1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda item

Rhagamcanion Ariannol Cyllideb a Thymor Canolig 2020-21

Cofnodion:

Yn bresennol:

-             Chris Humphrey, Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl

-             Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-             Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg

-             Clare Watts – Uwch Bartner Busnes Cyllid

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl ymddiheuriadau Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor, gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

Cynnig 1 - AS2021/04 – Gostyngiad yng Nghyllideb Cyfleoedd Dydd

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod yr arbedion arfaethedig o £100k yn danwariant, o ganlyniad i nifer y bobl a fynychodd y gwasanaeth Cyfleoedd Dydd leihau. Cynigiwyd amrywiaeth o weithgareddau dros wythnos, ond rhai yn y gymuned yn hytrach nag mewn un ganolfan, felly roedd y ddarpariaeth a'r staffio gofynnol wedi'u haddasu yn unol â hynny.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Dwedodd Aelod fod y ffigur tanwariant o £100k yn sylweddol a gofynnodd o le y daeth y ffigur hwn a gofynnodd am bartneriaethau gyda'r Sector Iechyd a Gwirfoddol.

Dwedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod y Gwasanaeth Dydd Iechyd Meddwl ym Mrynglas wedi gostwng o 5 diwrnod i 3 diwrnod. Roedd y Gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd wahanol drwy ddarparu cymorth yn y gymuned a thrwy weithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd ac asiantaethau fel MIND a Growing Spaces.  Roedd unrhyw swyddi gwag wedi'u cadw hefyd.

      Holodd Aelod sut y gellid cynnal mwy o wasanaethau mewn sefydliadau trydydd sector, o ystyried y gostyngiad yn y cyllid / cyllidebau yr oedd rhai o'r sefydliadau yn eu hwynebu.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod rhai o'r partneriaid hynny wedi llwyddo i dynnu cyllid i lawr o ffynonellau eraill, a'u bod wedi gweithio'n agos gyda'r sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau, gan fod cyllid sicr ganddynt.   Er bod y sefydliadau wedi bod yn rhan o'r datblygiad, roedd cyllid yn parhau i fod yn her i awdurdodau lleol a'r Trydydd Sector a chydnabuwyd nad oedd unrhyw sicrwydd ar gyfer cydnerthedd yn y dyfodol.

Cynnig 2 - AS2021/05 - Gwasanaeth Teleofal

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod gwaith ar ad-drefnu'r gwasanaeth wedi bod ar y gweill ers tro.  Yn fewnol yn bennaf yn y gorffennol, darparwyd y gwasanaeth bellach mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy i osod offer a gyda Chyngor Caerffili i fonitro galwadau.  Roedd y Gwasanaeth wrthi'n tynnu'n ôl o'r contract gwasanaeth blaenorol gyda Theleofal Caerwrangon ac roedd hefyd wedi gallu tynnu arian i lawr o'r Gronfa Gofal Integredig a thynnu offer i lawr ar gais, fel na fyddai’n mynd yn rhy hen.  Roedd cost y Gwasanaeth wedi'i safoni fel bod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael yr un tâl ac yn derbyn yr un lefel o wasanaeth, a oedd wedi gwneud costau rhedeg y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy ac roedd yn wasanaeth gwell.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Gofynnodd Aelod a oedd cynnydd yn y gost i'r defnyddiwr a pha ddefnydd oedd yn cael ei wneud o dechnoleg newydd.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod y pris wedi'i bennu rhwng pris y ddau ddarparwr blaenorol gan arwain at gynnydd bach neu ostyngiad bach i ddefnyddwyr gwasanaeth. 

Roedd y gwasanaeth nawr yn rhan o'r tîm Therapi Galwedigaethol ac roeddent yn ystyried mwy o ddefnydd o dechnoleg newydd, megis defnyddio Alexa i roi negeseuon atgoffa i gymryd meddyginiaeth. Er bod hyn wedi helpu i leihau ymweliadau gan ofalwyr nad ydynt yn rai hanfodol, dim ond rhan o becyn gofal defnyddwyr fyddai hyn.

      Gofynnodd Aelod pa gyllid ychwanegol yr oedd y Cyngor yn ei gael ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Teleofal ac a fyddai hyn yn incwm rheolaidd.

Atebodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod gwariant cyfalaf wedi'i leihau oherwydd cais llwyddiannus am gyllid CGI rhanbarthol ar gyfer darparu cyfarpar ac roedd yr arian hwn wedi ei warantu gan Lywodraeth Cymru tan 2021.

Cynnig 3 - AS2021/07 - Gostyngiad yn y cyllid a ddyfarnwyd i sefydliadau'r trydydd sector

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl argymhellion yn fyr i leihau'r cyllid i'r Sefydliadau Trydydd Sector canlynol yn unol â’r ffigurau a amlinellir yn yr adroddiad i: Growing Space; Hafal; Mind; Clybiau Byddardod; Pobl yn Gyntaf; Cyngor ar Bopeth; a'r Grant Gofalwyr. Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Holodd Aelod a oedd Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (AEDCh) wedi'i gwblhau ar gyfer y Cynnig Cyllideb hwn, gan fod yr Achos Busnes yn nodi bod angen un arno, ond nid oedd un wedi'i gyhoeddi.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl fod AEDCh wedi'i chwblhau ar gyfer y Cynnig ac y dylai fod wedi'i gyhoeddi.

      Mynegodd Aelod bryder bod y cynnig hwn, ar gyfer rhai o sefydliadau'r trydydd sector, yn golygu colli incwm sylweddol, yn enwedig pe bai cyllid yr UE yn y dyfodol yn cael ei golli ac a allai'r Cyngor edrych ar ffyrdd o helpu'r sefydliadau hyn i geisio cyllid o ffynonellau eraill.

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl gan ddweud bod y rhan fwyaf o'r partneriaid hyn yn deall yr amgylchedd rydym yn gweithio o danno ac roedd rhan o’r sgyrsiau a gynhaliwyd gyda hwy yn ymwneud â'u helpu i chwilio am gyllid amgen o ffynonellau eraill.

      Dwedodd Aelod fod Cyngor ar Bopeth yn wasanaeth hanfodol i lawer gan gwestiynu'r cynnig ar gyfer arbedion a gofyn pa gyllid arall oedd gan Cyngor ar Bopeth.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod Cyngor ar Bopeth yn cael ei gefnogi gan gyllid gan y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymuned, cyllid corfforaethol, Cefnogi Pobl a ffrydiau Ariannu Llywodraeth Cymru.  Byddai cyfuno cymorth y Cyngor i un contract yn ei gwneud yn haws i Cyngor ar Bopeth reoli'r ddarpariaeth a byddai'n dal yn gynaliadwy i barhau fel gwasanaeth pwysig. 

      Gofynnodd Aelod sut gellid sicrhau nad oes gostyngiad mewn gwasanaeth, o ystyried y tynnir cyllid oddi ar sefydliadau trydydd parti, ac a oedd y cyllid yn dal i fodloni amcanion y Cyngor. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl fod y rhan fwyaf o'r sefydliadau yn elusennau cenedlaethol a'u bod yn realistig a'u bod wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth ar yr arbediad arfaethedig, a dwedodd fod y cyllid yn dal i fodloni amcanion y Cyngor.

      Mynegodd Aelod bryder bod angen egluro'r cynnig a’i effaith o ran arbedion cyllidebol Cyngor ar Bopeth i'r cyhoedd mewn ymgynghoriad, nad oedd y Cyngor yn dileu ei holl gyllid, ond yn cyfuno’i gefnogaeth i mewn i un contract.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro fod yr ymgynghoriad cyhoeddus eisoes ar y gweill ac y byddai'n cael ei fwydo'n ôl i'r Cabinet ym mis Chwefror.

      Holodd Aelod ynghylch y gostyngiad arfaethedig o £20k yn y Grant Gofalwyr.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod argaeledd cyllid CGI sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy Grant yn benodol ar gyfer Gofalwyr wedi cynyddu'r adnodd i Ofalwyr, felly nid oedd y gyllideb bresennol o £40k wedi'i defnyddio'n ddigonol a'i bod yn cael ei gostwng £20K.

Cynnig 4 - AS2021/08 - Adolygiad o Staffio

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod cynnig y gyllideb yn cynnwys adolygiad mewnol o'r adnoddau staffio presennol, gan ystyried unrhyw swyddi gwag presennol er mwyn sefydlu strwythur staffio cynaliadwy, wrth geisio cynnal gwasanaethau rheng flaen.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Gofynnodd Aelod ynghylch y gost i'r Cyngor o gytuno i unrhyw geisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol.

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid mai mater i'r Pennaeth Gwasanaeth fyddai derbyn cais ai peidio ac os bernid bod angen rôl o hyd, yna byddai'r cais bob amser yn cael ei wrthod. Er y byddai diswyddo gwirfoddol yn well na diswyddo gorfodol, byddai'r Pennaeth Gwasanaeth yn ystyried anghenion y gwasanaeth yn gyntaf ac yn gwrthod y cais pe bai angen y swydd o hyd.  Dwedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl nad oedd diswyddiadau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, bod ailstrwythuro'n cael ei archwilio a gobeithio y gellid osgoi diswyddiadau.

      Holodd Aelod am y ffigur o 9 swydd Gyfwerth ag Amser Llawn (CALl) y mae'r cynnig penodol hwn yn effeithio arnynt.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl nad 9 aelod o staff unigol oedd hyn ond y byddai cyfanswm yr arbedion unigol drwy, er enghraifft, newidiadau i batrymau gwaith yn cyfateb i 9 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn.

      Canmolodd Aelod y gwasanaeth, fodd bynnag, ychwanegodd y gellid gwneud rhywfaint o addasiad i amserlennu galwadau i leihau ar ofalwyr sy'n teithio'n ôl ac ymlaen rhwng dwyrain a gorllewin y Ddinas.

Gwasanaethau Plant a Theulu

Nododd Aelod y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro a gofyn a oedd Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (AEDCh) wedi'i gwblhau ar gyfer Cynigion 5,6 a 7 y Gyllideb, gan fod yr Achos Busnes yn nodi bod angen un arnynt, ond nid oedd un wedi'i gyhoeddi.

Dwedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl fod AEDCh wedi'i chwblhau ar gyfer y Cynigion ac y dylai fod wedi'i chyhoeddi.

Cynnig 5 - CFS2021/02 - Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Partneriaeth Barnado’s

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl y cynnig i leihau'r gyllideb bresennol £75k o £600k, ad-drefnu'r tîm staffio a defnyddio cyllid CGI i wneud rhywfaint o waith yn fewnol yn hytrach na gan Barnado's, a thrwy hynny cael gafael ar gronfeydd eraill i liniaru'r arbedion a'r effaith ar y gwasanaeth fel nad oedd yn sylweddol.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

Mynegwyd pryder yngl?n â'r "capasiti gostyngedig i dderbyn atgyfeiriadau ac effaith bosibl ar nifer y plant sy’n derbyn gofal" y cyfeirir atynt yn yr Achos Busnes, ar dudalen 65 yr adroddiad.

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl y byddai unrhyw newid yn arwain at ganlyniad, ond byddai'r Gwasanaeth yn cael ei ad-drefnu i reoli'r newid a bod y newidiadau arfaethedig hyn wedi'u trafod gyda Barnado’s. Byddai cyllid CGI a'r Grant Trawsnewid yn cynorthwyo, er y byddai'r cynnig yn cael rhywfaint o effaith.

Cynnig 6 - CFS2021/05 - Staffio ar draws y Gwasanaethau Plant

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl y cynnig a chyfeiriodd at yr Achos Busnes.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Mynegodd Aelod bryder ynghylch y symud o gyllid craidd i gyllid grant ar gyfer plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches a chynaliadwyedd y cyllid hwnnw ar ôl Brexit a gofynnodd a oedd y swyddi'n barhaol, neu dros dro ac yn gysylltiedig â'r cyllid.

Dywedwyd wrth yr Aelodau, pe bai'r grant yn diflannu yn y dyfodol,

y byddai achos yn cael ei wneud i geisio cyllid craidd. Cadarnhawyd bod swyddi'n barhaol, ond byddai eu cyllido yn newid.

      Mynegodd Aelod bryder ynghylch y bwriad i ddileu swyddi, yn enwedig gweithwyr cymdeithasol, gan greu pwysau o bosibl ar wydnwch gwasanaethau a symud pwysau i rannau eraill yn y gwasanaeth.

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl gan ddweud, er y byddai angen gweithwyr cymdeithasol bob amser, y gallai fod hyblygrwydd o ran sut yr oedd y timau'n gweithredu.  Newidiodd gofynion gwasanaethau dros amser, gyda gostyngiad yn y galw mewn rhai meysydd a chynnydd mewn meysydd eraill, felly roedd angen ailstrwythuro rhai gwasanaethau.  Gellid ariannu swyddi mewn ffyrdd amgen hefyd.  Cafodd y swyddi hyn eu nodi gan fod rhywfaint o liniaru’n bosibl ac felly gallai’r risg i’r gwasanaeth gael ei leihau.

      Gofynnodd Aelod a oedd y cynnig hwn yn cynnwys adolygiad llawn, neu a oedd wedi canolbwyntio ar swyddi gwag i'w defnyddio fel arbediad yn unig.

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl fod y cynnig yn cynnwys ymagwedd gymysg ac yn cynnwys rhai swyddi gwag, ailstrwythuro a rhai ffrydiau ariannu amgen. 

Cynnig 7 - CFS2021/06 - Lleihau swyddi ar draws y Gwasanaethau Plant

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl y cynnig a chyfeiriodd at yr Achos Busnes.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Gofynnodd Aelod a oedd y Gwasanaeth cyfan yn cael ei ailstrwythuro.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro - Pobl fod gostyngiad yn y galw mewn rhai meysydd a chynnydd mewn meysydd eraill yn golygu y gellid defnyddio staff yn y meysydd â’r angen mwyaf. Er nad oedd hyn yn ganlyniad i ailstrwythuro mawr, roedd yn gyfle i wella'r ffordd yr oedd y gwasanaeth yn gweithio ac i chwilio am arbedion posibl ar yr un pryd.

      Dwedodd Aelod ei fod yn cydnabod yr anawsterau y mae Penaethiaid Gwasanaethau yn eu hwynebu wrth gynnal y math hwn o adolygiad staffio a chanmolodd y staff am barhau i gyflawni eu rolau gofynnol tra bod y penderfyniadau hyn sy'n aml yn anodd yn cael eu gwneud.

Holodd Aelod a oedd Asesiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (AEDCh) wedi'i gwblhau ar gyfer Cynigion 5,6 a 7 y Gyllideb uchod, gan fod yr Achos Busnes wedi nodi bod angen un arnynt, ond nid oedd un wedi'i gyhoeddi.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro – Pobl fod AEDCh wedi'i chwblhau ar gyfer y Cynnig ac y dylai fod wedi'i gyhoeddi.

Addysg

Cynnig 8 - EDU2021/01 - Cynigion Arbedion y Gwasanaeth Lles Addysg

Amlinellodd y Prif Swyddog Addysg y cynnig a chyfeiriodd at yr Achos Busnes.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Mynegodd yr Aelodau eu pryder y byddai gostyngiad yn nifer y Swyddogion Lles Addysg yn cael effaith andwyol ar bresenoldeb yn yr ysgol ac adroddiadau dilynol Estyn, gan roi pwysau ar ysgolion unigol a holodd a oedd unrhyw ffrydiau ariannu amgen wedi'u nodi i ysgolion i wneud cais amdanynt yn uniongyrchol.

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Addysg, er bod presenoldeb gwael yn sicr yn gysylltiedig ag adroddiadau gwael Estyn, bod ffactorau eraill hefyd yn cael eu hystyried. Er bod ffigurau presenoldeb ar draws y Ddinas wedi gwella, byddai colli 2 swydd Swyddog Lles Addysg yn golygu'r angen i ganolbwyntio'n fanylach ar yr ysgolion hynny a ystyriwyd yn flaenoriaeth.  Ar hyn o bryd canolbwyntiai y SLlAau ar y disgyblion hynny ag 85% neu lai o bresenoldeb ac roedd ysgolion yn canolbwyntio ar y lefelau uwch. Roedd perthynas waith dda gydag ysgolion ac ailasesiad cyson wrth geisio grantiau ariannu hyblyg y gallai ysgolion eu defnyddio. Roedd cyfarfodydd hanner tymor rheolaidd gydag ysgolion yn gyfle i rannu gwybodaeth am arfer gorau mewn ysgolion ac unrhyw grantiau a allai fod ar gael.

      Gofynnodd yr Aelodau a oedd rhai plant yn dal i gymryd gwyliau yn ystod y tymor a holwyd hefyd a fu unrhyw gynnydd yn lefel y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim.

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Addysg fod dal achosion o wyliau’n cael eu cymryd yn ystod y tymor a bod rhieni wedi derbyn hysbysiadau cosb benodedig am hyn. Ni ellid gwneud elw o ddirwyon cosb benodedig; roedd yr incwm a dderbyniwyd yn talu'r costau gweinyddol ac fe'i ail-fuddsoddid mewn ymgysylltu â theuluoedd drwy'r Gwasanaeth Addysg.

      Dywedodd Aelod bod gostyngiad yn sicr yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o addysg Gynradd i Addysg Uwchradd, o bosibl oherwydd y dulliau optio i mewn/allan a oedd ar waith ac awgrymodd fod angen ystyried hyn gan y gellid effeithio ar lefelau ariannu.

Cynnig 9 - EDU2021/02 - Lleihau'r Tîm Cyfoethogi Cynhwysiant

Amlinellodd y Prif Swyddog Addysg y cynnig a chyfeiriodd at yr Achos Busnes. 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Mynegodd Aelod bryder bod rhestrau aros hir ar hyn o bryd i ddisgyblion a atgyfeiriwyd i gael eu gweld gan seicolegydd addysg a gofynnodd pa effaith y byddai'r cynnig yn ei gael a beth fyddai'r effaith o ran y clwstwr.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg, er y byddai'r cynnig hwn yn sicr yn cael effaith ar ysgolion, fod angen edrych yn fanwl ar y maes gwaith hwn i asesu lle y gellid rheoli'r golled yn haws ac mae'n debyg na fyddai'n effeithio ar swyddi seicolegwyr ond ar feysydd eraill.  O ran clwstwr gallai'r cynnig arafu prosesau a gallai leihau lefel yr hyfforddiant athrawon.

      Gofynnodd Aelod sut roedd y gwasanaeth yn cymharu â gwasanaethau Awdurdodau eraill ac a ellid rhannu adnoddau ag Awdurdodau eraill.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg nad oedd unrhyw rannu adnoddau rhwng Awdurdodau, fodd bynnag, rhennid gwybodaeth yn strategol rhwng Penaethiaid Cynhwysiant.

Cynnig 10 - EDU2021/03 - Cyllid Caledi Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent Amlinellodd y Prif Swyddog Addysg y cynnig gan gyfeirio at yr Achos Busnes.  Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

      Pwysleisiodd Aelod bwysigrwydd cefnogi cerddoriaeth a'r cyfleusterau celfyddydol mewn ysgolion oherwydd eu rhinweddau cyfoethogi ar gyfer disgyblion, ac ar gyfer disgyblion llai breintiedig yn arbennig. Er ei fod yn cydnabod cyfraniad Casnewydd i'r gwasanaeth, roedd y gostyngiad arfaethedig yn swm sylweddol a byddai'n cael effaith fawr ar y disgyblion.

Ymatebodd y Prif Swyddog Addysg drwy ddweud bod gwasanaethau cerddoriaeth ar draws y rhanbarth yn gyffredinol yn ei chael hi'n anodd gyda chyllid a bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio cael gafael ar arian ychwanegol. Wrth helpu a chefnogi, roedd angen ystyried bod cyfraniad Casnewydd yn fwy na'r cyfranwyr eraill.

      Gofynnodd Aelod a oedd cymorth arall yn cael ei roi i Wasanaeth Cerdd Gwent gan yr Awdurdod.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod cymorth yn cael ei ddarparu drwy’r ddefnydd o adeiladau, a bod y Gwasanaeth Cerdd wedi llwyddo i sicrhau grant mawr y llynedd a'i fod yn aros i glywed am yr un grant eleni.

      Gofynnodd Aelod a oedd y Grant Amddifadedd Disgyblion yr un fath yng Nghymru ag yn Lloegr ac a ellid ei ddefnyddio ar gyfer Cerddoriaeth.

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Addysg ei fod yr un fath, ond bod yn rhaid i ysgolion ei ddefnyddio i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cystal ag y gallent.  Gellid ei ddefnyddio ar gyfer Cerddoriaeth ac mewn rhai ysgolion fe'i defnyddiwyd ar gyfer sesiynau blasu cerddoriaeth i ennyn brwdfrydedd, neu wersi gr?p, un i un neu ensembles gr?p ar benwythnosau.  Byddai ysgol yn gwneud cais petai ganddynt blentyn mewn angen. Gallai adolygiad o bolisi Cerddoriaeth Gwent ar ddefnyddio grant caledi / amddifadedd roi eglurder.

      Holodd Aelod sut mae'r Awdurdod yn gweithio i dynnu sylw at grantiau o'r Celfyddydau ac ati i roi diwylliant ehangach i ddisgyblion.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod Rheolwr y Gwasanaeth Cerdd wedi gwirfoddoli i arwain gwaith Cymru Gyfan ar gael gafael ar arian ychwanegol, a oedd yn ceisio sicrhau cynaliadwyedd a chymorth i gefnogi.

Cynnig 11 EDU2021/04 – Gwell Effeithlonrwydd Cyllidebol o fewn Gwasanaethau Addysg  

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Addysg at yr Achos Busnes i adolygu tâl rheoli Gwasanaethau Addysg Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS) a throsglwyddo darpariaeth Uned Cyfeirio Disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i leoliad amgen a gwell.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

Gofynnodd Aelod a ddarparwyd cludiant i'r rhai a oedd yn mynychu'r UCD wedi'i hadleoli.

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Addysg fod cludiant yn cael ei ddarparu i'r rhai nad oeddent yn byw o fewn pellter cerdded.

Ariannu Ysgolion - Adran 3 Adroddiad y Cabinet

      Mynegodd Aelod bryder ynghylch y datganiad ym mharagraff 3.11, tudalen 29 o adroddiad y Cabinet sydd ynghlwm fel Atodiad A, ynghylch Ysgolion a'r effaith ar gyllideb gyffredinol y Cyngor oherwydd gorwario Ysgolion:

"Amlygwyd lefel gorwario yn ystod y flwyddyn fel risg yn 2018/19 ac mae'n parhau i fod yn faes pryder sylweddol.  Mae ysgolion wedi defnyddio £1.7m allan o gronfeydd wrth gefn ysgolion dros y 2 flynedd ddiwethaf i ariannu gorwario ar eu cyllidebau a byddai rhagamcanion cyfredol o £3.1m o orwario yn golygu y byddai balansau wrth gefn yn gostwng i sero ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon sef 2019/20.  Mae swyddogion yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion i sicrhau bod cynlluniau adfer diffyg ar waith a bod camau'n cael eu cymryd i leihau gwariant.  Mae'r penderfyniad hwn yn hollbwysig gan nad yw'r lefelau gwariant presennol mewn ysgolion yn gynaliadwy a gallai effeithio’n sylweddol ac andwyol ar gyllid cyffredinol y cyngor pe byddai’n parhau fel hyn.”

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid pe bai ysgol yn mynd i falans negyddol yn ariannol yna byddai'r Cyngor yn ysgwyddo effaith y diffyg. Gweithiodd y Gwasanaeth yn agos iawn gydag ysgolion i asesu problemau gorwario a, lle bo angen, archwiliodd eu cynlluniau busnes ac adfer. Yn seiliedig ar ragolygon cyfredol ni fyddai unrhyw gapasiti i orwario y flwyddyn nesaf ac o ystyried yr her hon, roedd yn hanfodol bod y Cyngor yn parhau i adolygu'n ofalus yr holl bwysau cyllidebol yn rheolaidd a sicrhau bod gwasanaethau'n gweithredu mewn modd sy'n rheoli gofynion yn effeithiol.

      Roedd yr Aelodau'n pryderu y dylid sicrhau bod Cyrff Llywodraethu yn ymwybodol o oblygiadau unrhyw ddiffygion yn ymwneud â gorwario ar allu'r Cyngor i fantoli ei gyllideb.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod y neges yn cael ei chyfleu drwy amrywiaeth o ddulliau: mewn Fforymau Ysgolion a'r Cofnodion a anfonwyd at bob ysgol, a ddylai gael eu darllen gan bob llywodraethwr; mewn cyfarfodydd rheolaidd â Phenaethiaid cafwyd trafodaeth bob amser am gyllid a'r angen i ysgolion ofalu am eu harian eu hunain a mantoli eu cyllidebau. Pwysleisiwyd eu bod yn cydnabod yr angen i fod yn gyfrifol a gwneud penderfyniadau heriol lle bo angen. Cynhaliodd penaethiaid eu cyfarfod eu hunain gyda Llywodraethwyr hefyd ac felly dylent fod yn ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu eu hysgolion.

Cynigiodd y Prif Swyddog Addysg y gellid anfon Nodyn Briffio at bob Corff Llywodraethu i'w hatgoffa o'r angen i bennu cyllideb gytbwys, effaith diffygion ysgolion unigol ar Gyllideb y Cyngor, yr angen i dynnu'r diffygion a ragwelir yn ôl ac y gallai adolygiadau ysgolion unigol eu cynorthwyo lle bo angen.

   

Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod y Cabinet wedi cymeradwyo'r cynigion drafft a'u bod bellach yn ymgynghori arnynt a'u bod yn ymwybodol o sefyllfa'r ysgolion a'r angen i fantoli.  Byddai cronfeydd wrth gefn ysgolion yn agos at, os nad yn sero erbyn diwedd y flwyddyn, ac ni fyddai unrhyw gapasiti i amsugno gorwariant y flwyddyn nesaf.  Roedd angen i ysgolion gydnabod na allent fodoli ar eu pennau eu hunain a bod unrhyw orwariant neu fater cyllidebol yn effeithio ar y ddinas gyfan a gwasanaethau eraill ar y cyd fel Cyngor.

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid y Pwyllgor fod Cynigion Cyllideb Ddrafft y Cabinet wedi'u datblygu cyn derbyn y Setliad Llywodraeth Leol ac wedi hynny, roedd gan y Cabinet hyblygrwydd o tua £7m i ystyried ei gynigion cyllideb terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad ac unrhyw fuddsoddiadau newydd arfaethedig.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor am yr angen i fynegi'n glir yn y Cofnodion ei sylwadau ar gynigion penodol, i'w hystyried gan y Cabinet fel rhan o'r ymgynghoriad.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Gwahoddedigion am fynychu.

Casgliadau – Sylwadau i’r Cabinet

Nododd y Pwyllgor y cynigion cyllideb oedd yn berthnasol i Wasanaethau Pobl a chytuno i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

Dymunodd y Pwyllgor wneud y sylwadau canlynol i'r Cabinet ar y Cynigion o fewn y Meysydd Gwasanaethau Pobl:

Sylwadau Cyffredinol

      Soniodd y Pwyllgor am anghysondeb cwblhau Achosion Busnes, gyda lefelau amrywiol o fanylder wedi’u darparu.

      Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd yr holl Asesiadau o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb y nodwyd eu bod yn ofynnol mewn Achosion Busnes ar gael, ac wedi’u cyhoeddi yn ôl y gofyn.

Cynnig 3 - AS2021/07 - Gostyngiad yn y cyllid a ddyfarnwyd i sefydliadau'r trydydd sector

      Cyngor ar Bopeth:

Mynegodd y Pwyllgor bryder bod gwaith Cyngor ar Bopeth yn hanfodol ac yn hollbwysig yn yr hinsawdd economaidd a'r angen i sicrhau nad oedd yn cael ei danseilio.  Roedd angen egluro'r cynnig ar gyfer arbedion cyllidebol ar gyfer Cyngor ar Bopeth a'r effaith i'r cyhoedd mewn ymgynghoriad, nad oedd y Cyngor yn dileu ei holl gyllid, ond yn cyfuno’i gefnogaeth i un contract.

      GrowingSpace:

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am gynaliadwyedd cyllid y gwasanaeth y tu hwnt i ddiwedd y cyllid Ewropeaidd.

      Mind:

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am ddiffyg posibl yn y dyfodol, pe bai ffrydiau ariannu drwy'r Consortiwm yn y dyfodol yn dod i ben.

      Clwb Byddardod:

Gofynnodd y Pwyllgor a ellid cynorthwyo / cyfeirio'r sefydliad tuag at safleoedd.

      Grant Gofalwyr:

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am ddiffyg posibl yn y dyfodol, pe bai cyllid gan Gyllid Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dod i ben ar ôl 2021.

Cynnig 5 - CFS2021/02 - Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Partneriaeth Barnado’s

      Mynegodd y Pwyllgor bryder am effaith y cynnig hwn ar "gapasiti is i dderbyn atgyfeiriadau ac effaith bosibl ar nifer y plant mewn gofal" 

y cyfeirir atynt yn yr Achos busnes, a hefyd y gost bosibl i'r Awdurdod yn y dyfodol pe bai cyllid o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dod i ben ar ôl 2021.

Cynigion Gwasanaethau Cymdeithasol:

      Mynegodd y Pwyllgor bryder bod yr angen am wasanaethau cymdeithasol yn cynyddu tra bod y cynigion a oedd yn cael eu hystyried ar draws y Gwasanaethau Oedolion a'r Gymuned a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn dod i gyfanswm o dros £1m, cyfran fawr ar ailgynllunio gwasanaethau a dileu staffio.  Mynegwyd pryder ynghylch y ddibyniaeth ar gyllid CGI a Grant Thrawsnewid a phwysau ariannu yn y dyfodol, pe bai'r ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru hyn yn dod i ben ar ôl 2021.

Cynnig 8 - EDU2021/01 - Cynigion Arbedion y Gwasanaeth Lles Addysg

Mynegodd y Pwyllgor bryder am yr effaith y byddai'r gostyngiad arfaethedig o 2 Swyddog Lles Addysg CALl yn ei chael ar bresenoldeb yn yr ysgol, ac yn y tymor hwy, ysgolion yn mynd i fesurau arbennig a'r pwysau ar ysgolion.

Cynnig 9 - EDU2021/02 - Lleihau'r Tîm Cyfoethogi Cynhwysiant

Mynegodd y Pwyllgor bryder am y cynnig i leihau'r Tîm Cynhwysiant, yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau a'r gostyngiad mewn hyfforddiant athrawon, a theimlai yn gryf na ddylai'r gostyngiad effeithio ar wasanaeth rheng flaen fel Seicolegwyr Addysg.  Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cabinet ddileu'r cynnig hwn, o ystyried yr hyblygrwydd yn y Gyllideb ers derbyn y Setliad Llywodraeth Leol

Cynnig 10 - EDU2021/03 - Lleihau Cyllid Caledi Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent

       Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y bwriad i ddileu rhan o'r cymhorthdal ar gyfer ariannu caledi, oherwydd yr effaith debygol ar blant difreintiedig.  Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cabinet ddileu'r cynnig hwn, o ystyried yr hyblygrwydd yn y Gyllideb ers derbyn y Setliad Llywodraeth Leol.

       Awgrymodd y Pwyllgor y dylid gofyn i Gerdd Gwent adolygu ei pholisi ar ddefnyddio grant caledi / amddifadedd er mwyn rhoi eglurder.

Ariannu Ysgolion:

       Argymhellodd y Pwyllgor y dylid datblygu proses Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 3 blynedd mwy strategol ar gyfer y Cyngor, a fyddai'n helpu i gynllunio Cyllideb y Cyngor ymhellach ymlaen llaw ac yn cysylltu â chynllunio ymhellach ymlaen llaw ar gyfer cyllid ysgolion.  

       Cymeradwyodd y Pwyllgor anfon Nodyn Briffio at bob Corff Llywodraethu i'w hatgoffa o'r angen i bennu cyllideb wedi’i mantoli, effaith diffygion ysgolion unigol ar Gyllideb y Cyngor, yr angen i dynnu'r diffygion a ragwelir yn ôl ac y gallai adolygiadau ysgolion unigol eu cynorthwyo lle bo angen.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor mai hwn fyddai cyfarfod Pwyllgor Craffu olaf y Cynghorydd Craffu cyn iddi adael yr Awdurdod i ymgymryd â'i swydd newydd, diolchodd iddi am ei chefnogaeth a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol.

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm

 

Dogfennau ategol: