Agenda item

Adferiad COVID-19 - Diweddariad

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad am y cynnydd a wnaed gan y Cyngor a’u partneriaid i adfer gwasanaethau ac i gynnal cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd ein bod oll mewn rhyw ffordd wedi teimlo effeithiau Covid- 19 a’r cyfnod clo ar gymunedau, busnesau ac economi’r ddinas a chyflwyno gwasanaethau’r Cyngor.

Ers mis Mawrth, prif ffocws y Cyngor fu ar arbed bywydau, lleihau lledaeniad y firws mewn cymunedau; cynnal rheng flaen y Cyngor a chefnogi gwasanaethau; a chefnogi pobl fregus sydd wedi dioddef yn uniongyrchol naill ai oherwydd covid-19 neu’r cyfnod clo.

Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cabinet ym mis Mehefin wedi cefnogi’r pedwar Nod Adfer Strategol i gyflwyno Amcanion Lles y Cyngor, ond hefyd i sicrhau y gall gwasanaethau’r Cyngor ddychwelyd yn ddiogel a rheoli achosion o glefyd yn y dyfodol. 

Mae crynodeb o ymateb y Cyngor ers mis Mawrth yn dilyn cyflwyno’r clo gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn yr adroddiad.

 

Trwy gydol y cyfnod hwn, bu tîm ymateb brys y Cyngor (Covid Aur) yn goruchwylio cyflwyno gweithgareddau gweithredol a strategol mewn ymateb i’r achosion mewn cymunedau a mesurau’r cyfnod clo.  Ar hyn o bryd, mae covid-19 yn dal o gwmpas yn ne ddwyrain Cymru, ac oherwydd hyn, mae’r Cyngor yn dal yn wyliadwrus ond hefyd yn hyblyg i gefnogi unrhyw fesurau angenrheidiol a hefyd i gefnogi cymunedau yn y ddinas. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymateb y Cyngor ar draws ei feysydd gwasanaeth gan gynnwys y gwaith cydweithredol gyda phartneriaid y Cyngor yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, grwpiau cymunedol a phartneriaid y trydydd sector. 

Mae manylion llawn gweithgareddau’r Cyngor wedi eu cynnwys yn yr adroddiad – dyma rai enghreifftiau:

 

o          Trwy gydweithredu rhwng Gwasanaethau Digidol y Cyngor, a’r Cyd-Wasanaeth Adnoddau (CWA), llwyddodd staff y Cyngor i weithio o gartref gan ddenfyddio Microsoft Teams, gliniaduron a gwasanaethau eraill.

 

o          Bu cryn bwysau ar Wasanaethau oedolion a Chymunedol y Cyngor er mwyn sicrhau y gallai’r staff gael y cyfarpar gwarchod personol angenrheidiol a gwneud yn siwr fod defnyddwyr gwasanaeth yn dal i dderbyn gofal. Mae timau Oedolion y Cyngor wedi bod yn cefnogi oedolion mewn cartrefi preswyl, therapi galwedigaethol a gofal cartref. 

 

o          Defnyddiodd Gwasanaeth Plant y Cyngor y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd a phlant, a rhoi cefnogaeth angenrheidiol i ofalwyr maeth, lleoliadau gofal a gofal seibiant.

 

 

o          Gyda chau ysgolion, bu’n rhaid i ddisgyblion dderbyn addysg gartref gan ddefnyddio technoleg fel Google Classroom a fideo-gynadledda. Gyda gwaith caled ysgolion, gwasanaethau Addysg y Cyngor a CWA, llwyddwyd i gefnogi plant a nodwyd fel rhai wedi eu heithrio yn ddigidol a darparodd y Cyngor y cyfarpar a’r mynediad angenrheidiol. 

 

o          Er bod yr ysgolion wedi cau at ddibenion addysgol, darparodd llawer o ysgolion a Hybiau Cymdogaeth y Cyngor ofal i blant gweithwyr allweddol a 60 o ddysgwyr bregus.  

 

 

o          Daliodd Gwasanaethau’r Ddinas y Cyngor a Wastesavers ati i gasglu gwastraff o gartrefi a busnesau.

 

o          Bu’n rhaid i lawer man cyhoeddus (parciau, mynwentydd, atyniadau) a gwasanaethau hamdden gau er mwyn sicrhau mesurau pellter cymdeithasol, ond wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae’r mannau hyn wedi ail-agor i’r cyhoedd.

 

 

o          Cefnogodd gwasanaethau Cyllid y Cyngor fusnesau lleol trwy weinyddu dros 2,100 o geisiadau am grantiau gwerth £27m yn ogystal â thros £19m o ryddhad ardrethi busnes i 1,000 o fusnesau. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i gadw busnesau Casnewydd i fynd. 

 

o          Effeithiwyd ar economi’r ddinas gan y mesurau clo, ac wrth i gyfyngiadau lacio, mae’r tîm Rheoleiddio, tîm Adfywio a Gwasanaethau’r Ddinas wedi bod yn cefnogi busnesau er mwyn sicrhau bod amgylcheddau diogel ar gael i gwsmeriaid a staff. 

 

o          Ymwneud ag arweinwyr cymunedol ar draws cymunedau BAME ac ymylol y ddinas i wneud yn siwr y gallant gyrchu’r gwasanaethau angenrheidiol, gan rannu cyngor a chyfarwyddyd a chrybwyll digwyddiadau o droseddau casineb.

 

           Gyda llacio’r cyfyngiadau, bu’r Cyngor yn gweithio tuag at adfer a chyflwyno gwasanaethau yng Nghasnewydd.  Yr oedd yr Arweinydd eisiau gwneud yn hollol glir ein bod ar bwynt lle gall fod angen mwy o gyfyngiadau gyda sefyllfa’r firws ar hyn o bryd. Mae’r sefyllfa yn newid yn barhaus, ac efallai y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd i weithio mewn argyfwng petae pethau’n newid.

 

           Yr oedd yr adroddiad i’r Cabinet yn rhoi trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a’i gynllunio ar draws y gwasanaethau:

 

o          Croesawu ail-agor ysgolion a’r ymdrechion i sicrhau bod sefydliadau yn ddiogel i ddisgyblion a staff.  Bu hwn yn gyfnod anodd iawn i ddisgyblion ac ysgolion a bydd y staff addysg yn cadw llygad trwy gydol y cyfnod hwn i gefnogi disgyblion prif-ffrwd a rhai bregus. 

 

o          Ail-gychwyn Dysgu Oedolion a chefnogi oedolion i fynd at hyfforddiant a sgiliau newydd.

 

o          Hybiau Cymdogaeth sy’n cynnig cefnogaeth ar-lein a thros y ffôn i bobl sy’n chwilio am waith, a chefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd i hyrwyddo ffair swyddi rithiol ar draws De Ddwyrain Cymru.

 

 

o          Yr ymrwymiad i annog a chyflwyno cyfleoedd i bobl ifanc BAME i gael cynlluniau prentisiaeth yn y Cyngor a’r ddinas.

 

o          Mae gwaith adnewyddu wedi ail-ddechrau ar brosiectau allweddol fel Arcêd y Farchnad, ac adeilad IAC.

 

 

o          Prynu cerbydau sbwriel trydan newydd fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon.

 

o          Cefnogi lleoliadau/darparwyr preswyl a chartref ledled Casnewydd i gynllunio adferiad a sefydlogrwydd ariannol tymor-hir. 

 

 

o          Derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno prosiectau teithio llesol gan gynnwys Monkey Island a chynlluniau canol y ddinas.

 

o          Ail-agor safleoedd diwylliannol fel y Bont Gludo a Fourteen Locks. 

 

 

o          Cefnogi sefydlu gwasanaeth Profi, Olrhain ac Amddiffyn ar draws awdurdodau Gwent a BIPAB.

 

o          Cefnogi staff y Cyngor i weithio’n fwy hyblyg o gartref ac ar draws safleoedd y Cyngor ac agor ffyrdd newydd i gymunedau ymwneud â’r Cyngor. 

 

 

o          Mae’r Cyngor wedi sicrhau arian o fwy na £4.8m i godi dros 200 o gartrefi fforddiadwy newydd.

 

o          Cefnogi’r digartref a chysgwyr allan (gyda’n partneriaid) i sicrhau llety parhaol a chefnogaeth. 

 

 

o          Mae’r Cyngor yn cynnal Asesiad Effaith Cymunedol i ddeall, dysgu a chefnogi cymunedau yr effeithiodd Covid 19 arnynt.

 

o          Ail-agor Hybiau Cymdogaeth (trwy wneud apwyntiadau)  i roi gofal plant a chefnogaeth i gymunedau.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd ei chydweithwyr yn y Cabinet i roi sylwadau:

 

Diolchodd y Cynghorydd Rahman i’r Arweinydd am ei chefnogaeth a’i harweiniad diflino trwy gydol y pandemig hwn. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Rahman am ei sylwadau caredig.

 

Yr oedd y Cynghorydd Truman am ddiolch o waelod calon i’r holl staff sydd wedi mynd ati i wneud gwaith yn ychwanegol at eu swyddi arferol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal yn ystod y pandemig.

 

Yr oedd y Cynghorydd Giles am roi neges i wrth-ddweud y wybodaeth anghywir nad yw staff y cyngor yn gweithio - mae staff dysgu a gweithwyr ledled yr awdurdod wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol yr amser. Canmolodd y Tîm Iechyd a Diogelwch am y cyngor a’r gefnogaeth a roddant i ysgolion.  Erfyniodd ar rieni i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a rheolau pellter cymdeithasol wrth fynd â’u plant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i gasglwyr sbwriel Gwasanaethau’r Ddinas a Wastesavers sydd wedi parhau i weithio trwy gydol y pandemig, hyd yn oed yn y cyfnod clo; diolchodd hefyd i holl staff yr awdurdod sydd wedi ymdrechu mor galed.

 

Ategodd y Cynghorydd Harvey sylwadau ei chydweithwyr a nodi nad oes gan yr un cyngor arall staff gwell na mwy ymroddedig na Chasnewydd – maent oll wedi bod yn rhyfeddol.   

 

Canmolodd y Cynghorydd Cockeram y gweithwyr cymdeithasol sy’n wynebu rhai sefyllfaoedd sy’n peri loes, gan gydnabod fod gweithio o gartref yn galed iawn i’r bobl hyn gan na allant rannu eu hemosiynau gyda chydweithwyr: mae hyn yn heriol iawn, felly rhaid cadw mewn cof iechyd meddwl a less pawb.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Prif Weithredwr i ddweud gair, a chadarnhaodd mai pwrpas yr adroddiad yw cadw’r mater hwn ar flaenau meddyliau pobl, ac adfyfyrio ar y camau a gymerir gan y swyddogion bob dydd, wrth i’r sefyllfa newid. Mae Casnewydd yn gweld cynnydd mewn achosion, a’r unig ffordd i ymdrin â hyn yw i bawb gymryd cyfrifoldeb personol dros eu gweithredoedd.

 

I gloi, diolchodd yr Arweinydd i’r holl staff, partneriaid a chynghorwyr am gefnogi cymunedau a gwasanaethau, a chadarnhaodd y rhoddir diweddariad pellach am gynnydd y Cyngor yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Hydref.

 

I grynhoi, gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd hyd yma, a’r risgiau mae’r Cyngor yn wynebu o hyd.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd  y Cabinet a chytuno’n unfrydol ar yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: