Agenda item

Adroddiad Lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol y Tu Allan i ' r Sir

Cofnodion:

Yn bresennol:

-       James Harris – Cyfarwyddwr Strategol – Pobl

-       Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg

-       Katy Rees - Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant drosolwg byr i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried.

 

Gallai fod angen ar blant sy’n derbyn gofal lleoliadau preswyl allan o’r sir y penderfynir arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn aml roedd gan y disgyblion hynny becynnau addysg a phreswyl ar y cyd. Weithiau roedd angen gwneud y lleoliadau hynny’n gyflym i sicrhau diogelwch y disgybl, ond byddai’r pecyn addysg yn cael ei adolygu ymhen chwe wythnos i sicrhau ei fod yn addas i anghenion y disgybl. Hefyd roedd disgyblion gyda Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig oedd wedi’u dosbarthu’n ddisgyblion Allan o’r Sir gan eu bod yn mynychu Ysgol brif-ffrwd leol mewn awdurdod arall. Mae’r tabl isod yn dangos mathau’r lleoliadai ynghyd â nifer y disgyblion sydd â lleoliadau:

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·                Dywedodd Aelod o’r Pwyllgor, gan mai tua £30,000 yw cyfartaledd cost lleoli plentyn Allan o’r Sir, a fyddai’r Awdurdod yn gallu cynnig lleoedd i Awdurdodau cyfagos i greu incwm? Gellir wedyn defnyddio’r arian hwn i wneud iawn am gostau anfon pobl ifanc Casnewydd allan o’r sir. Ymatebodd Pennaeth Cynorthwyol Addysg - Cynhwysiant gan esbonio bod yr ALI wedi gwneud llai o leoliadau Allan o’r Sir dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf, a rhagwelwyd gostyngiad pellach ar gyfer 2019-20. Roedd cyfuniad o ffactorau sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn lleoliadau Allan o’r Sir, a fyddai’r cynnwys gweithio gyda Casnewydd Fyw a Catch 22. Roedd cysylltiadau agos wedi’u datblygu rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Addysg i sicrhau cymorth wedi’i gydlynu ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Trwy’r Paneli Dyfodol Disgleiriach ac Anghenion Cymhleth misol, trafodwyd disgyblion, yr oedd perygl y gallai eu lleoliadau chwalu, yn fanwl ac ystyriwyd cydatebion i geisio lleihau’r angen am leoliad Allan o’r Sir.

 

·                Gofynnodd Aelod am adborth ar broject Casnewydd Fyw, Catch 22.  Ymatebodd y Swyddog gan gadarnhau fod adborth gan y bobl ifanc yn ogystal â Casnewydd Fyw yn gadarnhaol. Roeddent yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ac yn cael dadansoddiad cyfredol o ddigwyddiadau a throseddau ailadroddus gan staff mewnol i’r project a’r rheiny mewn ysgolion.

 

·                Mynegodd Aelod bryderon ynghylch y term ‘LAC’ ar gyfer ‘Looked After Children’, gofynnodd yr Aelod i Swyddogion a phawb dan sylw fyrhau ‘Looked AFter Children’ i ‘LAC’ o ganlyniad i’r stigma o blant yn cael eu labelu’n plant ‘LAC’.  Ymatebodd y Swyddog gan gadarnhau y byddai’r byrfodd yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn dogfennau addysg mwyach.

 

·                Mynegodd Aelod ddiddordeb yn y cysylltiadau gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Comisiynu a Chontractau.  Ymatebodd y Swyddogion gan esbonio bod cysylltiadau agos wedi’u datblygu rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Addysg i sicrhau cymorth wedi’i gydlynu ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Trwy’r Panel Dyfodol Disgleiriach ac Anghenion Cymhleth misol, trafodwyd yn fanwl y disgyblion a oedd mewn perygl y gallai eu lleoliadau chwalu, ac ystyriwyd cydatebion i geisio lleihau’r angen am leoliad Allan o’r Sir. Ers mis Ebrill 2019, roedd Swyddog Anghenion Addysgol Arbennig wedi bod yn gweithio gyda thîm comisiynu a chontractau’r Gwasanaethau Cymdeithasol am ddau ddiwrnod yr wythnos i adolygu’r cytundebau contract gyda darparwyr Allan o’r Sir a’u cydymffurfiaeth. Roedd y broses hon hefyd yn ymwneud â ffioedd ac amodau lleoliadau a oedd yn destun negodi parhaol er mwyn rhoi’r ddarpariaeth fwyaf priodol i’r disgybl yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. Mae’r cydweithio hwn hefyd wedi arwain at bedwar disgybl yn dychwelyd i fyw mewn lleoliadau preswyl lleol a chael eu haddysg’n lleol ar gost lai i’r ddau wasanaeth. Roedd panel a phrotocol gwasanaeth ar y cyd wdi’u datblygu i nodi mwy o ddisgyblion a allai ddychwelyd i leoliadau lleol yn y dyfodol.

 

Casgliadau – Sylwadau i’r Cabinet

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar Leoliadau Allan o’r Sir Anghenion Dysgu Ychwanegol a chytunon nhw i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

1.    Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y ffigurau Allan o’r Sir a ddarparwyd gan y Swyddogion. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am bobl ifanc sydd wedi’u lleoli mewn awdurdodau cyfagos a’r rheiny sydd ymhellach i ffwrdd o Gasnewydd. 

 

2.    Sylwodd y Pwyllgor ar ba mor gadarnhaol y mae cael tystiolaeth o’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn cydweithio er budd pobl ifanc Casnewydd.

 

Dogfennau ategol: