Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys y Strategaeth Cyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a bod angen i gyfarfod y Cyngor llawn eu cymeradwyo.  Cadarnhaodd yr adroddiad:

 

(i)                    y rhaglen cyfalaf, yn rhan o’r Strategaeth Cyfalaf, a’r

(ii)                   gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill yn rhan o Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

Mae'r Strategaeth Cyfalaf yn nodi'r cyd-destun hirdymor (10 mlynedd) ar gyfer gwneud penderfyniadau cyfalaf ac mae'n dangos bod yr awdurdod lleol:

 

-       yn cymryd penderfyniadau cyfalaf/buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth;

-       yn rhoi ystyriaeth i risg/gwobr ac effaith; 

-       yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, gochelgarwch, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.  

Mae cynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi'u cysylltu'n gynhenid â gweithgareddau rheoli'r trysorlys y mae'n ymgymryd â nhw, felly mae Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn cael ei chynnwys ar y cyd ag adroddiad y Strategaeth Cyfalaf.  Mae'r adroddiad yn nodi bod effaith refeniw'r ddwy strategaeth wedi'i chynnwys yn yr adroddiad cysylltiedig ar y gyllideb refeniw.  Atodiadau i’r adroddiad wedi eu cynnwys:

 

·         Atodiad 1 – manylion y rhaglen gyfalaf bresennol;

·         Atodiad 2 - y Strategaeth Cyfalaf tymor hirach, ac,

·         Atodiad 3 - Strategaeth a Rheolaeth y Trysorlys.

Canolbwyntiodd yr Arweinydd yn gyntaf ar Strategaeth Cyfalaf 2019/20 i 2028/29 sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth cyfalaf y Cyngor ac mae'n unol â'r gofyniad a osodir ar Awdurdodau Lleol gan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (2017) i bennu Strategaeth Cyfalaf. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Cod CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a  Chyfrifeg) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benderfynu ar eu Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (DSRhT) a'r Dangosyddion Darbodus (DDau) yn flynyddol; mae hyn yn gofyn am gymeradwyaeth gan gyfarfod llawn o’r cyngor yn dilyn argymhelliad gan y Cabinet.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd hyn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru a'i ddwyn i sylw'r Cyngor yn ôl yr angen.

 

Mae meysydd allweddol yn cynnwys:

 

(i)                    ymestyn rhaglen cyfalaf 5 mlynedd bresennol 2022/23 tan 2024/25 ar gyfer y prosiectau hynny a gymeradwywyd sydd y tu hwnt i'r rhaglen gyfredol a'i chost ariannu;

(ii)                   yr amcanestyniad tymor hirach ar gyfer costau ariannu cyfalaf.

O ran y rhaglen cyfalaf 5 mlynedd – cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2018, wedi cymeradwyo rhaglen cyfalaf 5 mlynedd newydd o 2018/19 i 2022/23 - mae paragraff 13 yr adroddiad yn cyfeirio at hyn.  Eglurodd yr Arweinydd fod y strategaeth cyfalaf yn amlinellu'r broses ar gyfer cymeradwyo prosiectau i'r rhaglen cyfalaf, gan sicrhau eu bod yn bodloni blaenoriaethau gwasanaeth allweddol ac, yn gyffredinol, yn cadw o fewn cyrraedd i fforddiadwyedd. 

 

Yn 2020/21, mae gan y Cyngor gynlluniau cyfalaf gwerth £44.6 miliwn.  Dros y rhaglen 5 mlynedd a fydd yn dod i ben 2024/25, mae'r rhaglen yn un uchelgeisiol gyda:

 

·         tua £186 miliwn o brosiectau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo;

·         tua £16 miliwn o arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer prosiectau pellach, gwerth cyfanswm o £202 miliwn.

·         Mae'r Cyngor yn buddsoddi dros £70 miliwn yn ei ysgolion, yn ei asedau hanesyddol a diwylliannol megis y Bont Gludo, yn cefnogi ailddatblygiad canol y ddinas, gan ddarparu 'hybiau cymdogaeth' modern, addas ar gyfer y dyfodol a chreu capasiti yn ei chyfleusterau ailgylchu a gwastraff.  Mae cynnydd yn cael ei wneud o ran cyflawni'r rhain.

 

Dangosir y costau cyllido cyfalaf yn nhabl 2 yr adroddiad; mae'r costau wedi'u cynnwys yn CATC y Cyngor, a chadarnhaodd yr Arweinydd yn yr hinsawdd/ansicrwydd ariannol presennol a'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, eu bod yn heriol.  Nododd yr adroddiad y bydd costau'n parhau i gynyddu yn y tymor canolig i'r hirdymor.  O gymharu ag awdurdodau tebyg, mae canran y costau cyfalaf fel cyfran o gyfanswm refeniw net y Cyngor yn uchel iawn, gan ddangos yr angen i gynnal lefel gynaliadwy o wariant ar gyfalaf er mwyn cadw'r costau i lawr.  Caiff gwaith ychwanegol ei gynllunio gan gydweithwyr cyllid er mwyn bwrw goleuni ar y mater hwn.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod gwariant cyfalaf a ariennir gan ddyledion yn cynyddu'r angen i fenthyca'n allanol.  Mae'r Cyngor yn ymrwymedig ac mae'n ofynnol iddo fod yn fenthyciwr net am y tymor hir; er mwyn sicrhau bod y benthyca hwn yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu terfyn benthyca fforddiadwy - a ddangosir yn nhabl 3 yr adroddiad.  Ymhlith y ffactorau a gynhwyswyd wrth gyrraedd y terfynau benthyca hyn y mae:

 

-       Y gofyniad benthyca allanol presennol sy'n dod o'r rhaglen cyfalaf ac yn cyflwyno swm cyfyngedig o fenthyca cynnar i ddisodli benthyca mewnol lle y bo'n briodol;

-       Y gallu i fenthyca ar gyfer benthyciadau ymlaen i drydydd partïon at ddibenion adfywio, sy'n amlwg yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy llym;

-       Hyblygrwydd i fenthyca ar gyfer buddsoddi/creu incwm/cyfleoedd masnacheiddio (yn amodol ar drefniadau llywodraethiant).

 

Mae Adran 6 y Strategaeth Cyfalaf yn manylu ar weithgareddau masnachol y Cyngor, gan gynnwys cymeradwyo cronfa fuddsoddi £50 miliwn ar gyfer buddsoddiadau mewn eiddo masnachol, sydd wedi'i chynnwys yn y terfynau benthyca a nodir yn yr adroddiad.  Nid yw'r gronfa hon wedi'i defnyddio eto ac mae angen adolygu'r defnydd a wneir o'r gronfa yn y dyfodol, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn benthyciadau a chanllawiau gan CIPFA yn ddiweddar ar gyfer awdurdodau sy'n buddsoddi mewn cronfeydd eiddo.

 

O ran Strategaeth a Rheolaeth y Trysorlys, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn ymwneud â dau fath o weithgaredd y Trysorlys sy'n cael eu rheoli'n bennaf drwy Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor ac yn unol â'r rheoliadau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth honno, sef:

 

(i)             Benthyca yn y tymor hir at ddibenion cyfalaf a thymor byr ar gyfer llif arian dros dro;

(ii)            Buddsoddi arian dros ben. 

 

O ran Strategaeth Benthyca'r Cyngor, cadarnhaodd yr arweinydd fod gan y Cyngor ofynion benthyca hirdymor sylweddol ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r strategaeth wedi gallu ariannu ei gwariant cyfalaf drwy leihau buddsoddiadau yn hytrach na gwneud mwy o fenthyca ychwanegol drud. 

 

O 31 Mawrth 2019, roedd gan y Cyngor fenthyciadau mewnol o tua £84 miliwn; roedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau bod hyn yn creu arbediad o tua £2.5 miliwn mewn costau llog.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ymhellach fod terfyn y gallu i gael ei fenthyg yn fewnol wedi'i gyrraedd ac y byddai gofyn i ofynion benthyca ddod o fenthyciadau allanol newydd.  Yn ogystal, wrth i'r Cyngor leihau ei gronfeydd wrth gefn, yn bennaf drwy ddefnyddio ei gronfeydd PFI wrth gefn, bydd angen iddo ddisodli'r terfyn is hwn ar gyfer benthyca mewnol gyda benthyca allanol newydd hefyd.  Mae hwn yn fater pwysig ac arwyddocaol ac fel yr argymhellwyd yn y Strategaeth Cyfalaf, mae angen i'r Cyngor gynnal lefel gynaliadwy o wariant cyfalaf.

 

O ran buddsoddiadau - mae Cod CIPFA a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod fuddsoddi ei arian yn ddoeth, a rhoi sylw i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio'r gyfradd enillion, neu'r incwm uchaf.  Amcan yr awdurdod wrth fuddsoddi arian yw taro cydbwysedd priodol rhwng risg ac enillion, gan leihau'r risg o ddioddef colledion. 

 

O ystyried y risg gynyddol a'r adenillion isel iawn o fuddsoddiadau banc diwarant tymor byr, mae'r awdurdod yn anelu at arallgyfeirio i ddosbarthiadau asedau cynhyrchiant uwch yn ystod 2020/21.  Mae hyn yn arbennig o wir am y £10 miliwn sydd ar gael ar gyfer buddsoddiad tymor hwy.  Bydd yr arallgyfeirio hwn yn cynrychioli newid yn y strategaeth dros y flwyddyn nesaf.

 

Gorffennodd yr Arweinydd drwy gadarnhau bod y strategaethau'n gynhwysfawr iawn a chadarnhawyd bod yr adroddiad yn rhoi crynodeb defnyddiol o'r negeseuon allweddol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd sylwadau gan ei chyd-Weinidogion yn y Cabinet:

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd (AC ar gyfer Gwasanaethau’r Ddinas) at dudalen 57 yr adroddiad - Rhagolwg cyfradd llog - a holodd a fyddai'r gyfradd sylfaenol ar ragolygon benthyca yn debygol o newid.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid nad oedd unrhyw wybodaeth bellach wedi'i chael ers ysgrifennu'r adroddiad a rhagwelir yn gyffredinol y bydd y cyfraddau'n is am gyfnod hwy (er iddo bwysleisio na ellir dehongli bod hyn yn rhoi cyngor ar y mater hwn).

 

Tynnodd yr AC ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol sylw cynnar at y ffaith bod cynlluniau sy'n cael eu hariannu gan y cynllun grant cyfleusterau anabledd yn mynd yn ddrud iawn a'r arwyddion yw na fydd y gronfa'n gallu ymdopi â'r costau ychwanegol. 

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r:

 

i)              Strategaeth Cyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y rhaglen cyfalaf gyfredol sydd ynddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1), ei dangosyddion darbodus cysylltiedig a'r gofynion benthyca/terfynau sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen gyfalaf bresennol, gan nodi'r costau refeniw uwch yn y CATC ar gyfer y benthyciadau uwch;

 

ii)             Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a dangosyddion rheoli'r Trysorlys, y strategaeth fuddsoddi a'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2020/21 (Atodiad 3);

 

iii)           nodi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio ar 29 Ionawr 2020 (paragraffau 6 a 7).

 

Dogfennau ategol: