Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2019/20

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-        Y Cynghorydd Jane Mudd - Arweinydd y Cyngor

-        Beverly Owen – Prif Swyddog Gweithredol

-        Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

-        Chris Humphrey – Cyfarwyddwr Dros Dro’r Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwynodd yr Arweinydd y trydydd Adroddiad Blynyddol Corfforaethol ar gynnydd Cyngor Dinas Casnewydd yn erbyn cynllun corfforaethol 2017-2022. Dywedwyd mai diben yr adroddiad oedd adfyfyrio ar 2019 – 20 i asesu'r cyflawniadau y mae'r Cyngor wedi'u gwneud, i weld lle gellir gwella perfformiad ac i edrych ymlaen at weddill y tymor hwn. Yn ymwybodol iawn bod y 6 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'n cymunedau, y Cyngor a phartneriaid sy'n gweithio gyda ni i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor. Mae Covid-19 wedi ac yn parhau i effeithio ar ein heconomi a'n cymunedau yng Nghasnewydd. Mae llinell denau iawn rhwng llacio’r cyfyngiadau i helpu’r economi i adfer a diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ac sydd wedi eu gwthio i’r cyrion yn y ddinas.

Dywedodd yr Arweinydd mai dyma pam y cymerwyd y cyfle yn yr adroddiad i fyfyrio'n ôl ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu ac i gydnabod yr ymdrech y mae'r Cyngor, ein partneriaid a'n cymunedau wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud ers mis Mawrth 2020. Mae Covid-19 hefyd wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau sy'n dal i fodoli mewn cymdeithas, ac rydym yn gwbl ymwybodol o'r heriau a'r gwaith pellach y mae angen ei wneud er mwyn lleihau'r bwlch hwn, ac i sicrhau hefyd y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau'n gynaliadwy yn yr hirdymor i'r Cyngor. Ychwanegodd yr Arweinydd fod cyfleoedd newydd hefyd i'r Cyngor ailedrych ar sut rydym yn gwella'r modd y darperir ein gwasanaethau yn fwy effeithlon gan ddefnyddio technoleg. Dyma pam rydym wedi cymeradwyo Pedwar Nod Adfer Strategol y Cyngor

sy'n cyd-fynd yn agos ag amcanion y Cynllun Corfforaethol. Mae’r amcanion hyn

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

yn galluogi'r Cyngor i adfer ei wasanaethau, datblygu'r cyfleoedd newydd hyn a dysgu o argyfwng Covid-19.

Caiff y gwaith o gyflawni'r nodau adfer strategol ei fonitro drwy'r cynlluniau gwasanaeth a bydd y Pwyllgorau Craffu Perfformiad yn cael cyfle ym mis Tachwedd i adolygu cynnydd y camau hyn. Bydd Cabinet y Cyngor hefyd yn derbyn diweddariadau misol ar ymateb Covid-19 y Cyngor a throsolwg o gynnydd y Cyngor yn erbyn y nodau adfer. Yna, roedd yr Arweinydd am egluro'r dyheadau a'r nodau a geir yn yr adroddiad, fel y mae ein sefyllfa bresennol yn ei gwneud yn glir iawn, er ein bod wedi pennu ein nodau adfer strategol, bydd yn rhaid i ni, ar rai camau yn y dyfodol rhagweladwy, fod mewn sefyllfa ymateb. Yn anffodus, dywedodd yr Arweinydd wrth y pwyllgor fod cyngor y ddinas a Llywodraeth Cymru yr wythnos hon wedi penderfynu symud tuag at fwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio cyfyngu ar ledaeniad Covid-19 ledled ardal y ddinas.

Yna, dywedodd yr Arweinydd wrth y pwyllgor ei bod yn bwysig iawn rhoi hyn yn ei gyd-destun wrth ystyried y cynllun a'r nodau yn y cynllun, mae ffactorau allanol a allai barhau i effeithio ar hyn. Yna tynnodd yr Arweinydd sylw at rai elfennau ariannol a geir yn yr adroddiad. Mae cyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau’n hanfodol i bwysau cyllidebol ochr yn ochr ag ysgolion ein Cyngor. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cabinet yn parhau i gadw llygad barcud arno.

Yn olaf, dywedodd yr Arweinydd, er bod y Cyngor yn croesawu'r incwm ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, fod pwysau sylweddol ar y gyllideb yn parhau oherwydd Covid-19. Dywedwyd wedyn bod £3.7miliwn wedi'i golli o ffrydiau refeniw a bod £1.1miliwn ychwanegol wedi’i wario ym maes gofal cymdeithasol ac o ran cyllidebau ysgolion.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd a'r swyddogion am ddod i'r cyfarfod a chanmolodd bawb am eu gwaith drwy gydol y pandemig, yn helpu gyda benthyciadau busnes a'r broses gyflym o gadw gwasanaethau i fynd. Mae llawer o bethau cadarnhaol i’w gweld yn ystod y cyfnod hwn a hefyd gwersi i'w dysgu.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

-        Canmolodd yr Aelodau'r gwaith rhagorol o roi dyfeisiau i blant ar gyfer addysg gartref. Gwnaed sylw bod argyfwng Covid-19 wedi amlygu'r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, bod plant heb offer TG gartref yn cael amser anodd. Erbyn hyn, roedd 800 o ddyfeisiau wedi'u rhoi ar draws y ddinas, pa ganran o blant sydd â dyfais addas erbyn hyn? Canmolodd yr Arweinydd y gwaith gyda phlant, a chytunodd fod yr argyfwng wedi tynnu sylw at broblemau’n ymwneud ag allgáu digidol ar draws y ddinas. Mae timau wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod cynhwysiant wrth symud ymlaen. Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd bod dysgu a chymorth digidol bellach yn nod allweddol wrth symud ymlaen ac yn rhan allweddol o strategaeth adfer y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y pwyllgor y gellir anfon y ganran allan i'r pwyllgor.

-        Gofynnodd yr Aelodau am un o’r nodau allweddol ar gyfer Casnewydd sef cynyddu ei swyddfeydd Gradd A i fusnesau yng Nghanol y Ddinas. A fydd argyfwng Covid-19 yn newid yr amcan hwn, gan y gallai mwy o bobl fod yn gweithio gartref? Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n gyson. Mae rhagolygon yn dangos bod angen gofod swyddfa Gradd A o hyd yn y tymor canolig i'r hirdymor. Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y Cyngor yn cynnal bwrdd crwn adfer economaidd cyn bo hir, lle bydd yr Arweinydd yn siarad â chynrychiolwyr o fusnesau ar draws pob sector sy'n gweithredu, ac a hoffai weithredu o fewn yr ardal, i geisio cael gwybod beth yw eu blaenoriaethau wrth symud ymlaen ac i sicrhau ein bod wedi gallu cysoni eu blaenoriaethau busnes â'n blaenoriaethau yn y cynllun corfforaethol a'n nodau adfer strategol.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor, chwech i wyth mis yn ôl, ar lwybr clir i gynyddu nifer y swyddfeydd, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni oedi a gwrando ar yr hyn y mae'r farchnad yn ei ddweud wrthym am y galw a'r gofyniad am swyddfeydd.

-        Soniodd yr Aelodau am bryder a godwyd y llynedd sef os cymharwch â'r cynllun gwreiddiol, mae’n wych bod enghreifftiau wrth symud ymlaen ond mae'n ymddangos ein bod yn cyflwyno pethau sydd wedi digwydd yn hytrach na sut yr oeddent yn ymwneud â'r cynllun yn flaenorol, er y gwerthfawrogwyd bod angen iddo ddatblygu. Gwnaed sylwadau hefyd am y dangosyddion perfformiad. Roedd yn wych gweld llawer o Wyrdd, ond mae sawl Oren a Choch nad oes esboniadau ar eu cyfer, yn enwedig y dangosydd perfformiad – "Canran y rheiny sy'n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth wedi 12 mis", oedd â tharged o 45% ond gwnaethom gyflawni 14% mewn gwirionedd. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n cael ei sicrhau bod unrhyw fesurau Oren neu Goch yn y dyfodol yn cael eu hesbonio a beth rydym yn bwriadu ei wneud yn eu cylch.

-        Gofynnodd yr Aelodau am Nod Adfer Strategol 3, sy’n ymwneud ag adfer y Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn llawn, gan gefnogi partneriaid y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt. Beth yw'r rhwystrau a'r pryderon mewn perthynas â hyn? Dywedodd yr Arweinydd wrth y pwyllgor ei bod yn bwysig nodi bod y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystod cyfnod Covid, wedi bod yn rhedeg am gyfnod hwy ac wedi bod yn fwy hygyrch nag yr oeddent wedi bod o'r blaen, gan redeg rhwng 8am a 8pm 7 diwrnod yr wythnos, er yr oedd angen iddynt addasu'r ffordd y maent yn gweithio. Enghraifft o hyn yw roedd rhai canolfannau y byddai pobl fel arfer yn ymweld â nhw i dderbyn gwasanaethau ar gau, felly roedd nifer fawr o bobl yn derbyn eu gwasanaethau yn eu cartrefi.

Yna, sicrhaodd Cyfarwyddwr Dros Dro’r Gwasanaethau Cymdeithasol y pwyllgor fod y mwyafrif helaeth o'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws y gwasanaethau Plant ac Oedolion yn parhau drwy'r pandemig. Bu'n rhaid cau Canolfannau Gwasanaethau Dydd oherwydd gofynion ynghylch cadw pellter cymdeithasol a'r risgiau o ran dod â phobl sydd â phroblemau iechyd sylfaenol yn agos at ei gilydd. Roedd asesiadau brys wedi'u blaenoriaethu yn y gymuned. Mae cartrefi gofal a chydweithwyr ym maes gofal cartref, sydd wedi bod ar flaen y gad drwy gydol y pandemig, wedi cael cymorth drwy gydol y pandemig ac mae angen parhau i roi gofal a chymorth yng nghartrefi pobl. Bu'n rhaid dychwelyd adroddiad wythnosol i Lywodraeth Cymru, sy'n nodi'r gallu i roi a chynnal gofal cymdeithasol yn y sefyllfa sydd ohoni.

Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi'r gwaith caled parhaus sy'n mynd rhagddo, ac awgrymon nhw efallai y gellid newid rhywfaint o'r geiriad i ddangos hyn.

-        Canmolodd yr Aelodau Gasnewydd am fod ymhlith y cyntaf i ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i blant gael masgiau wyneb yn yr ysgol. Yna gwnaed sylw am y gyllideb a'r golled anochel o £3.7m a chostau o £1.7m yn ystod yr argyfwng. Os bydd yr argyfwng yn dal i fynd erbyn mis Mawrth 2021, faint y rhagwelir bydd yn cael ei golli mewn incwm a gwariant, a beth mae'r Tîm Arweinyddiaeth yn ei wneud i liniaru hynny wrth symud ymlaen o ran rhagamcanion a chynlluniau wrth gefn? Gofynnwyd hefyd a oedd unrhyw arwydd y daw arian posibl gan Lywodraeth Cymru neu o gronfeydd wrth gefn y Cyngor.

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Cabinet yn monitro costau gwasanaethau ac incwm a gollir bob mis. Mae'r Cabinet hefyd yn ymchwilio i'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â risgiau pellach incwm dinesig, yn benodol o ran casglu'r dreth gyngor a chynnydd mewn hawliadau yn erbyn cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Dywedodd yr Arweinydd fod Swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru ar hyn, a rhoddodd sicrwydd bod Llywodraeth Cymru, o ran y gwariant mewn perthynas â Covid-19 a’r ffrydiau refeniw a gollwyd, wedi rhoi tua £78m i awdurdodau lleol gyflwyno hawliadau am ad-daliad yn ystod y chwarter cyntaf hwn.

Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd fod swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y problemau gyda'r dreth gyngor, gan ein bod yn ymwybodol bod gostyngiad canrannol bach hyd yn oed yng ngostyngiad y dreth gyngor yn cael effaith sylweddol ar ein ffrydiau incwm refeniw.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa, fel y gwelir yn y monitorau cyllideb, wedi gwella'n sylweddol o'r sefyllfa a fonitrwyd ym mis Gorffennaf hyd at fis Medi, ac mae pob trysorydd o fewn Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull aeddfed iawn o geisio targedu lle mae angen y gronfa fwyaf. Mae'r Pennaeth Cyllid yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn, ac mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn trafod cyllid y Cyngor o leiaf unwaith yr wythnos i weld sut mae Covid-19 yn effeithio ar y gyllideb.

-        Gofynnodd yr Aelodau am Les Amcan 4 yn yr Adroddiad Blynyddol – "Adeiladu cymunedau cydlynol a chynaliadwy" a Nod Strategol 4 yn y Cynllun Adfer – "Rhoi'r adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i symud allan o'r argyfwng, gan ystyried yn benodol yr effaith y mae Covid wedi'i chael ar ein cymunedau lleiafrifol ac ar y cyrion. Pa gamau sydd wedi'u cymryd, neu wedi'u cynllunio er mwyn cyflawni hyn? Dywedodd yr Arweinydd fod llawer o waith wedi dechrau ar hyn. Rhoddwyd enghraifft bod y Cyngor wedi cefnogi'r digartref a'r rheiny sy'n cysgu ar y stryd i ddod o hyd i lety, ac roedd gan Lywodraeth Cymru ddisgwyliad clir i bob awdurdod lleol fod â dyletswydd i ddod o hyd i lety dros dro. Roedd y gefnogaeth yn adlewyrchu cryfder gwaith partneriaeth. Mae'r Gr?p Cysgu ar y Stryd yn cynnwys swyddogion y Cyngor, cymdeithasau tai, y partneriaid elusennol Pobl a Wallach, Iechyd y Cyhoedd a'r Heddlu. Yna canmolodd yr Arweinydd yr Heddlu am eu cyfraniad. Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am arian cyfalaf a chyllid refeniw pellach er mwyn gallu symud yr ymateb hwn ymlaen, a phwysleisiodd i'r pwyllgor fod angen arian parhaus mewn perthynas â'r gr?p sydd ar y cyrion yn arbennig.

Mae gwaith agos wedi'i wneud hefyd gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystod y cyfnod hwn i gyflymu’r broses o sicrhau bod eiddo ar gael ac yn cael eu hadfer i’w defnyddio eto fel y gall pobl symud i mewn iddynt. Roedd gwaith agos wedi'i wneud hefyd gyda'r sector rhent preifat. Yna diolchodd yr Arweinydd i'r holl swyddogion yn yr hybiau cymunedol ar draws y ddinas, a fu'n gweithio gyda grwpiau agored i niwed a'r rheiny sydd ar y cyrion yn ariannol i sicrhau eu bod wedi cael cymorth.

-        Rhoddwyd gwybodaeth i'r pwyllgor am waith parhaus a rennir yn ystod y cyfnod hwn fel ymateb i’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Mae cyfres o fyrddau crwn gyda chynrychiolwyr o'r Gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Casnewydd a pharheir i gydweithio â nhw i gyflawni rhai o ddyheadau maniffesto Mae Bywydau Du o Bwys. Mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried nid yn unig fel awdurdod lleol unigol, ond gyda phartneriaid ledled Casnewydd. Roedd yr Arweinydd hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod y Cyngor, er bod y gwaith hwn yn parhau, yn gwneud llawer o waith i sefydlu'r sylfaen dystiolaeth drwy gynnal asesiadau o'r effaith ar y gymuned ar draws y ddinas gydag amrywiaeth o grwpiau a chymunedau i ddeall yr effaith y mae Covid19 a'r cyfnod clo wedi'i chael arnynt, ac i dynnu sylw hefyd at faterion y gallai fod angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth symud ymlaen.

-        Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar yr effaith y mae Covid-19 yn ei chael ar gymaint o achosion lleiafrifoedd ethnig, ac roeddent yn gobeithio y gall, yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf, dynnu sylw at gynnydd gwirioneddol o ran cydlyniant. Dywedodd yr Arweinydd fod cyfres o gyfarfodydd wedi'u trefnu gyda chynrychiolwyr, a'i fod am ei gwneud yn glir mai'r bwriad o'r cychwyn cyntaf oedd gweld gweithredu go iawn, a bydd ein camau gweithredu yn seiliedig ar ein hymateb i faniffesto Mae Bywydau Du o Bwys gan ei bod yn bwysig i bawb ddeall mai dyma'r hyn y mae pobl wedi'i gyflwyno i grwpiau eraill mewn cymdeithas, i'w helpu i gael eu lle haeddiannol mewn cymdeithas. Mae llawer o gamau gweithredu wedi'u cynnwys yn y maniffesto y gallwn ymateb iddynt fel corff cyhoeddus.

-        Gofynnodd yr Aelodau am y llinell ganlynol yn y Cynllun Argyfyngau - “Nodi, datblygu a cheisio cynnal unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr argyfwng”. Pa bethau cadarnhaol o'r argyfwng y gellir eu dwyn ymlaen? Roedd yr Arweinydd am dynnu sylw at gryfder ein gwaith partneriaeth ar bob lefel, a oedd yn cynnwys y gwaith effeithiol a wnaed gan yr adran Argyfyngau Sifil. Canmolodd yr Arweinydd ymgysylltiad Arweinwyr yr holl grwpiau gwleidyddol yng Nghasnewydd, am y rhoddwyd gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu i gydweithio er budd pobl Casnewydd. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod pob Arweinydd y 22 o awdurdodau lleol, yn ystod dau fis cyntaf yr argyfwng, wedi cyfarfod yn ddyddiol, gan gyfarfod wedyn dair gwaith yr wythnos ac wedyn unwaith yr wythnos, ac wedyn pob pythefnos. Rhannwyd profiadau, a hefyd cefnogaeth ar y cyd, a oedd wedi bod yn allweddol.

Yna dymunodd yr Arweinydd bwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i Gasnewydd. Un enghraifft wedyn oedd bod y Cyngor, dros yr wythnos diwethaf, wedi ymgysylltu â'r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol bron bob dydd. Mewn cyfarfod ddydd Llun gydag Arweinwyr eraill awdurdodau De-ddwyrain Cymru a’r Prif Weithredwr, ymgynghorodd Prif Weinidog Cymru â'n Cyngor ar ein barn ar rai o'r penderfyniadau yr oedd angen iddo eu gwneud cyn iddo siarad â'r genedl y noson honno. Yna, dymunodd yr Arweinydd dalu teyrnged i Gadeirydd BGC Casnewydd yn Un i'n partneriaid BGC.

-        Canmolodd yr Arweinydd yr holl swyddogion am y gwaith sy'n mynd rhagddo o ran technoleg a gweithio ystwyth er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol i drigolion. Dywedwyd hefyd bod gweithio fel hyn wedi ein galluogi i weithio'n agosach a chyflawni rhai canlyniadau cadarnhaol mewn cyfnod heriol a digynsail. Canmolodd yr Arweinydd hefyd gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi cefnogi defnyddwyr gwasanaeth a oedd wedi defnyddio gwasanaethau mewn adeiladau o'r blaen, drwy roi dewisiadau eraill ar waith.

-        Canmolodd y Prif Weithredwr wydnwch, hyblygrwydd ac ystwythder y Cyngor wrth ymateb i'r pandemig, a diolchodd hefyd i'r ystod o bartneriaid, yn enwedig drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Diolchwyd wedyn i'r holl swyddogion am y gefnogaeth a gafwyd dros y chwe mis diwethaf, a'r holl staff yn y sefydliad. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y chwe mis diwethaf wedi dod â lefel newydd o aeddfedrwydd ar draws y sefydliad, ac yna trafododd y ffyrdd newydd o weithio, a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r pwyllgorau Craffu dros y misoedd nesaf i’w hystyried a’u thrafod ar lefel drawsbleidiol.

-        Gofynnodd yr Aelodau am y ffyrdd newydd o weithio, yn enwedig i'r Gwasanaethau Cymdeithasol o ran rhoi cymorth i bobl ifanc ar ffiniau gofal a phobl â chlefyd Alzheimer. Sut y byddai cymorth ar gyfer y grwpiau hyn yn cael ei gyflawni? Rhoddodd y Pennaeth Oedolion enghraifft o ymgysylltu â phobl iau, maent wedi bod yn fwy cyfforddus yn ymgysylltu’n rhithwir drwy Teams a Zoom, yn hytrach nag ymgysylltu wyneb yn wyneb gan ei fod yn llai gwrthdrawiadol ac yn rhywbeth y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau ag ef. O ran pobl h?n â chlefyd Alzheimer, gyda rhywfaint o'r arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru rydym wedi prynu offer rhyngweithiol a sgriniau sydd wedi bod o gymorth wrth helpu pobl mewn cartrefi gofal i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd. Yna, dywedwyd wrth y pwyllgor bod gwaith ychwanegol wedi'i wneud yn y gwasanaeth Teleofal dros y deuddeg mis diwethaf, ochr yn ochr ag awdurdodau partner. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai hyn yn ategu’r gofal personol un i un, ni fyddai’n cymryd ei le. Yna rhoddwyd enghraifft y gallai pobl ddefnyddio'r dechnoleg i’w hatgoffa i gymryd eu meddyginiaeth.

 

-        Yn eich barn chi, pa effaith y bydd y cyfnod clo lleol yn ei chael ar y Nodau Adfer Strategol, a beth fyddai'r pryder mwyaf yn eich barn chi? Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn rhy fuan dweud ar hyn o bryd, gan nad yw’r cyfnod clo lleol wedi bod ar waith yng Nghasnewydd am hir, ond mae'n rhywbeth y mae angen ei adolygu’n gyson, ac mae'n obeithiol y byddwn, trwy’r gwaith cyfunol gan bawb yng Nghasnewydd, allan o’r cyfnod clo lleol yn gyflym. Ychwanegodd yr Arweinydd hefyd fod y Canghellor heddiw wedi gwneud sylwadau am ba gymorth ychwanegol fydd yn cael ei roi.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr economi hefyd yn cael ei hystyried. Mae'n ddyddiau cynnar ond rydym yn ymgysylltu â rhai o'n partneriaid allweddol i gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd.

-        A ydy rhoi gatiau yn y Stryd Fawr, Cambrian Road a Griffin Street wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol? Dywedodd yr Arweinydd wrth y pwyllgor fod hyn wedi'i roi ar waith i alluogi sefydliadau i agor i'r cyhoedd tra'n sicrhau amgylchedd diogel i'r busnesau hynny weithredu ac i bobl symud yng nghanol y ddinas tra'n teimlo'n hyderus ynghylch y mesurau ymbellhau cymdeithasol. Cafwyd adborth cadarnhaol gan fasnachwyr, a bydd yr adborth yn parhau i gael ei fonitro. Mae adborth gan AGB Casnewydd hefyd wedi bod yn gadarnhaol.

-        Gofynnodd yr Aelodau a fyddai tacsis a mathau eraill o drafnidiaeth yn cael teithio drwy'r Stryd Fawr a Heol Cambrian eto pan fydd nifer yr heintiau'n gostwng. Dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod yn rhy fuan gwneud sylwadau ar hyn, gan fod nifer yr achosion o heintiau wedi codi’n gyflym ac nid oes gennym syniad am ba hyd y bydd y cyfnod clo lleol ar waith.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, Pennaeth Pobl a Newid Busnes a Chyfarwyddwr Dros Dro’r Gwasanaethau Cymdeithasol am fod yn bresennol.

 

Dogfennau ategol: