Agenda item

Fframwaith Cynllunio Cenedlaethol

Cyflwyniad gan y rheolwr datblygu ac adfywio

Cofnodion:

Traddododd y Rheolwr Datblygu ac Adfywio gyflwyniad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

Prif Bwyntiau

 

Ymgynghoriad ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Gallai Cyngor Dinas Casnewydd fwydo i mewn i’r ddogfen ond nid ydynt yn gyfrifol am ei ganlyniad. Roedd hefyd yn berthnasol ar gyfer Cymru gyfan.

Mae’r Cynllun Datblygu Strategol ar lefel arweinydd ac roedd arnodiad i fynd yn ôl at y cynghorau i gytuno ar y cynllun i ymwneud â 10 awdurdod. Byddai angen i Gasnewydd ddechrau gwaith ar gynllun strategol a byddai angen iddi edrych ar gynllunio ar lefel leol a gallai gysylltu ag awdurdod arall er mwyn creu cynllun ar y cyd. 

 

Mae’r Cynghorau Cymuned yn arwain ar Gynlluniau Bro ac NDF oedd y cyntaf yn haenen y Cynllun Datblygu. Roedd hyn yn golygu nad yw cynllunwyr yn gofyn i gynghorau a ydynt yn cytuno neu beidio. Gallent gynorthwyo â’r cynlluniau bro ond y Cynghorau oedd yn arwain ar hyn.

 

Mewn perthynas â Mater y Ffiniau nid oedd y ffin yn cynrychioli eiddo mewn pentref a gwrthodwyd y newid mewn ffin a byddai hyn yn newid. Roedd cynlluniau yn amodol ar ymgynghori. Roedd y Cynllun Datblygu Lleol 4 blynedd i mewn i’w fabwysiadu. Treuliodd y Cyngor ddwy flynedd i’w ddatblygu ond cafodd y ffiniau eu diddymu ac felly nid oedd Cynghorau Cymuned yn ymwneud â gwneud penderfyniadau; gallent godi gwrthwynebiadau yn unig.

 

Roedd Cynlluniau Bro yn benderfyniadau gan y Cynghorau Cymuned.

 

Beth oedd Cynllun Bro? Fe’i hadwaenwyd fel canllaw cynllunio atodol ac roedd ar lefel fwy lleol. Cafodd ei alinio â chynllun ar gyfer ardaloedd gwledig ayyb. felly ni ellid adeiladu 10,000 o dai mewn ardal wledig benodol. Câi cynllunio mewnlenwi ei gefnogi fodd bynnag, felly ni fyddai cae llawn tai yn briodol ond efallai gellid eu hadeiladu o gwmpas yr ymylon. Roedd yn seiliedig ar ddefnydd tir ac nid ar y person.

 

Dywedodd cynrychiolydd fod hyn yn anodd i Gasnewydd ei reoli a bod angen dweud wrth y Cynghorau Cymuned am gynlluniau. Bu pryder, efallai bod angen newid cynlluniau, a oedd angen am glustnodi, roedd angen mwy o dai ar gyfer pobl leol. Hefyd mynegwyd pryderon bod pentrefi’n marw oherwydd nad oeddent yn cael ehangu. Roedd Gwasanaethau Bysus hefyd yn cael eu dileu.

 

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

 

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru oedd cyrraedd y nodau lles ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol a phopeth sydd ei angen er mwyn alinio â’r weledigaeth hon.  Roedd ymgynghoriad ar y drafft ar y pryd ac anogwyd pawb i ymgysylltu ag ef. Wedyn gallai’r Cynghorau Cymuned wneud sylwadau ar y drafft.

Wedyn câi’r drafft ei gylchredeg gan y Swyddog Llywodraethu pan fyddai ar gael.

          

·         Bydd yr NDF yn cynnwys targedau tai rhanbarthol; caiff 10,000 o dai eu hadeiladu erbyn 2026 a mater o beth gallai’r rhanbarth ei ddarparu yw yn hytrach na beth mae pob awdurdod yn dweud sydd eisiau arnynt. 

·         Roedd y cysylltiadau trafnidiaeth Strategol yn bwysig iawn oherwydd nad oedd pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o’r ardal. Y gobaith oedd y gallai pobl symud i ffwrdd o ddefnyddio eu ceir a defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yn lle hynny. Gwnaed sylw nad yw ffordd liniaru yr M4 bellach yn cael ei hystyried mwyach.

·         Hefyd bu sylwadau ar ardaloedd twf pwysig, yn Sir Fynwy roedd 3 anheddiad newydd. Mewn perthynas â Phrojectau Ynni, roedd môr-lynnoedd llanw o amgylch Casnewydd a Chaerdydd yn cael eu cynllunio.

·         Mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, cynlluniwyd i fod heb geir tanwydd ffosil erbyn 2050.

 

Roedd cyfeiriad e-bost ar y cyflwyniad ndf@gov.wales ac roedd hefyd yn bosibl cofrestru ar gyfer cylchlythyr Llywodraeth Cymru er mwyn cael y newyddion diweddaraf.

 

Sylwadau terfynol

Soniwyd bod NDF yn ddogfen strategol lefel uchel iawn ac nid oedd yn amlwg sut roedd yn effeithio ar gymunedau unigol.  Fodd bynnag gallai ffurfio’r NDf nawr helpu i ffurfio cymunedau yn y dyfodol.

 

Dangoswyd fideo fer gan Lywodraeth Cymru ar NDF i aelodau’r cyfarfod.

 

Cwestiynau:

 

Cadarnhawyd bod 2040 plws oedd cyfnod y cynllun.

 

Mewn perthynas â’r cynllun i 10,000 o gartrefi newydd gael eu hadeiladu gofynnwyd a oedd y broses hon wedi cychwyn. Cadarnhawyd y cafodd 4,000 eu hadeiladu eisoes a bod y rhagfynegiad o ran tai yn seiliedig ar yr angen am dai.  Dychmygwyd sut olwg fyddai ar Gasnewydd yn 2026, byddai pobl bellach yn byw’n hwy, byddai teuluoedd un rhiant hefyd, mae’n bosibl y byddai mwy o bobl yn perchen am ail gartref yn y dyfodol ac felly roedd yn seiliedig ar y data hwn. Cafodd y ffordd liniaru ei rhoi o’r neilltu ac nid oedd yn ddigonol beth bynnag, dylai’r seilwaith fod wedi’i roi ar waith cyn i’r tai gael eu hadeiladu.

 

Sylwodd cynrychiolydd na allai traffordd gymharu â’r 10,000 o dai sy’n cael eu hadeiladu.

 

Dywedwyd bod yr angen am dai yno bob amser felly roedd angen darparu llety a roedd angen i’r seilwaith dal i fyny.

Roedd datblygiad yng Nghaerdydd ar y ffordd a oedd yn ddatblygiad pwysig a byddai hyn yn bwrw cyffyrdd 30, 31 a 32 o’i gymharu â 10,000 o dai yn unig.

 

Gofynnodd cynrychiolydd am leoedd naturiol gan nad oedd eisiau i’r gwyrddni o gwmpas y ddinas gael ei ddinistrio.  Cadarnhawyd bod 99% o dai ar dir llwyd yn gyntaf.  Mae Llanwern wedi darparu llawer o hyn wrth amddiffyn y cynllun datblygu presennol. Gwnaed y sylw fod angen Llanwern yn ogystal â’r safleoedd tir llwyd ac adeiladwyd ar rai safleoedd gwyrdd e.e. safle maes glas Llanwern.

Gwnaeth cynrychiolydd sylw fod y cynlluniau bro yn ddefnyddiol iawn fel yr oeddent yn yr hyfforddiant.

Rhoddwyd gwybod i aelodau’r cyfarfod bod y Cynllun Datblygu Lleol ar wefan y cyngor i’w weld.

Gofynnodd cynrychiolydd am dranc canol y ddinas ac a oedd unrhyw beth yn cael ei wneud i’w ddatblygu, oherwydd bod llawer o adeiladau gwag.

Gwnaed y sylw fod Casnewydd yn canolbwyntio ar adfywio ac roedd llawer o fuddsoddwyr bellach yn dangos diddordeb yn y ddinas a’i heiddo. Fodd bynnag, roedd landlordiaid absennol yn broblem ac weithiau mae ganddynt ychydig o ddiddordeb yn unig yn yr eiddo; maen nhw eisiau cael yr elw ond nid ydynt am wella ar y llog a gawsant.

 

Roedd grantiau yn gyfyngedig a dibynnwyd ar Lywodraeth Cymru a hefyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn rhoi cymhelliant i fuddsoddwyr allanol. Po fwyaf y bydd manwerthwyr yn gadael, mwyaf y bydd eiddo gwag yn weddill. 

 

Cytunwyd:

 

I ddrafft yr NDF gael ei gylchredeg i Gynghorau Cymuned pan fydd ar gael.