Agenda item

Aadroddiad blynyddol yr iaith Gymraeg

Cofnodion:

Paratowyd yr adroddiad yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg 158, 164 a 170 sy’n mynnu bod y Cyngor yn adrodd yn flynyddol ar gydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth benodol, gan gynnwys nifer y cwynion a dderbyniwyd, sgiliau iaith Gymraeg y staff, yr hyfforddiant a gynigir trwy’r Gymraeg, a lefel y Gymraeg sydd ei angen ar gyfer pob swydd wag a swydd newydd a hysbysebir yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Cyhoeddir yr adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor ar ffurf drafft ar hyn o bryd er mwyn cydymffurfio â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi o Fehefin 2020.  Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi cydnabod y gall oedi ddigwydd gydag adroddiadau terfynol oherwydd effaith COVID-19 ar drefniadau llywodraethiant cynghorau.

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet am ei fod yn gyfle iddi hi ac Aelodau’r Cabinet adfyfyrio ar lwyddiannau dros y 12 mis a aeth heibio, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd angen eu datblygu ymhellach yn ymrwymiad y Cyngor i dyfu’r iaith yn y ddinas dros y flwyddyn i ddod.

Cadarnhaodd yr adroddiad fod canolbwynt eleni wedi bod ar ddatblygu perthynas gyda phartneriaid yn y gymuned, croesawu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg i’r Ganolfan Ddinesig fel rhan o ?yl Newydd, ein g?yl Gymraeg leol, a recriwtio Swyddog Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg i helpu i ddwyn cymunedau lleol i mewn yn y cyfnod sy’n arwain at agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg y ddinas.

Cafodd pob aelod o’r Cabinet gyfle i fynychu hyfforddiant iaith Gymraeg eleni, a diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jason Hughes, sydd, yn rhinwedd ei swydd fel pencampwr iaith Gymraeg, yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg aelodau etholedig ac ar draws cymunedau.  Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r swyddogion am barhau i hyrwyddo hyn ledled yr awdurdod.

I edrych ymlaen, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn nodi nifer o flaenoriaethau allweddol at y dyfodol, gan gynnwys:

           cynyddu nifer y staff sy’n dilyn hyfforddiant yn y Gymraeg;

           gwella’r data sydd gennym am siaradwyr Cymraeg yn y Cyngor, a,

           gweithio i sefydlu’r iaith Gymraeg fel rhan o ymdeimlad ein cymunedau amrywiol o berthyn i’r ddinas.

Cynigiodd yr Arweinydd yr adroddiad blynyddol i’w fabwysiadu. Diolch yn fawr.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau i ddweud gair am yr adroddiad

 

Yr oedd y Cynghorydd Mayer, fel yr arweinydd ar gydraddoldeb, yn croesawu Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg eleni, ac yr oedd yn arbennig o falch gyda’r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf i ddatblygu cysylltiadau cryfach gyda phartneriaid Cymraeg a chymunedol y Cyngor. Cadarnhaodd fod y Cyngor yn gweithio i wreiddio’r Gymraeg fel rhan annatod o hunaniaeth ddiwylliannol y ddinas, ac yr oedd wrth ei fodd fod digwyddiadau a phartneriaethau lleol wedi eu cefnogi er mwyn bwrw ymlaen â hyn. Fel un sy’n dysgu Cymraeg, mae’r Aelod Cabinet hefyd eleni yn annog peilotio nifer o gyfleoedd hyfforddi newydd i gynghorwyr a staff, yn y gobaith y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ddysgu ein hiaith genedlaethol.

 

I grynhoi, yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet wneud y canlynol:

 

           cymeradwyo’r adroddiad monitro terfynol a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â’r terfynau amser statudol.

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd  y Cabinet a chytuno’n unfrydol ar yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: