Agenda item

Llywodraeth Leol: Adroddiad Safonau Moesegol (Loegr)

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor edrych ar Adroddiad Safonau Moesegol Llywodraeth Leol (Lloegr) a allai fod o ddiddordeb i aelodau. Trafodwyd yn yr adroddiad Cod Ymddygiad Lloegr a roddwyd cefndir i hyn.

Nodwyd bod y broses wedi gwneud cylchdro llawn gan nad oedd yn gweithio felly bod angen dull safonol ynghyd â sancsiynau ac ati.

Nodwyd yn yr argymhellion y dylai clercod gael rhyw fath o gymwyster. Fodd bynnag nodwyd o ran Cynghorau Tref fod rhai â chyllidebau mawr a hyd at 20 o aelodau staff. Roedd gan rai Cynghorau Cymuned glerc rhan amser a staff rhan amser.

Nodwyd bod rhai Cynghorau Cymuned wedi cael trafferthion recriwtio pobl am y swydd clerc a bod hon yn swydd rhan amser yn aml.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 20 ac 21  o’r adroddiad o ran Deddf Lleoliaeth 2011 a gofynnodd p’un a ddylai Cynghorau Cymunedol yng Nghymru addasu’r Cod Ymddygiad?

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod Cynghorau Cymuned yng Nghymru yn glynu at yr un Cod Ymddygiad â Chyngor Dinas Casnewydd.

Soniwyd am y pwynt penodol hwn gan y trafodwyd mewn cyfarfod cyswllt Cynghorau Cymuned blaenorol p’un a ddylai aelod adael yr ystafell wrth ddatgan buddiannau ac nid oedd y clercod yn ymwybodol ar y pryd bod angen llenwi ffurflen yn y cyfarfod.

 

O ganlyniad i’r cyfarfod cyswllt, dosbarthwyd gwybodaeth yngl?n â  Datgan Buddiannau i bob clerc Cyngor Cymuned er cysondeb.

Nododd Un Llais Cymru y dylid cadw cofrestr o fuddiannau aelodau ac y dylai’r aelod dan sylw lofnodi ffurflen berthnasol.

Ynghylch y gofrestr, nodwyd bod rhai Cynghorau yn cael datganiadau o fuddiant ymlaen llaw a bod cod model yr Adolygiad yn cyfeirio at cynghorwyr dinas yn unig. Ym marn Un Llais Cymru, roedd yn anghyfreithlon i Gynghorydd wrthod llofnodi ffurflen.

Cadarnhawyd nad oed yn anghyfreithlon ynghylch Cynghorwyr Cymuned, fodd bynnag mewn cyfarfod Cyngor Cymuned, roedd yn rhaid datgan buddiannau ar lafar ac yna byddai’r Cynghorydd yn gadael yr ystafell a byddai angen iddo wneud datganiad ysgrifenedig hefyd ac aiff hyn i’r gofrestr gyhoeddus.

Gofynnwyd p’un a oedd angen sicrhau hyfforddiant pellach i glercod.

Trafodwyd pam yr oedd mai’r broblem oedd nad oedd clercod yn gwybod y dylai Cynghorydd adael ystafell wrth ddatgan buddiant mewn cyfarfod

 

Cyngor Cymuned. Roedd yn ymddangos hefyd nad oeddent yn ymwybodol bod angen llenwi ffurflen hefyd.

 

Roedd Clercod Cymuned yn credu ei bod yn ddigon llenwi’r gofrestr ond nad oedd yn ddigon cofnodi hyn yn unig petai problem yn codi mewn cyfarfod. Cyhyd ag y byddai’r person sy’n datgan buddiant yn gadael yr ystafell ar yr adeg honno, dyma oedd y brif broblem gan y byddai’n ei gwneud yn drylwyr a’i bod yn broblem dechnegol pe na chaiff ei dilyn.

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a oedd gofyn unrhyw hyfforddiant ychwanegol ar Gynghorau Cymuned i’w helpu i ddilyn canllawiau. Nodwyd hefyd bod holiadur wedi ei ddosbarthu i Gynghorau Cymuned ond ni ddychwelwyd dim un. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd p’un a oedd angen dilyn datblygiad cod ymddygiad gan nad oedd wedi’i nodi bod angen llenwi ffurflen ychwanegol.

Roddodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio sicrwydd bod y cod yn datgan yn y print bach yr angen i gyflwyno ffurflen.  Petai unrhyw ddryswch yna gellid ailddosbarthu’r manylion.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd hyn wedi’i drafod yn y cyfarfod blynyddol a chadarnhawyd nad oedd hyfforddiant blynyddol gan nad oedd hyn yn broblem ac yn berthnasol i Gynghorwyr Dinas yn unig oedd yn cael hyfforddiant blynyddol. 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod yr holl Gynghorwyr Cymuned wedi cael ffurflenni priodol ar God Ymddygiad o ganlyniad i Gyfarfod Cyswllt Cynghorau Cymuned a’u bod wedi’u dosbarthu ynghyd â’r ffurflenni datgan buddiannau priodol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ôl at adroddiad Safonau Moesegol ar dudalen 42 ac yn benodol Arfer Gorau 3: Dylai Prif Awdurdodau geisio barn y cyhoedd a sefydliadau cymunedol yn rheolaidd. Nododd y Cadeirydd y gallai fod camddealltwriaeth ymysg y cyhoedd ar brydiau a dylid hyrwyddo rôl y Pwyllgor Safonau rhagor, er enghraifft gallai fod yn ddefnyddiol rhoi rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor ar-lein.  

 

Trafodwyd sut y gellid gwaredu cynghorau iechyd yn y dyfodol. Cadarnhaodd Dr Worthington eu bod yn cymryd rhan mewn deddfu ac y byddai cam 1 a 2 a gynlluniwyd yn ystod mis Hydref gan ddiddymu’r Cynghorau Iechyd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. 

Yngl?n â thrwyddedu, nododd Aelod wrth i rywun wrthwynebu lleoliad, fod y person yn iawn i wrthwynebu ond wrth iddo sylweddoli yr hyn oedd wedi’i gynnwys, yna derbyniwyd. Y broblem oedd bod pobl weithiau yn gwrthwynebu pethau cyn eu derbyn.

 

Trafododd y Pwyllgor fod gan Gynghorwyr yn Lloegr eu cod eu hunain. Byddai ymgynghori â phobl Cymru yn cadarnhau pa mor effeithiol oedd hyn yn ymarferol. Roedd rhai Cynghorau yn dymuno newid codau lleol drwy ymgynghori â’r cyhoedd ond gallai hyn fod yn eithaf amhenodol ond yn Lloegr, roedd ar gynnydd.

Cyfeiriodd Dr Worthington at Argymhelliad 25 ar dudalen 99 yr adroddiad a nododd y dylai grwpiau gwleidyddol ei gwneud yn ofynnol i gynghorwyr fynd i hyfforddiant sefydlu ffurfiol, y teimlad oedd mai’r grwpiau gwleidyddol a ddylai drefnu’r hyfforddiant.

 

Nodwyd os nad oedd Cynghorwyr yn mynychu’r hyfforddiant, byddai Penaethiaid Busnes yn cael gwybod a byddai hyn yn cael ei ddosbarthu wedyn ond ni allai’r Cyngor ei orfodi. Mae’n rhaid i Gynghorwyr sy’n mynd i Gynllunio a Thrwyddedu fynd i hyfforddiant. Mae disgyblaeth y gr?p pleidiol yn gorfodi aelodau i ymgysylltu a nhw sy’n cymryd camau disgyblu hefyd.

Nodwyd y dylai grwpiau gwleidyddol orfodi hyn a pheidio â phenodi Cynghorwyr nad ydynt wedi cael hyfforddiant priodol. Mae cyfanswm o 3 Chynghorydd nad aethant i hyfforddiant, a dosbarthwyd yr hyfforddiant iddynt. Nododd Aelod bod anfanteision anferthol i beidio â chael hyfforddiant yn enwedig ynghylch Trwyddedu a Chynllunio ac ati a bod hwn yn hyfforddiant hynod bwysig.

Dogfennau ategol: