Cofnodion:
Rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:
Archwilio gwasanaethau amddiffyn plant ar y cyd
Ar ddiwedd y llynedd, roedd gwasanaethau plant ac addysg yn rhan o’r archwiliad aml-asiantaeth cyntaf o’i fath.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth ei Mawrhydi Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Estyn arolygiaeth fanwl i wasanaethau amddiffyn plant yn y ddinas.
Gwerthusodd sut yr ymatebodd y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, a'r Gwasanaeth Prawf i gam-fanteisio ar blant.
Canfu'r arolygiad ar y cyd lawer o gryfderau yn yr holl wasanaethau a gwnaethpwyd argymhellion lle y teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau.
Roedd yn ddyfarniad a groesawyd yn fawr, ac roedd ganddo lawer o bethau cadarnhaol i’w dweud am wasanaethau’r cyngor yn y maes pwysig iawn hwn.
Roedd gan y cyngor staff ymroddedig iawn yn gwneud gwaith hanfodol mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill i geisio cadw plant yn ddiogel rhag niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol.
Derbyniwyd yr argymhellion er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn ardal Casnewydd yn cael ei ddiogelu ac y gofelir amdano yn iawn.
Cynlluniau gofal plant yr haf
Gofalwyd am fwy na 300 o blant a’u diddanu mewn lleoliadau saff a diogel mewn cynlluniau a gynhelir gan y Cyngor a’i bartneriaid.
Yn ystod cau’r ysgolion, darparwyd gofal i blant gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed gan ddefnyddio arian Covid-19, daeth hyn i ben cyn gwyliau’r ysgol a phenderfynodd y Cyngor i gamu i mewn a pharhau â darpariaeth gofal plant gan ddefnyddio rhywfaint o arian Llywodraeth Cymru a rhodd gan First Campus.
Yn ogystal â chynlluniau ar gyfer plant rhwng dwy a 12 oed, roedd hefyd cynllun gofal arbenigol, yn gweithio gyda Chyswllt Cymunedol Dyffryn, Clybiau Plant Cymru a Chasnewydd Fyw er mwyn cynnig cymaint o leoedd â phosibl.
Dros bum wythnos, bu modd i dros 268 o blant gweithwyr allweddol ddefnyddio'r cynlluniau a chafodd dros 60 o blant agored i niwed leoedd.
Diolchodd yr Arweinydd i’r holl staff, a’n partneriaid, a ddarparodd gofal plant a First Campus ar gyfer ei gyfraniad caredig a hael.
Cymeradwyaeth am gynllun sydd â’r nod o atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o drosedd ddifrifol a threfnedig
Roedd trosedd ddifrifol a threfnedig yn broblem genedlaethol ac mae atal pobl ifanc rhag cael eu hysglyfaethu a dod yn rhan o’r fath droseddolrwydd yn bryder mawr. Roedd gan Gasnewydd bartneriaeth lwyddiannus gyda Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau, gan ddarparu ymyriadau i bobl ifanc sy’n agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i drosedd ddifrifol a threfnedig.
Bu’r tîm yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles, Crimestoppers a Barnardo’s i ddarparu rhaglen arloesol a addysgodd pobl ifanc am y risg o drosedd ddifrifol a threfnedig, gan eu hannog i adrodd am eu pryderon i bob un o’r naw ysgol uwchradd yng Nghasnewydd. Roedd y bartneriaeth yn gweithio i ddarparu mwy o ymyriad a dargedir o bobl ifanc risg uchel. Yn gynharach y mis hwn, cymeradwywyd y bartneriaeth yng Ngwobrau Heddlu Gwent 2020.
Ffigurau NEET
Mae hyd yn oed mwy o bobl ifanc mewn addysg, hyfforddiant neu waith yng Nghasnewydd yn dilyn ymdrech penderfynol a chydlynol gan y cyngor a’i bartneriaid o’i gymharu ag wyth mlynedd yn ôl pan oedd ychydig o dan 5% o bobl ifanc 16 oed ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Erbyn 2016 roedd y niferoedd wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 1.7%, fodd bynnag roedd y ffigurau wedi gwella'n gyson. Yn sgil data'r llynedd aeth y cyngor i'r chweched safle yng Nghymru o ran perfformiad yn y maes hwn ac mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2019 yn dangos ei fod wedi gwneud hyd yn oed yn well.
Roedd llai nag 1% (0.9%) o gr?p oedran blwyddyn 11 yn rhai nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, gan godi'r cyngor i'r ail safle yn nhabl Cymru gyfan ac yn uwch o dipyn na chyfartaledd Cymru.
Roedd yn bwysig adnabod pobl ifanc oedd mewn perygl o lithro trwy’r rhwyd gan sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael er mwyn newid eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Cerbyd gorfodi symudol newydd
Ar 24 Awst, lansiwyd cerbyd gorfodi symudol newydd fel rhan o ymdrech parhau y cyngor i fynd i’r afael â pharcio anghyfreithlon. Ers cyflwyno gorfodi parcio sifil ym mis Gorffennaf y llynedd, mae dros 22,000 o hysbysiadau tâl cosb wedi'u cyflwyno i yrwyr sy'n parcio'n anghyfreithlon ar hyd a lled y ddinas.
Bydd yn hawdd adnabod y car hybrid, gyda’i gamerâu ar y to a logos amlwg yn dweud 'cerbyd gorfodi parcio' yn glir yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Grant i ailwampio Stadiwm Casnewydd
Cafodd gwaith ailwampio yn Stadiwm Casnewydd hwb oherwydd mwy na £150,000 o gyllid grant. Gan weithio gyda Chasnewydd Fyw ac mewn partneriaeth â Newport Harriers, Chwaraeon Cymru ac Athletau Cymru i ddarparu’r gwaith ailwampio. Byddai hyn yn golygu gosod caets taflu newydd manyleb Athletau’r Byd ac arwyneb polymerig ar gyfer yr ardaloedd trac a maes yn ogystal â gwaith glanhau, atgyweirio a marcio llinellau, sefydlu caets taflu newydd ac ardal i’w defnyddio fel cyfleuster hyfforddi.
Y gobaith oedd y byddai’r bartneriaeth gydweithiol gref hon yn parhau i gefnogi a chynnal athletau fel camp flaenoriaeth yn y ddinas.
Cwestiynau i’r Arweinydd
§ Diolchodd y Cynghorydd M Evans i’r staff a ragorodd yn ystod y cyfnod cloi a hoffai gydnabod yn ffurfiol y staff a oedd wedi gwneud yn fwy na’r disgwyl, trwy atgyfodi’r wobr. Gofynnodd y Cynghorydd pa fesurau ychwanegol oedd y cyngor yn eu cymryd i gefnogi lles trigolion yng ngoleuni’r effeithiau a achoswyd gan y Pandemig.
Atebodd yr Arweinydd fod mesurau wedi’u cymryd a bod diogelu’r cyhoedd wedi gweithio gyda busnesau i weithredu gofynion diogelwch gydag adborth cadarnhaol. Yr wythnos hon cafodd canolfan cerdded i mewn yn Rodney Parade ei hagor a olygai y gallai trigolion drefnu prawf cerdded i mewn sy’n gwella’r system sydd ar waith ar hyn o bryd yn fawr.
Byddai cynlluniau Ken Skates yn agor ynghyd â’r tîm cymorth busnes yn cynghori busnesau lletygarwch ar sut i wneud cais am gyllid. Hefyd bu’r tîm profi ac olrhain yn gweithio’n galed, yn ogystal ag ysgolion a Phenaethiaid a ymatebodd yn gyflym ac yn briodol o dan yr amgylchiadau. Hefyd roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at ailddechrau ei diweddariad wythnosol gyda’r Cynghorydd M Evans.
Atodol:
Gofynnodd y Cynghorydd M Evans a allai’r Arweinydd wneud mwy i leddfu pryderon ynghylch iechyd meddwl oherwydd na allai’r cyngor barhau gydag agweddau cymdeithasol ar gyfer yr henoed. Roedd cam-drin a hunanladdiad wedi codi, a allai’r cyngor fabwysiadu ymagwedd mwy tosturiol a dynol yn ystod y cyfnod cloi.
Dywedodd yr Arweinydd fod ystod o gynlluniau ar waith yn gweithio’n agos gyda gwahanol grwpiau gwirfoddol a MIND a’r Groes Goch yn ogystal â helpu’r rhai sydd ag anawsterau ariannol.
Roedd LlC yn ystyried sut i helpu oedolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain a sut y gallent ymgysylltu â phobl eraill. Roedd LlC o gymorth gwych yn ystod y pandemig.
Roedd gan wefan LlC Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Chasnewydd parthed hyn, neu fel arall byddai staff cymorth cwsmeriaid Cyngor Dinas yn hapus i helpu drwy gysylltu â 656656/
§ Llongyfarchodd y Cynghorydd Whitehead yr Arweinydd ac roedd yn ddiolchgar iddo am roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr holl faterion. Hefyd diolchodd y Cynghorydd i’r arwyr tawel sy’n gweithio mewn hybiau. A fyddai’r Arweinydd yn ystyried gweithio gyda swyddogion wrth greu porth i alluogi mynediad i’r cyhoedd at wasanaethau ynghylch trais domestig, dyled, unigedd, bod yn ynysig ac iechyd meddwl.
Byddai’r Arweinydd yn trafod hyn gyda phartneriaid a byddai’n dychwelyd at y Cynghorydd Whitehead.