Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd bod Strategaeth Twf Economaidd Casnewydd wedi'i mabwysiadu yn 2015. Roedd y Strategaeth yn ymrwymo i weledigaeth a fframwaith 10 mlynedd ar gyfer adeiladu economi Casnewydd drwy:
a. Gyflawni ffyniant a rennir;
b. Creu amgylchedd economaidd rhagorol, a,
c. Symud Casnewydd yn uwch ar y gadwyn werth.
Cytunwyd ar nifer o ganlyniadau a nodau i sicrhau y gall pobl yng Nghasnewydd gyflawni eu potensial; mae gan Gasnewydd amgylchedd cystadleuol; mae Casnewydd yn lle gwell i fyw, ac mae gan fusnesau yng Nghasnewydd gyfle i ffynnu.
Cadarnhaodd yr Arweinydd, er bod y canlyniadau a'r nodau hyn yn parhau'n berthnasol, ar ôl pum mlynedd, bod angen ailedrych ar y Strategaeth a sicrhau ei bod yn parhau'n addas at y diben ac yn gyson ag amcanion strategol ehangach y Cyngor.
Mae Casnewydd fel Dinas wedi newid ers 2015 ac mae bellach yn ddinas fwy cystadleuol; yn cael dylanwad cynyddol mewn sectorau gwerth uchel; yn elwa o sector twristiaeth sy'n ehangu'n gyflym ac sy'n gartref i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru newydd sbon; mae'n darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gweithwyr yn y dyfodol, ac, mae'n croesawu partneriaethau rhanbarthol newydd ac ymrwymiadau'r cyngor yng Nghynllun Llesiant Casnewydd.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod Strategaeth 2015 wedi cael nifer o lwyddiannau o ran sicrhau twf economaidd gan gynnwys:
o Cynnydd o 11.7% mewn cyflogau wythnosol gros cyfwerth ag amser llawn;
o Cynnydd o 14.9% yn y cyfraddau dechrau busnes;
o Cynnydd o 1.7 miliwn yn nifer yr ymwelwyr, ac,
o Cynnydd o £405 miliwn yn GYC Casnewydd.
Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cydnabod bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd, gan leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau; gwella canfyddiad y cyhoedd o Gasnewydd, ac annog a chefnogi preswylwyr hunangyflogedig.
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y strategaeth wedi'i diweddaru yn cydnabod cryfderau a heriau'r ddinas ac yn cynnig nodau newydd i gefnogi'r canlyniadau gwreiddiol. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i bethau megis: cynyddu canran trigolion Casnewydd sydd ag NVQ lefel 4 ac uwch; mynd i'r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau allweddol, gan gynnwys digidol, lletygarwch ac adeiladu; cefnogi'r gwaith o ddarparu mwy o ofod swyddfa Gradd A, a llety ar gyfer gweithio, yn ogystal â darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd da; datblygu rhaglen lleihau carbon ar gyfer y sefydliad sydd â gweledigaeth carbon niwtral, a chynnal canol y ddinas fel lle deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Caiff yr holl nodau hyn eu cynnwys yn y cynllun cyflawni manwl sydd wedi'i gynnwys yn nogfen y Strategaeth wedi'i diweddaru.
Croesawodd yr Arweinydd sylwadau gan ei chyd-aelodau yn y Cabinet.
Cytunodd cyd-Aelodau'r Cabinet ar y canlynol:
§ Casnewydd yw'r Porth i Gymru ac mae ganddi bopeth sy’n angenrheidiol i ddarparu ansawdd bywyd da i'w dinasyddion ac i ymwelwyr.
§ Mae angen positifrwydd yn hytrach na negyddiaeth i adeiladu ar enw da Casnewydd a meithrin mwy o falchder lleol a dinesig;
§ Mae cynnydd mewn prisiau tai yn ddangosydd o bobl sydd eisiau byw yng Nghasnewydd;
§ Mae twristiaeth ar gynnydd fel y gwelwyd mewn cyflwyniad a wnaed yn ystod Cyfarfod Ward Caerllion a gynhaliwyd ar 11 Chwefror. Mae arddangosfa hefyd yn cael ei chynnal ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar y Gwastadeddau Byw hanesyddol a'r bobl sy'n byw yn y Gwastadeddau – mae'r arddangosfa i’w gweld yng Nglan yr Afon a Bae Caerdydd;
§ Cyflawni cyfraddau gwych ar gyfer y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant – mae hyn yn ymwneud â sicrhau dyfodol mwy disglair i bobl ifanc Casnewydd;
Gorffennodd yr Arweinydd drwy gytuno â holl sylwadau ei chyd-Aelodau a thynnodd sylw at ba mor bwysig yw rheoli cyrchfannau i werth yr economi yng Nghasnewydd. Aeth ymlaen i ddweud bod Casnewydd, i raddau helaeth, yn gymuned wledig â chraidd trefol mawr gydag atyniadau fel y morglawdd, y gwlyptiroedd, y gwastadeddau byw, ac ati, sydd i gyd yn bwysig i lesiant dinasyddion Casnewydd.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod wedi ymweld â'r cynlluniau tai sy'n cyfrannu at amgylchedd canol dinas cymysg ynghyd â'r cyfleoedd gwych eraill sy'n datblygu o fewn canol y ddinas, gan gynnwys y gwesty newydd a hefyd, cynlluniau sy'n mynd rhagddynt a fydd yn darparu swyddfeydd lefel uchel. Mae'r Arweinydd hefyd yn falch iawn o brosiect Arcêd y Farchnad ac er ei bod yn brosiect heriol iawn, roedd yn falch o weld bod y sgaffaldiau wedi'u codi a bod gwaith adfywio'r arcêd ar y gweill.
Mynychodd yr Arweinydd ddigwyddiad 'cwrdd â'ch cymydog busnes' yn ddiweddar a oedd ynghlwm â Chyngor Torfaen lle'r oedd dros 100 o fusnesau wedi'u cynrychioli; roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o bobl/busnesau ac yn arddangos y gwerth o fewn y rhanbarth o entrepreneuriaeth a chreadigrwydd; digwyddiad a oedd yn dangos bod busnesau am fod yn agored i fusnes yng Nghasnewydd.
Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod yn hyderus bod y Strategaeth ar ei newydd wedd yn adlewyrchu'r hyn y mae angen i'r Cyngor ei wneud i annog a chynnal twf economaidd yn y ddinas er budd yr holl drigolion, partneriaid a busnesau am y 5 mlynedd nesaf ac roedd yn argymell heb unrhyw amheuaeth fod y Strategaeth wedi’i diweddaru yn cael ei chymeradwyo. Diolchodd yr Arweinydd i'r tîm am y gwaith gwych a wnaed ar hyn ac am y weledigaeth fawr wrth gyflwyno'r Strategaeth.
Gofynnwyd i'r Cabinet gytuno ar y cynnig i fynd ati i fabwysiadu'r Strategaeth Twf Economaidd wedi'i diweddaru er mwyn sicrhau bod Casnewydd yn parhau i ddiwallu anghenion cyfredol ac yn hwyluso cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad tan 2025.
Penderfyniad:
Cytunodd y Cabinet i fabwysiadu'r Strategaeth Twf Economaidd ddiweddaraf.
Dogfennau ategol: