Agenda item

Adroddiad Ar Yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018/19

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar yr Adroddiad ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018/19 oedd yn farn ar a yw’r datganiadau ariannol yn rhoi golwg gwir a theg o sefyllfa ariannol Cyngor Dinas Casnewydd a Gr?p Cyngor Dinas Casnewydd.

 

Prif Bwyntiau:

·                Y bwriad oedd cyhoeddi adroddiad glân anghymwys ar yr archwiliad o’r datganiadau ariannol ar ôl darparu Llythyr o Gynrychiolaeth. 

·                Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar dudalen 184; Atodiad 3 mewn perthynas â’r Crynodeb o Gywiriadau wedi’u gwneud i’r datganiadau ariannol drafft a nodwyd, er bod llawer o feysydd i edrych arnynt, ni effeithiodd unrhyw un o’r cywiriadau ar falans cyffredinol y gronfa.

·                Ar dudalen 173, roedd dyfarniad McCloud yn anfaterol ac ni effeithiodd arnynt ond roedd angen tynnu sylw at y peth.

·                Hefyd roedd problem arall ar dudalen 174, yn ystod adolygiad o drafodion parti cysylltiedig eleni canfuwyd na dderbyniodd staff y Cyngor buddiannau wedi’u datgan gan y rhan fwyaf o Aelodau Cyngor yn rhan o’r gwaith ynghylch datganiadau achosion partïon cysylltiedig ac nid oedd unrhyw beth wedi’i ddatgan ar gyfrifon partïon.

Gofynnodd y Cadeirydd a ddylid cysylltu â’r Aelodau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y byddai’r adran Cyllid yn cyd-gysylltu â Thîm y Gwasanaethau Democrataidd.  Gofynnodd y Cadeirydd a oes unrhyw beth y gallai’r Pwyllgor Archwilio ei wneud, a nodwyd bod hyn yn gyfle i wthio’r broses yn ei blaen.

 

Cytunwyd:

 

·                Bod y Pennaeth Cyllid yn drafftio llythyr i bob Aelod y Cyngor yn nodi bod angen gwelliannau yn hyn o beth ac y byddai’r adran Gyllid yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Democrataidd a bod pob aelod yn cymryd rhan yn y gwaith hwn.

·                Cadarnhawyd gan y Pennaeth Cyllid y byddai’r llythyr yn nodi’r broblem a’r hyn y dylai Aelodau ei wneud a’r hyn sydd ei angen. 

Sylwodd y Cadeirydd ar y cywiriadau gwerth £6.2 miliwn ar dudalen 184 a gofynnodd a yw hyn yn fwy na lefel y trothwy a pham na sylwyd ar hyn yn ystod y flwyddyn.  Cadarnhaodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid y byddai hyn yn cael ei newid o ran sut mae’n cael ei gyfrifon yn y llyfr cyfrifon a bod hyn yn amryfusedd na fyddai’n digwydd eto.  

 

Dywedodd fod Cyfalaf wedi’i ddatrys gan ei bod yn ymddangos ei fod bob amser wedi bod yn broblem a bod dim byd o’i le gyda’r ffigurau ond y broblem oedd bod llawer o ddiffygion a gofynnodd y Cadeirydd a oes digon o sylw ar fanylion gan fod hyn yn broblem barhaus. 

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod problem gydag adnoddau a dywedodd fod llawer o wybodaeth i fynd trwyddi a gyda’r sefyllfa gyfredol, mae gwaith rhesymol yn cael ei wneud yn yr amser sydd ar gael ond gwnaeth pethau lithro yn y maes cyfalaf ond bod angen bod yn bragmataidd.  

 

Dywedodd y Cadeirydd y gallai llawer mwy o sicrwydd gael ei roi yn ystod y flwyddyn o bosibl ac y gallai cywiriadau gael eu gwneud ynghynt yn adran ddrafft y cyfrifon o bosibl.  

Gofynnodd aelod a oes nam cyfrifyddu a dywedodd y Cadeirydd ei bod yn edrych fel llithriad yn wariant y gyllideb o safbwynt y Pwyllgor Archwilio a bod y Cabinet eisoes wedi cytuno i’r arian gael ei wario.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid eu bod yn edrych ar gyflwyno cyllidebau’n raddol mewn ffordd fwy realistig a bod mwy o waith i’w wneud, er enghraifft mewn perthynas â phrojectau Addysg nad ydynt yn stopio.

 

Cadarnhawyd nad yw swyddogion wedi gwario’r arian gan i’r arian ddod gan Lywodraeth Cymru’n hwyr yn y flwyddyn. 

Gofynnodd y Cadeirydd fod hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i’r darllenydd os yw yn y cyfrifon. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, mewn perthynas â chyllid, mai dim ond yr hyn a gafodd ei wario a gafodd ei adrodd a’r hyn a gafodd ei wario sef monitro cyfalaf.  Cadarnhawyd bod hyn yn ddogfen ffeithiol ar yr hyn a wariwyd yn y flwyddyn ddiwethaf.

 

Os nad yw £10 miliwn wedi’i wario, byddai’r Cabinet yn cymeradwyo cario’r arian ymlaen i’r flwyddyn nesaf ac wedyn byddai’r gyllideb yn cynyddu.

Dywedwyd, pe bai Llywodraeth Cymru’n rhoi £5miliwn i ni ac nad yw’n cael ei wario, y byddai’n aros yn y cyfrif banc.

 

Nodwyd bod angen i’r Llythyr o Gynrychiolaeth gael ei lofnodi gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid.

 

Cytunwyd:  

 

Bod angen i’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid lofnodi’r Llythyr Cynrychiolaeth. 

Llofnodwyd y Llythyr o Gynrychiolaeth gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a yw gwersi Dysgu wedi’u cwblhau, a chytunwyd y byddai hyn yn dod yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: