Agenda item

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Hystyried Gan y Cabinet Ym Mis Medi)

Cofnodion:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor edrych ar Ddiweddariad y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1. Eglurodd y Rheolwr Partneriaeth Polisi a Chynnwys wrth y Pwyllgor mai diben yr archwiliad oedd asesu’r prosesau rheoli risg. Cafodd y Cabinet hefyd ddiweddariad am risg.

 

Prif Bwyntiau:

 

Cadarnhawyd bod y Polisi Rheoli Risg yn cael ei ailddrafftio ac y câi ei gyflwyno i Bwyllgor Archwilio yn y dyfodol gyda’r newidiadau. 

 

Ar ddiwedd Chwarter 1, cafwyd bod 7 risg Lefel Uchel (sgorau risg 15-25) a 5 risg canolig (sgorau risg 5 i 14)

 

Ar ddiwedd Chwarter 1 roedd 12 risg corfforaethol a oedd yn cynnwys 8 risg uchel a 4 risg canolig. Rhoddodd Atodiad 1 yr adroddiad grynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol newydd ar gyfer 2019/20.

 

Dyma grynodeb o’r risgiau:

 

•Ychwanegwyd risg newydd a nodwyd, sef Galw am gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anghenion Addysgol Arbennig.

•Aethpwyd â Risg Brexit ymlaen i 2019/20 a chynyddwyd sgôr y risg i 16 ac roedd yn ymateb i’r sefyllfa fythol newidiol.

 

Cwestiynau:

Dywedodd Aelod ei fod yn meddwl bod y broses yn iawn ond holodd ynghylch y risg uwch yn Ystâd Eiddo Cyngor Casnewydd yr oedd iddi lefel risg 16 a holodd ble roedd y Pwyllgor yn gwneud ymholiadau ynghylch hyn. Cadarnhawyd bod y Cabinet yn edrych ar y sgorau ac na ddylai’r Pwyllgor Archwilio holi ynghylch manylion y risg.

 

Dywedodd Aelod bod risg newydd Lleoliadau Addysgol y Tu Allan i’r Sir yn syndod oherwydd y meddylid fod y maes hwn yn iawn oherwydd adeilad newydd a gafwyd ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yr oedd angen lleoliadau arnynt. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys fod y risg addysg hwn yn berthnasol i’r gofynion addysg newydd.

 

Trafodwyd mai risg sy’n cynnwys y Cyngor cyfan oedd y risg Gwasanaethau Cymdeithasol ond roedd y risg Addysg hwn yn risg uwch na hynny a bod y 3 risg addysg yn cymhlethu ei gilydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi edrych ar y broses gyffredinol ond y gellid bod newydd yn yr archwilio felly ar y cam hwn, gallwn edrych ar hyn yn y dyfodol. Gallai’r newid ddigwydd ymhen tua 18 mis.

 

Holwyd pwy oedd yn gyfrifol am y materion Brexit a chadarnhawyd mai’r Cabinet oedd yn gyfrifol. Y Cabinet oedd yn rheoli’r gofrestr risgiau lawn ac roedd yr adran Archwilio yn adolygu’r broses. 

Trafodwyd fel mae Brexit yn effeithio ar bopeth ond bydd yr effaith yn fwy ar rai pethau a chadarnhaodd y Cadeirydd fod y cwestiwn yn un dilys.

Cadarnhawyd y gallai’r holl Aelodau fynd i sesiwn friffio ynghylch Brexit. 

 

Roedd gan Aelod gwestiwn am y pwysau ariannol ar ysgolion a beth fyddai sefyllfa hynny yn Chwarter 2. Trafodwyd sut roedd rhai ysgolion yn cael trafferth ymdopi â diffyg yn eu cyllideb a bod y Gwasanaethau Addysg a’r timau Ariannol yn cydweithio i ostwng y diffyg hwn.

 

Ar ddiwedd Chwarter 1, roedd y risgiau bod diffyg yng nghyllidebau’r ysgolion yn sgôr uchel a gofynnodd aelod pam roedd diffyg ac beth fyddai’n diwgydd. Dywedodd y Cadeirydd efallai bod hon yn fater i’r Adran Graffu. 

 

Soniodd y Cadeirydd hefyd am y tabl Proffil Sgôr Risg ar dudalen 17 a sut roedd y Pwyllgor eisiau gweld y risg ac a ddylai bod sylw yn dweud sut y cai hyn ei leihau. Dywedodd y Cadeirydd hefyd y byddai’n ddefnyddiol petai colofn yn dangos cyfeiriad y risg.  

 

Gofynnodd Aelod sut roeddem yn gwybod bod yr asesiad yn gywir; gallai goblygiadau Brexit fod ymhen blynyddoedd ac fel Cyngor mae Brexit yn cymryd llawer o le yn ein meddyliau ond does fawr y gallwn ei wneud yn ei gylch. Gofynnodd yr Aelod hefyd a gafodd y risg hwn ei or-amcan.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys fod llawer o bethau y gallai’r Cyngor eu gwneud ynghylch Brexit a bod sgôr ar gyfer y meysydd unigol yr effeithir arnynt. Mewn perthynas â’r risgiau cynyddol, bu adolygiad pellach gan yr uwch dimau rheoli y cytunwyd arnynt eto gan y Cabinet. Traddodir cyflwyniad am y broses hon i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafwyd ymholiad ynghylch paragraff 3 ar dudalen 13 mewn perthynas â’r Awch am Risg ac a oedd un ar hyn o bryd.

Cadarnhawyd y byddai Polisi Rheoli Risg yn disodli’r Strategaeth Rheoli Risg gyfredol a bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gydag Aelodau Cabinet ynghylch beth dylai Awch am Risg fod. Byddai’r strategaeth newydd yn bendant ynghylch beth oedd hyn. Eglurwyd bod awch am risg yn esblygu felli ni gynrychiolir hyn yn y polisiau risg. 

Mewn perthynas â’r risg ynghylch plant sy’n agored i niwed, cymerir gofal yn y maes hwn. Dywedodd y Cadeirydd y cytunwyd y gellid mynegi’n well y dylai bod rhywfaint yn fwy o risg mewn perthynas â’r dulliau Rheoli Ariannol.

Dywedodd y Cadeirydd fod cyfyngiad ar yr hyn y gall Aelodau ei wneud; gallai’r Pwyllgor wneud ymholiadau ynghylch y broses ond ni allai ddweud y dylai un ffigwr fod yn un arall.  Gallai Llywodraeth Cymru benderfynu y gallai hyn amrywio ac efallai y gallai’r Adran Archwilio wneud penderfyniadau fel hyn yn y dyfodol.

 

Awgrymwyd efallai y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor gael cyflwyniad ar y Broses Risg mewn agenda yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y bu mewn Cynhadledd Cadeiryddion Pwyllgorau Archwilio yn trafod dogfen ymgynghori ac mai’r cynllun oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno ar y ddogfen yn amodol ar ymgynghoriad eang.

 

Felly mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor Archwilio yn newid a deuid â’r cynllun gerbron y Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol.

 

Cytunwyd: 

 

Y bydd y Pwyllgor Archwilio yn cael cyflwyniad ar y Broses Risg mewn pwyllgor pellach.

 

Dogfennau ategol: