Agenda item

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn y Cynllun Gwasanaeth

a)    Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

b)    Addysg

Cofnodion:

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Yn Bresennol:

- Y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

- James Harris, Cyfarwyddwr Strategol, Pobl

- Sally Anne Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc drosolwg bras i’r 

Pwyllgor gan dynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried. Roedd Gwasanaethau Plant yn dal i gynnig yr ystod lawn o wasanaethau statudol oedd eu hangen. Roedd eleni wedi bod yn flwyddyn aruthrol o brysur eto. Tua diwedd y flwyddyn roedd tîm rheoli wedi’i staffio’n llawn wedi gwella’r capasiti i ymgymryd â shifftiau pwysig i wella ymarfer ac ailstrwythuro yn unol â newidiadau allanol. Byddai’r newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu ar y cyfan erbyn diwedd 2019. Ymhlith llwyddiannau 2018/19 roedd morâl cadarnhaol ac ychydig iawn o swyddi gwag er gwaethaf y cefndir o alw uchel a nifer fawr o achosion cymhleth, sefydlu’r tîm Teulu a Ffrindiau, lansio gwasanaeth cynadledda’r Gr?p Teulu, agor Rose Cottage a’r gwasanaethau cynyddol yn yr adran Atal. Gofynnodd yr Aelodau’r canlynol:

 

·                Mynegodd un Aelod bryderon am sefyllfa ariannol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, gan ofyn am gyllideb y gwasanaeth ac a fyddai yna bwynt pan na ellid dod o hyd i gyllid i ariannu gwasanaethau. Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod y gyllideb yn heriol ac na ellid osgoi gorwariant ar y gyllideb weithiau. Ar hyn o bryd dyw’r gwasanaeth ddim yn gallu gwneud cais am unrhyw  gymorth ariannol ychwanegol. Mae’r Adran yn rheoli’r gyllideb yn gyfrifol a lle mae’n bosibl mae’n cydweithio ag eraill ledled yr Awdurdod.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol fod cyfarfodydd misol gyda’r tîm Cyllid a’r Uwch-dîm Rheoli i drafod ymrwymiadau ariannol ac unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl yr oedd angen mynd i’r afael â nhw. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’r awdurdod wedi gallu ymdopi ag unrhyw orwario.

 

·                Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor i’r Swyddogion os oedd lleoliadau y tu allan i’r sir yn dod o dan y pennawd adnoddau yn nhabl Tîm y Gwasanaeth. Esboniodd y Swyddogion mai dim ond fel dewis olaf y caiff plant eu lleoli y tu allan i’r sir, ac mai’r nod yw i blant Casnewydd gael eu gofalu amdanynt yng Nghasnewydd. Roedd pob un o gartrefi plant yr Awdurdod yn llawn a’r nifer o rieni maeth yn gyfyngedig.  Roedd pob cam wedi’i gymryd i atal lleoliadau y tu allan i’r ardal, ond os nad oedd modd osgoi’r sefyllfa, gofalwyd y byddai hyn ond am gyfnod cyfyngedig. Yn achos plant anabl ag anghenion na ellir eu diwallu gan yr Awdurdod, byddai wedi bod yn anochel bod rhaid mynd y tu allan i’r sir i chwilio am lety addas. Roedd yr Awdurdod yn edrych i weithredu mesurau fel prynu eiddo newydd, cynyddu nifer y gofalwyr maeth yng Nghasnewydd a chwilio am gymorth ychwanegol i wella’r ddarpariaeth ar gyfer plant yng Nghasnewydd, yn arbennig y rheiny gydag anghenion penodol. Roedd Rose Cottage yn enghraifft dda gydag arbediad ariannol drwy ddod â phlant yn ôl i mewn i Gasnewydd o leoliadau y tu allan i’r sir. Y fantais ychwanegol o ddod â phlant yn ôl i Gasnewydd oedd bod modd rheoli a hwyluso cysylltiadau a pherthnasoeddyn haws rhwng pobl ifanc a’u teuluoedd. Roedd un person ifanc yn Rose Cottage yn barod i ddychwelyd adref at eu teulu. Byddai hyn wedi bod yn fwy anodd os oedd y person ifanc hwnnw wedi cael ei leoli y tu allan i’r sir.

 

·                Holodd Aelodau am y mesurau perfformiad na chyrhaeddodd y targedau yn 2018/2019,  yn enwedig y targed yn ymwneud â nifer y bobl ifanc mewn gofal. Ai’r ffaith fod y farnwriaeth yn lleol yn ofni mentro oedd un o’r rhesymau am berfformiad gwael? Atebodd y Swyddogion fod y sylw yngl?n â’r farnwriaeth leol yn ofni mentro yn cyfeirio at y Llys Teulu, gyda’r Barnwyr yn gwneud penderfyniadau allai ddylanwadu ar arfer Gweithwyr Cymdeithasol, gan osod heriau i’r gwasanaeth gan fod y Llysoedd yn uwch na’r Awdurdod. Roedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yn mynd i fynychu Cynhadledd lle byddai’r sefyllfa’n cael ei thrafod.

 

·                Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion gadarnhau pa arbediad wnaeth yr Awdurdod drwy greugwasanaethau preswyl o fewn y cyngor. Cadarnhaodd swyddogion wariant cyfalaf o 6.4 miliwn, a dderbyniwyd gan y Gronfa Gofal Canolraddol. Defnyddiwyd yr arian ar gyfer Rose Cottage, Windmill Farm ac Oaklands. Roedd y Cyngor wedi arbed 400 mil o bunnau ers agor Rose Cottage, gydag arbedion pellach wrth i blant ddychwelyd adref ar ôl cael eu rhoi yn Rose Cottage, a phlant a leolwyd y tu allan i’r ardal yn symud yn ôl i Gasnewydd.

 

·                Gofynnodd Aelodau pryd fyddai Windmill Farm yn agor, a pha fath o Blant sy’n Derbyn Gofal fyddai’n lletya yno, a pha arbedion a wneid o agor y cartref. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud y byddai Windmill Farm yn agor o fewn 18/24 mis. Esboniwyd bod y pwyslais ar gael cydbwysedd o blant yn y cyfleuster preswyl, gan mai hwn fyddai cartref y bobl ifanc. Roedd yn bwysig rhoi pobl ifanc yno oedd yn debygol o gyfrannu at amgylchedd cadarnhaol. Atgoffwyd y Pwyllgor bod disgwyl i Oaklands ailagor ynghanol Gorffennaf, ond cyfleuster ar gyfer gwyliau byrion a gofal seibiant i deuluoedd oedd hyn yn unig.

 

·                Cadarnhaodd y Swyddogion fod deunyddiau marchnata newydd ar gyfer maethu wedi’u datblygu, a bod taflen ac ymgyrch hybu wedi dechrau gan ddefnyddio Twitter a Facebook CDC i greu cyhoeddusrwydd. Roedd y tîm gofal maeth hefyd yn creu ffilm gyhoeddusrwydd fer i gyd-fynd â’r wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr adborth o’r Gofalwyr Maeth presennol wedi bod yn gadarnhaol iawn am yr Awdurdod.

 

·                Cadarnhaodd Swyddogion eu bod wedi cael peth llwyddiant gyda’r gronfa Buddsoddi i Arbed, gan gynnwys; cyfleoedd ymchwil a digwyddiadau, gan fachu ar bob cyfle wrth iddo godi. Roedd yr holl staff yn cael hyfforddiant parhaus ac yn cael eu hannog i ddatblygu.

 

·                Gofynnodd Aelod i Swyddogion am ddarparwyr gofal maeth, gan ofyn a oedd yr Awdurdod wedimeincnodi’r gyfradd a dalwyd i ddarparwyr gofal maeth annibynnol. Atebodd Swyddogion drwy gadarnhau bod darn sylweddol o waith wedi’i wneud gyda darparwyr, ond yn anffodus bod y Cyngor yn dal yn ddibynnol ar asiantaethau maeth annibynnol i ddarparu lleoliadau. Yn yr Alban roedd yn anghyfreithlon i ddarparwr gofal maeth annibynnol wneud elw. Ansawdd y gofal a roddwyd i’r person ifanc oedd y ffactor mwyaf pwysig i’r Swyddogion. Esboniodd yr Aelod Cabinet ei bod yn hanfodol bod y Cyngor yn recriwtio rhagor o ofalwyr maeth i ddod â’r costau i lawr ac i gynnig profiad cartref mwy addas i bobl ifanc Casnewydd.

 

·                Holodd Aelod am yr adran Dadansoddi Ariannol, gan ofyn sut fyddai’r Awdurdod yn gostwng y diffyg yr oedd yn wynebu bob blwyddyn. Esboniodd y Swyddogion mai’r gost fwyaf oedd staff a lleoliadau y tu allan i’r sir. Roedd yr Awdurdod yn edrych arsut i atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal, gan gadw golwg ar gyllidebau er mwyn cyfyngu ar orwariant, ac unrhyw dueddiadau’n awgrymu cynnydd posib mewn gwariant neu yn nifer y bobl ifanc fyddai’n cael eu cyfeirio. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn broblem i bob awdurdod yng Nghymru a Lloegr.

 

·                Esboniodd Swyddogion i’r Pwyllgor fod y Tîm Atal wedi parhau i dyfu drwy’r flwyddyn

ac y byddai hyn yn cefnogi’r gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i’r bwrdd iechyd

a phartneriaid eraill. Dros y flwyddyn, nid yn unig roedd y gwaith Iechyd Meddwl Cynradd wedi’i wreiddio yn y Tîm Atal, ond roedd y Cydlynydd SPACE wedi dechrau ei rôl  gyda’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, CAMHS. Roedd yr atgyfeiriadau i’r gwasanaeth yn mynd drwy’r cyfarfod dyrannu wythnosol gyda phartneriaid, oedd a’i nod o drafod pob achos i sicrhau y byddai camau priodol yn cael eu cymryd. Byddai’r swyddi  Gweithredu Cynnar a’r gwasanaethau Cam-i-lawr, er yn dangos arwyddion cynnar iawn o  gael eu defnyddio’n helaeth, angen eu monitro yn gynnar iawn yn y flwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon. Roedd y gyfradd o atgyfeiriadau yn parhau i dyfu ac roedd hynny’n gosod heriau i’r gwasanaethau i fodloni angen, heb greu rhestr aros.

·                Gofynnodd Aelodau a oedd profiad gwaith a chyfleoedd i gael prentisiaethau yn cael

eu datblygu ar gyfer plant yn derbyn gofal. Cadarnhaodd Swyddogion y byddai pob plentyn oedd yn derbyn gofal yn cael cynnig profiad gwaith o fewn yr Awdurdod. Bydd ffocws ar fwy o ddewis o brofiad gwaith, prentisiaethau a dewisiadau gwell o ran cyflogaeth a hyfforddiant, yn 2019/20.

 

·                Mynegodd Aelodau bryderon am y cynnydd sydyn yn y safle net cyffredinol o £25 miliwn i bron i £26 miliwn ym Mawrth 2019. Cadarnhaodd Swyddogion fod y cynnydd sydyn o ganlyniad i arian yn cael ei roi o’r neilltu ar gyfer yswiriant. Roedd hyn o ganlyniad i achos llys oedd yn mynd rhagddo, lle byddai’r canlyniad yn penderfynu ar gynnydd yng nghost yswiriant. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a swyddogion am fynychu’r cyfarfod.

Addysg

 

Yn Bresennol:

 

- Y Cynghorydd Gail Giles, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

- James Harris, Cyfarwyddwr Strategol, Pobl

- Sarah Morgan, Prif Swyddog Addysg

- Andrew Powles, Dirprwy Prif Swyddog Addysg

- Katie Rees, Pennaeth Addysg Cynorthwyol - Cynhwysiant

- Martin Dacey, Pennaeth Addysg Cynorthwyol – Ymgysylltu a Dysgu

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg drosolwg bras i’r Pwyllgor gan dynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried yng Nghrynodeb Gweithredol y Cynllun Gwasanaeth,  a manylu arnynt. Mae Gwasanaethau Addysg wedi gweld gwelliant yn eu perfformiad mewn nifer o fesurau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19, gan dderbyn archwiliad cadarnhaol gan Estyn yn Nhachwedd 2018. Aeth yr Aelod Cabinet ymlaen i amlinellu argymhellion Estyn, oedd yn cynnwys:Gwella perfformiad cyffredinol ysgolion uwchradd, gan greu strategaeth resymegol 

ar draws yr holl wasanaethau perthnasol i wella canlyniadau disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim,sicrhau bod gweithgareddau hunanwerthuso yn canolbwyntio ar yr effaith gaiff gwasanaethau ar ganlyniadau a’u gwerth am arian, cryfhau cyfleoedd ar lefel awdurdod lleol i blant a phobl ifanc i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a chyflawni’r cynlluniau strategol i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach.

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

·                Mynegodd aelodau bryderon am yr ysgolion oedd yn dal mewn categori Coch neu dan

Fesurau Arbennig ar ôl 2 flynedd, gan ofyn beth fyddai’n cael ei wneud i fynd i’r afael

â’u perfformiad. Atebodd y Swyddogion gan esbonio bod yr ysgolion hynny mewn Coch neu Fesurau Arbennig wedi gwella’u perfformiad mewn nifer o fesurau yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 ac wedi derbyn ymweliad cadarnhaol gan Estyn. Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod y ffaith bod ysgolion yn Gochneu mewn Mesurau Arbennig ddim yn golygu bod angen gwella’r ysgol gyfan, dim ond elfennau o’r ysgol. Roedd y ffocws wedi symud i fynd i’r afael â’r arweinyddiaeth a’r gefnogaeth yn yr

ysgol, ar beth yr oedd yn ei derbyn gan y Cyngor a beth fyddai angen arni yn y dyfodol.

 

·                Soniodd Aelod o’r Pwyllgor fod rhieni pobl ifanc yn Ysgol Uwchradd Casnewydd wedi

rhoi sylw bod cynnydd da wedi’i wneud o dan y Pennaeth dros dro, ac wedi gofyn am gadarnhad o bryd fyddai’r cyfweliadau am swydd barhaol y Pennaeth. Atebodd y Swyddogion drwy ddweud y byddai’r swydd yn dechrau yn Ionawr 2020. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod yn wych clywed bod rhieni’r disgyblion wedi rhoi o’u hamser i roi adborth da am y Pennaeth dros dro i’r Aelodau.

 

·                Gofynnodd Aelodau am ddatblygiad darpariaeth arbenigol yng Nghasnewydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Esboniodd Swyddogion fod datblygiad Ysgol i Blant ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol wedi cael ei ohirio oherwydd nad oedd y lleoliad a nodwyd yn ddewis cost-effeithiol os am leihau costau darpariaeth y Tu Allan i’r Sir. Roedd nifer y lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi gostwng, oedd yn rhoi llai o bwysau ariannol o ran creu darpariaeth oedd yn golygu y gallai pob plentyn aros yn y sir ar gyfer eu haddysg.

         Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn dda gweld y Swyddogion yn bod yn ofalus

ac yn ymateb i’r ffordd y mae anghenion y bobl ifanc a’r adran Addysg wedi newid, a bod creu ysgolion i blant ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol

wedi cael eu gohirio o ganlyniad.

 

·                Gofynnodd Aelod am gyfraddau allgau ysgolion Casnewydd a sut fyddai gwella arnynt

wrth fynd ymlaen, ac a oedd Gwyliau Crefyddol yn cyfrannu at ffigyrau

presenoldeb gwael. Cadarnhaodd y Swyddogion fod cyfraddau allgau wedi gostwng.

Roedd Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn gweithio gyda grwpiau ffocws bychain i osod targedau i ostwng ffigyrau allgau a chynyddu lefelau presenoldeb. Roedd ysgolion cynradd yn edrych i efelychu’r dull hwn. Penaethiaid oedd yn penderfynu a oedd rhaid i ddisgyblion fynychu ar wyliau crefyddol, achlysuron addoli, gan ofalu trefnu dyddiau hyfforddiant mewn swydd i gyd-fynd lle bo’n bosibl. Atgoffodd yr Aelod Cabinet y Pwyllgor ei bod yn bwysig cofio bod unrhyw absenoldeb yn cael ei ystyried fel mater diogelu posib gan staff yr ysgol.

 

·                Gofynnodd Aelod o’r pwyllgor am yr adolygiad o ddarpariaeth addysg amgen o fewn Casnewydd. Esboniodd y swyddogion fod adolygiad ariannol o Ganolfan Cyflawni Bridge a’i ailstrwythuro wedi’i gwblhau i sicrhau gostyngiad yn y staff asiantaeth a chynnydd mewn capasiti. Roedd dadansoddiad data wedi’i gynnal ar Anghenion Dysgu Ychwanegol i nodi tueddiadau ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf. Roedd hyn wedi cael ei addasu ymhellach i gynnwys y wybodaeth a gasglwyd drwy archwiliad o ymddygiad yn y sector uwchradd i gael darlun cywir o’r ddarpariaeth fydd angen o fewn y ddinas. Cynigiwyd cymwysterau amgen ochr yn ochr ag amserlen bwrpasol i’r bobl ifanc, gan sicrhau bod gan bawb y cyfle i gyflawni yn ystod eu hamser mewn addysg statudol.

 

·                Gofynnodd aelodau o’r Pwyllgor am y Swyddfa Lles Addysg yn y clwstwr,  gan ofyn a oedd y Gwasanaeth wedi sicrhau bod gan bob ysgol, gan gynnwys y rhai wedi’u hadeiladu o’r newydd ledled y ddinas, Swyddog Lles Addysg penodol. Cadarnhaodd y swyddogion fod ffocws mawr ar weithio yn y clwstwr yn mynd rhagddo, gyda phob ysgol yn y clwstwr yn mabwysiadu dull cyffredin.  Roedd y dull yma o weithio wedi profi’n llesol i’r ysgolion ac i’r Awdurdod. Roedd gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg enwebedig. Roedd un swydd wedi’i dileu  ym Mawrth 2019 yn sgil ailstrwythuro, a dyrannwyd yr ysgolion i gyfateb i hynny.  Bydd swyddogion lles addysg yn cael eu dyrannu o’r newydd yn 2019-20 wrth i ganlyniadau ailstrwythuro pellach ddod i’r amlwg. Byddai Ysgol Gynradd newydd Glan Llyn yn cael Swyddog Addysg Lles ym Medi 2019

 

·                Gofynnodd un Aelod am delerau Amcan Llesiant 1 – Gwella sgiliau, addysg a chyfleoedd cyflogaeth a Phobl Uchelgeisiol. Cadarnhaodd Swyddogion fod yr Amcan Llesiant yn Amcan yn y Cynllun Corfforaethol yr oedd y Mesurau Addysg yn cyfrannu ato. Melin drafod oedd Pobl Uchelgeisiol, o Uwch Swyddogion o fewn y Portffolio Pobl.

 

·                Rhoddodd Aelod o’r Pwyllgor sylw ar nifer y plant sy’n mynychu Canolfan Gyflawni’r Bridge, gan ofyn am eglurhad ar y 28 lle parhaol, gan fod y ganolfan yn gallu gwasanaethu 125 disgybl. Cadarnhaodd swyddogion fod rhai disgyblion yn mynychu Coleg Gwent, Blaen y Pant, Casnewydd Fyw a Catch 22, ac o bosib ond yn mynychu Canolfan Gyflawni’r Bridge am wersi TGAU. Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’n well ganddynt yn ddelfrydol gynnig pob gwasanaeth i bobl ifanc o fewn y cyngor, ond nid dyma bob amser oedd y dewis gorau i’r person ifanc. Roedd y gwasanaeth i bobl ifanc yn cael ei fonitro’n agos i sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau uchel y Cyngor.

 

·                Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor fod dadansoddiad data AAA wedi cael ei gynnal i nodi tueddiadau ADY dros y 3-5 mlynedd nesaf. Byddai hyn yn cael ei ddiwygio ymhellach i gynnwys y wybodaeth a gasglwyd mewn archwiliad o ymddygiad yn y sector uwchradd i gael darlun cywir o’r ddarpariaeth fydd angen o fewn y ddinas. Cynhaliwyd adolygiad o Ganolfan Cyflawni’r Bridge, a’i ddatblygu ymhellach drwy gynnwys Llwybrau Dysgu a chymwysterau amrywiol ar gael i ddisgyblion. Mae    Casnewydd Fyw a Catch 22 wedi cael eu comisiynu i ymestyn darpariaeth CA2 a CA3/4, a bydd hwn yn cael ei adolygu a’i ymestyn o bosib i sicrhau darpariaeth gyson drwy’r ddinas.

 

·                Mynegodd un Aelod bryderon am y defnydd o’r term ‘Dysgwyr Prydau Ysgol Am Ddim gan ofyn bod geiriau gwell yn cael eu defnyddio yn y dyfodol. Dywedodd Swyddogion y bydden nhw’n ystyried y cais. Aeth y Swyddogion ymlaen i sicrhau’r Aelod o’r Pwyllgor mai ond yn nogfennau’r Cyngor yr oedd y derminoleg hon yn cael ei defnyddio, ac nad oedd yn cael ei defnyddio mewn dogfennau y byddai’r bobl ifanc yn eu gweld.

 

·                Siaradodd Aelodau am berfformiad pobl ifanc sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, gan ofyn sut y gellid gwella ar hyn. Cadarnhaodd Swyddogion fod perfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn 2018 wedi gostwng gan 2.6 y cant disgybl i 26.2%. O’i gymharu cododd cyfartaledd cenedlaethol PYADd i 0.9 y disgybl o 28.6% i 29.5%. Roedd gwella canlyniadau i ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim yn argymhelliad gan Estyn ar ôl eu hymweliad diwethaf, ac roedd yn flaenoriaeth yn y Cynllun Gwasanaeth Addysg ar gyfer 2019/20.

 

·                Gofynnodd Aelodau i gadarnhau sut fyddai’r gorwariant yng nghyllideb AAA yn cael ei leihau. Esboniodd y Swyddogion y byddai adolygiad llawn o AAA yn digwydd. Byddai’r adolygiad hyn yn caniatáu Swyddogion i dynnu sylw at y meysydd lle gellid gwneud arbedion. Byddai’r adolygiad yn cynnig gwell dealltwriaeth o’r gefnogaeth sydd ei angen ar ddisgyblion, ac yn galluogi’r cyngor i gynnig gwasanaeth gwell. Byddai angen gweithio gyda phenaethiaid i ail-alinio’r swm o arian i’w wario. Byddai’r gyllideb yn cael ei monitro’n fisol. Byddid yn edrych ar gostau trafnidiaeth, a byddai’r polisi trafnidiaeth newydd yn gweithredu yn yr un ffordd â Gwasanaethau Oedolion. Atgoffodd yr Aelod Cabinet y Pwyllgor fod y dull o deithio yn y pendraw yn ddewis gan rieni. Mae’n well gan rai plant ifanc deithio i’r ysgol gyda’u rhieni, ond wrth i’r plentyn dyfu i fyny roedd modd iddyn nhw edrych ar sawl dewis gwahanol.

 

·                Cododd y Pwyllgor bryderon am yr arfer o Benaethiaid o Gasnewydd yn cael eu hanfon ar secondiad i ysgolion eraill yng Ngwent. Esboniodd yr Aelod Cabinetfod hyn yn cael ei wneud o dan Gynllun Rhanbarthol Wrth Gefn. Esboniodd yr Aelod Cabinetymhellach y byddai Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol ond yn caniatáu i Bennaeth fynd ar secondiad os oedd dirprwy addas ar gael oedd yn gallu llenwi’r bwlch. Roedd y Cynllun Rhanbarthol Wrth Gefn yn cynnig budd cyffredin i’r holl awdurdodau dan sylw. Derbyniodd Ysgol Uwchradd Casnewydd gefnogaeth gan Bennaeth o Gaerffili. Fyddai’r Cyngor fyth yn peryglu perfformiad ysgol yng Nghasnewydd er mwyn helpu ysgol mewn awdurdod arall. Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Cabinet a’r Swyddogion am fynychu.

 

 

Dogfennau ategol: