Agenda item

Diweddariad Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y paratoadau Brexit a gynhelir gan y Cyngor, a chadarnhaodd ei fod yn ddilyniant i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Hydref 2019.

Cadarnhaodd yr adroddiad, i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr ac mae wedi dechrau ar Gyfnod Pontio o 11 mis.

Rhagwelir na fydd unrhyw newidiadau sylweddol i'r modd y mae busnesau yng Nghasnewydd/y DU yn masnachu gyda'r UE neu mewn perthynas â symud pobl rhwng yr UE a'r DU a'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn y Cyngor.

Bydd yn bwysig i leisiau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gael eu clywed ar y cyfleoedd, y risgiau a'r effeithiau posibl i fusnesau a thrigolion sy'n byw yng Nghasnewydd a Chymru.

Mae gan y DU tan 1 Gorffennaf 2020 i ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i'r 31 Rhagfyr 2020 (Mae potensial i ymestyn hyn hyd at 31 Rhagfyr 2022).  Fodd bynnag, ar y cam hwn mae Llywodraeth y DU wedi datgan na fydd yn ystyried ymestyn y terfyn amser ar ôl y flwyddyn hon.

Os na chytunir ar gytundeb masnach a'i fod ar waith erbyn diwedd 2020, bydd yn rhaid i'r DU syrthio'n ôl ar delerau Sefydliad Masnach y Byd a bydd yn arwain at Brexit heb gytundeb.  

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod swyddogion y Cyngor yn parhau i fonitro'r risgiau posibl a'r effeithiau ar ddarparu gwasanaethau yng Nghasnewydd drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y swyddogion dan arweiniad y Cyfarwyddwr Lle.

Mae Aelodau Cabinet a Swyddogion o’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen hefyd yn cynrychioli’r Cyngor ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Llywodraeth Cymru (LlC) a chyfarfodydd Cymru gyfan/rhanbarthol eraill ar Brexit.

Mae risg Brexit y Cyngor yn parhau i gael ei monitro drwy Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor sy'n cael ei hadrodd i'r Cabinet a'r Pwyllgor Archwilio bob chwarter.  

Ers yr adroddiad diwethaf, mae'r Cyngor wedi ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol:

Mae Gwasanaeth Cofrestrydd y Cyngor wedi lansio gwasanaeth gwirio hunaniaeth i gefnogi ceisiadau Statws Preswylydd Sefydlog yr UE.

o  Mae ffigurau'r Swyddfa Gartref (Medi 2019) yn dangos i 2,290 o geisiadau CPSDdUE gael eu cwblhau ar gyfer dinasyddion yr UE yng Nghasnewydd.

o  Mae'r Cyngor yn cydlynu'r ddarpariaeth wythnosol o ran darpariaeth ar gyfer dinasyddion yr UE mewn partneriaeth â holl wasanaethau'r sector gwirfoddol a ariennir i gefnogi ceisiadau i'r CPSDdUE.

 

Ym mis Rhagfyr 2019 derbyniodd y Cyngor Grant Tlodi Bwyd o £80,000 gan CLlLC/Llywodraeth Cymruer mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi sy'n gysylltiedig â bwyd a allai gael ei achosi o ganlyniad i Brexit. 

o  Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i dargedu ardaloedd anghenus drwy Hybiau'r Cyngor a bydd hefyd ar gael i elusennau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol i wneud ceisiadau am gyllid i'w galluogi i gyflawni eu mentrau a darparu manteision hirdymor i'r ddinas.

 

Derbyniodd y Cyngor £45,000 drwy CLlLC ar gyfer y rhaglen grant atal digartrefedda fydd yn galluogi'r Cyngor i ddatblygu app Casnewydd ar gyfer mudwyr sy'n dymuno cael gwybodaeth am Gasnewydd, cadw tenantiaethau diogel, darparu Cardiau Gwybodaeth Digartref a fydd yn galluogi mudwyr digartref ar ble a sut i gael gafael ar wasanaethau lleol, a darparu hyfforddiant i staff i gefnogi'r digartref nad oes hawl ganddynt i gael arian cyhoeddus.

Mae Tîm Datblygu Economaidd y Cyngor wedi bod yn ymgysylltu â busnesau lleol yng Nghasnewydd ac yn eu helpu i gael gafael ar wybodaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â Brexit.

Bydd trefniadau cyfathrebu i ddarparu gwybodaeth i gynghorwyr, staff, trigolion, cymunedau a busnesau y gallai Brexit effeithio arnynt yn parhau drwy gydol 2020 ochr yn ochr ag adroddiadau rheolaidd gan y Cabinet.

Mae'r tabl wedi’i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn ar draws y meysydd a gwmpesir gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

Croesawodd yr Arweinydd sylwadau gan ei chyd-aelodau yn y Cabinet:

Soniodd y Cynghorydd Truman fod Casnewydd yn Awdurdod Porthladd prysur iawn ac mae'n bwysig cael y fargen orau bosibl i gwmnïau sy'n masnachu gydag Ewrop.

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gytundeb y Cabinet i dderbyn cynnwys yr adroddiad ac i dderbyn diweddariadau rheolaidd wrth i gynnydd gael ei wneud drwy'r cyfnod pontio.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet dderbyn yr adroddiad  ac i’r Cabinet/Aelodau’r Cabinet gael y wybodaeth ddiweddaraf fel rhan o'u portffolio.

 

 

Dogfennau ategol: