mwy na 120 o ddigwyddiadau ar wahân, oedd yn ymwneud yn bennaf â:

 

         Ceisiadau am fagiau tywod (cyflenwyd bagiau tywod i dros 1,000 o breswylwyr)

         Gylïau wedi'u blocio

         Arwyddion traffig nad ydynt yn gweithio (oherwydd bod d?r ynddynt)

         Coed wedi cwympo

 

Caewyd tair ffordd am gyfnod byr: Yr A48, Penhow, Coast Road Marshfield a Cardiff Road ger Pont Ebwy.

 

Roedd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu defnyddio pan fo angen gan gynnwys cau Porth Gwastad ym Malpas Brook. Yn dilyn y digwyddiad, mae pontydd afonydd a ffosydd critigol wedi'u harchwilio ac nid oes unrhyw bryderon strwythurol enbyd, ond mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda ChyfoethNaturiol Cymru i fynd i'r afael ag unrhyw sbwriel sy'n cronni ar bontydd afonydd.

 

Er mwyn mynd i'r afael â llifogydd ar safle Redrow, mae'r datblygwr yn bwriadu rhoi mesurau amddiffyn rhag llifogydd dros dro ar waith  i ddiogelu'r datblygiad; mae cyfarfod gyda swyddogion y Cyngor yn cael ei drefnu i ystyried atebion parhaol.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu nifer o gronfeydd ar gyfer cymorth ariannol:

 

         Cymorth i gynghorau – drwy'r Cynllun Cymorth Ariannol Brys

         Cymorth i aelwydydd – bydd cymorth i'r rhai y mae llifogydd yn effeithio arnynt yn cael ei roi drwy Daliadau Cymorth Brys.

         Cymorth i fusnesau – Mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chymorth i gwmnïau yr effeithir arnynt a byddant yn eu cyfeirio at Fanc Datblygu Cymru os bydd angen benthyciadau arnynt.

 

Mae gwaith amddiffyn rhag llifogydd sylweddol eisoes wedi'i wneud yn Shaftesbury, ac mae swyddogion wrthi'n gweithio gyda ChyfoethNaturiol Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd pellach yn Stephenson Street.  Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i adolygu a gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd a thrwy ei rôl fel corff cymeradwyo draeniau cynaliadwy, bydd CDC hefyd yn sicrhau y bydd datblygiadau newydd sy’n fwy na 100 metr sgwâr yn cydymffurfio â'r rheoliadau newydd.

 

Cwestiwn atodol:

Diolchodd y Cynghorydd Mogford i bawb oedd yn rhan o’r gwaith.

 

ii.          Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

 

Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:

 

'Ysgrifennodd Prifathrawon Cynradd atoch yn ddiweddar yn amlinellu eu pryderon difrifol am faterion gan gynnwys cyflwr adeiladau ysgolion ac ariannu ysgolion, beth fu eich ymateb i'w llythyr?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:

 

Ysgrifennodd Cymdeithas Prifathrawon Cynradd Casnewydd at y Cabinet yn mynegi ei barn ar yr ymgynghoriadau ar y gyllideb ar gyfer 2020/21. Mae barn Penaethiaid bob amser yn cael ei hystyried yng nghyd-destun ehangach y gwaith o ymgynghori ar y gyllideb. Eleni, cafwyd dros dair mil a hanner o ymatebion gan ddinasyddion a sefydliadau ledled y ddinas ynghylch amrywiaeth o faterion yn ymwneud â gwasanaethau. Fel Cabinet, gwrandawsom yn ofalus ar y cyhoedd a gwnaethom benderfyniad i fuddsoddi £10.4 miliwn o bunnoedd pellach yn ein hysgolion i gefnogi addysg plant a phobl ifanc ymhellach. 

 

Dylid rheoli mân waith ac atgyweiriadau o fewn cyllidebau presennol ysgolion. Fodd bynnag, caiff gwaith ail-ddatblygu a chyfalaf cynnal a chadw ar raddfa fwy mewn ysgolion pan fo'n briodol, ei gefnogi'n ariannol drwy ffrydiau ariannu ychwanegol, gan alluogi ysgolion i gael buddsoddiad sylweddol heb ddefnyddio eu cyllidebau dirprwyedig.

 

Yn 2019 penderfynodd y Cabinet fuddsoddi £24.5 miliwn o bunnoedd ym mhroject Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif. Bydd y cynllun hwn yn buddsoddi £70 miliwn yn ein hystâd ysgolion a fydd yn dod â 'newid unwaith mewn oes' i nifer o ysgolion Casnewydd dros y pedair blynedd nesaf.

 

Yn 2018/19, fel yr Aelod Cabinet dros Addysg gofynnais am ddyraniad o £1.1 miliwn wedi’i glustnodi i gefnogi cyfalaf gwaith cynnal a chadw ysgolion. Cefnogodd y Cabinet y cais hwn ac yn ei dro roedd hyn yn cefnogi 23 o brojectau adeiladu ysgolion unigol ledled y ddinas.

 

Yn 2019/20 dyfarnwyd £1.8 miliwn arall i'r Cyngor i wrthbwyso gwariant cyfalaf ar draws ysgolion. Ail-fuddsoddwyd y £1.8 miliwn llawn ar draws yr ystâd ysgolion. Mae gwaith cynnal a chadw yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar y projectau a nodwyd yn Ysgol Gynradd High Cross, Ysgol Gynradd Llanmartin, Ysgol Gynradd Milton ac Ysgol Uwchradd Llyswyry. Mae'r Cyngor wedi derbyn hysbysiad yn ddiweddar o grant tebyg o £2.1m ar gyfer 2020. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gadarnhau sut y gellir gwario hyn yn y ffordd orau bosibl.

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i'ch sicrhau bod Aelodau'r Cabinet a Swyddogion y Cyngor yn gweithio'n ddiflino i chwilio am bob cyfle ariannu sydd ar gael i'r ddinas, gan sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob ceiniog. Mae rhai enghreifftiau rhagorol o'n llwyddiant yn cynnwys:

 

1.         Mae'r Cyngor wedi cyflwyno dau gais yn llwyddiannus i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r grant 'Lleihau Maint Dosbarthiadau'. Dyfarnwyd £520,000 i gwblhau project yn Ysgol Gynradd Maesglas, ac mae £580,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer project yn Ysgol Gynradd Sant Woolos. Mae'r projectau hyn yn mynd rhagddynt a disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn mis Medi 2020. 

 

2.         Yn 2019, dywedwyd wrth y Gwasanaeth Addysg fod cais am arian grant i Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus. O ganlyniad, dyfarnwyd £300,000 i gefnogi'r gwaith o ehangu Ysgol Bryn Derw drwy adnewyddu rhandy ar dir yr ysgol. Mae'n werth nodi mai dyma'r tro cyntaf ledled ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i broject Addysg gael arian o'r ffynhonnell hon. Cynyddodd swm yr arian a ddyrannwyd i'r project yn ddiweddarach i £430,000, a chwblhawyd y gwaith ym mis Ionawr 2020. 

 

3.         Hysbysiad bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais am £5.8m mewn perthynas â Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg penodol er mwyn sefydlu pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Dyma un o'r dyraniadau mwyaf a roddwyd i unrhyw broject ledled Cymru. Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i agor ysgol newydd sbon ym Mhilgwenlli, pedwerydd Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg ac i estyn Ysgol Gynradd Parc Tredegar.

 

Felly, i gloi, gallwch weld bod ymateb y Cabinet i adborth ymgynghori gan Benaethiaid eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol wedi bod yn gadarn.

 

Atodol:

Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins i'r Aelod Cabinet gydnabod bod y pryder a godwyd gan Benaethiaid Ysgolion Cynradd yn real.

 

Roedd y Cynghorydd Giles yn ymwybodol o'r pryderon a'r materion a nodwyd gan Benaethiaid ac roedd rhestr o flaenoriaethau wedi’i llunio ond roedd mynd i'r afael â materion yn anodd gyda thoriadau ariannol yn wynebu'r Cyngor.  Cafodd pob ceiniog a godwyd neu ddarpariaeth ariannu ar gyfer Addysg ei rhoi yn ôl i'r ysgolion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R Mogford y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:

 

'O ystyried y ffaith bod nifer o ysgolion uwchradd Casnewydd yn cael eu llethu gan ddyledion sylweddol (er enghraifft mae gan Ysgol Gyfun Caerllion ddyled o £1.2 miliwn sy’n cynyddu, oherwydd ariannu annigonol, yn ôl rhai).  Sut mae’r aelod Cabinet yn cynnig y dylid talu'r dyledion hyn, erbyn pryd ac ar ba gost wirioneddol i'r disgyblion, yr athrawon a'r staff eraill y mae toriadau parhaus yn dal i effeithio arnynt.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:

 

Dirprwywyd cyllidebau ysgolion i Gyrff Llywodraethu i reoli'n effeithlon ac yn effeithiol. Gall ysgolion wneud cais am ddiffyg trwyddedig dros dro ar yr amod bod ganddynt gynllun i adennill y diffyg sy'n amlinellu'r camau y mae'r Corff Llywodraethu yn bwriadu eu rhoi ar waith i sicrhau cyllideb gytbwys. Bydd y Cynghorydd Mogford yn gwbl ymwybodol o'r cynlluniau i leihau dyled Ysgol Gyfun Caerllion gan ei fod yn gwasanaethu ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gyfun Caerllion a'i fod yn gyfrifol am benderfyniadau a chamau gweithredu o'r fath.

 

Mae o fewn grym y Corff Llywodraethu i benderfynu sut y bydd yn rheoli ei gyllideb ac i ystyried sut y bydd yn lleihau ei wariant os bydd angen. Dylai Cyrff Llywodraethu ystyried pa arbedion sy'n cael yr effaith leiaf ar ddysgwyr.

 

Gyda llaw, cafodd Ysgol Gyfun Caerllion £4.9 miliwn y llynedd. Mae Ysgol Gyfun Caerllion bob amser wedi cael y drydedd gyllideb ysgol uchaf yn y ddinas. Mae gan y ddwy ysgol uwchradd sy’n cael cyllideb fwy nag Ysgol Gyfun Caerllion nifer uwch o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 4 a chyfran uwch o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a disgyblion sydd â hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim. Byddai'r rhan fwyaf yn cytuno bod hyn yn iawn ac yn deg.

 

Mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu cyfarfodydd cefnogi a herio adennill diffyg i’r ysgolion hynny sydd mewn diffyg ar hyn o bryd. Mae ysgolion yn cyfarfod â'r awdurdod lleol bob chwe wythnos i drafod eu cynlluniau adennill diffyg a’u cynnydd. Y flaenoriaeth gyntaf yw i ysgolion sicrhau nad ydynt yn parhau i orwario a'u bod yn mynd i'r afael â'u 'diffygion yn ystod y flwyddyn'. Mae mwyafrif yr ysgolion â diffyg wedi llunio cynlluniau calonogol i fynd i'r afael â hyn. Gellir mynd i'r afael â'r diffygion sy'n weddill dros gyfnod llawer hwy. Mewn rhai achosion efallai rhwng 5 a 7 o flynyddoedd. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi ysgolion fesul achos.

 

Byddwch hefyd yn ymwybodol bod y Cabinet heno wedi gofyn i'r Cyngor llawn gytuno ar gynyddu’r arian a roddir i ysgolion o £96.5 miliwn i £106.5 miliwn. Bydd y cynnydd sylweddol hwn yn cynorthwyo ar y pwysau o ran costau sydd ar ysgolion a gall hefyd gefnogi rhai o'r sefyllfaoedd lle ceir cyllidebau â diffyg. Er fy mod yn falch iawn bod cydweithwyr yn y Cabinet wedi ymrwymo i’r cynnydd hwn o £10 miliwn, mae'n bwysig nodi na fydd unrhyw arian ychwanegol yn disodli'r gwaith monitro ariannol diwyd sydd angen ei wneud i gadw fantoli cyllidebau ysgolion.

 

Atodol:

Dywedodd y Cynghorydd Mogford ei fod, fel llywodraethwr, wedi gweithio'n galed ar ran yr ysgolion a'r awdurdod i leihau'r diffyg, felly beth fyddai'r Aelod Cabinet yn ei wneud am y ddyled ar ôl lleihau'r diffyg.

 

Fel y dywedwyd eisoes, gofynnwyd i ysgolion mewn diffyg gyfarfod â'r awdurdod lleol bob chwe wythnos. Roedd hyn yn galluogi sianeli cyfathrebu cyson lle gallai ysgolion ofyn am gymorth neu gallai'r awdurdod lleol gynnig cymorth.  Mewn llawer o amgylchiadau, roedd swyddogion cyllid wedi ymweld ag ysgolion i gefnogi rheolwyr busnes ysgolion gyda'u cyllidebau, rhagolygon cywir a’r gwaith o lunio cynlluniau adennill diffyg. Roedd swyddogion adnoddau dynol yn cefnogi ysgolion gyda gwybodaeth feincnodi ac mae swyddogion o'r Tîm Gwella Busnes wedi cefnogi gydag adolygiadau ariannol ysgolion. Cynigiodd yr adolygiadau hyn argymhellion defnyddiol ar gyfer sicrhau arbedion costau bach eu heffaith.  Wrth symud ymlaen, ein nod oedd sicrhau bod pob ysgol yn cael adolygiad ariannol a chymorth pwrpasol. Mae model o gymorth parhaol yn cael ei lunio o fewn y Gwasanaethau Addysg ar hyn o bryd i sicrhau bod arfer gorau yn cael ei rannu'n effeithiol.