Agenda item

Materion yn codi

Cofnodion:

Gofynnodd cynrychiolydd am rywfaint o adborth ar lwyddiant Marathon Casnewydd a gynhaliwyd ar 5 Mai 2019.  Cadarnhaodd y Cadeirydd fod sylw gan y cyfryngau ar y digwyddiad yn gadarnhaol iawn ar gyfer y marathon ond nad oedd unrhyw wybodaeth eto ar niferoedd a’r hyn y daeth ag ef i’r economi leol. Roedd cynlluniau ar gyfer marathon y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill. Roedd cau’r ffyrdd bob amser yn broblem, ond ni adroddwyd am unrhyw beth fel y cyfryw a rhannwyd sut y cynhaliwyd trefniant y digwyddiad yn ddidrafferth.

 

Datgan Buddiannau

Eglurodd y Cadeirydd y Datgan Buddiannau i’r Clercod Cymunedol a chytunwyd ei fod yn faes amwys iawn. Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod yn arfer da i’w gwblhau ond pe bai rhywun yn gwrthwynebu llofnodi’r datgan buddiannau, ni ellid gorfodi’r person hwnnw i’w lofnodi. 

 

Eglurodd y Cadeirydd fod y ffurflen hon i’w llenwi mewn cyfarfodydd a’i chofnodi mewn cofnodion cyfarfodydd. Hefyd roedd gan Gynghorwyr y Ddinas gofrestr i’w llofnodi ymlaen llaw o fewn 28 diwrnod o gael eu hethol yn ogystal a’i ddatgan yn y cyfarfod. Roedd hon yn ffurflen ar wahân i’w llenwi hefyd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai’r unig wahaniaeth rhwng Cynghorwyr y Ddinas a Chynghorwyr Cymunedol oedd bod rhaid i Gynghorwyr y Ddinas lofnodi’r gofrestr.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn arfer arferol i ddatgan buddiant ac yna gadael yr ystafell, ond byddai angen llenwi ffurflen o hyd e.e. ar gyfer cais cynllunio. Cadarnhaodd y Cadeirydd hefyd fod angen cofnodi bod y person wedi gadael yr ystafell hefyd. 

- Trafodwyd sut, mewn perthynas â’r datgan buddiannau, cafodd ffurflen ei llenwi a’i chyhoeddi neu gallai’r cyfarfod aros nes bod yr eitem yn codi ac wedyn gallai’r person godi ei law a’i ddatgan yn y ffordd honno.

- Gallai’r Cynghorydd ddatgan buddiant ond nid oedd angen datgan yn union beth oedd y buddiant, ond bod y manylion ar y ffurflen ac mae hefyd yn mynd ar y gofrestr ac nid oedd angen ei ailadrodd yn y cofnodion. Fodd bynnag, roedd rhaid i’r person adael yr ystafell yn llwyr.

-Dywedwyd nad yw pob buddiant yn niweidiol, weithiau gallai person barhau yn y cyfarfod os nad oedd yn effeithio ar ei farn ac heb rhagfarn yn ei erbyn.

- Pe bai’r buddiant yn niweidiol, roedd angen gadael yr ystafell yn gorfforol ac ni allai’r person hwnnw fynd i eistedd yn yr oriel gyhoeddus.

- Cadarnhaodd y Cadeirydd fod peidio â datgan buddiant ac aros yn y cyfarfod yn fan lle y byddai pryderon yn dechrau.

 

Cytunwyd:

 

I edrych ar hyfforddiant gloywi ac ail-anfon y Cod Ymddygiad a’r ffurflenni Datgan Buddiannau i bob clerc ar y Cyngor Cymuned.

 

Gofynnodd cynrychiolydd a oedd Run4 Wales wedi cysylltu â’r Farmers Arms? Nid oedd yn hysbys a oedd hyn wedi digwydd oherwydd ni dderbyniwyd unrhyw adborth hyd yn hyn.

Enwebwyd y Cynghorydd Jacqui Ford o Gyngor Cymuned Langstone a’i derbyn ar gr?p ymgysylltu y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a Phartneriaeth y Trydydd Sector ar ran pob Cyngor Cymuned. 

 

 

 

Ffin Casnewydd

Trafodwyd sut y byddai Ffin Casnewydd yn newid a chytunwyd ar y fformat oherwydd bod yr adolygiad etholiadol wedi rhoi cynigion drafft i’r Comisiwn Ffiniau. Mewn perthynas â’r wardiau Etholiadol mae’r cynghorau wedi penderfynu arnynt, roeddent bellach gyda’r Comisiwn Ffiniau. 

 

Hefyd rhoddwyd barn Cyngor Dinas Casnewydd a gall y Cynghorau Cymuned roi syniadau i’r Comisiwn ar y cynigion.

 

Gofynnodd cynrychiolydd a allai’r Comisiwn daflu’r cynigion allan a sicrhaodd y Cadeirydd na allai hyn ddigwydd, gallai fynd i lawr i un yn llai ond roedd lwfans o un neu ddau y naill ffordd a’r llall. Mae’n bosibl y bydd y Comisiwn yn diystyru beth mae’r Cyngor wedi ei gyflwyno. Fodd bynnag roedd pedwar maes o dan- a thros-gynrychiolaeth.

Byddai’r Comisiwn yn ystyried ac yn cyhoeddi’r cynigion ac yna byddai’r Cynghorau Cymuned yn gallu gwneud sylwadau.

 

Siarter a Rennir

 

Trafodwyd efallai bod angen newid y geiriad o ran pa mor aml y caiff y Siarter ei hadolygu.  Gofynnwyd i’r Cynghorau Cymuned ddod yn ôl i’r cyfarfod Cyswllt am y Siarter a rhoi gwybod a oedd angen ei hail-eirio a’i hadolygu felly trafodwyd ymgynghori â’r holl Gynghorau Cymuned er mwyn cael gwybod beth yr hoffent ei weld yn y Siarter.  Roedd yr hyn a oedd yn y Siarter yn safonol, ond gellid newid y geiriad mewn rhai mannau penodol.

 

Crybwyllwyd gan gynrychiolydd ei fod yn dda bod â’r Siarter yn ysgrifenedig ond gofynnwyd a yw’r Cyngor bob amser yn glynu ati. Trafodwyd yr angen am gynllun gweithredu i newid hwn.

 

 

Trafodwyd yr angen am gynllun gweithredu i newid hwn.

 

Heriwyd y Siarter oherwydd y diffyg gwariant cyfochrog, roedd arian yn mynd yn llai ac yn llai a dywedodd cynrychiolydd y teimlwyd bod penderfyniad yn cael ei wneud ac wedyn ei gyhoeddi i’r Cynghorau Cymuned a bod y Cynghorau Cymuned ond yn cael gwybod am  y cynlluniau hyn ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith. 

Sylwodd y Cadeirydd y câi’r pryderon eu nodi ond efallai y cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol oedd ymdrin â’r materion hynny mewn ffordd wahanol. Mae’n bosibl ei fod yn berthnasol i’r Cynghorau Cymuned ddod at ei gilydd i benderfynu am yr hyn sy’n mynd i mewn i’r Siarter. Yna gellid adnabod problemau a gellid rhoi gwybod i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Nodwyd bod y Siarter yn fframwaith a dyma sut mae’r Cyngor a’r Cynghorau Cymuned yn gweithio gyda’i gilydd, pe bai’r fframwaith yn foddhaol, gallem edrych ar y pryderon.

Trafodwyd bod gwybodaeth a chyfathrebu yn bwysig ac er bod canolfan gyswllt y ddinas yn bwynt cyswllt cyntaf, dywedodd un o’r cynrychiolwyr ei fod wedi treulio llawer o amser yn ceisio cael ymatebion gan y ganolfan gyswllt mewn perthynas â’r materion gwahanol.

 

Disgrifiodd y cynrychiolydd sut roedd ef eisiau adrodd am wasanaeth gwael ar ffordd, felly ffoniodd y ganolfan gyswllt gan ddefnyddio cyfeirnod a roddwyd iddo ond rhoddwyd cyfeirnod arall iddo gan fod yr un cyntaf heb gael ei ddilyn i fyny. Teimlai’r cynrychiolydd fod ymatebion heb eu rhoi o fewn amserlen y cytunwyd arni ac y dylid rhoi amserlen i Gynghorau Cymuned ar gyfer pryd yr ymatebir iddynt.

Gofynnwyd i’r Clerc gofnodi’r mater yn ysgrifenedig a byddai’r Cyfarfod yn mynd ag ef ymhellach. Trafodwyd sut gallai’r rheolwr gwasanaeth cwsmeriaid fod yn bresennol mewn cyfarfod Cyswllt yn y dyfodol er mwyn trafod y broses o adrodd am g?yn.

Mae’r Siarter yn rhestru’r hyn rydym yn ei ddisgwyl a sut dylem ymateb i’r Cynghorau Cymuned. Trafodwyd sut y gellid cytuno ar amserlenni penodol ac wedyn gellid adolygu’r cynllun gweithredu. 

 

Soniodd cynrychiolydd arall am pan gysylltodd â’r ganolfan gyswllt, cafodd ei drin yr un peth ag aelod o’r cyhoedd a chytunwyd, yn anffodus, fod hyn yn digwydd. Dywedwyd, pe bai Cynghorydd yn ffonio, fod rhif penodol y gallai ei ffonio ond dywedodd y Cadeirydd nad oedd hyn yn wir. Anogwyd y Cynghorau Cymuned i adrodd am faterion ar-lein yn fwy.

 

Dywedodd cynrychiolydd arall ei fod wedi ffonio’r ganolfan gyswllt parthed ceudwll ac y cafodd hyn ei unioni’n gyflym iawn.

Trafodwyd hefyd a oedd Gwasanaethau yng Nghyngor Dinas Casnewydd wedi darllen y Siarter? Gallai hyn fod yn broblem oherwydd ei fod yn bosibl na fydd person yn y ganolfan gyswllt wybod beth sydd yn y Siarter.