Agenda item

Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg 2020-21

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Sarah Morgan - Prif Swyddog Addysg

Andrew Powles - Dirprwy Brif Swyddog Addysg

Ed Pryce - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Strategaeth a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)

Hayley Davies-Edwards - Prif Gynghorydd Herio, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg Ed Price a Hayley Davies-Edwards i’r pwyllgor. Mae Hayley yn goruchwylio’r Ymgynghorwyr Herio, ac mae Ed yn rheoli’r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr hefyd. Hefyd nodwyd bod y Pennaeth Addysg Cynorthwyol yn gweithredu fel cleient deallus, sy’n sicrhau bod y GCA yn darparu’r gwasanaeth sydd ei angen i fodloni angen plant Casnewydd a bod y cynllun gwasanaeth addysg yn ategu cynlluniau ar gyfer ysgolion.

 

Wedyn rhoddodd EP drosolwg o’r adroddiad i’r pwyllgor; mae’r fformat yn debyg iawn i’r hyn y daethpwyd ag ef i’r pwyllgor o’r blaen, er bod agweddau allweddol sy’n wahanol yn nhermau dulliau cyflawni. Roedd uchafbwyntiau a roddwyd i’r pwyllgor yn cynnwys:

 

Mae’r GCA yn gwmni cyfyngedig dielw sy’n eiddo i’r pum awdurdod lleol (ALl) yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r GCA yn darparu, trwy Gynllun Busnes y cytunwyd arno, ystod eang o wasanaethau gwella ysgolion i bob ysgol (pob cyfnod allweddol, gan gynnwys ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig), unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau meithrin nas cynhelir ar ran pob ALl. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi’r rôl sydd gan ALlau wrth gyflawni eu swyddogaeth statudol, gan fynd i’r afael â’u blaenoriaethau gwella unigol a hyrwyddo canlyniadau gwell i ddisgyblion.

 

Mae angen i’r Gwasanaeth Cynghori ar Addysg gyflwyno Cynllun Busnes rhanbarthol trosfwaol blynyddol gydag atodiadau cysylltiedig ar gyfer pob un o’r pum ALl. Mae’r Cynllun Busnes (2020-21) yn amlinellu’r rhaglen waith sydd ei hangen er mwyn parhau i gyflymu canlyniadau i blant a phobl ifanc ar draws pob ysgol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar yr angen taer i godi dyhead a chyflymu gwelliant o ran canlyniadau i ddisgyblion, gwella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth ac adeiladu system hunan-wella o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Cynllun Busnes 2020-2021 wedi deillio o’r cynnydd a wnaed tuag at y Cynllun Busnes blaenorol a chynnydd a wnaed ar draws y rhanbarth gyda’r meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen eu gwella trwy brosesau hunanarfarnu ac adborth gan Estyn ar arolygu’r GCA.

 

Mae pob ysgol yn cael pecyn cymorth pwrpasol sy’n ategu’r blaenoriaethau a nodwyd o fewn ei Gynllun Datblygu Ysgol (CDY) ei hun yn unol â lefelau’r cymorth sydd eu hangen arni. Caiff lefelau’r cymorth eu llywio gan y broses gategoreiddio genedlaethol, canlyniadau arolygiadau Estyn neu ddeallusrwydd lleol.  Mae rhywfaint o hyblygrwydd yn y model lleoli er mwyn caniatáu newidiadau yn ystod y flwyddyn o ran amgylchiadau. Mae’r cynnydd y mae ysgolion yn ei wneud tuag at eu blaenoriaethau yn eu CDY ac yn erbyn eu targedau lleol yn cael ei gofnodi bob tymor a’i adrodd i awdurdodau lleol.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-       O ran mesur mynediad, sut rydym yn gwybod beth yw llwyddiant? Dywedwyd wrth yr Aelodau y câi ei fesur yn ôl deilliannau disgyblion. Nid yw Cyfnodau Allweddol 2 a 3 wedi’u hagregu ar lefel yr Awdurdod Lleol. Y rhesymeg yw bod yr ysgol yn symud tuag at fodel cwricwlwm newydd, felly mae angen asesu. Y llynedd, gostyngodd y canlyniadau ychydig felly ar y cyd bydd deilliannau’r ysgol yn gostwng. Nid yw perfformiad yn yr Ysgol Gynradd o bwys i EP, Cyfnod Allweddol 4 yw’r cyfnod sy’n bwysicaf i rieni, yr hyn sy’n bwysig i ni yw’r hyn y mae dysgwyr yn ei gyflawni. Gyda’r mesurau newydd bydd yn canolbwyntio ar ddysgwyr newydd.

Roedd HDE yn falch iawn o ddweud ein bod yn symud i mewn i fyd sy’n edrych ar gynnydd dysgwyr. Yng Nghymru, rydym yn gwella o ran rhoi llinell sylfaen i blant, er enghraifft pa mor bell mae’r plentyn wedi datblygu, faint o gynnydd a wnaed Fel Ymgynghorydd Herio, byddant yn mynd i mewn i ysgolion ac yn edrych ar lyfrau plant.  Ychwanegodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol eu bod yn disgwyl y dylai deilliannau alinio gyda chategoreiddio a phresenoldeb. Mae cyd-destun ehangach o lawer. Cynhelir cyfarfodydd yn fisol. Mae’r ystod o ddata y mae’r Cyngor yn ei adolygu gyda’r GCA yn dda.

 

-       Sut allwch chi werthuso sut mae’r bartneriaeth yn gweithio? Dywedodd AP fod hyn yn cael ei fesur bob amser. Y cyfarfodydd mwyaf pwerus yw’r cyfarfodydd misol y mae AP ac SM a’r Rheolwyr Gyfarwyddwyr yn eu mynychu. Maent yn trafod pob ysgol sy’n bryder a cheir trafodaethau di-flewyn-ar-dafod a gonest iawn o ran a yw’r gefnogaeth mewn ysgolion yn cael ei ffurfweddu yn y ffordd gywir ac a welir effaith.

Mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn disgwyl gweld cynllun gwaith manwl ar gyfer y GCA.

 

-       Cwestiynodd yr Aelodau’r pwynt ar dudalen 17 yr adroddiad - caiff rhaglen ddysgu broffesiynol ranbarthol a fframwaith rheoli talent eu

gweithredu er mwyn nodi ac olrhain arweinwyr uchelgeisiol. Sut y câi hyn ei feincnodi, a sut mae ei fesur? Dywedwyd wrth yr Aelodau nad yw’n ddeuaidd. Mae’r GCA yn cynyddu mewn ysgolion uwchradd er mwyn canolbwyntio. Y meincnod fyddai cymharu gwybodaeth am ddata Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer Cymru gyfan. Rhoddwyd enghraifft gan gymharu dysgwyr prydau ysgol am ddim mewn ysgol gydag ysgolion tebyg fel meincnod.

 

-       Holodd yr Aelodau am yr Uned Cyfeirio Disgyblion a gofynnon nhw sut fyddai’r bartneriaeth yn lliniaru effaith negyddol ar ddisgyblion? Dywedwyd wrth yr Aelodau, yn gyntaf byddai’n ystyried a yw’n lleoliad yr Awdurdod Lleol, gan y byddai’n galluogi cymhariaeth fwy cyfartal.  Byddai’n olrhain dysgwyr unigol ac yn edrych ar y cwricwlwm mwyaf addas. Mae’n bosibl y byddai’n edrych ar gymwysterau amgen.

Yna rhoddodd SM enghraifft o newid darpariaeth eleni mewn ysgol uwchradd fawr, ac edrychodd y bartneriaeth ar y cynllun datblygu ysgol. Gyda’r ddarpariaeth newydd, byddai’r bartneriaeth yn edrych ar yr arweinyddiaeth, a yw’r prosesau hunanarfarnu cywir yn cael eu cynnal? Hefyd dywedwyd bod AP ac SM yn mynychu’r cyfarfodydd Cynllun Datblygu Ysgol ynghyd â’r Pennaeth a’r Prif Ymgynghorydd Herio.

 

-       Holodd yr Aelodau sut y byddai’r bartneriaeth yn monitro ysgolion sydd wedi mynd o fesurau Ambr i fesurau Coch. Dywedwyd wrth yr Aelodau gydag ysgolion Ambr, os bydd pryderon, byddai’n sbarduno adolygiad o’r arweinyddiaeth. O ganlyniad i’r adolygiad hwn byddai’n rhoi cefnogaeth ychwanegol i’r ysgol. Yna dywedwyd bod hwn yn ddarn newydd o waith y cydnabyddir bod angen ei gryfhau. Ychwanegodd EP, weithiau gall fod rhywfaint o wrthwynebiad pan nodir problemau, a dim ond pan fyddwch yn goresgyn y rhwystrau hyn y gall ysgolion gydnabod bod problem. Mae angen hyn fel y gall partneriaid weithio’n effeithiol gyda’r ysgol. Dywedodd yr Aelodau yr hoffent weld system ar waith lle y gellir tynnu sylw at broblemau cyn iddynt fynd yn gritigol.

 

-       Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y pwyllgor, yn aml bydd y rheolwyr yn pwyso a mesur cyn y disgwylir arolwg Estyn beth bynnag yw’r categoreiddio. Mae gan swyddogion ddealltwriaeth eang o’r hyn sy’n mynd yn dda yn yr ysgol, a all sbarduno trafodaethau a enillir gyda’r Prif Swyddog Addysg ac AP. Wedyn dywedwyd bod sgyrsiau cynnar yn bwysig. Ychwanegodd EP fod ymgysylltu yn sbardun mawr a rhoddodd enghraifft; mae patrwm sy’n dod i'r amlwg fel pennaeth nad yw'n mynychu cyfarfodydd fel arfer yn arwydd o broblem.

 

-       A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer buddion i blant mewn teuluoedd y Lluoedd Arfog mewn cynlluniau yn y dyfodol? Dywedodd y Prif Swyddog Addysg yr ymchwilir i hyn.

 

-       Nododd yr Aelodau 1.11 yn yr adroddiad yngl?n â gwelliant parhaus mewn ysgolion. Gyda’r bartneriaeth a oes problem mewn diwylliant o newid? Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y darlun cyffredinol yn gadarnhaol. Dechreuodd y bartneriaeth yn 2012 ac mae’n tyfu’n aeddfed. Ychwanegodd EP mai cyflymder newid ar gyfer ysgolion a chyllid yw eu pwysau mwyaf. Hefyd, pwysau recriwtio ar gyfer ysgolion uwchradd. Dywedodd AP am y Gr?p Strategaeth Penaethiaid sy’n datblygu’r ffordd y mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd. Mae gan rai ysgolion broblemau, er enghraifft, nid ydynt yn hoffi’r ffyrdd sy’n gweithio.

Yna ychwanegodd y Prif Swyddog Addysg y bydd y GCA yn gwneud ei arolwg ei hun er mwyn gwrando ar adborth, gan ofyn cwestiynau i ysgolion fel “a ydynt yn deall gweledigaethau’r bartneriaeth?” Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn cynnal ei arolwg ei hun. Yna dywedodd y Prif Ymgynghorydd Herio wrth y pwyllgor fod y GCA yn ofalus i gofnodi unrhyw broblemau y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu codi o ran ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.  Mae’n bwysig codi problemau, a’u cau a’u datrys.

 

-       Trafododd yr Aelodau wella llais y disgybl a gofynnon nhw sut rydym yn rhoi sylw i’r disgyblion hynny nad oes ganddynt lais. Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg gyngor ar gyfer sesiynau cyfranogi i ddisgyblion a all wella lefelau hyder a’u paratoi at fod yn ddinasyddion ac yna dywedodd fod pob disgybl yn onest o ran sut mae’n teimlo. Yna dywedodd EP fod H wedi cynnal dau adolygiad arweinyddiaeth yn ddiweddar a bod yr adborth yn dda iawn, ac yn cynnwys yr hyn y mae’r disgyblion ei eisiau gan eu hathrawon. Gellir ysgrifennu hyn i mewn i’r adroddiad arweinyddiaeth.

Yna gofynnodd yr Aelodau am ddisgyblion nad ydynt yn aros yn yr ysgol i wneud arholiadau Safon Uwch Dywedodd y Prif Swyddog Addysg fod hyn yn mynd yn ôl i ddatblygu arweinyddiaeth ganol.  Mae’r bartneriaeth yn sicrhau bod pawb mewn sefyllfa dda i gynnal sesiynau llais y disgybl, mae hyn yn bwydo i mewn i’r hunanarfarnu a’r cynllun gwella ysgol. Yna dywedwyd wrth yr Aelodau mai un o fanteision y bartneriaeth yw y gallwn frocera gydag ysgolion eraill, er enghraifft, efallai bod Caerffili’n gwneud yn dda gyda llais y disgybl, felly byddai swyddogion yn ymweld â hi i weld pa waith sy’n cael ei wneud.

 

-       Pan fydd Pennaeth yn ymweld ag ysgol arall i weld arfer gorau, byddai angen i athro arall lenwi’r bwlch. A oes cyllideb ychwanegol ar gyfer athrawon cyflenwi? Dywedwyd wrth yr Aelodau y gellir defnyddio Gr?p y GGA a’r grant dangosyddion perfformiad i gyflenwi. Yna rhoddwyd enghraifft bod gan yr ysgolion Cynradd mwyaf llwyddiannus athrawon hynod fedrus sy’n adnabod dysgwyr, a all gamu i’r adwy. Gydag ysgolion Uwchradd, mae angen rôl sy’n ymwneud yn fwy â goruchwylio.

 

-       Yn adroddiad y llynedd, dywedwyd bod y GCA yn fwy datblygedig na chonsortia eraill. Beth yw ein sefyllfa bellach? Dywedwyd, fel consortiwm, fod y GCA yn dilyn y gwelliant cenedlaethol mewn ysgolion o ran partneriaethau aeddfed, felly credir ei fod yn fodel effeithiol. Yna dywedwyd bod gan y GCA nifer uwch o ysgolion arloesi, a hefyd nifer uwch o ysgolion rhwydwaith arweiniol na gweddill y rhanbarth, sydd hefyd yn cyd-fynd â’r model cenedlaethol.

 

-       Trafododd yr Aelodau hygyrchedd hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion, ac yna gofynnon nhw a oes gan y GCA nifer uwch o lywodraethwyr ysgol h?n o hyd, na fyddant yn ymgymryd â sesiynau hyfforddi? Dywedodd EP, am gyfnod roedd gan y GCA y nifer fwyaf sy’n manteisio ar hyfforddiant, fodd bynnag mae hyn wedi lleihau dros amser.  Cydnabuwyd bod llywodraethwyr yn bobl brysur, felly bydd cynllun peilot yn dechrau ar gyfer hyfforddiant datblygiadol ar sail clwstwr. Mae’r GCA yn chwilio am aelod arweiniol a llywodraethwr i edrych ar fodiwlau hyfforddi craidd penodol ac yna i gyflwyno’r hyfforddiant yn raddol ar sail clwstwr, fel y byddai mwy o lywodraethwyr yn debygol o fod yn bresennol.

Hefyd, dywedwyd bod hyfforddiant ar-lein yn cael ei ystyried, ar hyn o bryd cynhelir hyfforddiant sefydlu ar-lein er bod diffygion o hyd gyda hyn. Roedd hyfforddiant data wedi’i dynnu o fod ar-lein oherwydd ei fod wedi mynd yn ddiangen.

 

-       Pa mor wahanol yw strategaethau’r Awdurdodau Lleol ar draws y consortiwm?  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Estyn yn argymell llunio strategaeth a’i chysylltu â gwasanaethau eraill. Yna rhoddwyd enghraifft bod yr Awdurdod Lleol hwn yn cael ei arolygu’n gyntaf, ac yn llunio strategaeth ddatblygu ar y cyd a fyddai wedyn yn rhannu’r arfer ar draws y consortiwm. Bellach mae’r strategaeth hon yn cael ei huno ac mae’n parhau i gael ei thrafod. Mae awdurdodau lleol eraill ar wahanol gamau. Efallai ein bod yn fwy datblygedig, ond mae'n gynnar o hyd. Nid ydym yn gweld y canlyniadau yr ydym am eu gweld eto ond rydym yn gweld gwelliannau. 

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

 

Dogfennau ategol: