Agenda item

Diweddariad am y Gofrestr Risg Gorfforaethol Q4

Cofnodion:

Roedd Cofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn monitro risgiau a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei Gynllun Corfforaethol neu rhag darparu gwasanaethau i'w gymunedau a'i ddefnyddwyr gwasanaeth yng Nghasnewydd.

 

Yn Chwarter 4, mae gan y Gofrestr Risg Gorfforaethol 13 risg, yr ystyrir eu bod yn cael effaith sylweddol ar gyflawni amcanion y Cyngor ac yn haeddu monitro gan Uwch Dîm Arwain a Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor.   Ar ddiwedd chwarter 4, cafwyd bod 8 risg lefel uchel (sgorau risg 15 i 25); 3 risg canolig (sgorau risg 10 i 14) a 2 risg isel (0 i 9) fel y nodir yn yr adroddiad.  Roedd y Gofrestr Risg Gorfforaethol hefyd yn cynnwys risg sy'n gysylltiedig â Covid 19.

 

Rôl y Pwyllgor Archwilio oedd adolygu a monitro'r trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg sydd ar waith, gyda sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor ar y broses risg yn cael eu hystyried gan y Cabinet.

 

Fel y soniwyd eisoes, roedd gwybodaeth a diweddariadau Brexit yn cael eu monitro'n ofalus yn ogystal â Covid-19, byddai adroddiad yn cael ei anfon at y Pwyllgor ar y ddau fater.

 

Amlinellodd y Partner Perfformiad ac Ymchwil Busnes fod y risgiau wrth fynd i 2021 wedi'u hadolygu fel rhan o'r broses cynllunio gwasanaethau ac roedd y Cyngor wedi adolygu'r risg o fewn y cynllun gwasanaeth a'r gofrestr risg gorfforaethol yng ngoleuni Covid-19 a Brexit.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·         A oedd y gofrestr risg yn unol â Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan mewn perthynas â'r pandemig.  Fel rhan o fforwm gwydnwch lleol, roedd Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o gynllun pandemig Cymru Gyfan o'r cychwyn cyntaf ac felly roedd yr ymateb yn seiliedig ar y cynllun ar y cyd.

·         Dywedodd y Pennaeth Cyllid y gallai fod risgiau i'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2021 pe na bai adran archwilio mewnol y Cyngor yn cyflawni ei rôl oherwydd y cyfnod cloi.  Gyda hyn mewn golwg, a fyddai angen ei ychwanegu at y gofrestr risg yn ei rinwedd ei hun, gan y byddai'r Cyngor am osgoi atal staff archwilio rhag gwneud eu gwaith arferol, wrth gael eu lleoli mewn mannau eraill fel Tracio ac Olrhain yn ystod y cyfnod cloi. Roedd y Cadeirydd o'r farn y gallai fod ymyriad bach ond na fyddai hyn yn cael effaith enfawr.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid felly y byddai'r adran Archwilio Mewnol yn cwblhau’r cynllun hyd eithaf ei gallu ond ailadroddodd fod diffyg archwilio oherwydd ail-leoli staff yn ystod y cyfnod cloi. Roedd y Cadeirydd yn edrych ar y ffordd yr oedd risgiau'n cael eu rheoli ac am sicrwydd yn y strategaeth risgiau bod Covid yn cael ei ystyried ac os nad eir i'r afael ag ef, byddai'n cael ei nodi fel problem.  Gallai hyn felly fod yn broblem ariannol wrth symud ymlaen. 

·         Ailadroddwyd bod Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent, bod cynllun ar waith ac roeddem yn rhan ohono.  Yn ail, dywedwyd bod y Cyngor wedi gweithredu fis cyn y cyfnod cloi a bod yr ymateb brys wedi'i roi ar waith fel rhan o gynllunio Argyfyngau Sifil ddydd Sadwrn 22 Chwefror 2020 i fynd i'r afael â threfniadau teithio i’r ysgol ar gyfer disgyblion sy'n mynd dramor a'u canslo.  Roedd trefniadau Aur Covid ar waith o'r pwynt hwnnw ymlaen.  Gwnaeth y Cyngor gyfres o benderfyniadau hefyd ynghylch adleoli adnoddau.  Rhoddodd yr adran Cyllid adroddiadau rheolaidd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol ynghylch ariannu a cholli incwm. 

·         Roedd yr un cydbwysedd ar bwyntiau o ran y gyllideb Tymor Canolig, gofynnodd y Pwyllgor pam nad oedd y risgiau wedi'u lleihau drwy gydol y flwyddyn.  Dywedwyd bod refeniw a chyfalaf yn cael eu monitro'n ofalus ac roedd yn annhebygol y byddai'r Refeniw Tymor Canolig yn newid dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

·         Gofynnodd y Pwyllgor pam y gosodir cyfradd darged os na chaiff ei chyflawni.  Roedd rhaglen Newid ar waith i fynd i'r afael â hyn, gan ei bod bob amser yn her.

·         Roedd perygl sylweddol o lifogydd yng Nghasnewydd yn ystod yr haf, ac roedd cwestiynau ynghylch sut yr eid i'r afael â hyn; a fyddai cynhesu byd-eang yn effeithio ar Gasnewydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu o ran diogelwch ac nad oedd yn cael sylw yn y gofrestr risg gorfforaethol ac er bod hwn yn adroddiad ar wahân, roedd y Cyngor yn ymwybodol ac yn barod ar gyfer y risgiau.

 

Cytunwyd:

Ystyriodd y Pwyllgor Archwilio gynnwys yr adroddiad hwn ac asesodd y trefniadau rheoli risg ar gyfer yr Awdurdod, gan roi unrhyw sylwadau/argymhellion ychwanegol i'r Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: