Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2018-2019

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol  Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cyngor.

 

Nid oedd yn arfer i’r Aelod Cabinet gyflwyno hyn, fodd bynnag, ymddeolodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ym mis Tachwedd 2019. 

 

Perfformiad oedolion – perfformiad cryf yn gyffredinol

Mae'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty ychydig uwchlaw lle y dylai fod ond mae hwn yn faes gwaith cymhleth ac mae'r ffigur yn cynrychioli mwy o weithgarwch yn yr ysbytai.

 

Mae mentrau megis In Reach lle mae gweithwyr cymdeithasol yn dechrau gweithio gyda chleifion i gynllunio eu rhyddhau wrth iddynt fod ar y ward o hyd a'r ffaith bod gwasanaethau ailalluogi ar gael yn arwain at amseroedd gweithredu cyflymach a all arwain at fwy o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn y gymuned.

 

Mae ailalluogi yn cael effaith gadarnhaol, gyda 84% o bobl yn cael eu rhyddhau o'r gwasanaeth heb unrhyw anghenion cymorth pellach neu gyda gostyngiad yn eu cynllun gofal.

 

Er mwyn cefnogi a datblygu'r diwylliant hwn ymhellach, rydym yn symud tuag at fodel derbyn o ail-alluogi sy'n golygu bod hyd yn oed pobl nad ydynt erioed wedi cael pecyn gofal yn derbyn gwasanaeth ail-alluogi wrth gael eu rhyddhau er mwyn sicrhau eu bod mor annibynnol â phosib.

 

Perfformiad plant – mae ffigurau diwedd blwyddyn yn rhesymol yng nghyd-destun nifer gynyddol o atgyfeiriadau a'u cymhlethdod.

Mae 58% o'r mesurau yn wyrdd – gyda naw mesur wedi dangos gwelliant yn erbyn y cyfnod blaenorol. Mae cymhlethdod cynyddol a galw cynyddol wedi cael effaith sylweddol ar y gallu i fwrw targedau Llywodraeth Cymru

 

Mae nifer y plant a gynorthwyir i aros gyda'u teulu yn 8% yn is na'r targed ac mae'r trefniadau gweithio ar y cyd rhwng Barnardo's a staff CDC wedi'u gwella drwy gyflwyno Cynadleddau Gr?p Teulu lle mae teuluoedd yn gweithio ar y cyd gyda gweithwyr proffesiynol mewn ffordd strwythuredig i ddatrys eu problemau.

 

Dylai nifer y plant sy'n cael eu dychwelyd adref o leoliad gofal fod ar 13%, ac mae ar 8.3%.  Mae hyn yn adlewyrchu lefel y cymhlethdod o ran rhai achosion a gellir rhoi sicrwydd bod pob plentyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd a bod y dewis gorau yn cael ei ganfod ar gyfer y plentyn

Mae canran y plant sydd wedi cael 3 lleoliad neu fwy yn 15.63% yn erbyn targed o 9%.  I liniaru hyn, mae'r Fforwm Rhianta Corfforaethol wedi cael ei adfywio ac mae cyfleoedd ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc wedi'u gwella er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau i gynorthwyo plant pan fyddant yn dod i'r maes gofal gyntaf.

 

Mae lefelau digartrefedd ymysg y rhai sy'n gadael gofal wedi cynyddu i 21% yn erbyn targed o 10%.  Mae hyn yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol ond mae gwaith penodol yn cael ei wneud yng Nghasnewydd i adolygu'r holl lety 16+.  Mae eiddo ychwanegol wedi ei sicrhau ac mae Rheolwr Gwasanaeth a gefnogir gan reolwr tîm yn goruchwylio pob gwasanaeth sy'n gysylltiedig â llety

Mae pobl sy'n gadael gofal ac sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl iddynt adael gofal wedi eu cofnodi yn 36.36% yn erbyn targed o 50%, mae'r nifer yn gwella ar 24 mis i 49%.  Mae hyn wedi bod yn duedd mewn blynyddoedd blaenorol ond gwneir gwaith penodol yn ystod 2019/20 i wella dewisiadau ar gyfer profiad gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar gyfres newydd o fesurau a gaiff eu gweithredu fesul cam o 2020.

 

Atal ac Ymyrryd yn Gynnar

 

Oedolion

Gwybodaeth, cyngor a chymorth - y Tîm Cyswllt Cyntaf yw lle y gall tîm amlddisgyblaethol gyfeirio pobl gan gynnwys diogelu, therapyddion galwedigaethol a chyngor tai, nam ar y synhwyrau, taliadau uniongyrchol a chyngor ariannol.

 

Mae 79% o'r oedolion a dderbyniodd gyngor a chymorth gan y tîm cyswllt cyntaf nad ydyn nhw wedi gwneud ymholiad pellach o fewn 6 mis – sy’n nodi eu bod yn darparu cymorth priodol ar y pwynt cynharaf.

 

Cofnododd yr arolwg i ddinasyddion fod 66% o oedolion wedi derbyn y cyngor a'r wybodaeth gywir pan oedd angen

 

Mae Gartref Gyntaf yn enghraifft o fenter ranbarthol rhaglen drawsnewid Llywodraeth Cymru sydd wedi ymestyn y cynnig o GCC i leoliad ysbyty gan fod y tîm yn cynnig cymorth i bobl ar wardiau cyn derbyn gyda'r bwriad o'u hatal rhag cael eu derbyn.  Dechreuodd y fenter ym mis Tachwedd 2018 a'r arwyddion yw ei bod yn dod yn rhan annatod o ddiwylliant ysbytai a'i bod bellach yn bartner allweddol yn y broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion.

 

Yr adroddiad oedd gwerthusiad y Cyfarwyddwr o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19.  Roedd yn cydymffurfio o ran fformat a chynnwys â'r gofynion statudol ar gyfer adroddiad y Cyfarwyddwr.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

§  Nododd y Cynghorydd Truman fod yr adroddiad yn dangos gwaith da iawn ar sail tystiolaeth, ei fod yn cydblethu â'r amcanion lles a diolchodd i'r holl swyddogion, gofalwyr, teuluoedd a gwirfoddolwyr, a oedd yn aml wedi wynebu cyfnod anodd ac y dylid cymeradwyo hyn ac yn arbennig y gwirfoddolwyr oedd yr arwyr tawel.

 

§  Cytunodd y Cynghorydd Giles yn llwyr â'r Cynghorydd Truman a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu gwaith rhagorol.  Roedd angen canolbwyntio ar y gwasanaeth gofalwyr ifanc a'r effaith ganlyniadol ar eu bywyd cartref a'u gwaith ysgol.  Roedd y gefnogaeth i ofalwyr ifanc yn wych, gyda darparu diwrnodau i ffwrdd a grwpiau cymorth gyda chyfle i blant gyfarfod mewn amgylchiadau tebyg.

 

§  Adleisiodd y Cynghorydd Jeavons sylwadau ei gydweithwyr a chyfeiriodd at y gostyngiad mewn dedfrydau carchar; pedwar yn unig am y cyfnod, sef yr isaf a gofnodwyd yng Nghasnewydd.  Gofynnodd y Cynghorydd Jeavons am i hyn gael ei godi mewn ysgolion cynradd yng Nghasnewydd.

 

§  Tynnodd y Cynghorydd Guy sylw at y ffaith bod hwn yn wasanaeth pwysig a oedd yn cwmpasu pob oedran a chefndir, ac os collir y gwasanaeth hwn, byddai'n cael canlyniadau difrifol. 

 

§  Soniodd y Cynghorydd M Evans fod y gr?p Ceidwadol wedi croesawu'r adroddiad er nad oedd yn hollol gadarnhaol.  Roedd ffigurau digartrefedd, gyda 10% o bobl ifanc yn gadael gofal, wedi dyblu o 12.5% i 22%.  Roedd gobaith mawr bod gwelliannau sylweddol wedi eu gweithredu ers i’r adroddiad 18/19 gael ei gyhoeddi. Yn ail, cyfeiriodd yr adroddiad at y gwaith rhagorol yr oedd Barnardos wedi'i wneud i gadw teuluoedd gyda'i gilydd a'r gobaith oedd na fyddai'r toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar y gwasanaeth hwn.  Yn olaf, codwyd pryderon yn y Pwyllgor Rheoli Craffu ym mis Tachwedd mewn perthynas â'r mesurau perfformiad sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.  Roedd y dehongliad yn anghyson ac nid oedd y fethodoleg a gofnodwyd ar draws Cymru yn gadarn; megis gofal deintyddol i blant a oedd yn isel o ran canran.  Croesawodd felly y Cynghorydd Evans y ffaith bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofynnodd iddo ysgrifennu eto ynghylch y materion hyn.

 

§  Tynnodd y Cynghorydd D Williams sylw at sylwadau cadarnhaol gan blant ifanc a gyflwynwyd yn yr adroddiad am eu profiad gyda Chasnewydd, er gwaethaf y materion a godwyd gan ei gydweithiwr.

 

§  Gwahoddodd y Dirprwy Faer yr Aelod Cabinet i ymateb.  Roedd y Cynghorydd Cockeram wedi codi pryderon gyda'r Gweinidog, fel y crybwyllodd y Cynghorydd Evans, a byddai'n ystyried y sylwadau ynghylch Barnardo's.  Roedd ymgynghoriad wrthi’n cael ei gynnal ar y mater ar hyn o bryd.  Roedd digartrefedd yn broblem ac mae'n rhaid i Gasnewydd wneud mwy a darparu cymorth yn ôl yr angen.

 

Penderfynwyd:

i’r Cyngor gytuno’n unfrydol i dderbyn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, 2018/19.

 

Dogfennau ategol: