Agenda item

Adolygiad perfformiad diwedd blwyddyn 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad meysydd gwasanaeth am 2019/20 yn erbyn pob un o’r cynlluniau gwasanaeth am 2018/22 (ar gyfer 2019/20); yn cydnabod y llwyddiannau a gaed  yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; ac yn ymdrin ag unrhyw feysydd o danberfformio ar draws meysydd gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr awdurdod yn 2017 wedi lansio Cynllun Corfforaethol 5-mlynedd y Cyngor, sydd yn gosod allan ei weledigaeth a’i nod o ran cyflwyno gwasanaethau’r Cyngor a’i Amcanion Lles i ddinasyddion Casnewydd.  Dywedodd mai dyma drydedd flwyddyn cyflwyno yn erbyn yr amcanion. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i’r Cabinet nodi y cyflwynir Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2019/20 i’r Cabinet ym mis Hydref a fydd yn rhoi trosolwg o weithgareddau’r Cyngor dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac yr aiff yr adroddiad yn gyntaf at y Pwyllgor Craffu i’w adolygu.

Cadarnhaodd yr adroddiad y canlynol: pandemig

Fel yr adroddwyd yn y chwarter diwethaf (Ionawr i Fawrth 2020), golygodd pandemig Covid-19 fod llawer maes gwasanaeth wedi dargyfeirio eu hadnoddau a’u gweithgareddau i sicrhau bod gwasanaethau rheng-flaen hanfodol yn cael eu cefnogi. Hefyd, cafodd meincnodi mesuriadau perfformiad cenedlaethol eu hatal.  Cyflwynir adroddiadau ychwanegol i’r Cabinet yn amlinellu’r gwaith a wnaeth y Cyngor hyd yma a’r cynnydd gan feysydd gwasanaeth yn erbyn y Nodau Adfer Strategol yn yr adolygiadau tymor-canol yn yr hydref.

Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o gynnydd pob maes gwasanaeth yn 2019/20 yn erbyn pob un o’u hamcanion, ac amlygu datblygiadau pellach eraill o ran cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol, a sut yr effeithiodd Covid-19 ar bob maes gwasanaeth.

Fel yr amlinellir yn yr adroddiad, mae pob maes gwasanaeth yn gwneud cynnydd da tuag at gyflwyno eu hamcanion, fel a ganlyn:

 

o          58% (171 / 297) o gamau wedi eu cwblhau gan y meysydd gwasanaeth;

o          25% (74 / 297) o gamau “Ar y gweill” ac yn cael eu dwyn ymlaen i gynlluniau 2020/21;

o          15% (44 / 297) o gamau lle nodwyd problemau a allai gael effaith ar gyflwyno o fewn yr amserlen;

o          3% o gamau (8 o 297) heb gyrraedd y targed.

Mae manylion llawn y datblygiadau hyn yn yr adroddiad. Tynnodd yr Arweinydd sylw at rai o lwyddiannau’r Cyngor ers llynedd:

 

o          Gwasanaeth Babi a Mi a ddarparwyd trwy gydweithredu rhwng Gwasanaethau Plant y Cyngor a Barnardos, a gafodd ganlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac sydd wedi ei gydnabod ledled y DU ac yn y cyfryngau;

 

o          Cafodd y Cyngor arolygiad amlasiantaethol o Wasanaethau Amddiffyn Plant yn 2019/20, oedd yn agwedd gymharol newydd ond sydd wedi derbyn adborth positif dros ben o ran y modd mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg, a lle mae angen cryfhau’r trefniadau presennol;

 

 

o          Mae gwasanaethau teleofal CDC (Gwasanaethau oedolion) bellach yn rhedeg yn llawn ac yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio technoleg i  alluogi pobl i barhau i fyw yn annibynnol gartref;

 

o          Cyflwyno Gorfodi Parcio Sifil (Gwasanaethau’r Ddinas) sydd wedi arwain at welliannau yn niogelwch y ffyrdd a gwella’r amgylchedd o gwmpas Casnewydd.

 

o          Biniau newydd (Gwasanaethau’r Ddinas) sydd wedi gweld gwaliant yn y gyfradd ailgylchu o 58% i 66.4% - sy’n well na tharged statudol y Cyngor;

 

o          Presenoldeb mewn ysgolion (Addysg) wedi gwella. Mae presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn 6ed o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gwelliant o 7 lle ers y flwyddyn flaenorol, a phresenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn 7fed o’r 22 - gwelliant o 9 lle ers y flwyddyn flaenorol;

 

 

o          Gwnaed cryn gynnydd i adfywio Canol Dinas Casnewydd (Adfywio, Buddsoddi a Thai) gyda phrosiectau fel Gwesty’r Siartwyr, Arcêd y Farchnad, a hen adeilad IAC, Stryd y Felin;

 

o          Ail-ddatblygu Hwb Ringland (Adfywio, Buddsoddi a Thai) a chyflwyno’r Hybiau Cymdogaeth sydd yn darparu gwahanol wasanaethau’r  Cyngor mewn un adeilad i’r gymuned;

 

 

o          Mae Gwasanaethau Rheoleiddio’r Cyngor yn parhau i atal a gweithredu yn erbyn y sawl nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau Safonau Masnach, ac yn symud ymaith gynhyrchion a nwyddau peryglus o’r silffoedd; bu’r maes gwasanaeth hwn yn eithriadol o ran ei ymateb i covid-19 a diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion am eu gwaith campus.

 

o          Mae’r tîm Digidol wedi cefnogi’r ffordd newydd o weithio yn ystod cyfnod clo Covid-19 trwy dechnoleg a chefnogaeth TG, a chyflwyno Microsoft Teams mewn byr amser.

Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y mesuriadau perfformiad diwedd blwyddyn sy’n cefnogi cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Dywedodd yr Arweinydd mor galonogol oedd gweld, ar ddiwedd y flwyddyn, fod 61 o’r 111 (55%) mesur perfformiad corfforaethol naill ai wedi cyrraedd neu wneud yn well na’u targed am y flwyddyn. Dywedwyd fod rhai mesuriadau perfformiad heb gyrraedd eu targed neu ‘oddi ar y targed’ o ran eu ffigyrau, a nodir y rhain yn yr adroddiad.

Yn yr adroddiad yr oedd crynodeb o’r meysydd gwasanaeth yn esbonio’r rheswm/rhesymau dros berfformiad, a’r camau a gymerir i wella perfformiad y mesuriadau a nodwyd yn Oren a Choch.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y wybodaeth hon hefyd wedi mynd i’r Pwyllgor Craffu.

Dan amgylchiadau normal, mae’r diweddariadau am berfformiad diwedd blwyddyn hefyd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu Lle a Chorfforaethol a Phobl i adolygu cynnydd a pherfformiad meysydd gwasanaeth y Cyngor yn erbyn eu hamcanion. Oherwydd pandemig Covid-19, ataliwyd y broses ddemocrataidd ar derfyn blwyddyn ariannol 2019/20; cafodd yr adroddiadau felly eu darparu i’r Pwyllgorau Craffu er gwybodaeth.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y caiff y Pwyllgorau gyfle i adolygu’r cynnydd a wneir yn erbyn cynlluniau gwasanaeth 2020/21 ar y pwynt canol-blwyddyn ddiwedd yr hydref.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd y cyflwynir adroddiad canol-blwyddyn pellach pan gaiff y Cabinet gyfoesiadau am gyflwyno cynlluniau gwasanaeth; bydd hyn yn rhoi darlun cliriach o’r modd yr effeithiodd Covid-19 ar amcanion a pherfformiad. Mae adroddiad hefyd am gyflwyno’r 4 Nod Adfer Strategol yn adroddiad Medi 2020 i’r Cabinet.

Dywedodd yr Arweinydd fod yn rhaid i’r Cabinet (fel corff ac fel Aelodau unigol y Cabinet), gydnabod lle mae meysydd gwasanaeth wedi cyrraedd neu wneud yn well na’u nod, a’r gwaith caled a wnaed – yn enwedig lle mae Covid-19 wedi tarfu ar gyflwyno gwasanaethau. Yn yr un modd, rhaid cydnabod lle nad yw’r Cyngor yn cwrdd â thargedau, fod y rhain yn cael eu monitro’n agos, eu cefnogi a’u herio  er mwyn cymryd y camau angenrheidiol i wella perfformiad ac adfer o effeithiau Covid-19.

Gwahoddodd yr Arweinydd ei chydweithwyr yn y Cabinet i wneud sylwadau:

Canmolodd yr aelodau Cabinet y staff sy’n dal i weithio’n effeithiol ac effeithlon ar draws yr holl feysydd gwasanaeth yn y cyfnod heriol hwn.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Prif Weithredwr i ddweud gair, a dywedodd fod yr adroddiadau ar berfformiad, risg a chyllid oll yn gysylltiedig, a diolchodd i’r Cabinet am eu cefnogaeth. Diolchodd yn bersonol hefyd i’r timau am eu gwaith rhagorol llynedd, gan ganolbwyntio fel tîm ar y meysydd hynny sy’n arbennig o heriol. Cadarnhaodd fod gwaith yn mynd rhagddo ar y CATC am eleni a’r flwyddyn nesaf, ac y mae’r swyddogion hefyd yn canolbwyntio ar y blaen-raglen gyfalaf. 

I grynhoi, yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet wneud y canlynol:

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

           Gweithredu ar y cyd â’r Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Gwasanaeth i ymdrin â meysydd lle mae perfformiad yn wael.

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd  y Cabinet a chytuno’n unfrydol ar yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: