Agenda item

Hysbysiad o Gynnig ' Gefeillio Talaith Guangxi '

Derbyn y cynnig canlynol y mae ' r hysbysiad angenrheidiol wedi ' i ddarparu ar ei gyfer:

 

Mae’r Cyngor yn flin iawn o weld diffyg ymateb Rhanbarth Guangxi i’r llythyr a anfonwyd ar 19 Chwefror 2019, yn gofyn iddynt stopio G?yl Cig C?n Yulin a thriniaeth warthus o anifeiliaid. Credir nad oes opsiwn ond dod â’r drefn gefeillio sydd wedi bod ar waith ers 1996 i ben, oherwydd nid yw’r Ddinas yn gallu eistedd yn ôl a chaniatáu i’r ymddygiad ffiaidd hwn tuag at anifeiliaid fynd rhagddo.

Felly, mae’r Cyngor yn cynnig yn ffurfiol i ganslo bob trefn gefeillio â Rhanbarth Guangxi yn syth.

 

Mae ' r cynnig i ' w gynnig gan y Cynghorydd Matthew Evans, a eiliwyd gan y Cynghorydd Chris Evans.

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor gynnig y darparwyd yr hysbysiad angenrheidiol ar ei gyfer. Cafodd y cynnig ei osod gan y Cynghorydd Matthew Evans, a'i eilio gan y Cynghorydd Chris Evans.

 

'Mae'r Cyngor hwn yn gresynu'n fawr y diffyg ymateb o dalaith Guangxi i'r llythyr a anfonwyd ar 19eg Chwefror 2019 yn eu hannog i roi'r gorau i ?yl Cig C?n Yulin a'r driniaeth erchyll o anifeiliaid. Mae'n teimlo nad oes dewis arall ond rhoi'r gorau i'r trefniant gefeillio a bu ers 1996 gan na all y Ddinas aros yn segur a gadael i'r ymddygiad annynol barbaraidd tuag at anifeiliaid fynd ymlaen heb ei herio. Felly, mae'r Cyngor yn penderfynu'n ffurfiol i roi'r gorau i'r holl drefniadau gefeillio â thalaith Guangxi, ar unwaith.'

 

Cynigiwyd diwygiad gan y Cynghorydd Debbie Wilcox, a eiliwyd gan

 

Mae'r Cyngor hwn:

 

1.    Yn gresynu'n fawr y diffyg ymateb o dalaith Guangxi i'r llythyr a anfonwyd ar 19eg Chwefror 2019 yn eu hannog i roi'r gorau i ?yl Cig C?n Yulin a'r driniaeth erchyll o anifeiliaid.

2.    Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth ei Mawrhydi i gyflwyno achos y Ddinas drwy'r Ganolfan Prydain Fawr-Tsiena, corff cyhoeddus anadrannol a sefydlwyd gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad ym 1974, ynghyd â'r Swyddfa Dramor i wneud cynrychioliadau gan y ddau gorff i lywodraethau Gweriniaeth Pobl Tsiena am derfynu ar yr ?yl arswydus hon ac i gyfleu eu hymateb i Gyngor Dinas Casnewydd. Bydd y cam gweithredu hwn yn canolbwyntio'r sylw ehangach ar y mater gan fod y trefniadau gefeillio wedi dod i ben yn weithredol oherwydd diffyg ymgysylltu am flynyddoedd lawer ac mae pob cyfeiriad ato eisoes wedi'i dynnu oddi ar dudalennau gwe cyfredol Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Wrth gynnig y diwygiad, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox nad oedd y trefniadau gefeillio wedi bod yn weithredol ers 15 mlynedd ac roedd pob cyfeiriad ato wedi'i dynnu o bresenoldeb ar-lein ac all-lein y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Wilcox bod y diwygiad gyflwyno camau gweithredu cryfach i ymgysylltu â gweithredoedd yr Ysgrifennydd Tramor a Chanolfan Prydain Fawr-Tsiena mewn partneriaeth,i helpu'r Cyngor i anfon y neges hon i Tsiena a phwysleisio difrifoldeb y mater hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd nifer o bwyntiau i'w hegluro, gan gynnwys:

-       Cadarnhad o bryd y cafodd y trefniadau gefeillio eu terfynu;

-       Cadarnhad y byddai unrhyw arwyddion sy'n nodi'r trefniadau gefeillio yn cael eu cymryd i ffwrdd.

 

Wrth eilio'r diwygiad, siaradodd y Cynghorydd Mark Whitcutt yn cefnogi'r angen i geisio ymyrraeth y Llywodraeth a'r Ganolfan Prydain Fawr-Tsienai i fwrw ymlaen â hyn i roi diwedd ar y creulondeb hwn i anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ?yl hon. 

 

Ymdriniodd y Cynghorydd Debbie Wilcox â'r pwyntiau o eglurhad a nododd gadarnhad o'r ffaith bod y trefniant gefeillio wedi terfynu’n weithredol i'r Cyngor yn y cynnig diwygiedig, a byddai unrhyw gyfeiriad at hyn ar arwyddion yn cael eu cymryd i ffwrdd cyn gynted â phosibl.

 

Pan gyflwynwyd y diwygiad i'r cyfarfod, cafodd ei dderbyn yn unfrydol a daeth yn gynnig gwreiddiol.

 

Penderfynwyd

 

Cafodd y cynnig gwreiddiol ei dderbyn yn unfrydol.