Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd M Richards y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am faterion cyfredol yr heddlu cyn gwahodd cwestiynau gan y cynghorwyr.

 

Roedd troseddu wedi gostwng yn ystod y pum mis diwethaf gyda 2,000 yn llai o droseddau; byddai Covid wedi chwarae rhywfaint o ran yn hyn.  Roedd byrgleriaethau wedi lleihau o gymharu â lluoedd eraill yng Nghymru.  Ym mis Awst roedd mis o drosedd isel gyda 40/50 yn llai o ddigwyddiadau na’r flwyddyn flaenorol.  Ym mis Mai a Gorffennaf eleni ymdriniodd y tîm rhagweithiol ag atafaelu 200 o gerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyflenwi cyffuriau.  Atafaelwyd meintiau enfawr o gyffuriau Dosbarth A gwerth £5 miliwn.  Arweiniodd Ymgyrch Washington at arestio saith gwerthwr cyffuriau a derbyniodd y rhan fwyaf ohonynt ddedfrydau sylweddol.

 

Canol Casnewydd -  roedd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth yn ogystal ag ymdrin â chardota a chamddefnyddio cyffuriau ger y brif orsaf fysiau.   Newidiodd economi'r nos yn ystod y pandemig ac roedd nifer yr ymwelwyr yn isel iawn.  Diolchodd yr Uwcharolygydd i M Cridland, Rheolwr Gwasanaethau Rheoliadol, Safonau Masnachol a’r Tîm Trwyddedu am gefnogaeth wrth ymweld â chlybiau nos.  Llwyddodd yr Heddlu, yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol ar ddechrau’r cyfnod cloi i roi cartrefi i 100 o bobl sy’n cysgu ar y stryd, cafodd hyn effaith gadarnhaol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chardota.

 

Gorllewin Casnewydd - bu llawer o fyrgleriaethau o siediau yn y misoedd ar ddechrau’r haf yn Allt-yr-yn a chafodd nifer o bobl eu harestio a’u cyhuddo.  Cafodd cyfarfod llywodraethu aml-asiantaeth newydd ei sefydlu; Pilgwenlli Ddiogelach a fynychwyd gan aelodau a thrigolion.  Bu 25 o arestiadau yn ardal Pilgwenlli ym mis Awst gyda nifer o gerbydau’n cael eu hatafaelu.  Roedd gwersyll y Teithwyr yn Sandpiper Way, Dyffryn a gyrhaeddodd ym mis Mai bellach wedi mynd.  Bu nifer o alwadau ynghylch beiciau oddi ar y ffordd yn ardaloedd Betws, Malpas a Shaftesbury, cafodd nifer o’r beiciau hyn eu hatafaelu.  Roedd yr Uwch-arolygydd yn rhan o’r gr?p Llan-bedr Gwynll?g a Gwynll?g; PRAID a gyfarfu’n ddiweddar.  Bu digwyddiad hyll ddydd Sadwrn 12 Medi lle tarfodd nifer o deithwyr yn reidio o gwmpas ar drapiau merlod yn llwyr ar Ganol y Ddinas, digwyddodd hyn yn rhwng 2.30pm a 6pm.  Nid oedd yr Heddlu yn gwybod ei fod yn digwydd, cwrddodd y Teithwyr mewn maes parcio tafarn yn Nyffryn cyn gorymdeithio drwy Gasnewydd.  Byddai’r Heddlu yn monitro’r safleoedd trwyddedig yn rheolaidd yn y dyfodol.  Roedd timau ymddygiad gwrthgymdeithasol Maesglas hefyd yn ymchwilio i’r materion.

 

Dwyrain Casnewydd - Nid oedd ceir yn criwsio yn ardal Spytty yn digwydd ar ôl cyfarfod diweddar gyda’r Heddlu.  Rhoddodd yr Arolygydd Cawley y wybodaeth ddiweddaraf i’r Uwch-arolygydd gan ddweud wrtho fod ymddygiad gwrthgymdeithasol o dan Bridge George St, Corporation Road, Old Barn Estate a Black Ash yn flaenoriaethau.  Roedd tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol Caerllion hefyd yn treulio mwy o amser yn y maes hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch-arolygydd Richards a’r Heddlu am eu gwaith caled yn ystod y pandemig.  Roedd y Cyngor a’r Heddlu wedi gweld cyfnod heriol ac ar bob lefel, roedd yr ymgysylltu â Heddlu Gwent wedi bod yn effeithiol iawn.  Yn ddiweddar cyfarfu’r Arweinydd â’r Prif Uwch-arolygydd ac roedd hefyd am drosglwyddo ei diolchiadau.  Adlewyrchodd yr ymagwedd a gymerwyd gan yr Heddlu a’r gefnogaeth roeddent wedi’i dangos tuag at dîm gorfodi’r Cyngor aeddfedrwydd y berthynas rhwng y Cyngor a’r Heddlu.   

 

Cafodd yr Arweinydd gwestiwn gan drigolion Malpas, Betws a Shaftesbury lle roedd beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio, roedd y rhain yn effeithio ar lwybrau teithio llesol.  Gofynnodd yr Arweinydd pa sicrwydd y gallai’r Heddlu ei roi bod hyn yn cael sylw.  Sicrhaodd y Uwch-arolygydd i’r Arweinydd y byddai adborth yn cael ei roi i’r Arolygydd a’i dîm, byddai hyn hefyd yn flaenoriaeth yn ystod yr wythnosau i ddod.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd R Jeavons at y criwsio ceir ar hyd yr SDR a’r ddeialog barhaus gyda’r grwpiau uchod.  Cafodd yr Uwch-arolygydd gyfarfod cynhyrchiol gyda threfnwyr digwyddiadau yn ddiweddar ynghylch pobl yn ymgynnull yn ddiweddar.  Ni fyddai unrhyw gyfarfodydd eraill am 6-8 mis.  Hefyd roedd yr Heddlu yn gweithio’n agos gyda Tesco er mwyn ei wneud yn lle anodd i ymweld ag ef.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd D Harvey wrth yr Uwch-arolygydd am ddigwyddiadau a oedd bron â digwydd yn ymwneud â digwyddiad peryglus y teithwyr gyda thrapiau a achosodd wrthdrawiad bron gyda cherddwyr, gan gynnwys mam ifanc a phlentyn.  Bu ymddygiad ymosodol tuag at aelodau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ac ymladd heb ei bryfocio a difrod oedd yn costio £500 i’r parc chwarae.  Cafodd y Cynghorydd sesiwn friffio gyda Chasnewydd Fyw a deallodd y gallai’r Heddlu fod wedi defnyddio Adran 61 i reoli’r sefyllfa, neu wedi arestio rhywrai.    Roedd yr Uwch-arolygydd wedi derbyn sesiynau briffio gan Gasnewydd Fyw a byddai’n trefnu cyfarfod gyda’r Cynghorydd Harvey i fynd trwy’r hyn a drafodwyd.

 

§  Diolchodd y Cynghorydd M Evans i’r heddlu am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod cloi a’r cyfnod cloi lleol. Gofynnodd y Cynghorydd a ddylai’r Cyngor fod wedi cymryd camau dinesig mewn perthynas â gwersyll Sandpiper Way, neu a oedd yn gyfrifoldeb ar yr heddlu. Roedd protocol aml-asiantaeth ar y cyd yng Ngwent ynghylch gwersylloedd anawdurdodedig,  Byddai’r rôl arweiniol yn aros gyda’r awdurdod leol, fodd bynnag roedd cyfyngiadau a osodwyd gan LlC ar awdurdodau lleol oherwydd Covid-19.   Roedd gan yr heddlu bwerau penodol o dan Adran 61 er bod meini prawf penodol yn ymwneud â’r pwerau hyn a phryd y gellid eu defnyddio.  Roedd gan yr awdurdod lleol bwerau tebyg o dan Adran 77 yr un Ddeddf.  Fodd bynnag roedd y galwadau gan drigolion ar lefel isel felly ni sbardunwyd Adran 61.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd M Rahman at ddiffyg ymateb gan yr heddlu yn Ward Victoria.  Cafwyd ffrwgwd yn ddiweddar a ddigwyddodd y tu allan i’r siop Fried Chicken Takeway ar Corporation Road.  Dim ond pan bostiodd y perchnogion ffilm ar Facebook y cafodd y Cynghorydd wybod am yr ymladd.  Nid oedd yr heddlu wedi cysylltu â nhw neu ymweld â nhw ac ni chafodd y cyflawnwyr eu harestio.  Mae’n bosibl bod y diffyg ymateb gan yr heddlu oherwydd bod pobl ddim yn adrodd am ddigwyddiadau a gofynnodd y Cynghorydd i hyn gael ei godi gyda’r tîm.  Nid oedd yr Uwch-arolygydd yn ymwybodol o’r digwyddiad ond byddai’n mynd â negeseuon yn ôl i Dîm Dwyrain Casnewydd. 

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r heddlu am eu cefnogaeth gyda materion sy’n ymwneud â thrwyddedu.  Ar 26 Medi, cynhaliwyd parti sylweddol mewn t? yng Nghaerllion ac aeth yr heddlu i’r lleoliad am 2.30am gan adael a chaniatáu i’r parti barhau tan 3.30am, pan oedd pawb wedi gwasgaru, roedd cerbydau’n troelli eu holwynion ac yn chwarae cerddoriaeth swnllyd.  Roedd angen mwy o sylw yng Nghaerllion gan fod cynnydd o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a chroesawodd y cynghorydd bresenoldeb yr heddlu.  Byddai’r Uwch-arolygydd yn derbyn brîff ar y digwyddiad ac yn adrodd yn ôl i’r cynghorydd.

 

§  Llongyfarchodd y Cynghorydd Holyoake yr Uwch-arolygydd a’r Arolygydd Williams ar eu gwaith yn Ward Pilgwenlli.  Bu gwersyll Teithwyr ar Alexander Road a Commercial Road.  Roedd yfed yn gyhoeddus hefyd wedi cynyddu’n sylweddol.  Awgrymodd gr?p ymgynghorol Pilgwenlli y dylid rhoi GDMC yn ôl ar waith.  Hefyd roedd y fferyllydd lleol yn yr ardal wedi gweld cynnydd o ran defnyddwyr cyffuriau ar y stryd y tu allan ac ambiwlansys yn cael eu galw allan yn rheolaidd i fynd â’r defnyddwyr i’r ysbyty.  Roedd yr Uwch-arolygydd yn bresennol yn y cyfarfod Pilgwenlli Ddiogelach y diwrnod ar ôl y Cyngor a chafwyd cyfarfod llywodraethu Casnewydd Ddiogelach gyda Phrif Weithredwr hefyd i drafod materion.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd C Evans at y gysgodfa digartrefedd y cyfeiriwyd y rhai mwyaf agored i niwed ati.  Roedd y gr?p a arweiniwyd gan y Prif Arolygydd ac a fynychwyd gan T McKim, Rheolwr Polisi, Partneriaethau a Chynnwys, yn llwyddiannus wrth roi tai i bobl ddigartref fel y cyfeiriwyd ato yn niweddariad yr Uwch-arolygydd. Roedd y Cynghorydd yn gobeithio y byddai’r gr?p o arweinwyr strategol yn cynnal yr ymagwedd hon ac yn adeiladu ar lwyddiant yr ychydig fisoedd diwethaf.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd White at y cydweithrediad â Heddlu Gwent a De Cymru a gynrychiolwyd ar lefel rhanddeiliad parthed y digwyddiadau a’r digwyddiadau dilynol yn ymwneud â thrapiau merlod a ph’un a oedd hyn hefyd yn digwydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd.  Roedd yr Uwch-arolygydd wedi derbyn gwybodaeth ddydd Sul 13 Medi mai gr?p o Deithwyr o Abertawe a ymsefydlodd yn y Duffryn Arms, er nad oedd yn si?r a oeddent yn rhan o’r digwyddiadau yn Llan-bedr Gwynll?g a Gwynll?g.