Agenda item

Cynlluniau Gwasanaeth - Adolygiadau Canol Blwyddyn

Cofnodion:

1.         Adroddiad Cynllun Gwasanaeth Canol Blwyddyn - Gwasanaethau         Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc)

 

 

Mynychwyr:

-       Cynghorydd P Cockeram, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Sally Jenkins, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad gan dynnu sylw at y ffaith bod y Gwasanaeth yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol i deuluoedd a phlant mewn angen gan gynnwys darpariaeth arbenigol ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed ac sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn gymdeithasol, fel y rhai sydd mewn perygl o niwed sylweddol, plant anabl, plant sy'n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain (ar wahân). Nod y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc oedd hyrwyddo a diogelu lles plant a phobl ifanc o fewn eu teuluoedd a lle nad oedd hynny'n bosibl, darparu gofal amgen o ansawdd da.

 

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, gweithiodd y gwasanaeth yn agos gyda theuluoedd ac ystod eang o asiantaethau er mwyn bodloni'r canlyniadau a nodwyd a chynnig y gwasanaethau gorau posibl.

 

I gefnogi'r gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2017-22, nododd y cynllun gwasanaeth 2019/20 4 Amcan a oedd yn canolbwyntio ar faterion fel a ganlyn:

 

Amcan 1 - Darparu gwasanaethau effeithiol i helpu plant i aros yn ddiogel gyda'u teuluoedd.

Amcan 2 - Gwella canlyniadau ar gyfer plant mewn gofal a’r rhai sy'n gadael gofal, gan gynnwys canolbwyntio ar ail-uno'n ddiogel.

Amcan 3 - Sicrhau bod amrywiaeth o leoliadau ar gael ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Amcan 4 - Atal plant a phobl ifanc rhag troseddu ac aildroseddu.

 

Amlygodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc y sefyllfa gadarnhaol yr oedd y Gwasanaeth ynddi ar hyn o bryd o ran parhad a sefydlogrwydd yn y gweithlu a'r cyfraniad cadarnhaol a wnaed o'r Gronfa Gofal Canolradd a oedd wedi galluogi'r Gwasanaeth i gychwyn darnau newydd o waith fel Cynadledda Gr?p Teulu a’r Fenter Babi a Fi a dargedodd ac a nododd unigolion risg uchel ar y cam cynharaf ac a alluogodd gefnogaeth ddwys o ddechrau'r beichiogrwydd.

 

Cafodd y sefyllfa gadarnhaol hon ei gydbwyso gan y gorwariant presennol o £2 filiwn a oedd bron i gyd oherwydd costau lleoli, lle'r oedd y Cyngor yn ei chael hi'n anodd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal maeth mewnol ac yn cystadlu â thaliadau uwch gan asiantaethau maethu annibynnol.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Holodd Aelod ynghylch taliadau a wnaed i'r asiantaethau maethu annibynnol a pham yr ydym yn eu defnyddio. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, pe na baem yn gallu lleoli plentyn gydag un o'n gofalwyr maeth ein hunain neu ofalwr Awdurdod Lleol arall, yna roedd yn rhaid i ni fynd at asiantaeth i ddod o hyd i leoliad addas.  Yna gwnaethom brynu'r lle hwn oddi wrthynt yn y bôn a thalu'r ffi angenrheidiol iddynt. Nid oedd gennym ddewis gan fod rhaid i ni ddod o hyd i lety addas. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol y gallech wneud cais i fod yn ofalwr maeth ar gyfer yr awdurdod lleol neu asiantaeth breifat ac oni bai ein bod yn cynyddu ein cyfraddau talu yna byddem yn parhau i golli ein gofalwyr maeth i'r asiantaethau preifat. 

 

·         Cododd Aelodau'r Pwyllgor y mater o bwy oedd yn monitro'r asiantaethau hyn a'r angen iddynt gael eu rheoli'n briodol.  Roeddent hefyd yn cwestiynu'r gwahaniaeth yn y cyfraddau llwyddo rhwng ein gwasanaethau gofal maeth ni ein hunain a'r rhai annibynnol.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, er ein bod yn monitro gofal y plant eu hunain, fod yr asiantaethau'n cael eu monitro gan Asiantaeth Gofal Cymru. Roeddem hefyd yn gallu rhoi cymorth rhagorol i'n gofalwyr mewnol drwy ddefnyddio grwpiau rhwydweithio, y fforwm rhianta corfforaethol, cymorth 24 awr i weithwyr cyswllt ac ati.

 

·         Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor y farn bod yr asiantaethau fel petaent â'r llaw uchaf gan eu bod yn gallu codi'r hyn yr oeddent yn ei hoffi, gan wybod pe bai'r angen yn codi na fyddai gennym ddewis arall ond defnyddio eu gwasanaethau.  Yn ôl aelod, pe byddai costau’n cael eu cysoni yna byddai'n well gan ofalwyr maeth aros i weithio i'r cyngor gan ein bod yn cael ein gweld fel cyflogwr da. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Aelod Cabinet fod hynny'n her go iawn ac ar wahân i golli staff i asiantaethau, roeddem hyd yn oed wedi colli rhai o'n gofalwyr maeth i awdurdodau cyfagos a oedd ar hyn o bryd yn talu mwy nag a oedd Casnewydd. Dywedasant fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar y polisïau codi tâl ond nid oedd hyn yn rhywbeth y gallem ei orfodi.

 

·         Datganodd y Cadeirydd ei ddymuniad i gefnogi'r gwasanaeth wrth geisio datrys y mater hwn a dywedodd y byddai'r gwaith a oedd yn cael ei wneud i ymdrechu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn lleihau'r angen am blant sy'n derbyn gofal, gobeithio.  Dywedodd fod angen cyfradd gyflog briodol ar ein gofalwyr maeth i'w hannog i aros gyda Chyngor Casnewydd.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr heriau cyfredol yr oeddem yn eu hwynebu ac er ein bod wedi cynyddu ein cyfleusterau preswyl mewnol, nid oedd yn gost-effeithiol cadw plant yn y tymor hir yn y cartrefi preswyl hyn. Roedd ymgyrch ar y gweill ar hyn o bryd i geisio cynyddu nifer y gofalwyr maeth.  Roedd y nifer presennol wedi gostwng ychydig i 161 o ofalwyr ac roeddem hefyd yn ceisio recriwtio pobl iau ar ein cofrestr o ofalwyr.  

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor pam y bu cynnydd o 5.7% yn nifer y plant sy'n derbyn gofal a gafodd 3 lleoliad neu fwy.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr enghraifft o atgyfeiriad hwyr y nos a byddai lleoliad sefydlog y diwrnod canlynol yn cael ei ystyried yn lleoliad. Yn yr un modd, byddai grwpiau o frodyr a chwiorydd sydd efallai wedi cael eu gwahanu dros dro cyn eu lleoli yn ôl gyda'i gilydd hefyd yn cael eu hystyried yn 'symudiad'. Esboniodd Aelod y Cabinet, er bod hwn yn ddangosydd defnyddiol, roedd angen esboniad arno bob amser ynghylch sut y daethpwyd i'r ffigwr.

 

·         Holodd yr Aelodau am y% o blant sy'n derbyn gofal a ddychwelwyd adref o ofal.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc na allem yn bendant ddychwelyd plant adref os oedd yn anniogel gwneud hynny. Roedd yn annhebygol y byddai'r mesur hwn yn parhau y flwyddyn nesaf ac y byddai angen i ni sicrhau mesur newydd a oedd yn fwy cadarn ac eglur o ran yr hyn yr oedd y mesur yn ei olygu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, er bod rhwng 44 a 45 o achosion gweithredol yn y Llys ar hyn o bryd, roedd cannoedd o achosion eraill o ddydd i ddydd yn parhau lle roedd gwaith yn cael ei wneud yn gweithio gyda phlant yn y cartref a hefyd fentrau fel ‘Babi a Fi’ a oedd yn cynnig cefnogaeth deuluol. Cydnabuwyd bod hyn yn her i'w chynnal wrth geisio gwneud arbedion.

 

·         Holodd Aelod ynghylch effaith Llinellau Sirol o fewn y ddinas. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, er ei bod yn ymddangos bod cynnydd yn nifer y gangiau ieuenctid, nad oedd llawer o weithgaredd gyda llinellau sirol. Yn yr un modd, prin iawn oedd y digwyddiadau o anafiadau a oedd yn gysylltiedig â chyllyll yng Nghasnewydd.  Roedd hyn yn rhannol oherwydd gwaith cadarnhaol gan yr holl asiantaethau megis y Cyngor, yr Heddlu, Gwasanaethau Addysg, pawb yn gweithio gyda'i gilydd a graddau'r ymddiriedaeth a adeiladwyd o fewn y partneriaethau gwaith hyn. Er bod heriau, roedd y broses bresennol o reoli risg yn gweithio'n effeithiol.

 

    

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau – Sylwadau i’r Cabinet

 

Nododd y Pwyllgor Adolygiadau’r Cynllun Gwasanaeth Canol y Flwyddyn a chytunon nhw i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau canlynol i’r Cabinet:

 

1.         Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc, ond dywedodd nad oedd digon o wybodaeth yn cael ei rhoi am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran trosglwyddo pobl ifanc allan o'r gwasanaeth i fyw'n annibynnol.

 

2.         Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod recriwtio gofalwyr maeth yng Nghasnewydd yn hanfodol.  Mynegwyd pryder ganddynt am lefelau'r gydnabyddiaeth ariannol a ddarparwyd gennym ar gyfer eu gwasanaethau o gymharu ag asiantaethau a phwysleisiodd yr angen am gymorth parhaus i'n gofalwyr mewnol.

 

 

Adroddiad Cynllun Gwasanaeth Canol Blwyddyn - Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol)

 

 

Mynychwyr:

-       Cynghorydd P Cockeram (Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol)

-       Chris Humphreys - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yr adroddiad yn amlinellu'r 5 prif amcan a nodwyd yng Nghynllun Gwasanaeth 2019/20 sy'n cael ei weithio arno hyn o bryd:-

 

Amcan 1 - Atal ac Ymyrraeth Gynnar

Amcan 2 - Gweithio'n integredig ar draws iechyd a gofal cymdeithasol

Amcan 3 - Comisiynu

Amcan 4 - Gofalwyr

Amcan 5 - Diogelu

 

Parhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol drwy ddweud, er bod gorwariant ar hyn o bryd, fod ffigyrau'r gyllideb y mis hwn yn dangos bod y gorwariant hwn wedi lleihau'n sylweddol. Yn debyg i awdurdodau eraill yng Nghymru, roedd Casnewydd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl h?n ac agored i niwed a oedd angen cynlluniau gofal a chymorth gan y Cyngor ac er ein bod yn dda am gefnogi pobl yn eu cartrefi, achosodd hyn gostau ychwanegol o ganlyniad i dyfu anghenion pobl.  Roedd y sector gofal yn ei gyfanrwydd yn cael trafferth recriwtio a chadw staff ac eto roedd Casnewydd yn llwyddiannus ar y cyfan yn yr agwedd hon gan ein bod yn cael ein cydnabod fel cyflogwr da.

 

Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol sylw at welliannau cadarnhaol megis cyflwyno'r gwasanaeth teleofal, a rannwyd gyda chynghorau Sir Fynwy a Chaerffili a'r fenter Cartref yn Gyntaf lle roedd staff rheng flaen yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Neville Hall fel bod hyd at 30-40 o bobl bob wythnos yn cael cymorth a chyngor i'w galluogi i ryddhau cleifion heb fod angen eu derbyn i'r ysbyty.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

 

·         Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y diffyg yn y gyllideb wedi lleihau ond roedd yn cwestiynu'r tueddiadau mwy hirdymor. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod y tymor gaeaf bob amser yn dwyn pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth a bod nifer yr henoed yn cynyddu wrth i ddisgwyliad oes gynyddu. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod angen cymorth parhaus yn rheolaidd ar y plant hynny sy'n symud i oedolaeth ac sydd ag anawsterau dwys ac anghenion sylweddol.  Roeddent yn tueddu i ddod allan o ofal preswyl ac i mewn i'r gwasanaethau i oedolion ac roedd angen cymorth parhaus sylweddol arnynt.  Er eu bod yn cael gofal da iawn yn eu cartrefi preswyl, yn aml iawn nid oeddent yn meddu ar sgiliau byw'n annibynnol.  Roedd y gwasanaeth yn cydnabod y broblem hon ac wedi recriwtio Therapydd Galwedigaethol arbenigol yn llwyddiannus i'r diben o helpu'r oedolion ifanc hyn i bontio a dod yn fwy annibynnol.

 

 

·         Holodd Aelod ynghylch gweithrediad a chost y Gwasanaeth Teleofal. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol bod y gost yn £4.00 yr wythnos, sef yr un faint â'n partneriaid yn y cynllun, sef cynghorau Sir Fynwy a Chaerffili. Roedd hyn yn gymharol ledled Cymru. Roedd y trefniant yn rhoi i Gasnewydd aelod o staff o Linell Ofal Sir Fynwy i ymgymryd â gosodiadau cyfarpar a Swyddog Teleofal wedi'i leoli yng Nghasnewydd 1 diwrnod yr wythnos. Roedd y trefniant hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn.

 

 

·         Yn dilyn cwestiwn am alwadau ffôn sgâm a'r rhai sy'n agored i niwed, cadarnhaodd y Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod staff wedi'u hyfforddi i gysylltu â thimau diogelu os oedd llawer o arian yn cael ei gynnwys. Gan eu bod yn yr un adeilad â'r Hyb Diogelu, gallen nhw hefyd wneud yr Heddlu'n ymwybodol ar unwaith.

 

 

·         Holodd Aelod ynghylch y pecyn gofal cyfredol a pha wasanaethau a oedd yn cael eu cynnwys a gan bwy. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol y byddai'n dibynnu ar anghenion asesedig unigolyn ac y gellid gwneud cais am adolygiad os teimlid ei fod yn annigonol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yn rhaid i'r holl asiantaethau sy'n darparu'r gwasanaeth hwn fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig. Cadarnhaodd, mewn perthynas ag ymchwiliad cyfredol i afreoleidd-dra mewn cartref nyrsio lleol, fod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau ond ein bod yn parhau i weithio'n agos gyda'r staff i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu i'r preswylwyr a'r gefnogaeth a roddir i'r teuluoedd.

 

 

·         Holodd Aelod ynghylch monitro'r gwasanaethau a gomisiynwyd a pha wasanaethau lliniaru a oedd ar waith pe bai rhywbeth yn mynd o'i le, fel yn y problemau diweddar gyda Chartref Nyrsio Caerllion. Soniodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol faint o gymorth yr oedd Casnewydd wedi’i ddarparu i’r cartref nyrsio penodol hwn dros y 18 mis diwethaf a’n bod wedi helpu i’w gadw ar agor a’r preswylwyr yn ddiogel.Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ein bod yn gweithio'n agos gyda darparwyr gwasanaeth a phartneriaid eraill a'n bod yn gallu cynnull gr?p amlasiantaeth i roi cymorth a sefydlogi unrhyw sefyllfa a ddylai godi. Mewn ymateb i awgrym bod y Cyngor yn prynu Cartref Nyrsio Caerllion at ein defnydd ein hunain, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, gan ei fod yn cael ei ystyried yn gartref nyrsio ac nid yn gartref preswyl, na fyddem yn gallu gwneud hynny.

 

 

·         Holodd y Pwyllgor sut roedd gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector yn effeithio ar ein targedau ac a oedd canlyniadau i'r Cyngor pe bai ein targedau yn cael eu methu heb i hynny fod yn fai arnom ni.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod Llywodraeth Cymru yn pwyso am gydweithio/partneriaethau rhanbarthol a bod hyn yn ychwanegu haenau o gymhlethdodau fel bod camau gweithredu a phenderfyniadau yn cymryd mwy o amser weithiau.  Roeddem yn adolygu'n barhaus sut y bu'r dull hwn yn gweithio ac yn ymchwilio pe gallem newid unrhyw beth i wneud unrhyw welliannau pellach. 

 

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y nod yn y pen draw i ardal Gwent gyfan weithio ar y cyd. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ei fod yn sefyllfa cymryd y cyfle, gan weld pwy oedd â'r setiau sgiliau cywir, y seilwaith gorau ac ati, ac ymchwilio i'r hyn a fyddai'n gweithio orau, y system teleofal a rennir sy'n enghraifft ragorol.

 

·         Gofynnodd Aelod a oedd y targedau a osodwyd yn cael eu hystyried yn ddigon heriol?  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod yr holl dargedau'n cael eu hystyried yn fanwl, ac ar bwynt canol blwyddyn roeddem yn dal i aros am gadarnhad o'r set newydd o fesurau perfformiad Llywodraeth Cymru sydd i'w gweithredu o Ebrill 2020. Rhagwelwyd y byddai rhai yn aros ond y gallai'r geiriad newid ychydig.  Byddai'r set lawn o fesurau yn cael ei chyflwyno'n raddol dros gyfnod o 2 neu 3 blynedd 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau – Sylwadau i’r Cabinet

 

Nododd y Pwyllgor Adroddiad Canol Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol a chytunwyd i anfon y cofnodion i'r Cabinet fel crynodeb o'r materion a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau canlynol i’r Cabinet:

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod y diffyg yn y gyllideb wedi lleihau ond cydnabu fod angen gwneud gwaith parhaus i gynnal y duedd hon.  Gofynnwyd iddynt gael adroddiad misol ar y gyllideb er mwyn iddynt gael gwybod am unrhyw orwariant sylweddol mewn modd amserol

Dogfennau ategol: