Agenda item

Cwestiynau I Arweinydd y Cyngor

I roi'r cyfle i gynghorwyr ofyn cwestiynau i Gadeirydd y Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

 

Proses: Ni chaiff mwy na 15 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau llafar i'r Arweinydd

 

Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Cofnodion:

-       Roedd seremoni agoriadol Gemau Trawsblannu Prydain yn cael eu cynnal y penwythnos hwn, ac anogodd yr Arweinydd yr holl Gynghorwyr i fynychu a chefnogi'r digwyddiad.

-       Pwerdy'r Gorllewin

Cyflwynwyd adroddiad newydd gan yr Arweinydd yn Nh?’r Arglwyddi a oedd yn nodi argymhellion y Cyngor i godi gormod ar ein heconomi ranbarthol a’r potensial am bwerdy economaidd newydd ar gyfer y DU. Byddai’r pwerdy posib yn ymestyn ar hyd coridor yr M4 o Swindon, ar draws ffin Cymru i Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac yn y gogledd o Gaerloyw a Cheltenham i Gaerfaddon a Bryste. Amlinellodd yr Arweinydd y cyfleoedd y byddai'r cynnig hwn yn eu cyflwyno i Gasnewydd. 

-       Diweddarodd yr Arweinydd y Cyngor am yr adborth cadarnhaol gan y cyhoedd ar weithredu Gorfodi Parcio Sifil.

-       Ar ôl wythnos Cadwch Gymru'n Daclus yr wythnos diwethaf, cadarnhawyd bod Parc Belle Vue, Parc Beechwood ac Amlosgfa Gwent oll wedi cadw'r nod ansawdd rhyngwladol mewn cydnabyddiaeth o’u harddangosfeydd blodau, cyfleusterau ac ymroddiad rhagorol i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych. Roedd y Cyngor wedi cyrraedd y deg uchaf, a hi oedd yr awdurdod uchaf yng Nghymru, mewn arolwg diweddar o awdurdodau lleol a ganmolwyd am ailgylchu gwastraff plastig yn dilyn mentrau diweddar y Cyngor i wella ailgylchu. Diolchodd yr Arweinydd i'r holl breswylwyr am gymryd rhan yn y mentrau a chyfrannu at gyfradd ailgylchu gynyddol y Cyngor.

 

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

Ffordd Liniaru'r M4

 

Mewn perthynas â phenderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i beidio ag adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans i'r Arweinydd a oedd hyn yn golygu y byddai trigolion Casnewydd yn parhau i wynebu'r un problemau gyda thagfeydd trwm a llygredd aer, a cheisiodd sicrwydd y byddai'r Arweinydd yn atal unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gau cyffyrdd y draffordd yng Nghasnewydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod ei chefnogaeth i Ffordd Liniaru'r M4 yn ddiamwys yn y ddinas hon a'i bod wedi llofnodi llythyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain i Lywodraeth Cymru i gefnogi Ffordd Liniaru'r M4.

 

Amlinellodd yr Arweinydd fod penderfyniadau ar gyffyrdd yr M4 yn fater o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru ac felly nid oedd yn rhan o gylch gwaith arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Roedd sylwadau wedi'u cyflwyno i Brif Weinidog Cymru i wneud safbwynt y Cyngor yn glir, ac roedd yr Arweinydd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn i'r cylch gorchwyl gael ei ddiwygio i sicrhau bod llais Casnewydd ar y Comisiwn.

 

Sicrhaodd yr Arweinydd y Cyngor fod y weinyddiaeth yn deall pwysigrwydd enfawr trafnidiaeth briodol o fewn y ddinas, ac y byddai'r Arweinydd yn parhau i ymladd ym mhob ffordd bosibl i sicrhau bod Casnewydd yn cael y fargen orau bosibl yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans gwestiwn atodol i geisio sicrwydd y byddai'r cyllid a amlinellwyd gan Brif Weinidog Cymru yn cael ei wario yng Nghasnewydd i fynd i'r afael â materion trafnidiaeth a thagfeydd.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd fod llythyr wedi'i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ac y byddai'n gwneud popeth posibl o fewn y rôl i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario i fynd i'r afael â materion yng Nghasnewydd. Galwodd yr Arweinydd ar Aelodau'r Cynulliad yng Nghasnewydd i frwydro am hyn hefyd.

 

Glendid Strydoedd

 

Tynnodd y Cynghorydd Carmel Townsend sylw at faterion sy'n ymwneud â glendid strydoedd yng Nghasnewydd, gan ddyfynnu canlyniadau arolwg diweddar Cadwch Gymru'n Daclus. Gofynnwyd i'r Arweinydd a allai glendid strydoedd fod yn destun seminar i bob Aelod er mwyn cefnogi Cynghorwyr i wella'r sefyllfa i drigolion lleol.

 

Diolchodd yr Arweinydd y cynghorydd am yr awgrym hwn a chytunodd y byddai seminar pob aelod yn ddefnyddiol.

 

Economi Casnewydd

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jason Hughes beth oedd barn yr Arweinydd am erthygl ddiweddar yn trafod adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar ar Economi Casnewydd. 

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod yr adroddiad annibynnol hwn yn cadarnhau bod Casnewydd yn tyfu'n gyflymach na gweddill Cymru, ac yn uwch na chyfartaledd y DU. Rhwng 2014 a 2017 tyfodd Casnewydd ar gyfartaledd o 2.2% y flwyddyn, a chyflymwyd y twf i 2.4% yn 2017. Maint yr economi yn gyffredinol oedd 10.8 biliwn yn 2017 a oedd yn ddatblygiad arwyddocaol ac roedd rhanbarth Casnewydd yn cyfrif am 1/5ed o allbwn Cymru yn gyffredinol.  Rhoddodd yr Arweinydd grynodeb o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad, ac roedd yn falch bod yr adroddiad hwn yn dangos tystiolaeth annibynnol o gryfder a llwyddiant canolog Dinas Casnewydd a'i heconomi gynyddol.

 

Canllaw Gwrth-aflonyddu

 

Gofynnodd y Cynghorydd Yvonne Forsey i'r Arweinydd hysbysu'r Cyngor ymhellach am y Canllaw Gwrth-aflonyddu diweddar a lansiwyd yng nghynhadledd CLlLC.

 

Amlinellodd yr Arweinydd fod y Gymdeithas Llywodraeth Leol a CLlLC yn cydnabod yr angen cynyddol ymhlith Cynghorwyr ledled y DU am gymorth yn ymwneud â bygythiadau, a bod yr adnodd hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd yn dilyn cyngor gan Gynghorau a sefydliadau cynrychioliadol. Roedd y canllaw yn rhoi cyngor i Gynghorwyr ar sut i ddelio â chamdriniaeth a bygythiadau, gan gynnwys gwybodaeth am y troseddau dan sylw. Mae bygythion cynyddol at gynghorwyr ac ymgeiswyr yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn a'r broses o ymgysylltu mewn dadleuon democrataidd.