Agenda item

Ymgynghoriad ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cyflwyniad gan y rheolwr cymunedau cysylltiedig

Cofnodion:

Eglurodd y Swyddog Cydraddoldeb, Joseph Lewis, ei rôl i'r cynrychiolwyr a dywedodd mai ei rôl oedd helpu'r awdurdod i ddatblygu amcanion strategol ac i arsylwi ar sut y câi'r rhain eu monitro. Roedd y cynllun presennol yn ei le tan 1 Ebrill 2020 ac felly roedd angen cynllun newydd. Sicrhaodd y Ddeddf Cydraddoldeb fod y cynlluniau hyn yn cael eu datblygu dros y cylch oes.

Mewn cyfnod o 6 mis roedd angen cynllun newydd ar gyfer yr awdurdod a oedd yn dal i gael ei lunio. Roedd ymgynghoriad cyhoeddus i gael ei gynnal ar y cynllun ac yna aeth y Swyddog Cydraddoldeb drwy'r cynllun i egluro wrth y cynrychiolwyr sut y byddai'n edrych. Byddai rhai o’r rhain yn faterion yn ymwneud â Chydraddoldeb mewn Cynghorau Cymuned: 

 

Prif Bwyntiau:

• Cynllun strategol- Roedd hwn yn cynnwys meini prawf eang ynghylch effeithiolrwydd y cynlluniau cydraddoldeb. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gallai cynlluniau fod yn fwy effeithiol.

• Themâu allweddol- Roedd yr amcanion drafft yn cynnwys;

- Arweinyddiaeth a Llywodraethu ,

- Hyrwyddo’n well;

 

1. Cynrychiolwyr y gweithlu,

2. Demograffig y gweithlu ac a oedd yn adlewyrchu amrywiaeth,

3. Gwasanaethau'r cyngor a sut yr oedd pobl yn defnyddio adeiladau'r Cyngor e.e. yr orsaf wybodaeth,

4. Sut y cynrychiolwyd Iaith Arwyddion Prydain (BSL),

5. Cydlyniant Cymunedol,

6. Tensiynau cymunedol sy'n gysylltiedig â BREXIT,

7. Darpariaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc a h?n,

8. Perthynas ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Y bwriad oedd rhychwantu'r meysydd hyn a chyffwrdd â phob nodwedd a ddiogelir yn y ddeddf megis hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd ac ati.

Roedd sylwadau penodol a oedd yn feirniadaeth benodol yn datgan nad oedd y cynllun yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac nad oedd yn hawdd ei ddefnyddio. 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys gweithio gyda grwpiau penodol i siarad â sefydliadau penodol a oedd yn ymdrin â hil neu anabledd yn fanwl yngl?n â'r hyn yr oeddent yn credu yr oedd Casnewydd yn ei wneud mewn perthynas â nodweddion y Ddeddf. Roedd yr ymgynghoriad ym mis Tachwedd yn cynnwys llyfnhau'r agweddau ymarferol gan ei fod yn dal yn y cyfnod datblygol, roedd y strwythur yn eithaf hir a byddai hyn yn cael ei ystyried.

Gofynnodd cynrychiolydd sut y byddai'r cynllun yn cael ei ddarparu i gynghorau cymuned ac aelodau ag anabledd.

Cadarnhawyd y byddai Cynllun Cydraddoldeb Cyngor Casnewydd ar gael i bob aelod o'r cyhoedd i roi sylwadau arno ac y byddai ar gael mewn gwahanol fformatau i'w wneud yn hygyrch.

Ym mis Tachwedd, byddai'r ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal gyda gwahanol sefydliadau allweddol megis y Tîm Cymorth Ethnig, Fforwm Mynediad Casnewydd, a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod.

Dywedodd cynrychiolydd pe bai cynlluniau yn y gorffennol yn wan o ran canlyniadau sut y gellid gwerthuso hyn, a thrafodwyd bod gan y cynllun cyfredol dermau eithaf eang felly nid oedd yn glir beth fyddai'r canlyniadau. Er enghraifft, roedd ymrwymiad i amrywio’r gweithlu ond sut y byddai hyn yn edrych e.e. mae cynllun prentisiaeth yn dod â phobl ifanc i mewn i'r sefydliad a gall data ddangos nad oeddem mor gynrychioladol ag y dylem fod. Trafodwyd y ffaith bod rhai camau gweithredu drafft yn y cynllun presennol lle'r oedd Llywodraeth Cymru am gael bwlch cyflogau llai er enghraifft, felly gellid cynllunio swm penodol ond nid oedd hyn yn hysbys eto.  Credwyd y byddai'r cynllun presennol yn cael ei ailstrwythuro ac y byddai'r cyfarwyddyd yn fwy eglur ar gyfer 2024.

Roedd cwestiwn ynghylch a fyddai effaith ariannol ar gynghorau cymuned, ond cadarnhawyd na chredwyd y byddai hyn yn digwydd gan mai cynllun Cyngor Casnewydd ydoedd nid oedd cost i gynghorau cymuned. Byddai Cyngor Dinas Casnewydd wedyn yn talu am gostau unrhyw ganlyniadau a fyddai'n codi. 

Trafodwyd hefyd sut y gellid gwella cydraddoldeb o fewn cynghorau cymuned, ond cadarnhawyd nad oedd hyn yn bosibl ond roedd Llywodraeth Cymru am weld gwelliant yn yr amrywiaeth o gynghorwyr yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Roedd hyn yn beth digon anodd ei wneud ac roedd yn dibynnu ar y modd y mae pleidiau'n cyflwyno eu haelodau i'w hethol. Pe bai pleidiau gwleidyddol am gael rhestr 50/50 o ddynion a menywod, yna gallent wneud hyn, a gallai'r tîm cydraddoldeb hefyd ystyried targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y gweithlu a bydd y cynllun hefyd yn ymdrin â hyn. 

Cwestiynwyd, mewn perthynas â gwaith cynghorau cymuned nad oedd i fod yn wleidyddol, am y ffaith bod rhai cynghorwyr yn mynd i gael eu hethol yn annibynnol felly ni fydd hyn yn berthnasol i rai cynghorau cymuned gan nad oedd y cynrychiolydd yn wleidyddol a byddai'n gweithio i'w hardal hwy yn unig. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd hyn yn rhan o'r cynllun hwn. 

Dywedodd y Cadeirydd mai'r hyn oedd yn bwysicaf ar gyfer yr ymgynghoriad oedd darparu'r gwasanaeth a sut rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i'r cyhoedd ac nad oedd ardaloedd gwledig ac ati yn nodwedd a ddiogelir. Dywedodd y Cadeirydd mai'r hyn a oedd yn berthnasol oedd a oedd grwpiau yn ardal y Cyngor Cymuned a oedd yn anabl ac ati a oedd yn dioddef os nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu gwasanaethau'r Cyngor.

Dywedodd cynrychiolydd y byddai dirywiad mewn gwasanaethau bysus ac ati yn broblem a thrafodwyd sut mae'r Comisiwn Hawliau Dynol yn aml yn tynnu sylw at addasrwydd safleoedd bysus, cyrbau is ac ati, ac roedd y problemau hyn yn berthnasol i'r cynllun.

Nodwyd nad yw'r Cyngor yn gweithio ar lwybrau bysus ac felly, os nad yw Stagecoach yn rhoi digon o lwybrau bysus, gallai'r Cyngor sybsideiddio rhai llwybrau anfasnachol.