Agenda item

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Cofnodion:

Roedd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o allu cyflwyno trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol yr awdurdod i’r Cyngor. Roedd y cynllun yn esblygiad o’r cynllun 2016-2020, gyda mwy o amcanion sy’n seiliedig ar ganlyniadau a gafodd ei ddatblygu gan weithio’n agos mewn partneriaeth â gwahanol dimau ar draws yr awdurdod ac ar y cyd â rhanddeiliaid a chymunedau allweddol. 

 

Roedd gan yr Amcanion Cydraddoldeb o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gymysgedd da o amcanion â ffocws mewnol, fel ein hymrwymiadau i wella amrywiaeth ein gweithlu trwy fwy o gamau cadarnhaol, a mwy o amcanion â ffocws allanol fel yr ymrwymiad parhaus i wella cydlyniad cymunedol ledled y ddinas. Y cydbwysedd hwn o hunanfyfyrio mewnol ac ymrwymiad sy’n canolbwyntio am allan i wella cydraddoldeb mewn meysydd allweddol y gymdeithas oedd cryfder y strategaeth hon ac roedd yn gam cadarnhaol ymlaen i Gyngor Dinas Casnewydd.  

 

Roedd yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae’n si?r yr ychydig fisoedd i ddod, yn heriol, ac wedi amlygu llawer o’r anghydraddoldebau strwythurol a chymdeithasol a barhaodd mewn cymdeithas, o’r protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys byd-eang, i adael yr Undeb Ewropeaidd a goblygiadau pandemig byd-eang COVID-19.  Roedd y Cyngor ei hun ar groesffordd gymdeithasol wrth iddo geisio adfer a dysgu gan ddigwyddiadau a effeithiodd ar Gasnewydd, ond a oedd wedi effeithio ar grwpiau penodol yn y cymunedau mor ddifrifol.

 

Parhaodd y Cyngor i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus teg i'r holl drigolion yn wyneb cefndir economaidd sy’n gynyddol heriol, heb ganiatáu i’r grymoedd sy’n rhannu cymdeithas greu amgylchedd o anoddefgarwch a gelyniaeth, byddai’r Strategaeth hon yn helpu i gyflawni’r nod hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau, y Cynghorydd David Mayer a’r Cynghorydd Mark Whitcutt am eu cyfraniadau i’r cynllun a’r Gr?p Cydraddoldeb Strategol dros y pedair blynedd diwethaf.

 

Cymeradwyodd y Cabinet y strategaeth yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf a chynigiodd yr Arweinydd bod y Cyngor llawn yn mabwysiadu’r strategaeth hon.  

 

Trafodwyd y materion canlynol:

 

Croesawodd y Cynghorydd Rahman, gan siarad fel Hyrwyddwr BAME, yr adroddiad a diolchodd i’r Cynghorydd Mayer a’r cynghorwyr am eu hamser yn llunio barn rhannu’r adroddiad gan yr holl gymunedau.  Cyfarfu’r Arweinydd â grwpiau eraill i drafod sicrhau cydlyniant cymunedol.  Ymgynghorwyd ag aelodau’r cyhoedd ar-lein a thrwy grwpiau ffocws, gan roi Casnewydd ar flaen y gad o ran cynghorau eraill. 

 

Cefnogodd y Cynghorydd Wilcox gan ychwanegu ei fod yn garreg filltir wrth symud ymlaen.   Parhaodd y cynllun i fod yn glir o ran sut i ddarparu gwasanaethau i Gasnewydd.  Roedd y delweddau a’r graffeg yn gam ymlaen o ran sut roeddent yn siarad â phobl.  Byddai’r Gr?p Cydraddoldeb Strategol yn cefnogi darparu a byddai’r pwyllgor craffu â chyfrifoldeb dros fonitro cynnydd.  Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox y byddai’n hoffi gweld cyfle i bobl ifanc a grwpiau ieuenctid fwydo i mewn i fonitro rywbryd pan fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd, oherwydd bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae at y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Whitcutt am eu sylwadau graslon parthed ei rôl flaenorol gan ychwanegu ei bod yn bleser gweithio gyda’r tîm wrth baratoi’r ddogfen, ac roeddent yn haeddu cael eu canmol am y gwaith roeddent yn parhau i’w wneud.  Ymatebodd dros 5,000 o bobl a oedd yn gyflawniad aruthrol yn ystod yr adeg heriol hon.   Roedd yn ddogfen hynod bwysig a gefnogwyd gan y cynghorydd fel rhan o’i alwedigaeth fel cyfreithiwr.  Roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref oherwydd y gwaith hwn, gan ddiolch i’r Cabinet am ei gyfranogiad a Tracy Mckim, Rheolwr Polisi, Partneriaethau a Chynnwys.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies fod yr ymgynghoriad â’r trigolion yn allweddol sylfaenol i’r adroddiad hwn.  Roedd yn amlwg nad oedd y farn wedi newid.  Croesawyd yr adroddiad a dylid dathlu nodweddion yn briodol pan oedd anwybodaeth yn hyrwyddo rhan negyddol mewn cymdeithas.

 

Amlygodd y Cynghorydd K Thomas, yr Hyrwyddwr pobl sy’n agored i niwed yn ogystal â’r hyrwyddwr iechyd meddwl yr ymrwymiad a oedd gan y cyngor i gefnogi pobl ac fel cynghorwyr roedd angen cymeradwyo a chefnogi nodau’r cynllun hwn.

 

Hefyd cefnogodd y Cynghorydd Lacey, yr hyrwyddwr LDHTC yr adroddiad gan bwysleisio pwysigrwydd y ddogfen a’i fod yn dda gweld Casnewydd ar flaen y gad yn hyn o beth.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Al-Nuiami y ddogfen a oedd yn gynhwysfawr a theimlai nad oedd yn gallu gwneud digon o gyfiawnder â hi mewn cyfnod mor fyr. Roedd y pandemig wedi gwneud gwahaniaeth a chroesawyd bod effaith Covid wedi’i chofnodi yn y ddogfen, a oedd yn bwysig iawn.  Gobaith y Cynghorydd oedd pan fo dyletswyddau’r Maer yn gallu dychwelyd i fod yn normal, câi’r digwyddiadau yn y calendr Mwslimaidd eu dathlu gyda’r gymuned yng Nghasnewydd.

 

Amlygodd y Cynghorydd M Evans bwysigrwydd cyfarfod â’r Gr?p Mae Bywydau Du o Bwys er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n dda a bod yn ymwybodol o’u nodau a’u hamcanion.

 

Ystyriodd y Cynghorydd Routley fod yr adroddiad yn uno yn hytrach nag yn rhannu Casnewydd, a oedd yn lle croesawgar i amrywio.

 

Yn olaf, soniodd y Cynghorydd C Evans fod Plaid Annibynnol Casnewydd yn croesawu’r adroddiad ac yn rhoi ei chefnogaeth lwyr, gan amlygu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych arnom ni ein hunain ac yn cydnabod y rhagfarn sydd o bosibl ynom i gyd ac i ddathlu’r amrywiaeth yn y ddinas.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a atodir.

 

 

Dogfennau ategol: