Agenda item

Monitro cyllideb refeniw Gorffennaf 2020

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad am y sefyllfa monitro refeniw fel yr oedd ym mis Gorffennaf.  Yr oedd yr adroddiad yn dangos sefyllfa well o lawer ers yr un yr adroddwyd amdani ym mis Mai i’r Cabinet, gyda’r gorwariant yn gostwng o £5.4 miliwn i £683,000, sydd yn gryn ostyngiad. Yr oedd hyn yn adlewyrchu newidiadau o gadarnhau cyllid gan Lywodraeth Cymru am wariant a cholli incwm cysylltiedig â Covid-19, sy’n cynnwys mwy o gymorth ariannol ar gyfer y canlynol:

 

           Colli incwm am chwarter 1 a chadarnhad fod modd defnyddio’r £78m cyfan o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer colli incwm, fydd yn gwella’r rhagolygon yn sylweddol;

           Parhau â’r gefnogaeth i Ofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd i chwarter 2;

           Cyhoeddiad am £264m ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol i dalu am incwm a gollwyd a chostau cynyddol yn sgil pandemig  Covid-19.

Oherwydd y mesurau ariannol uchod, llwyddwyd i ostwng y gorwariant a ragwelwyd yn sylweddol o’r hyn yr adroddwyd arno ym mis Mai; er hynny, nododd yr adroddiad fod angen mwy o fanylion eto am sut i gymhwyso’r cyllid ychwanegol ac ar gyfer beth y gellir ei ddefnyddio. Felly erys ansicrwydd am y rhagolygon, a meddwl am hyn pan geir mwy o fanylion.

 

Y meysydd allweddol sy’n cyfrannu at y gorwario a ragwelwyd yw:

 

(i)         Arbedion cyllideb nas cyflwynwyd yn 2020/21 a’r flwyddyn cynt       £1,540k

(ii)        Mwy o alw am asiantaethau maethu annibynnol       £446k

(iii)       Effaith gorwario ar gyllidebau ysgolion                       £305k

(iv)       Tanwario ar staffio a meysydd gwasanaeth eraill      (£1,608k)

Mae a wnelo un o’r prif feysydd lle bu gorwario (gweler (i) uchod) a pheidio â chyflwyno arbedion ar draws nifer o feysydd gwasanaeth. Mae hyn yn cyfateb i £1.5 miliwn am 2020/21 ac arbedion y flwyddyn flaenorol ac nid yw’n unigryw i un maes gwasanaeth. 

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr arbedion a ragwelwyd wedi dioddef o ganlyniad i  bandemig covid-19, oedd  wedi eu gostwng i 80% o’r targed. Er bod yr oedi ân anorfod, bydd angen i wasanaethau gyflwyno’r arbedion hyn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol fan bellaf, fel nad ydynt yn cael eu cario ymlaen fel problem i’r flwyddyn nesaf, ochr yn ochr ag arbedion newydd y gall fod eu hangen.    

 

Yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet nodi a chymeradwyo hyn, a bydd angen i’r Penaethiaid Gwasanaeth a’u timau ganolbwyntio arno; yn sicr mae’n fater i Aelodau Cabinet unigol fonitro yn eu cyfarfodydd gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Maes arall o orwario a welwyd mewn rhagolygon blaenorol yw’r mannau sy’n cael eu harwain gan y galw. Er bod hyn wedi gwella ers rhagolwg mis Mai, adroddir am orwario o hyd yn y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys gorwario ar faethu annibynnol. O gofio natur y risg gyllidebol hon, gallai’r niferoedd newid trwy gydol y flwyddyn, fel sydd wedi digwydd dros y 2-3 blynedd ddiwethaf, felly mae hyn yn risg. Cadarnhaodd yr adroddiad y cedwir golwg fanwl ar y meysydd hyn. 

 

Fel yr adroddwyd ym mis Mai, mae’r sefyllfa a ragwelir ar gyfer yr ysgolion yn dal yn broblem, gydag ysgolion yn rhagweld gorwario eleni o £1.4m, sydd £305,000 yn uwch na’r arian sydd wrth gefn ar eu cyfer. Mae hyn yn bryder mawr i’r awdurdod, ac y mae swyddogion yn dal i weithio’n agos gyda’r ysgolion hynny i wneud yn si?r fod cynlluniau adfer o’r diffyg ar gael, a bod camau’n cael eu cymryd i leihau gwariant.

 

Gwnaed iawn am y gorwario ar beidio â chyflwyno arbedion, ar wasanaethau sy’n cael eu harwain gan y galw, a chyllidebau ysgolion trwy ddefnyddio arian wrth gefn o £1.4m a thanwariant, yn bennaf oherwydd arbedion staff mewn meysydd gwasanaeth eraill, sy’n arwain at y sefyllfa gyffredinol o orwario £683,000.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod angen parhau i fod yn wyliadwrus am y sefyllfa; er ei fod yn well nag yr oedd ym mis Mai, mae’n dal yn orwario ac erys cryn ansicrwydd am y dyfodol wedi pandemig covid-19 a beth fydd yn rhaid i’r Cyngor wneud os bydd achosion yn dal i gynyddu. Mae ansicrwydd hefyd am lefel yr incwm ddaw o Dreth y Cyngor a’r effaith ar Gynllun Gostwng Treth y Cyngor wrth i weithwyr ddod allan o ffyrlo, ac effaith y dirwasgiad economaidd ar hyn.  Cedwir golwg fanwl ar y meysydd hyn, a’u cyfoesi mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ei chydweithwyr yn y Cabinet i wneud sylwadau, a chytunodd pawb fod hwn yn amser digynsail, gyda llawer o heriau wedi eu hateb, ond fod mwy o’n blaenau. Yr oedd pawb yn canmol gwaith caled y swyddogion  yn y cyfnod hwn i sicrhau fod cynlluniau ar gael i ateb yr heriau hyn.

Diolchodd yr Arweinydd i’w holl gydweithwyr, swyddogion y cyngor, athrawon a llywodraethwyr ysgolion sy’n cefnogi’r awdurdod yn ystod y pandemig hwn i sicrhau y parheir i roi gwasanaethau i bobl Casnewydd.

Cadarnhaodd yr  Arweinydd fod yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet nodi’r isod:

 

           sefyllfa gyffredinol rhagolygon y gyllideb a’r gorwariant sylweddol mewn meysydd gwasanaeth sy’n deillio yn bennaf o arbedion y CATC nas gweithredwyd oherwydd y pandemig, y risgiau sy’n gysylltiedig â hyn, a’r argymhelliad y dylai Penaethiaid Gwasanaeth ganolbwyntio ar hyn a gweithredu’r arbedion y cytunwyd arnynt cyn gynted ag y bo modd;

 

           y rhagdybiaethau cynllunio yn y sefyllfa a  ragwelwyd, ac yn benodol yr ansicrwydd am y canlynol:

(i)         yr effaith a gaiff Covid-19 ar feysydd gwasanaeth, a

(ii)        chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru am weddill y flwyddyn ariannol.

 

           y symudiadau a ragwelir mewn arian wrth gefn;

 

           yr heriau ariannol arwyddocaol iawn sy’n wynebu ysgolion ac effaith ddifrifol hyn ar gyllidebau refeniw eraill y Cyngor a’r arian wrth gefn. Nodi’r camau a gymerir ar hyn o bryd, a sylwadau’r Pennaeth Cyllid am ddifrifoldeb y sefyllfa.

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd  y Cabinet a chytuno’n unfrydol ar yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: