Agenda item

Cwestiynau I Aelodau Cabinet

I roi'r cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau'r Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog

 

Proses: Ni chaiff mwy na 10 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i bob Aelod Cabinet unigol.

 

Bydd angen i’r Aelodau cyflwyno eu cwestiynau arfaethedig yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheolau Sefydlog.  Os nad yw'r aelodau yn gallu gofyn eu cwestiwn ar lafar o fewn yr amser a glustnodwyd, bydd y cwestiynau sy'n weddill yn cael eu hateb yn ysgrifenedig.  Bydd y cwestiwn ac ymateb yn cael eu hatodi i'r cofnodion.

 

Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i aelodau'r cabinet yn y drefn ganlynol:

 

·      DirprwyArweinydd / Aelod Cabinet dros Ddatblygu Asedau ac Aelodau

·      Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

·      Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

·      Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai

·      Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau

·      Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Stryd

·      Aelod Cabinet dros Trwyddedua Rheoleiddio

·      Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden

 

Er Gwybodaeth:  Mae crynodeb o amserlenni penderfyniad diweddar a gyhoeddwyd gan y Cabinet, Aelodau Cabinet a Chofnodion cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau wedi cael ei gylchredeg yn electronig at bob Aelod o'r Cyngor.

 

Cofnodion:

i)          Cwestiynau i'r Aelod Cabinet – Gwasanaethau’r Ddinas

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

 

'O ystyried y problemau parhaus presennol o ran y tagfeydd traffig erchyll sy'n mynd i mewn i'r Ganolfan wastraff/ailgylchu ar Ffordd y Dociau, mae'r Cyngor wedi nodi y bydd ail ganolfan yn cael ei hagor ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Fodd bynnag, a wnaiff yr Aelod Cabinet ymrwymo i adolygu amseroedd agor y Ganolfan drwy fabwysiadu oriau agor tymhorol gyda'r Ganolfan ar agor yn hwyrach yn ystod misoedd yr haf ac yn gweithredu oriau byrrach yn y gaeaf? A yw'r Aelod Cabinet yn credu bod yr amser cau presennol o 4:10pm yn rhy gynnar ac a dylid ei ymestyn i 6pm sy'n cyd-fynd â'r rhan fwyaf o’r cynghorau eraill yng Nghymru?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet – Gwasanaethau’r Ddinas:

 

'Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymestyn yr oriau agor ar safle'r AD, rydym wedi gwneud gwaith mawr ar y safle hwn i liniaru rhai o'r problemau sy'n ymwneud â thagfeydd traffig a'i effeithiau. Mae'n rhaid i mi ystyried cyllidebau sy'n lleihau, ymrwymiadau gweithredol a goblygiadau staffio ar gyfer y safle amlswyddogaethol hwn, felly ni allaf ar hyn o bryd roi sylwadau am amseroedd gwirioneddol. Yr wyf yn gobeithio cael diweddariad cadarnhaol cyn bo hir. Mae'r gwaith o amgylch y safle ar ochr ddwyreiniol y ddinas yn dal i fynd rhagddo.'

 

Gofynnwyd cwestiwn atodol i'r Aelod Cabinet yn ymwneud â'r trigolion yn cael mynediad i ganolfan ailgylchu Sir Fynwy, a gofynnodd i'r Aelod Cabinet a oedd ganddo unrhyw sylwadau o ran hyn gan ei fod bellach yn cael ei drafod ar lefel Cynulliad Cymru.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet bod y Cyngor wedi gwario miliynau o bunnoedd yn lleihau maint y biniau yn y ddinas gan geisio cynyddu'r cyfraddau ailgylchu i 70% a dywedodd mai'r gobaith oedd y byddai trigolion Dinas Casnewydd yn mynd ag ailgylchu i gyfleuster Casnewydd er mwyn cyfrannu at ffigyrau Casnewydd ar ailgylchu a chynorthwyo'r ddinas i gyrraedd y targedau a pheidio â bod yn destun dirwyon gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd hefyd y byddai'r safle newydd yn nwyrain y ddinas yn helpu'r holl drigolion dan sylw. 

 

ii)         Cwestiwn i'r Aelod Cabinet – Adfywio a Thai

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

 

'Yn ddiweddar, llofnododd dros 3000 o bobl ddeiseb a lansiwyd gan breswylydd Casnewydd, Christine Davies, a oedd yn galw am gamau i lanhau ac adfywio Canol ein Dinas. Ers cyflwyno'r ddeiseb hon, mae'r Cyngor wedi gwrthod derbyn ceisiadau o ran ymateb trawsbleidiol. A yw'r Aelod Cabinet yn teimlo bod hyn yn 'slap yn yr wyneb' ar gyfer pawb a lofnododd y ddeiseb? A fydd yr Aelod(au) Cabinet yn edrych yn agos ar y ddeiseb hon ac yn cydnabod y pryderon a godwyd ynddi ac yn cytuno i gyfarfod â Christine Davies, busnesau lleol, cyflogwyr a gwleidyddion i drafod y gwelliannau a wneir yng nghanol y ddinas?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai:

 

'Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb. Cyhoeddodd Casnewydd yn Un, ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ymateb cyhoeddus i'r ddeiseb ar ran y sefydliadau partner yr ydym yn gweithio gyda nhw.  Yn ogystal, mae Prif Weithredwr yr Awdurdod Lleol wedi cynnig cyfarfod â'r deisebydd i drafod y pryderon a godwyd, ac mae'r cynnig hwn yn parhau i fod ar agor.

Beth yw Casnewydd yn Un? Casnewydd yn Un yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddinas lle mae sefydliadau cyhoeddus lleol, preifat a thrydydd sector yn cydweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y ddinas. Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015, ac maent yn gweithio gyda'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn cyflawni'r 7 nod llesiant drwy asesu llesiant y wladwriaeth ar faterion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, gan osod amcanion lleol sydd wedi'u cynllunio i wneud y gorau o'u cyfraniad yn y ddinas er mwyn cyflawni'r nodau hyn a chymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion hyn. Mae'r amcanion hyn a'r perfformiad yn eu herbyn wedi'u nodi yng Nghynllun Llesiant Casnewydd yn Un. Mae Casnewydd Diogelach yn un o is-grwpiau Casnewydd yn Un. Casnewydd Diogelach yw partneriaeth diogelwch cymunedol y ddinas ac mae'n darparu ar faterion diogelwch cymunedol lleol sy'n dod i'r amlwg a datrys problemau ar gyfer canol dinas fwy diogel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, mentrau troseddau difrifol a chyfundrefnol, materion cymdogaeth lleol a allai godi a cheisiadau cyllido lleol. Mae'r Aelodau'n cynnwys yr Heddlu, CDC, y Gwasanaeth Tân ac Achub. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Sut mae dwyn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyfrif? Creffir ar y BGC gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad – Partneriaethau. Mae'r Pwyllgor hwnnw'n un trawsbleidiol. Mae cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn gyfarfodydd cyhoeddus, mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn adrodd ar gynnydd i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Llywodraeth Cymru

 

Felly beth yw ein cynllun? Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd – fel awdurdod rydym yn cyhoeddi Cynllun Corfforaethol, dylai cydweithwyr yn y Siambr fod yn gyfarwydd iawn â'r cynllun hwn.  Mae gan y Cynllun Corfforaethol 4 thema allweddol: cymuned wydn, dinas lewyrchus, pobl ddyheadol a chyngor wedi'i foderneiddio. Mae gan y Cynllun 4 amcan lles hefyd – eu bwriad yw gwella sgiliau, canlyniadau addysgol a chyfleoedd cyflogaeth, hybu twf economaidd ac adfywio tra'n diogelu'r amgylchedd, i alluogi pobl i fod yn iach, yn annibynnol ac yn wydn ac i adeiladu cymunedau cydlynus a chynaliadwy.

 

Sut rydym yn gweithio'n fewnol? Rydym yn gweithio ar y cyd, ar draws meysydd gwasanaeth a phortffolios y Cabinet i gyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol ac i gyfrannu at ein nodau llesiant. O ran y cyfarfod hwn o gyngor y ddinas, mae'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn ymwneud â nifer o bortffolios: Gwasanaethau’r Ddinas, gwasanaethau Rheoleiddio a Statudol, Cymunedau ac Adnoddau a fy mhortffolio Adfywio a Thai fy hun. Sut rydym yn cael ein dwyn i gyfrif? Mae ein cyfoedion yn craffu ar ein penderfyniadau. Fel Aelodau'r Cabinet rydym yn mynychu cyfarfodydd craffu. Mae aelodaeth yn drawsbleidiol. Mae'r rhain yn gyfarfodydd cyhoeddus ac mae'n braf iawn gweld mynychwyr rheolaidd yn yr oriel heddiw. Caiff pob un o'n penderfyniadau eu cofnodi a'u cyhoeddi'n gyhoeddus. Hefyd, sefydlodd y weinyddiaeth Lafur hon y Comisiwn Tegwch hefyd i ystyried tegwch ein polisïau a'n prosesau gwneud penderfyniadau.

 

Mae rhai o'r ymyriadau a weithredwyd gennym yn cynnwys yr Hyb Ymgysylltu Diogelwch Cymunedol. Lleolir hwn yng Ngorsaf Dân Malpas ac mae'n hyb diogelwch cymunedol amlasiantaeth. Dyma le mae ein partneriaid yn cydweithio'n benodol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maent yn eu galluogi i rannu data a gwybodaeth a chefnogi eu gwaith ar y cyd.  Rydym hefyd wedi gweithredu Gwaharddebau Atal Troseddu a Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, rydym yn gweithio gyda'r AGB a busnesau yn economi'r nos i ddatblygu cais am wobr y Faner Borffor. Rydym hefyd wedi sicrhau mewnfuddsoddiad i gynlluniau adfywio.  Rydym yn cefnogi busnesau bach gyda grantiau a chyngor datblygu busnes ac rydym wedi datblygu ein prif gynllun canol y ddinas i'n harwain.  Rydym hefyd wedi datblygu llety preswyl yng nghanol y ddinas mewn partneriaeth â datblygwyr sector dielw a phreifat sy'n trosi adeiladau segur i fod yn gartrefi.

 

Heno, fel y mae'r heddlu wedi adrodd, maent hefyd yn cymryd camau mewn perthynas â chanol y ddinas ac maent wedi ymrwymo i ddull cadarn o fynd i'r afael ag anhrefn yng nghanol y ddinas. Mae'r holl ymyriadau hyn yn helpu i gefnogi gwelliannau yng nghanol y ddinas.'

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford gwestiwn atodol yn gofyn a oedd yr Aelod Cabinet wedi synnu bod 3000 o bobl wedi llofnodi deiseb oherwydd nad ydynt yn credu bod pethau'n digwydd yn ddigon cyflym.  Ymatebodd yr Aelod Cabinet drwy ddweud ei bod yn croesawu unrhyw ymgysylltiad â'r broses ddemocrataidd.

 

 

iii)       Cwestiynau i'r Aelod Cabinet – Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

 

'Mae'r datblygwr Redrow bellach wedi prynu Campws Prifysgol De Cymru yng Nghaerllion am £6.2 miliwn gyda'r bwriad o adeiladu tua 220 o dai ar y safle er y bydd yn rhaid gwneud cais cynllunio, mae cryn bryder ynghylch yr effaith a gaiff datblygiad o'r fath gael ar ansawdd traffig ac aer yn y pentref.  O ystyried bod lefelau llygredd aer eisoes yn sylweddol uwch drwy'r system un ffordd na'r hyn a ganiateir gan Reoliadau'r UE, a all yr Aelod egluro pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau lefelau llygredd yn hytrach na dim ond y broses fonitro sydd wedi bod ar waith, sydd ers amser hir iawn, heb gael llawer o gamau wedi’u cymryd ar y canfyddiadau, os o gwbl.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet yr ymateb canlynol:

 

'Mae'n amlwg na fyddai'n briodol rhoi sylwadau ar y datblygiad tai arfaethedig ar safle campws Caerllion gan y bydd hynny'n fater i'r Pwyllgor Cynllunio ei benderfynu. Un o'r ystyriaethau cynllunio perthnasol y bydd yn rhaid ei ystyried yw’r effaith bosibl ar dagfeydd traffig a llygredd aer, o gymharu â gweithgarwch blaenorol ar y safle.  Ond bydd hynny'n dibynnu ar gynlluniau rheoli traffig ac asesiadau effaith y datblygwyr.

 

Fodd bynnag, o ran y camau gweithredu y mae'r Cyngor wedi'u cymryd: Cynhaliwyd nifer o astudiaethau mewn perthynas â llygredd aer yng Nghaerllion. Yn anffodus, oherwydd y rhwydwaith ffyrdd cyfyngedig nid oes fawr ddim y gellir ei wneud o ran gwelliannau ffisegol syml. Yn y bôn, mae'r broblem yn deillio o faint o draffig sydd ar y ffyrdd yng Nghasnewydd, nid Caerllion yn unig.

 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datblygu canllawiau cynllunio atodol i fynd i'r afael â materion ansawdd aer. Mabwysiadwyd hyn ym mis Chwefror 2018, a ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn. Mae'r CCA yn codi proffil materion ansawdd aer yn y broses gynllunio. Mae canllawiau cynllunio atodol o ran Teithio Cynaliadwy yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a fydd yn ategu'r CCA ansawdd aer. Bydd hyn yn gwreiddio egwyddorion teithio cynaliadwy yn y broses gynllunio, gan gynnwys mesurau i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol (beicio a cherdded) a rhannu ceir, sy'n allweddol i leihau llygredd ar gyfer ansawdd aer a nwyon t? gwydr.

Yn ôl ym mis Mawrth eleni, cymeradwyais Strategaeth Teithio Cynaliadwy ddrafft ar gyfer ymgynghoriad, gyda'r nod o ddwyn ynghyd nifer o gamau i leihau'r llygredd a gynhyrchir gan rwydwaith trafnidiaeth Casnewydd. Mae'r strategaeth yn nodi ffyrdd o wella trafnidiaeth gyhoeddus ac annog beicio a cherdded, mae'n awgrymu cynyddu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac yn rhoi arweiniad ar geisiadau cynllunio i sicrhau eu bod i gyd yn chwarae rhan yn y ffordd y gall rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas gwella iechyd y cyhoedd, lleihau lefelau llygredd a chyfyngu ar raddau cynhesu byd-eang. Nid yw'r strategaeth yn nodi cynigion manwl ond mae'n darparu fframwaith i ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol.

 

Mae'r Cyngor eisoes wedi datgan 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ledled y ddinas, gan gynnwys Caerllion.  Mae'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hyn yn ardaloedd lle mae llygredd yn fwy na’r amcanion ansawdd aer – a achosir gan draffig ffyrdd gormodol. Bydd Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn ganolbwynt wrth ddatblygu'r cynlluniau gweithredu lleol. Mae traffig ffyrdd yn arwain at ollyngiadau carbon deuocsid, sef nwy t? gwydr sy'n cyfrannu i'r newid yn yr hinsawdd. Er mwyn lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd, mae gwyddonwyr wedi rhagweld bod gennym 12 mlynedd i dorri allyriadau carbon deuocsid. Gyda hyn mewn golwg, yn hytrach na dim ond datblygu cynllun gweithredu ansawdd aer i fodloni deddfwriaeth y Llywodraeth, mae'r Cyngor yn ystyried datblygu a gweithredu strategaeth teithio cynaliadwy ehangach.

 

Bu'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy ddrafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos rhwng 13 Mai a 30 Mehefin 2019. Rydym yn awr wrthi'n dadansoddi'r canlyniadau ac yn mireinio'r strategaeth a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi i gytuno ar y Strategaeth derfynol a'i mabwysiadu.

 

Unwaith y cytunir ar y fframwaith hwn, y cam nesaf fydd datblygu cynlluniau lleol ar gyfer pob un o'r 11 Ardal Rheoli Ansawdd Aer, gan gynnwys Caerllion. Bydd hynny'n golygu ymgynghori ac ymgysylltu mwy penodol ym mhob ardal, gan y bydd angen gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill a chydweithio â'r cyhoedd er mwyn datblygu a gweithredu mesurau trafnidiaeth gynaliadwy ym mhob ardal. Mae angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb a gofyn y cwestiwn sut alla i wneud fy nhaith yn llai llygredig.'

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins gwestiwn atodol yn gofyn am fanylion ar faint o bobl ymatebodd i'r ymgynghoriad diweddar i Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a pha gynlluniau penodol oedd gan yr Aelod Cabinet i wella mynediad i bentref Caerllion o ystyried y datblygiad posibl.

 

Ailadroddodd yr Aelod Cabinet nad oedd yn gallu gwneud sylw ar y datblygiad gan mai mater i'r Pwyllgor Cynllunio oedd hynny. O ran niferoedd penodol yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad, cynghorodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Watkins y byddai'n rhoi ymateb ysgrifenedig i hyn.

 

 

iv)       Cwestiynau i'r Aelod Cabinet – Addysg a Sgiliau

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins y cwestiwn canlynol a oedd wedi’i gyflwyno:

                       

'O gofio bod dwy ysgol uwchradd yng Nghasnewydd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig, sef Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Gyfun Sain Silian (nawr am 2 flynedd) ac mae Llanwern yn y parth coch, a all yr Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae pob un o'r ysgolion hyn yn ei wneud a pha mor hir y bydd cyn y gellir eu tynnu o fesurau arbennig neu'r parth coch. Yn ogystal, a all yr Aelod warantu nad yw ysgolion eraill e.e. John Frost mewn perygl o ddisgyn i'r categorïau gwael hyn?'

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet yr ymateb canlynol:

 

'Mae ysgolion Ysgol Uwchradd Casnewydd, Sain Silian a Llanwern wedi parhau i gynyddu ers cyfnod eu harolygiadau Estyn. Yr wyf yn llawn edmygedd o ran cadernid, gwaith caled ac ymrwymiad pob aelod o staff yn yr ysgolion hynny tra ar y daith bwysig hon i wella.  Dim ond Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi a all bennu pryd y gellir tynnu ysgol o gategori lle mae angen gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig. Yr awdurdod lleol sy'n sicrhau bod y cymorth mwyaf priodol yn cael ei roi i bob un o'r ysgolion hyn fel y gallant sicrhau llwyddiant parhaus yn y dyfodol. Mae cynaliadwyedd yn gofyn am y maint cywir o gymorth dros yr amser cywir a chwrdd â safonau Estyn.

 

Mae pob ysgol yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r Broses Gategoreiddio Genedlaethol ac yr wyf yn anghytuno'n gryf â'r Cynghorydd Watkins a’r defnydd o derminoleg amhriodol yn ei chwestiwn wrth gyfeirio at gategorïau gwael. Nid oes y fath beth â chategori gwael, sy'n derm sydd wedi cael ei ffugio'n llwyr ac mae awgrymu ar hap y gallai unrhyw ysgol ddisgyn i gategori dychmygol yn gwbl annerbyniol. Defnyddir categoreiddio i bennu lefel y cymorth a gaiff ysgol. Mae gan bob un o'n hysgolion amrywiaeth o arfer da sy'n cael ei rannu a'i ddathlu ledled y rhanbarth, nid Casnewydd yn unig. A oes unrhyw un arall yn y Siambr hon nad yw'n deall nad yw lliw na dosbarthiad ysgol yn adlewyrchu'r ysgol gyfan, ond mewn gwirionedd yn nodi a oes unrhyw feysydd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Fel yr wyf wedi egluro lawer gwaith i'r Cynghorydd Watkins, bydd lefel y cymorth sydd ei angen ar bob ysgol yn amrywio yn dibynnu ar y mater penodol. Gallai fod yn ymwneud â materion staffio, rheoli, presenoldeb, canlyniadau addysgol neu lywodraethu'r ysgol, ac mae pob un ohonom yn yr ystafell hon yn llywodraethwyr. Gall fod yn un mater unigol, neu'n nifer. Felly’r amgylchiadau fydd yn pennu'r cymorth a'r amser dan sylw.

 

Mae'r broses yn sicrhau bod y cymorth yn cael ei ddarparu mewn ffordd amserol a phriodol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn gallu sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n cynnwys nid yn unig yr awdurdod lleol ac Estyn, ond hefyd GCA a adolygir ei hun gan y cyd-gr?p gweithredol sy'n cynnwys 5 aelod Cabinet trawsbleidiol o ardal Gwent. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybod i chi am y gwaith ardderchog sydd wedi'i wneud gan bob un o'r ysgolion hyn gydag enghreifftiau rhagorol, megis:

 

Mae John Frost yn arwain arfer arloesol trwy gyflawni cyflawniad prosiect pobl ifanc ddifreintiedig. Ffocws y prosiect yw codi dyheadau disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim gan ddefnyddio rhaglen asesu ac olrhain gadarnhaol wedi'i chefnogi a'i chyfarwyddo gan addysgu a dysgu cadarn. Mae'r ysgol hefyd wedi nodi cyfradd presenoldeb dros dro o 92.6% yn y flwyddyn academaidd hon. Mae hyn 1.3% yn uwch na'r gyfradd bresenoldeb y flwyddyn academaidd ddiwethaf a 0.5% uwchlaw'r targed ysgol unigol. Mae gan bob ysgol darged gwahanol oherwydd bod ganddi garfan wahanol o ddisgyblion ac amgylchiadau.

 

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, dangosodd Ysgol Uwchradd Casnewydd gynnydd o 14.5% yn nifer y bobl ifanc a enillodd TGAU A-C yn cynnwys Saesneg a Mathemateg. Dyma oedd y gwelliant mwyaf yn y dangosydd hwn yng Nghasnewydd.

 

Mae Ysgol Uwchradd Llanwern wedi gwella ei phresenoldeb 1.6% eleni. Mae data dros dro yn nodi mai dyma'r presenoldeb uwchradd cryfaf eleni.

 

Mae Sain Silian wedi dangos gwelliant sylweddol mewn mathemateg TGAU, gyda 63% o'r holl ddisgyblion yn cael gradd A* i C. Mae hyn wedi rhagori ar ddisgwyliadau a fodelwyd gan Lywodraeth Cymru felly mae'n fwy nag y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ar gyfer yr ysgol hon ac mae'n gyflawniad y dylai'r gymuned ysgol gyfan ymfalchïo ynddo.

 

Mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau o waith rhagorol sy'n cael ei wneud yn yr ysgolion hyn, a dywedaf wrth y Cynghorydd Watkins eto, dylech fod yn clodfori'r holl waith anhygoel sy'n cael ei wneud gan bobl ifanc, penaethiaid, staff yr ysgol, rhieni, gofalwyr, eu llongyfarch ar eu cyflawniadau ac atal y feirniadaeth a'r negyddiaeth cyson.

 

I ailadrodd, mae gan bob un o'n hysgolion ystod eang o faterion i'w hystyried a'u dathlu. Mae Cyngor Dinas Casnewydd a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn parhau i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r gwasanaeth cyflawniad addysgol gorau i ddisgyblion ar draws y ddinas hon.

 

I grynhoi, mae'r holl ysgolion yng Nghasnewydd wedi'u categoreiddio gan Estyn, ac maent yn cael eu cefnogi'n llawn ym mhob agwedd ar eu gwaith.  Mae lefel y cymorth yn cael ei osod gan y categori. Cymerir pob cam yn gyson i wella ysgolion ac atal digwyddiadau negyddol ac rwy'n ailadrodd fy niolch i'r holl bobl ifanc, athrawon, staff ysgol, rhieni a gofalwyr, ac yn eu llongyfarch ar eu llwyddiant.'

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins gwestiwn atodol yn ymwneud â'r defnydd o arian ar gyfer prosiectau wrth gefn. Cynghorwyd y Cynghorydd Watkins nad oedd hyn yn gysylltiedig â'r cwestiwn gwreiddiol a'i fod yn fater pwnc newydd. Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai'n darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn hwn ar ôl i'r cynghorydd gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig llawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins y cwestiwn canlynol a oedd wedi'i gyflwyno:

 

'Mae cais rhyddid gwybodaeth diweddar i Heddlu Gwent wedi dangos y bu 121 o atgyfeiriadau o ysgolion cyfun Casnewydd ers mis Mehefin 2017. Mae'n peri gofid bod 58 o'r atgyfeiriadau hyn yn ymwneud â bwlio, bygwth ymosod a churfeydd. Fodd bynnag, mae archwiliad pellach o'r data yn dangos amrywiant mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar draws ysgolion Casnewydd. Cafodd Ysgol Gatholig Sant Joseff 17 o atgyfeiriadau dros y cyfnod o 2 flwyddyn, ond ymddengys mai dim ond 5 oedd gan Ysgol Llyswyry.  A yw'r Aelod Cabinet yn hyderus bod gan bob ysgol brotocolau gwrth-fwlio cadarn ar waith a'u bod yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan yr awdurdod, nid dim ond yn cael eu gadael i ysgolion unigol a chyrff llywodraethu.'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

 

'Rwy'n hyderus bod gan holl ysgolion Casnewydd bolisïau gwrth-fwlio sy'n amlinellu gweithdrefnau priodol ar gyfer ymdrin ag achosion o fwlio a gofnodir.  Mae gan bob ysgol yng Nghasnewydd bolisïau gwrth-fwlio sy'n cael eu cyhoeddi ar wefannau ysgolion unigol. I wirio cadernid yr arfer hwn, mae Swyddog Addysg, Gofal Diogelu a Chymorth yr awdurdod yn adolygu'r polisïau hyn ac yn barnu ansawdd y polisïau ysgol unigol yn erbyn meini prawf penodol. Caiff pob digwyddiad o fwlio ei gofnodi ar system gwybodaeth reoli ysgolion unigol a rhoddir gwybod i'r Awdurdod Lleol bob mis. Mae fforwm llesiant yr Awdurdod Lleol yn cwblhau dadansoddiad o ddigwyddiadau ac ymyriadau fel mater o drefn ac yn dilyn i fyny ar unrhyw faterion a allai godi yn sgil hyn. Mae'r fforwm hwn hefyd yn nodi unrhyw anghenion hyfforddi sy'n codi o ddadansoddi'r data. Mae'n bleser gennyf hysbysu'r Aelodau bod arolygiadau diweddar Estyn wedi tynnu sylw at nifer o arferion da yn ysgolion Casnewydd y byddaf yn eu disgrifio'n awr.

 

Ysgol Gynradd Sain Silian – Soniodd Estyn yn benodol am effaith sylweddol gwaith disgyblion ar ddylunio posteri gwrth-fwlio i dynnu sylw at y mater a rhoi cyflwyniadau yn ystod gwasanaethau boreol.  O ganlyniad i'r gwaith da hwn, mae ymddygiad disgyblion wedi gwella dros amser ac mae bellach yn eithriadol o dda.

 

Yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff, adroddodd Estyn fod systemau cadarn i bob pwrpas, gydag ychydig iawn o achosion o fwlio neu aflonyddu.

 

Yn Ysgol Gynradd Parc Malpas, adolygodd gr?p llais y disgybl ymatebion y disgyblion i holiaduron a defnyddiodd y wybodaeth hon i ddiweddaru polisi gwrth-fwlio'r ysgol. Pobl ifanc yn dylanwadu ar bolisi.

 

Mae llawer o ysgolion yn y ddinas yn ymgysylltu'n llawn â gweithgareddau wythnos gwrth-fwlio ac mae nifer wedi hyfforddi disgyblion fel llysgenhadon gwrth-fwlio, felly mae gennym hefyd lysgenhadon gwrth-fwlio i gefnogi'r gwaith hwn. Nid oes amheuaeth bod pwysau cynyddol ar ein harweinwyr ysgol, athrawon a staff cynhwysiant i gefnogi'r niferoedd cynyddol o bobl ifanc sy'n wynebu heriau corfforol ac iechyd meddwl. Ac mae cydweithio llwyddiannus yn cryfhau'r cymorth a ddarperir.

 

Enghraifft ragorol yw'r cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddatblygu'r prosiect saeth, sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg i weithio ar y cyd i feithrin gallu disgyblion a staff o amgylch themâu iechyd meddwl, lles, gwydnwch a hunan-barch. Mae rhan allweddol o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar addysgu disgyblion ynghylch defnydd derbyniol o'r cyfryngau cymdeithasol a gwahaniaethu rhwng realiti a ffuglen.  Mae gan bob disgybl hefyd fynediad i'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion a gomisiynir gan Gasnewydd o Brifysgol De Cymru. Gall disgyblion ofyn am fynediad i'r gwasanaeth neu gallant wneud atgyfeiriad ar-lein drwy'r wefan.

 

I gloi, rwy'n gwbl hyderus bod gan bob ysgol brotocolau gwrth-fwlio cadarn ar waith sy'n cael eu harchwilio'n briodol gan yr awdurdod i gefnogi ysgolion a chyrff llywodraethu unigol.'

 

v)         Cwestiynau i'r Aelod Cabinet – Diwylliant a Hamdden

 

Yn dilyn pwynt o drefn gan yr Aelod Cabinet a her ynghylch a oedd hi’n cyhuddo swyddog o'r Cyngor o ddarparu gwybodaeth anwir a chamarweiniol yn fwriadol, tynnodd y Cynghorydd Joan Watkins yn ôl yn ffurfiol y rhan honno o'i chwestiwn a oedd yn cyfeirio at wybodaeth yn "amlwg yn anghywir".

 

Yna gofynnodd y Cynghorydd Watkins y cwestiwn diwygiedig canlynol:

 

'Dywedwyd wrthym ym mis Medi 2018 fod cynlluniau manwl yn cael eu datblygu i adfer y Parc Sblash ym Mharc Tredegar i agor yn 2019 ac y dylid cyflwyno cais cynllunio yn fuan iawn. A all yr Aelod Cabinet egluro’r wybodaeth anghywir sydd wedi'i rhoi a pham mae'r addewid i osod y cyfleuster hwn wedi'i ddileu erbyn hyn, i siom llawer o blant a theuluoedd?'

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet yr ymateb canlynol:

 

'Ym mis Medi 2018, ymatebodd Cyfarwyddwr Lleoedd y Cyngor i ymholiad gan aelod o'r cyhoedd. Nododd yr ymateb yn gywir fod swyddogion wedi bod yn datblygu cynlluniau i adfer y Pad Sblash ym Mharc Tredegar. Mae statws manylion o fewn y cynlluniau hynny yn amherthnasol, a dweud y gwir. Hwn oedd y safle gweithredu cywir ar yr adeg honno gyda'r farn bod y cynlluniau wedi'u datblygu'n sylweddol erbyn hyn er mwyn gallu cyflwyno cais cynllunio'n fuan. Efallai bod y cyngor a geisiwyd i gyrraedd y cam hwn wedi bod yn gyngor sylfaenol ond yn amlwg roedd swyddogion yn teimlo ei fod yn foddhaol wrth ddatblygu'r cynnig i'w ystyried a bod cais cynllunio i'w ddatblygu cyn bo hir. Felly, ailadroddaf na roddwyd cyngor anghywir i neb.

 

Yr wyf wedi cynghori'r Cynghorydd Watkins o'r blaen ar 28 Mai, yn ystod deialog barhaus rhwng swyddogion a minnau fel yr Aelod Cabinet sydd, fel y dylech wybod, yn agwedd reolaidd ar ddatblygu prosiect cyn ei gymeradwyo'n derfynol. Gofynnais i'r cynigion gael eu hadolygu gan fod gennyf rai pryderon ynghylch hygyrchedd Pad Sblash ar gyfer y flwyddyn honno. O ganlyniad i'r trafodaethau hyn, rwyf wedi dewis cynllun Pedal Power a fydd ar agor drwy'r flwyddyn ac yn hybu iechyd a lles i oedolion, plant o bob gallu, oedran ac, yn bwysicach, anabledd.'

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins gwestiwn atodol, gan gwestiynu a fyddai bandiau arddwrn £2 yn opsiwn i alluogi pad sblasio i fod yn niwtral o ran cost, gan dynnu sylw at y ffaith bod gan lawer o awdurdodau cyfagos gyfleusterau tebyg.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet drwy ddweud nad oedd codi tâl am ddefnyddio pad sblasio yn dderbyniol, ac na fyddai'n hygyrch i lawer o deuluoedd. Ailadroddodd yr Aelod Cabinet mai penderfyniad Aelod Cabinet oedd hwn.