Cofnodion:
Nododd yr adroddiad amgaeedig gynnydd cyfredol systemau neu sefydliadau, a oedd wedi cael barn archwilio anfoddhaol neu ansicr yn flaenorol. Byddai pryderon bob amser ynghylch adolygiadau â barn archwilio anfoddhaol neu ansicr, caniatawyd digon o amser i reolwyr fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd a gwella'r rheolaethau ariannol mewnol o fewn eu meysydd cyfrifoldeb.
Yn ystod 2017/18, cyhoeddwyd 40 barn archwilio yr oedd 6 ohonynt yn Anfoddhaol, nid oedd unrhyw un ohonynt yn Ansicr.
Yn ystod 2018/19, cyhoeddwyd 48 barn archwilio yr oedd 10 ohonynt yn Anfoddhaol, roedd 1 yn Ansicr.
Yn ystod 2019/20, cyhoeddwyd 32 barn archwilio yr oedd 6 ohonynt yn Anfoddhaol, nid oedd unrhyw un ohonynt yn Ansicr.
Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:
· Roedd proses y contract arlwyo ysgolion yn Anfoddhaol yn y ffordd y cafodd y contract ei dendro. Fodd bynnag, ni ellir asesu hyn yn iawn nes yr eir i gontract newydd.
· Symudodd Glanhau Strydoedd mewn Gwasanaethau’r Ddinas o Anfoddhaol i Resymol, a oedd yn newyddion cadarnhaol.
· Adolygwyd Canolfan Gyflawni'r Bont yn 2018/19 a chwblhawyd yr adroddiad ym mis Chwefror 2019. Cafodd gyfle i unioni pethau ac wedi hynny mae wedi gwella; byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r pwyllgor maes o law.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Taliadau Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig (GGA)/Perthynas (1.05) "Roedd diffyg o ran cydgysylltu’n ganolog y broses asesu ariannol GGA gan nad oedd rolau na chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n glir. Nid oedd gan unrhyw un rheolwr gyfrifoldeb cyffredinol am y swyddogaeth hon er bod y gyllideb dros £950k" Ac roedd o'r farn y dylai Pennaeth y Gwasanaeth gymryd cyfrifoldeb am gadarnhau cyllideb ei wasanaeth ei hun. Eglurodd y Pennaeth Cyllid y byddai unigolyn penodol i ddelio gyda’r gyllideb a byddai Pennaeth y Gwasanaeth yn sicrhau y byddai'r person cyfrifol yn cael ei ddwyn i gyfrif. Roedd y mater Archwilio Mewnol yn gadarn. ?? Byddai'r Pennaeth Cyllid yn ymchwilio'n fanylach i hyn ac yn dychwelyd at y Cadeirydd. Fodd bynnag, roedd y Cadeirydd o'r farn y dylid gwahodd Pennaeth y Gwasanaeth a'r swyddogion perthnasol i gyfarfod nesaf y pwyllgor i drafod y farn archwilio Anfoddhaol a chyfrifoldeb am y gyllideb.
· Cyfeiriodd y Cadeirydd at Wasanaethau Cymorth Cerddoriaeth Gwent "Nid oedd rhestr gyfoes o asedau ar waith yn nodi’r holl eitemau a gedwir ym Mhencadlys Cerddoriaeth Gwent neu leoliadau eraill. Nid oedd asedau wedi’u cadw yn yr uned storio wedi'u hyswirio" yn ogystal â hyn, roedd diffyg rheolaeth ynghylch y cynllun benthyca offerynnau. Roedd y Cyngor yn berchen ar yr offerynnau cerdd, fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu cadw gan aelodau o Wasanaeth Cymorth Cerddoriaeth Gwent. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r pwyllgor wahodd y Prif Swyddog Addysg i'r pwyllgor nesaf mewn perthynas â'r farn archwilio Anfoddhaol a'r problemau uchod ynghylch diffyg stocrestr.
· Teimlodd y Pwyllgor Archwilio fod angen sicrwydd pellach y byddai gwelliannau'n cael eu
gwneud i’r amgylchedd rheoli yn dilyn barnau archwilio anffafriol.
Cytunwyd:
Y dylai’r Pwyllgor nodi’r adroddiad, ynghyd â’r canlynol:
· Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion) a swyddogion perthnasol yn cael eu gwahodd i gyfarfod nesaf y pwyllgor i drafod y ddwy farn archwilio Anfoddhaol yn olynol, gan roi sylw arbennig i gyfrifoldeb am y gyllideb mewn perthynas â Thaliadau GGA/Perthynas.
· Byddai'r Pwyllgor yn gwahodd y Prif Swyddog Addysg a swyddogion perthnasol i gyfarfod nesaf y pwyllgor i drafod y farn archwilio Anfoddhaol, gan roi sylw arbennig i’r stocrestr o offerynnau cerdd sy'n eiddo i'r Cyngor a fenthycwyd gan Wasanaeth Cerddoriaeth Gwent.
Dogfennau ategol: