Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

1.         Strategaeth Cyfalaf a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys

 

Roedd Strategaeth Cyfalaf 2019/20 i 2028/29’ yn ddiweddariad ar strategaeth cyfalaf y Cyngor yn dilyn y gofyniad a osodwyd ar Awdurdodau Lleol gan y ‘Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (2017)’ i bennu strategaeth cyfalaf. Roedd angen i'r Cyngor gymeradwyo'r strategaeth a'r dangosyddion darbodus oddi mewn iddi o leiaf unwaith y flwyddyn i'w hadolygu, eu diweddaru a'u dwyn gerbron y Cyngor yn ôl yr angen.

Roedd y meysydd allweddol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, megis y rhaglen gyfalaf bum mlynedd hyd at 2022/23 a'r amcanestyniad tymor hwy ar gyfer costau ariannu cyfalaf.

 

Roedd y rhaglen uchod yn ymwneud â chynyddu'r costau ariannu cyfalaf, a oedd wedi’u cynnwys yn CATC y Cyngor, a oedd yn heriol yn yr hinsawdd ariannol bresennol.  Byddai costau'n parhau i gynyddu yn y tymor canolig i'r hirdymor.  O'i chymharu ag awdurdodau cymharol, roedd canran y costau ariannu cyfalaf fel cyfran o gyfanswm cyllideb refeniw net y Cyngor yn uchel.  Cynlluniwyd gwaith pellach i lywio'r mater hwn.

 

Mae'r Cyngor yn ymwneud â dau fath o weithgarwch trysorlys, benthyca tymor hir at ddibenion cyfalaf a thymor byr ar gyfer llif arian dros dro a buddsoddi arian dros ben. 

 

Rheolwyd y gweithgareddau hyn gan Strategaeth Reoli Trysorlys y Cyngor a gosodwyd mesurau a therfynau amrywiol ar waith gan ei Ddangosyddion Darbodus i reoleiddio/rheoli'r broses o weithredu'r strategaeth honno.

 

O ran ein strategaeth benthyca, roedd gan y Cyngor ofynion benthyca hirdymor sylweddol ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r strategaeth wedi gallu ariannu ei wariant cyfalaf drwy leihau buddsoddiadau yn hytrach na gwneud mwy o fenthyca ychwanegol drud gan ddefnyddio ‘arian dros ben’, a elwir yn ‘fenthyca mewnol’.  

 

Benthycwyd cymaint ag oedd ar gael yn fewnol a byddai angen benthyca unrhyw arian arall trwy fenthyg yn allanol.   Yn ogystal, wrth i'r Cyngor leihau ei gronfeydd wrth gefn, byddai angen iddo ddisodli'r terfyn is hwn ar gyfer benthyca mewnol gyda benthyca allanol newydd hefyd.  Roedd hwn yn fater pwysig ac arwyddocaol ac eto, fel yr argymhellodd y strategaeth cyfalaf, roedd angen i'r cyngor gynnal lefel gynaliadwy o wariant cyfalaf er mwyn rheoli’r lefelau benthyca newydd y byddai hyn yn eu creu a'r costau refeniw sy'n gysylltiedig â hynny. 

 

O ystyried yr adenillion isel iawn o fuddsoddiadau banc diwarant tymor byr, mae'r Awdurdod yn anelu at arallgyfeirio i ddosbarthiadau asedau cynhyrchiant uwch yn ystod 2020/21.  Mae hyn yn arbennig o wir am yr amcangyfrif o £10 miliwn sydd ar gael ar gyfer buddsoddiad tymor hwy ac y mae angen i ni fod wedi'i fuddsoddi er mwyn cynnal ein sefyllfa reoleiddiol.  Ar hyn o bryd, caiff yr holl arian dros ben sydd gan yr Awdurdod  ei fuddsoddi mewn adneuon banc diwarant tymor byr ac awdurdodau lleol.  Bydd yr arallgyfeirio hwn yn cynrychioli newid yn y strategaeth dros y flwyddyn nesaf.

 

Mae’r strategaethau'n gynhwysfawr iawn a rhoddodd yr adroddiad grynodeb defnyddiol o'r negeseuon allweddol.

 

O ystyried y risg gynyddol a'r adenillion isel iawn o fuddsoddiadau banc diwarant tymor byr, mae'r Awdurdod yn anelu at arallgyfeirio i ddosbarthiadau asedau llogau uwch yn ystod 2020/21. 

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan y Cynghorydd Jeavons.

 

Dywedodd y Cynghorydd C Evans y dylai'r Cyngor arwain drwy esiampl pe bai unrhyw effeithiau amgylcheddol, gan fod hyn yn hollbwysig.  Yn ogystal, ni chafodd ei gwneud yn glir a fyddai'r Cyngor yn buddsoddi'n foesegol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Hourahine â'r Cynghorydd C Evans a dywedodd hefyd y ystyriwyd mai hon oedd y ddogfen bwysicaf a roddwyd gerbron y Cyngor.  Dylid gadael etifeddiaeth y Cyngor ar ôl ac roedd swydd newydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy yn gam cadarnhaol ymlaen. 

 

Roedd y bleidlais yn unfrydol.

 

Penderfynwyd

         Cymeradwyo’r Strategaeth Cyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y rhaglen gyfalaf gyfredol sydd ynddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1), ei Dangosyddion Darbodus cysylltiedig a'r gofynion o ran y benthyca/terfynau sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen gyfalaf bresennol, gan nodi'r costau refeniw uwch yn y CATC ar gyfer y benthyciadau uwch.

         Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi a'r Ddarpariaeth Refeniw Gofynnol ar gyfer 2020/21 (Atodiad 3); (Atodiad 3).

         Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio ar 29 Ionawr 2020 (paragraffau 6 a 7).

 

Dogfennau ategol: