Agenda item

Datganiad o Gyfrifon 2018/19

Cofnodion:

 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen nodyn eglurhaol i ddweud yr hyn oedd yn ddisgwyliedig gan y pwyllgor Archwilio. 

Dangoswyd cyflwyniad i’r Pwyllgor gan yr Uwch Bartner Busnes Cyllid.

 

Prif Bwyntiau:

 

Ar 6 Mehefin 2019, cyflwynwyd y cyfrifon drafft i’r Pwyllgor Archwilio ac arddangoswyd y cyfrifon i’r cyhoedd o 26 Mehefin i 23 Gorffennaf 2019.

Y bwriad oedd cyhoeddi adroddiad archwilio anghymwys ar y datganiadau ariannol.

Roedd dau gamddatganiad heb eu cywiro:

 

1.         Mae actiwariaid wedi edrych ar effaith y gronfa bensiwn ac roedd dan-ddatganiad am atebolrwydd pensiynau o £2.562 o ganlyniad i Ddyfarniad McCloud.  

2.         Triniaeth gyfrifo addasiadau benthyciadau dan IFRS 9

 

Roedd cynnydd mewn arian wrth gefn wedi’i glustnodi ac roedd y ddau fater hyn yn dechnegol yn eu natur ac yn faterion dim arian.

 

1.         Ar gyfer 2018/19, cafodd y dyddiad olaf ar gyfer llofnodi a dyddio’r cyfrifon ei newid o 30 Mehefin i 15 Mehefin gyda’r datganiad a archwiliwyd wedi’i gwblhau erbyn 15 Medi. Bydd hyn yr un peth ar gyfer 2019/20.

2.         O 2020/2021, byddai angen cwblhau’u datganiad cyfrifon drafft erbyn 31 Mai i gael ei lofnodi erbyn 31 Gorffennaf. Llofnodwyd Datganiad Cyfrifon eleni gan Bennaeth Cyllid ar 7 Mehefin felly o fewn y dyddiad terfyn ond roedd angen gwneud gwelliannau.

Roedd y Llythyr o Gynrychiolaeth i gael ei lofnodi gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i awdurdodi hyn ac roedd y Pwyllgor Archwilio i awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i lofnodi’r Datganiad Cyfrifon. 

Byddai’r cyfrifon cyhoeddedig ar y wefan ar 15 Medi 2019.

 

Cwestiynau:

·                Gofynnodd Aelod gwestiwn am ddarpariaethau pensiwn ac a yw atebolrwydd pensiwn yn codi ac a yw’n effeithio ar Newport Transport Limited a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA).

Esboniwyd na fyddai’r GCA yn rhan o hyn ac y byddai ganddo ei ddiffyg ei hun gan nad yw hyn yn rhan o Gyngor Casnewydd.  Mewn perthynas â’r GCA, mae’r canrannau mae Cyngor Dinas Casnewydd yn eu derbyn, nid ydym yn cynnwys y GCA yn rhan o’n cyfrif ar y cyd, roedd yr un peth yn ei natur a ni fyddai’n effeithio ar gyfrifon.  Roedd y GCA yn gorff annibynnol o ran gwerthusiad pensiynau.

 

Mewn perthynas ag atebolrwydd amodol, esboniwyd bod y Cyngor yn gweithredu fel gwarantwr ac nad yw atebolrwydd wedi codi. Dywedodd y Cadeirydd nad yw hyn yn hollol gywir, a bod y digwyddiad wedi’i benderfynu gan y Goruchaf Lys a phe bai’n ddarpariaeth wedyn gellid ei ddadlau a phe byddid yn gwybod beth oedd y gwerth yn ei ddarparu wedyn gellid gwneud cynllun wrth gefn.

 

Roedd gwahaniaeth dehongli yn y bersbectif materoliaeth.  Hefyd sylwodd y Cadeirydd ar y cyfrifon a’r danwariant o £2.4 miliwn.

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y byddai hyn yn cael ei roi trwy’r gronfa bensiwn heb effaith ar y gronfa gyffredinol ac nad yw’r IFRS wedi cael effaith chwaith, felly ni chafodd ei brosesu. 

 

Hefyd dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, mewn perthynas â Dyfarniad McCloud, fod y natur faterol yn rhan fawr a, phe bai’n faterol, y byddid wedi gofyn am fwy gan yr actiwarïaid.  Dywedwyd y gofynnwyd i awdurdodau Gwent beth maent yn ei wneud, ac roedd i gyd yn dal i fynd trwy Lywodraeth y DU ac nid oedd yn hysbys ar y cam hwn a fyddai’n cael ei ariannu neu ddim ac roedd SAC wedi dweud ei fod yn ddarpariaeth.  

 

Hefyd dywedwyd gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, pan ofynnwyd i’r actiwarïaid pam nad ydynt wedi bod yn barod i ddarparu cost sylweddol o ran a ydym yn gwario llawer o arian neu a ydym yn addasu ar gyfer un flwyddyn.  Dywedodd y Cadeirydd eu bod yn teimlo nad hyn oedd wedi’i ysgrifennu yn yr adroddiad oedd hyn.

 

Esboniodd y Cadeirydd fod materoldeb tua £4.5 miliwn a bod materoldeb yn y gorffennol wedi’i ddefnyddio fel mesur fel yr oedd yr hyn a ddywedwyd oedd yr hyn a ysgrifennwyd yn y cyfrifon.   Argymhellodd y Cadeirydd fod angen newid y geiriad ond eu bod yn hapus mynd gyda’r hyn sy’n cael ei ddweud ond y gellid wedi’i wneud yn llawer cliriach na effeithir ar y danwariant.  

 

·                Dywedodd Aelod fod cyfeiriad o hyd at Bwrdd Draeniau Gwent yn y cyfrifon ar dudalen 99 a bod angen i hyn gael ei ddiweddaru.

Hefyd sylwodd y Cadeirydd ar dudalen 32 ynghylch Darpariaethau mewn perthynas â’r paragraff olaf gan ddweud bod darpariaeth o hyd, hyd yn oed os nad oes rheolaeth gan y Cyngor drosto a phe bai ansicrwydd o ran a fyddai pethau’n digwydd, pe bai’n 70% yn debygol, wedyn byddech yn darparu ar ei gyfer.

 

Sylwodd y Cadeirydd ar dudalen 139 y cyfrifon a thybiodd beth oedd 179f o dan ‘Posibilrwydd Amcan o Ddiffyg Talu Mawrth 2019’ a chadarnhawyd bod hyn yn gamgymeriad.

 

·                Gofynnodd aelod am dudalennau 62/64; eitem 3.50 ac a ydynt wedi’u hailadrodd ar y ddwy dudalen a chadarnhaodd y Cadeirydd eu bod yn edrych fel yr un eitem. Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod hyn yn fater heb ei benderfynu o’r flwyddyn flaenorol, ac felly roedd yr un mater.  Dywedodd y Cadeirydd y gellid gwneud hyn yn gliriach.

Nodwyd y gallai datganiadau ariannol newid ar ôl iddynt gael eu cwblhau ac y gallant gael eu newid erbyn iddynt gael eu rhoi ar y wefan ac mai Cyngor Dinas Casnewydd sy’n gyfridol am unrhyw beth sy’n cael ei gyhoeddi ar y wefan. 

 

·                Gofynnodd Aelod beth oedd gr?p Cyngor Dinas Casnewydd. Cadarnhawyd mai Gr?p Trafnidiaeth Casnewydd oedd e ac roedd meini prawf penodol yn bresennol sy’n caniatáu i gwmni fod yn y cyfrifon gr?p neu’n absennol ohonynt.

Trafodwyd, tua 3 blynedd yn ôl, y byddai Gr?p Trafnidiaeth Casnewydd yn cael ei gynnwys yn y gr?p cyfrifon a dywedodd y Cadeirydd y gellid trafod hyn eto o bosibl o ran sut mae endidau gr?p yn cael eu trin a sut mae cwmnïau'n cael eu trin mewn ffyrdd gwahanol. Gofynnodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn cael ei hadolygu ar y cam drafft ym mis Chwefror 2020.  

·                Gofynnodd aelod sut mae cyfrannu’n gweithio. Trafodwyd sut mae cyfraniad at Norse yn wariant arferol, mae’r Cyngor yn derbyn eu cyfrifon ac yn rhannu elw. Mae Gwasanaethau’r Ddinas, yn ogystal â phartneriaid busnes cyllid yn yr ardal hon, yn delio gydag ef. Mae’n llinell incwm safonol arferol.

Cytunwyd:  

 

Bod y cyfrifon yn cael eu cwblhau gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid. 

Bod y Datganiad Cyfrifon yn cael ei lofnodi gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid.

 

Dogfennau ategol: