Agenda item

Adroddiad Rheoli Trysorlys

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Reoli'r Trysorlys i'w cymeradwyo gan y Cyngor ac (i) i gadarnhau'r rhaglen gyfalaf, fel rhan o'r Strategaeth Gyfalaf a (ii) y terfynau benthyca amrywiol a dangosyddion eraill fel rhan o Strategaeth Reoli'r Trysorlys. Yn ogystal, nododd yr adroddiad gostau cynyddol ariannu benthyca allanol y Cyngor a her fforddiadwyedd hyn o ran y tymor canolig i hirdymor.    Cafodd effaith refeniw'r ddwy strategaeth ei chynnwys yn yr Amcanestyniadau Ariannol Tymor Canolig a gymeradwywyd ar wahân gan y Cabinet fel rhan o adroddiad cyllideb 2020/21.

 

Gwnaed cynnydd da o ran cyflwyno rhai cynlluniau allweddol hyd yma e.e. y Bont Cludo, Hybiau Cymdogaeth, ail-ddatblygu canol y Ddinas, ysgolion newydd. Roedd y rhaglen gyfalaf bresennol yn cynnwys tua £186m o brojectau a gymeradwywyd eisoes a thua £16m o brif le cyfalaf pellach ar gyfer projectau pellach - cyfanswm o £202m o fuddsoddiad yn y ddinas, a oedd yn cyflawni blaenoriaethau allweddol.

 

Crynodeb o’r Argymhellion

 

Amlinellodd y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ymhellach yn yr adroddiad hwn, y rhaglen gyfalaf bresennol hyd at 2024/25 (dyma'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd 2 flynedd ar gyfer projectau yr oedd eu cwblhau'n rhychwantu y tu hwnt i'r 5 mlynedd), cysylltiadau â phenderfyniadau rheoli'r trysorlys a barn hirdymor a dynnodd sylw at yr heriau sy'n wynebu'r awdurdod ar gyfer penderfyniadau cyfalaf yn y dyfodol.

 

Strategaeth Benthyca Rheoli’r Trysorlys

 

Roedd y gallu i fenthyca mewnol ymhellach wedi cyrraedd capasiti a byddai'n lleihau dros y tymor canolig i'r hirdymor. Yn 2020/21 roedd disgwyl i'r Cyngor ymgymryd â benthyca allanol, ar gyfer ail-gyllido benthyciadau sy’n aeddfedu ac ariannu'r rhaglen gyfalaf bresennol; byddai’n aros fel cymaint o ‘fenthyg yn fewnol’ ag oedd yn bosibl ac yn cynyddu benthyca allanol gwirioneddol dim ond pan fo angen i reoli ei ofynion arian parod. Fodd bynnag, gall y Cyngor, lle teimlai fod angen lliniaru'r risg o gynnydd yn y gyfradd llog, gan ymgymryd â benthyca'n gynnar i sicrhau cyfraddau llog o fewn cyllidebau refeniw y cytunwyd arnynt. Byddai hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ein Cynghorwyr Trysorlys.

 

Gweithgareddau Masnachol

 

Mae Adran 6 y Strategaeth Cyfalaf yn manylu ar weithgareddau masnachol y Cyngor, gan gynnwys cymeradwyo cronfa fuddsoddi gwerth £50 miliwn ar gyfer buddsoddiadau mewn eiddo masnachol, sydd wedi'i chynnwys yn y terfynau benthyca a nodir yn yr adroddiad. Er na ddefnyddiwyd y gronfa hon ar hyn o bryd, gall y gronfa cael ei defnyddio yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am fwy o naratif wrth ddarllen drwy'r adroddiad.

 

Cododd yr Aelodau'r ymholiadau canlynol:

 

•A oes unrhyw arian wedi'i wario

•Pryd ddigwyddodd hyn - Hydref 2019

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pam yr oedd gofyniad i adolygu'r gronfa fuddsoddi pan fu cynnydd o 1% yng ngordrethi’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, ac ymhellach, sut y byddai cynnydd cymharol fach yn cael effaith mor fawr.  Dywedwyd felly y dylid ystyried y sylw hwn a'i adlewyrchu yn yr adroddiad i'r Cabinet.

 

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys

 

Mae'r Cyngor yn ymwneud â dau fath o weithgarwch trysorlys:

 

*Benthyca yn yr hirdymor at ddibenion cyfalaf a thymor byr ar gyfer llif arian dros dro;

 

*Buddsoddi arian dros ben.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gytuno ar fenthyca fforddiadwy Cynllun Ariannol Tymor Canolig sy'n gysylltiedig â'r benthyca hwnnw.

Nid yw'r strategaeth fenthyca wedi newid.

Strategaeth fuddsoddi £10m i eistedd gyda'r Cyngor

 

Cytunwyd:

Awgrymodd y Pwyllgor y gallai eu sylwadau ar y Strategaeth Gyfalaf fod yn gryfach, gan nad oedd yn rhoi ffigwr diffiniedig ar faint y dylid lleihau'r benthyca.  Felly, roedd y Pwyllgor am i'r sylw hwn gael ei adlewyrchu yn yr adroddiad i'r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: