Agenda item

Adroddiad Plant sy ' n Derbyn Gofal

Cofnodion:

Yn bresennol:

-           James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

-           Sally Jenkins Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc drosolwg byr i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried. Dechreuodd Pennaeth y Gwasanaeth trwy esbonio disgwyliad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghasnewydd a’r posibilrwydd o wneud hynny, yn ogystal â’r cynllun roedd y Swyddogion wedi’i roi ar waith i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·                Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddogion gadarnhau diffinad Plant sy’n Derbyn Gofal, gan holi a oedd hynny wedi cynnwys plant sy’n byw gyda rhieni a theulu, nid yn unig y rhain yn y system ofal. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant i’r Pwyllgor gan esbonio y gallai’r term Plant sy’n Derbyn Gofal gynnwys plant gyda gorchymyn gofal, a phlant sy’n byw gyda neiniau a theidiau neu’r rhwydwaith teulu ehangach, yn ogystal â phlant sy’n byw mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi preswyl.

 

·                Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor i’r Swyddogion gadarnhau a yw’r cynnig a wnaethpwyd i’r maniffesto gan Brif Weinidog Cymru i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ledled Cymru, yn dod â chosb os nad yw’r targed wedi’i gynnig yn cael ei fwrw.  Esboniodd y Swyddogion i aelodau’r Pwyllgor na fyddai goblygiadau o ran cyllideb neu staffio o fewn y cynigion wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru; ond mae angen newid diwylliant er mwyn rheoli lefelau mwy o risg a gallai hynny o bosibl greu heriau ym mhob rhan o’r Cyngor.

Rhoddodd y swyddogion sicrwydd i’r aelodau na fyddai’r targedau wedi’u gosod yn dylanwadu ar broses gwneud penderfyniadau y gwasanaeth, pe bai plentyn yn agored i niwed yng nghartref y teulu, byddai angen i’r plentyn gael ei symud.

 

·                Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor i’r Swyddogion esbonio rhesymau Llywodraeth Cymru dros ofyn i Awdurdodau Lleol gwblhau’r templedi yn yr adroddiad.  Esboniodd y swyddogion fod pryderon ynghylch y ffaith bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn sylweddol uwch nag y mae yn Lloegr. Gellir canfod bod y rheswm dros hyn yw bod pobl Cymru’n llai tebygol o gymryd risgiau, gyda goblygiadau y byddai’n fwy tebygol y byddai plant Cymru’n cael eu symud o ofal eu teulu a’u magu o fewn gofal cyhoeddus. Yr ysgogiad arall ar gyfer cwblhau’r templedi oedd lleihau’r pwysau costau ar y gwasanaeth.

 

·                Holodd y aelodau am gost lleoliadau allan o’r sir, gan ofyn am eglurdeb am pam mae hyn yn digwydd. Cadarnhaodd y swyddogion fod lleoliadau allan o’r sir ond yn digwydd pan nad oes darpariaeth gan Gasnewydd ar gyfer plentyn gyda gofalwyr maeth neu mewn cartref preswyl. Cadarnhaodd y swyddogion fod costau wedi’u lleihau ers agor y cartref preswyl newydd ac y byddent yn parhau i ostwng. Hefyd cadarnhawyd bod yr Awdurdod yn recriwtio gofalwyr maeth ar sail barhaol.

 

·                Gofynnodd Aelod i’r Swyddogion esbonio pa risgiau sy’n dderbyniol cyn i blentyn ddechrau derbyn gofal.  Ymatebodd y swyddogion fod gan y gymdeithas farn wahanol i’r Awdurdod. Byddai risgiau’n cael eu hasesu ar sail unigol; byddai’r gwasanaeth yn edrych ar amgylchiadau megis oedran y plentyn, gan na fyddai angen yr un lefel o ofal ar blentyn 11 oed ag y byddai ei angen ar faban. Byddem hefyd yn edrych ar ffactorau megis sefyllfa’r teulu a’r effaith y byddai symud yn ei chael ar y plentyn, a fyddai’r canlyniad yn waeth i’r plentyn? Byddem hefyd yn edrych ar ba lefel o gymorth y gallai’r gwasanaeth ei roi ar waith i helpu’r teulu i alluogu’r plentyn i aros yng nghartref y teulu.

 

·                Gofynnodd y Pwyllgor i’r swyddogion egluro un o’r pwyntiau bwled ar y Templed Adrodd Cynllun Disgwyliad Lleiahu oedd wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd Aelod i’r swyddog esbonio ystyr lleihau nifer y plant sy’n cael eu symud o rieni ag anabledd dysgu. Cadarnhaodd y swyddogion fod y templed yn cyfeirio at y rhiant  â’r anabledd ac nid y plentyn, ac y gallai’r rhiant/rhieni fod yn ymwneud â’r Gwasanaethau Oedolion hefyd.

 

·                Gofynnodd Aelod am eglurder ar yr amcan - ‘darparu gwasanaethau effeithiol i gefnogi plant i aros yn ddiogel yn eu teuluoedd’ gan ofyn sut oedd hynny’n gweithio. Cadarnhaodd y Swyddogion fod y wybodaeth i’w gweld yn y cynllun gwasanaeth.  Roedd y strategaeth gweithiwr maeth ar waith yn cynnig ysgogiadau, cyllid a chymorth a hyfforddiant 24 awr. Roedd ffigurau ynghylch Troseddu Ieuenctid wedi lleihau ac roeddent yn parhau i leihau.

 

·                Gofynnodd Aelod am gynlluniau’r dyfodol, gan ofyn beth oedd yr heriau yn wynebu’r gwasanaeth a pha gynlluniau sydd ar gyfer ymyriadau i’r dyfodol.  Cadarnhaodd y swyddogion y byddent yn parhau i edrych ar ofal preswyl, gan gael trafodaethau ar gyfer lleoliad gofal preswyl rhanbarthol. Roedd adborth wedi’i gael ynghylch y cynadledda gr?p teulu, gan dynnu sylw at fanteision y teulu ehangach yn cyfrannu at becyn gofal y plentyn. Byddai’r gwasanaeth yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cynnig cymorth ac ymyrraeth yn sgan cyntaf y baban, ar y cam cynnar hwnnw gellir rhoi mesurau ar waith i helpu gyda sgiliau rhianta. Roedd nifer y teuluoedd mawr a phlant sy’n ceisio lloches yn cynyddu. Byddai adnoddau eraill yn gweithio gyda phlant oedd wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau’n ymwneud â chamddenfyddio sylweddau.

 

·                Gofynnodd Aelod o’r Pwyllgor am esboniad o’r term ‘dip sampling’. Cadarnhaodd y swyddogion fod y term yn ffurf ar ddadansoddi, sy’n golygu dewis ar hap. Mae hyn yn galluogi pob eitem i gael y cyfle cyfartal o gael ei dewis.

 

·                Mynegodd Aelod bryderon ynghylch cost lleoliadau allan o’r sir, gan ofyn pam na fyddai’r gost yn cael ei throsglwyddo i awdurdod arall oedd yn gyfrifol am ofal y plentyn ar y pryd. Esboniodd y swyddogion fod yr Awdurdod yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw blentyn/plant sy’n Derbyn Gofal o Gasnewydd. Os byddai’r teulu ehangach â chyfrifoldeb rhieniol, byddai’r gost yn cael ei dileu.

 

·                Mynegodd Aelod bryderon ynghylch Plant sy’n Derbyn Gofal 11+ oed, gan dynnu sylw at y ffaith bod camfanteisio’n risg, pam byddai’r plentyn hwnnw’n cael ei symud o’r ardal.  Ymatebodd y Swyddog gan esbonio, yn ei brofiad ef, y byddai llawer o blant sy’n derbyn gofal yn dod yn ôl i Gasnewydd ar ôl iddynt gael eu symud i ffwrdd, byddai’r ffactor hwn yn eu rhoi mewn mwy o pergyl o gael eu camfanteisio. Roedd risgiau’n llai tebygol pe arhosai y plentyn yng Nghasnewydd gan y byddai lefel benodol o gymorth rhwng eu gr?p cyfeillgarwch cyfredol a’u cyfoedion a byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu a Wardeiniaid lleol yn adnabod y plentyn. Yr amgylchoedd a’r amgychledd sy’n gyfarwydd a byddai hynny’n creu cydbwysedd er mwyn rheoli’r risg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau – Sylwadau i’r Cabinet

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar Blant sy’n Derbyn Gofal a chytunon nhw i anfon y cofnodion at yr Aelod Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau canlynol i’r Cabinet a gofynnodd am y wybodaeth ganlynol:

 

 

1.         Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed na fyddai’r pwysau gan Lywodraeth Cymru’n lleihau’r trothwy a’r gwasanaeth a ddarperir i’r bobl ifanc mewn perygl yng Nghasnewydd.

 

2.         Eto cododd y Pwyllgor bryderon am ddefnyddio’r byrfodd ‘LAC’ ar gyfer ‘Looked After Children’ a gofynnon nhw fod pob adroddiad yn defnyddio’r term ar ei ffurf llawn yn y dyfodol. Teimlodd y Pwyllgor y gellir labelu pobl ifanc sy’n derbyn gofal gyda’r term ‘LAC’ ac y byddai hyn yn cael effaith negyddol arnynt.

 

3.         Roedd y Pwyllgor am dynnu sylw at y cydweithredu rhwng y Gwasnaethau Cymdeithasol a’r Bydwragedd fel enghraifft gwych o waith partneriaeth.

 

4.         Mae recriwtio gofalwyr maeth yng Nghasnewydd yn hanfodol i gadw pobl ifanc sy’n Derbyn Gofal yn lleol. Gofynnodd y Pwyllgor a allai’r Swyddogion roi gwybod iddynt a oes unrhyw beth y gallent ei wneud i helpu i gynyddu nifer y gofalwyr maeth. 

 

Dogfennau ategol: