Agenda item

Cyllideb a Chynllun Ariannol Tymor Canolig

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan esbonio'r manylion allweddol am gyllideb 2020/21 y weinyddiaeth a thynnu sylw at gynnydd yn y Dreth Gyngor sy'n sail i'r gyllideb honno, sef 6.95%.

 

Y weinyddiaeth sy’n penderfynu ar gynigion y gyllideb; a chafodd hyn ei wneud yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror.  Er bod y gyllideb y cytunwyd arni yn gofyn am gynnydd o 6.95% yn y Dreth Gyngor i'w hariannu, byddai'r Cyngor llawn yn adolygu hyn ac yn cytuno ar gyfradd y Dreth Gyngor. 

 

Roedd y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau.   Y prif un oedd Setliad y Grant Cynnal Refeniw, a phethau eraill megis darpariaeth ar gyfer codiadau cyflog a chynnydd mewn prisiau contractau a buddsoddiad i gefnogi'r galw cynyddol am wasanaethau hanfodol.  Rhagwelwyd bwlch yn y gyllideb o bron i £6m yn 2020/21 bryd hynny; fodd bynnag, diweddarwyd y rhagdybiaethau hyn ar ôl i'r setliad drafft ddod i law gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr.

 

Yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror, rhoddodd y Grant Cynnal Refeniw gwell tua £7.3m yn fwy o arian nag a ragdybiwyd.  Roedd arbedion o tua £5.2m eisoes wedi'u nodi yn sefyllfa mis Rhagfyr a nodwyd dau gynnig arall gwerth cyfanswm o £300k.  At hynny, ystyriwyd a chymeradwywyd pwysau cost pellach mewn ymateb i ddylanwadau allanol, er enghraifft, cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a chynnydd yn Ardoll Tân De Cymru a'r cyfle i gael gwared ar y ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn er mwyn mantoli'r gyllideb.  Roedd  'balans mewn llaw' o £3.9m yn galluogi’r weinyddiaeth i ystyried ac ymateb i'r adborth a gafodd trwy’r ymgynghoriad cyhoeddus a gwneud penderfyniadau o ran sut i ddefnyddio'r arian ychwanegol sydd ar gael er budd y Ddinas.  Roedd rhai o'r penderfyniadau’n ymwneud â buddsoddi yn cynnwys buddsoddi mewn ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, adfer cartrefi gwag i’w defnyddio eto a gwneud arbedion mewn mannau eraill yn y Cyngor fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a lleihau'r cynnydd arfaethedig drafft yn y dreth gyngor i 6.95%.

 

Derbyniwyd y setliad terfynol ddeuddydd yn ôl, heb unrhyw newid i Grant Cynnal Refeniw'r Cyngor i'r hyn a gynhwyswyd yn y setliad dros dro ac a ragdybiwyd ym mhapurau'r gyllideb.

 

Byddai cyllideb net argymelledig y Cyngor yn cynyddu o £281m i tua £300m, cynnydd o bron i £19m.  Ariannwyd y cynnydd o'r cynnydd o bron i £14m yn y Grant Cynnal Refeniw, y cynnydd arfaethedig yn incwm y Dreth Gyngor o ychydig dros £4m a chynnydd yn nifer y cartrefi newydd sy'n talu'r Dreth Gyngor ar bron i £1m. 

 

Mae’n hysbys iawn bod Treth Gyngor Casnewydd yn isel o gymharu â bron pob Cyngor arall yng Nghymru ac yn wir, ledled y DU. Roedd hyn yn arwain at oblygiadau ar gyllid y Cyngor, o ran ei safle yng Nghymru mewn perthynas â sefyllfa ei gyllideb yn erbyn yr 'asesiad gwario safonol' – ef yw’r 19eg a ariennir lleiaf ar hyn o bryd ond roedd ei Dreth Gyngor yr ail isaf yng Nghymru.

 

Mae'r Cyngor wedi gwneud arbedion sylweddol dros lawer o flynyddoedd i fantoli cyllideb y Cyngor yn ogystal â chynyddu'r Dreth Gyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar amcanestyniadau ariannol tymor canolig y Cyngor a'r ansicrwydd a wynebir yn y dyfodol megis setliadau grant gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, Brexit a chanlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.  Gan fod dyddiad cyllideb y gwanwyn wedi'i gadarnhau ar gyfer 11 Mawrth, y gobaith oedd y byddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch y rhagolygon tymor canolig ar gyfer arian Llywodraeth Cymru.  I Lywodraeth Leol, byddai llawer yn dibynnu ar y penderfyniad y byddai Lywodraeth Cymru yn ei wneud, yn enwedig ar arian y GIG yng Nghymru. 

 

Roedd penderfyniad arferol y Dreth Gyngor yn cynnwys gofynion praesept Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Cymuned.

 

Cynigiwyd felly argymell lefelau'r Dreth Gyngor sydd eu hangen i ategu'r gyllideb i ddiogelu'r gwasanaethau y mae mawr eu hangen ar gyfer y Cyngor.

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan y Cynghorydd Jeavons.

 

Gwnaed y pwyntiau canlynol o blaid yr adroddiad:

 

         Yr anawsterau a wynebir gan y Cyngor.

         Y penderfyniadau anodd a wnaed o ganlyniad i galedi sy'n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor.

         Y cynnydd yn nifer yr ymatebion gan y cyhoedd ar gyfer y broses ymgynghori eleni.

         Cymorth i'r gwasanaethau ieuenctid yng Nghasnewydd.

         Er bod y dreth Gyngor wedi cynyddu o ystyried ffigurau cyfatebol, Casnewydd oedd yr ail isaf o hyd ym Mhrydain a'r drydedd isaf yng Nghymru.

         Cefnogwyd trigolion Casnewydd sy'n wynebu anawsterau ariannol yng Nghasnewydd gan y Cyngor.

         Byddai'r cynnydd yn y dreth yn helpu gwasanaethau cymdeithasol yn uniongyrchol; gan gynnwys gwasanaethau i ddinasyddion h?n a phlant, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid.

         Hon oedd y gyllideb orau bosibl dan yr amgylchiadau gyda chefnogaeth Cabinet, Arweinydd a Phwyllgor Craffu sy’n barod i wrando. 

         Cynlluniwyd y gyllideb i wella bywyd llawer, megis budd-daliadau gofal maeth. 

 

Gwnaed y pwyntiau canlynol yn erbyn yr adroddiad:

 

         Fyddai cael gwared ag aelod o'r cabinet a chynhyrchu incwm o Newport Matters yn gwneud cyllideb niwtral o ran cost(?)

         Ni chefnogir y praesept ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Ni chafwyd unrhyw bleidleisiau yn erbyn y cynigion.

 

Ataliodd yr aelodau ceidwadol eu pleidlais, gan gynnwys y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd

 

1          Nodi bod ymgynghoriad helaeth wedi'i gwblhau ar yr arbedion dros y tymor canolig, gan gynnwys cynigion cyllideb 2020/21.  Roedd y Cabinet wedi ystyried y rhain wrth argymell manylion terfynol ei gyllideb.

2          Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid y dylid cadw balansau cronfeydd cyffredinol gofynnol ar £6.5 miliwn, cadarnhau cadernid y gyllideb gyffredinol sy'n sail i'r cynigion, yn amodol ar y materion allweddol a nodir yn adran 7, a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yng nghyd-destun cronfeydd eraill a glustnodwyd a chyllideb refeniw gyffredinol wrth gefn o £1.5 miliwn.

3          Ystyried a chymeradwyo cynnydd o 6.95% yn y dreth gyngor ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd, treth Band D o £1,197.88; a'r gyllideb refeniw gyffredinol ddilynol a ddangosir yn atodiad 1.

4          Cymeradwyo'r penderfyniad ffurfiol ar y dreth gyngor, sydd wedi’i gynnwys yn atodiad 3 a oedd yn cynnwys praeseptau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Cymuned

 

Dogfennau ategol: