Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, fel y câi Aelodau Cabinet ddiweddariad Chwarter 4 ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol, sy’n ategu’r gwaith i gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017/22 y Cyngor. Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau’r Gofrestr Risg ar gyfer Chwarter 4.
Yn gryno, dangosodd y newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar ddiwedd Chwarter 4 fod 14 risg gorfforaethol gan gynnwys 5 risg uchel ac 8 risg ganolig ac un risg isel.
Rhoes Atodiad 1 yr adroddiad grynodeb i Aelodau o’r risgiau a’r symud o ran sgorau risg dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rhoes Atodiad 2 yr adroddiad manwl ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Manylodd y Arweinydd ar y materion canlynol:
Yn Chwarter 4, newidiodd sgôr risg tair risg:
Risg 1 (Gofynion Deddfwriaethol)
· Canolbwyntiai’r risg hon ar y newidiadau deddfwriaethol o ran Deddf yr Iaith Gymraeg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Diogelu Data a Rheoli Gwastraff.
· Roedd y sgôr risg wedi symud o 12 i 6 yn chwarter 4 i adlewyrchu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
· Caiff y risg hon ei hadolygu yn Chwarter 1 2019/20 fel rhan o asesiad risg corfforaethol ehangach.
Risg 4 (Brexit)
· Yn y Chwarter olaf gwnaeth y Cyngor baratoadau digonol i derfyn amser cychwynnol Brexit ar 29 Mawrth 2019.
· Gyda’r Llywodraeth Wladol yn gohirio Brexit tan 31 Hydref 2019 a’r gwaith a wnaed gan y Cyngor i reoli bygythiad Sefyllfa Dim Dêl, lleihaodd y Cyngor y sgôr o 16 i 12.
· Fodd bynnag, mae swyddogion a’r weinyddiaeth yn wyliadwrus wrth fonitro’r sefyllfa a byddant yn barod i gynyddu paratoadau Brexit pe newidiai’r sefyllfa.
Risg 5 (Rheoli Ariannol yn ystod y Flwyddyn)
· Symudodd y sgôr risg hwn o 8 (risg ganolig) i 4 (risg isel) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i adlewyrchu’r tanwariant cyffredinol yng nghyllideb y Cyngor.
· Fodd bynnag, yn sgîl pwysau galw cynyddol ar wasanaethau allweddol y Cyngor yn 2019/20 caiff y risg hon ei hadolygu gan ei hadlewyrchu yn y gyllideb a ragfynegir i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon 2019/20.
Cadarnhaodd yr Arweinydd i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar gyfer Chwarter 4 gael ei chyflwyno i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ar 6 Mehefin 2019, gan nodi cynnwys yr adroddiad a’r broses rheoli risg.
Cafodd y Pwyllgor Archwilio hefyd wybod bod y Cyngor yn paratoi Datganiad Awydd Risg i ategu ei Bolisi Rheoli Risg cyffredinol; byddai’r Pwyllgora Archwilio’n croesawu’r cyfle hwn i gefnogi’r Cabinet a’r Cyngor i lunio’r datganiad hwn ac i roi unrhyw sylwadau a/neu argymhellion angenrheidiol i’r Cabinet eu hystyried.
Holodd y Cyng. Whitcutt a fyddai’r sgôr risg Brexit pe na ddigwyddai Brexit ar 31 Hydref. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y gofrestr risg yn ddogfen ddeinamig sy’n cael ei gwerthuso’n gyson ac y caiff ei diweddaru’n ôl y galw.
Cododd y Cyng Cockeram bryder am y pwysau cynyddol ar wasanaethau a arweinir gan galw, yn benodol materion sy'n gysylltiedig â chadw staff o fewn gofal cartref. Cytunodd yr Arweinydd i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn ac i ymholi pa gynlluniau wrth gefn sydd ganddi.
Ystyriodd y Cabinet yr opsiynau canlynol:
1. Ystyried cynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol a gofyn am ddiweddariad ar gynnydd gweithgareddau a wnaed i ddelio â’r argymhellion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet, yn adroddiad Chwarter Tri.
2.
3. Gwneud cais am ragor o wybodaeth neu wrthod cynnwys y gofrestr risg.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i Opsiwn 1.
Dogfennau ategol: