Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 2019/20

Cofnodion:

Gwahoddedigion

       Y Cynghorydd David Mayer - yr Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau

       Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

       Tracy McKim - Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys

       Rachael Davies - Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Rhoddodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes drosolwg o'r adroddiad. Dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), mae angen i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a gynhwysir o fewn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gofyn i Awdurdodau Lleol gyhoeddi data cydraddoldeb staff, sydd yn yr adroddiad hwn hefyd.

 

Yr adroddiad hwn yw'r pedwerydd Adroddiad Blynyddol terfynol ar y cynnydd a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol

2016-2020 a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2016. Derbyniodd y Cabinet Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor a chytunwyd arno yn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf ac mae bellach wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan.

Ers gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol yn ôl yn 2016, rydym wedi adeiladu ar ein hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth ac wedi ymgysylltu â staff, wedi ymgynghori â 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

rhanddeiliaid allanol ac wedi cynyddu ein hymgysylltiad â'r gymuned. Galluogodd y cynllun blaenorol i ni greu sail i fesurau ac amcanion, a sut yr effeithiodd y rhain ar ein dinasyddion. Defnyddiwyd y mesurau a roddwyd ar waith gennym drwy'r 9 Amcan Cydraddoldeb i ddangos ein llwyddiannau yn ogystal â nodi lle'r oedd lle i wella. Mae'r newidiadau a wnaed a'r llwybr sydd o'n blaenau yn galonogol; drwy fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o'r strategaeth hon, symudwn ymlaen gyda phwrpas a gyda chyfeiriad clir o wella bywydau pawb yng Nghasnewydd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o'r flwyddyn ddiwethaf y mae’r canlynol:-

        Cyflwynwyd y Cynllun Prentisiaeth yn llwyddiannus ac roedd CDC wedi cyrraedd rownd derfynol

gwobr Cyflogwr Hyfforddiant y Flwyddyn ACT 2019

        Sefydlwyd 'Cyfarfod Dinasyddion yr UE' a buom yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector yn ogystal â chymunedau lleol yr UE i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn

        Gweithredu ein Rhwydwaith B.A.M.E. yn llwyddiannus, yr ydym yn parhau i adeiladu arno a'i wella er mwyn sicrhau bod lleisiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu clywed wrth wneud penderfyniadau

        Mae'r 'Academi Dysgu yn y Gwaith' wedi creu clybiau swyddi, cyrsiau hyfforddi a darpariaethau hyfforddi 13 wythnos pwrpasol i gefnogi pobl ifanc sy'n chwilio am waith.

        Cymryd rhan yn 'Rhaglen Dinasoedd Cynhwysol' Prifysgol Rhydychen – cyfnewid gwybodaeth mewn perthynas â chymunedau mudol

        Dathlodd y cynllun Goleudy 55+ ar gyfer pobl h?n ei ben-blwydd cyntaf a chefnogodd dros 250 o bobl yn ystod y flwyddyn (mae atgyfeiriadau i'r cynllun cymorth yn ôl yr angen bellach yn cael eu blaenoriaethu i sicrhau yr ymdrinnir ag atgyfeiriadau argyfwng/brys cyn gynted ac effeithlon â phosibl)

        Mae 9 teulu arall (40 o bobl) wedi cael eu hadsefydlu, dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed

        Roedd y gwaith paratoi yn 2019-20 ar gyfer y cynllun tai cymorth newydd ar gyfer 6 o bobl ifanc ddigartref, yn paratoi'r ffordd i'r cynllun agor ar ddechrau 2020/21. Dim ond oherwydd y gwaith partneriaeth rhagorol gan ein timau a'n partneriaid fel Cartrefi Dinas Casnewydd a Llamau yr oedd hyn yn bosibl.

        Cwblhawyd ein hymgynghoriad statudol ar ein Strategaeth Hygyrchedd Ysgolion, sydd â’r nod o wella ac uwchraddio'r mynediad corfforol i ysgolion yng Nghasnewydd.

        Mae ein gwaith i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau lleiafrifol ledled Casnewydd wedi datblygu, diolch i Swyddog Polisi penodedig a recriwtio Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg

        Rydym wedi parhau â'n hymrwymiad i ddatblygu Hyrwyddwyr Aelodau Etholedig, gydag arweinwyr ar gyfer Hil, LHDTC+, Anabledd a Nam, a'r Gymraeg, gan godi proffil gwaith cydraddoldeb drwy gydol y flwyddyn ar draws y Cyngor

 

Mae'r dadansoddiad o'r data ar gyfer ein gweithlu wedi amlygu meysydd allweddol i'w gwella, yr eir i'r afael â hwy yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024 ochr yn ochr â gwaith sy'n parhau ar ein hymrwymiad i sicrhau gweithlu cynrychioliadol ac i recriwtio a chadw grwpiau sydd heb eu cynrychioli'n ddigonol.  

Yn sgil pandemig COVID-19, mae wedi dod yn fwy amlwg fyth bod mynediad cyfartal i wasanaethau cymorth, yn ogystal â chyfle cyfartal i ddinasyddion Casnewydd, yn hollbwysig, a rhaid i'n gwaith o fewn cymunedau yr effeithir arnynt yn andwyol barhau’n gyflym. Ynghyd ag effaith y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys yng Nghasnewydd rydym bellach yn fwy nag erioed, yn ymwybodol iawn o'r gwaith sydd o'n blaenau i roi llais, llwyfan a chymuned ddiogel i bobl Casnewydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y cynllun yn rhoi manylion eu maniffesto. Mae llawer i'w wneud eto, ond mae cynnydd enfawr wedi'i wneud. Roedd yn hanfodol i hyn gael ei ymgorffori ym mhob rhan o'r awdurdod.

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol

       Mae'r adroddiad yn nodi diffyg BAME yn y gweithlu. Yna llwyddasant i gael cyfweliad am swydd. Pa fesurau sydd ar waith i oresgyn hyn? Yna cynigiodd yr Aelodau awgrym y gellid tynnu enwau o ffurflenni cais, neu ddefnyddio blaenlythrennau yn unig.

Nid oedd Pennaeth y Gwasanaeth yn ymwybodol o unrhyw broblemau penodol ym proses recriwtio'r Cyngor, ond mae'r gwasanaeth wedi symud i ddetholiad recriwtio dienw, felly gwneir rhestr fer heb unrhyw ragfarn anymwybodol. Eglurodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol hyn ymhellach, gan ychwanegu, pan wneir y rhestr fer yn electronig, i gyd y mae'r rheolwr yn ei weld yw "ymgeisydd un, ymgeisydd dau", nid oes unrhyw enwau wedi'u cynnwys.

Roedd yr Aelodau'n falch bod hyn yn digwydd yn awr. Yna gofynnwyd wrth gasglu data gan y rhai sydd wedi gwneud cais am swyddi, sut mae'r data'n cael ei ddefnyddio? Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth fod y gwasanaeth yn adrodd ar y wybodaeth am ymgeiswyr, ond nid oes unrhyw beth wedi'i wneud yn rhagweithiol fel rhan o'r Cynllun Cydraddoldeb o ran ceisiadau. Ychwanegwyd y gallai fod angen i'r gwasanaeth ystyried camau cadarnhaol posibl os yw'r dystiolaeth yno i awgrymu bod angen hynny a beth allai'r opsiynau fod, ond mae hynny'n rhywbeth y byddai angen iddynt edrych arno yn y dyfodol.

       Dywedodd yr Aelodau ei bod yn anodd edrych yn ôl dros gyfnod hir o amser a'u bod yn gallu gwerthfawrogi pam. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch sut yr adroddir ar bethau. Rhoddwyd enghraifft ar dudalen 27 yr adroddiad – Lleihau tlodi a'r camau gweithredu ar sut rydym yn disgwyl gwneud hyn i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, i lawr i dargedu gwaith yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r Cyngor yn dda wrth roi enghreifftiau o'r hyn rydym yn ei wneud o ganlyniad i hyn, ond nid oes unrhyw gymariaethau ag awdurdodau lleol eraill nac edrych ar arfer gorau. Cynhelir digwyddiadau fel Ffeiriau Swyddi, ond beth yw canlyniadau'r digwyddiadau hyn?

Derbyniodd Pennaeth y Gwasanaeth bwynt yr Aelod a dywedodd wrth y pwyllgor fod yr adroddiad yn ddarn cymhleth o waith. Wrth symud ymlaen, o ran adrodd gall y gwasanaeth ddwyn ynghyd fwy o fanylion, ond mae'n anodd yng nghyd-destun y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i dynnu rhai o'r pethau hynny at ei gilydd. Yna awgrymodd Pennaeth y Gwasanaeth y gellid cael adroddiadau ychwanegol ar yr agenda tlodi wirioneddol a sut y mae Casnewydd yn rhan o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gellid rhoi'r wybodaeth a'r cymariaethau hyn i'r pwyllgor pe dymunai.

       Roeddem wedi dechrau ystyried cau'r bwlch rhwng darpariaeth y GIG a darpariaeth y Cyngor ar gyfer y Rhaglen 1000 Diwrnod cyntaf o Fywyd. Roedd cynnydd wedi'i wneud ond mae'n ymddangos ei fod wedi llithro oddi ar yr agenda. A oes unrhyw ddiweddariadau?

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y swyddog arweiniol ar gyfer hyn ar secondiad ar hyn o bryd, ond mae'r gwasanaeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd a phartneriaid ar yr agenda Profiadau Plentyndod Negyddol (PPN). Mae rhai manylion am y PPN yn cael eu nodi yn yr adroddiad. Mae gwaith ataliol arall yn digwydd mewn ysgolion hefyd ac edrychir ar yr agenda PPN mewn partneriaeth. Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd ein bod yn bwriadu lansio adroddiad am sbardunau i gamfanteisio, sy'n ddarn cysylltiedig o waith sy'n ymwneud â thlodi a sut y mae'n effeithio ar bobl ifanc.

       Canmolodd yr Aelodau'r camau cadarnhaol o ran gwaith o fewn y gymuned BAME, ac roeddent am geisio sicrwydd bod y Cyngor yn gweithio yr un mor frwdfrydig â'r gymuned LHDTC. Gwnaed sylw hefyd y byddai'n dda yn yr adroddiadau yn y dyfodol i gael ffigurau ar sut yr ydym yn integreiddio pobl o Ddwyrain Ewrop i’n strategaeth gyflogaeth, gan eu bod yn integreiddio ac yn cyfrannu'n eithriadol o dda i'n cymdeithas.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth fod Ymadael yr UE o ran Dwyrain Ewrop wedi'i godi. Bu ffrwd waith benodol yno yngl?n â gweithio gyda gweithlu a darparwyr y Cyngor ei hun, a hefyd y boblogaeth ehangach ledled Casnewydd ynghylch y problemau statws preswylydd sefydlog. Yna dywedwyd y byddai adroddiad gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit, sy'n cynnwys gwybodaeth am y gwaith sydd wedi'i gwblhau gyda chymunedau, yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 11 Tachwedd 2020, .

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaeth wedyn fod y Cyngor yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, ac felly mae'n bwysig i'r gweithlu adlewyrchu'r cymunedau y mae'r Cyngor yn eu gwasanaethu. Yna, dywedodd y Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys wrth y pwyllgor y bydd dylanwad llawer trymach yn y cynllun newydd ar LHDTC, bod ymgysylltu wedi'i gynnal â'r gymuned LHDTC a bod y tîm wrthi'n adeiladu rhwydwaith staff. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd am waith ychwanegol sy'n digwydd, megis gwaith sy'n cael ei arwain gan y Cyngor Ieuenctid, ynghyd â gwaith partneriaeth gyda grwpiau cymunedol a grwpiau cymorth allanol. Mae gwaith cyllidebu cyfranogol wedi'i wneud hefyd i ystyried defnyddio arian i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Yna, dywedwyd wrth y pwyllgor mai Cadeirydd y pwyllgor Craffu hwn yw Hyrwyddwr LHDTC.

 

       Gofynnwyd am y Prosiect Sipsiwn a Theithwyr Traws-Awdurdod. Gofynnodd yr Aelodau beth mae'r prosiect hwn yn ei wneud, a yw'n weithredol ar hyn o bryd ac os felly, pam yr ydym yn parhau i gael setliadau anawdurdodedig?

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth fod pandemig COVID a’r cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi arnom, wedi arwain at rai o'r problemau a gawsom eleni. Dywedodd y Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys wrth y pwyllgor fod gennym arian ar gyfer gwaith cydlyniant cymunedol yng Nghasnewydd a Threfynwy. Mae amrywiaeth o waith cydlyniant ar gyfer materion dros y ffin. Esboniwyd bod llawer o waith ymgysylltu gyda'r cymunedau hyn ac rydym hefyd yn cynghori cyrff eraill ac yn siarad â'r Heddlu a chydweithwyr yn y Cyngor am hawliau'r gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr (SRT).

Dywedwyd bod her benodol ynghylch Covid. Fodd bynnag, mae'r gwersyll a'r her yn rhywbeth na all y gwasanaeth ei godi fel rhan o’r agenda Cydraddoldeb.

Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod Covid yn gwneud gwahaniaeth, ond dywedodd mai’r mater oedd parchu hawliau teithwyr. Pe gallai'r Cyngor wneud gwaith cydgysylltu â'r rhai sy'n defnyddio safleoedd anawdurdodedig, i greu perthynas fwy cytûn â nhw ac efallai eu cael i adael y safle yn ei gyflwr gwreiddiol gan fynd â sbwriel â nhw. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaeth gan ddweud bod calon y gwaith a wnaed yn ymwneud â cheisio sicrhau bod cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd. Dywedodd y Rheolwr Polisi, Partneriaeth a Chynnwys wrth y pwyllgor nad oes gennym unrhyw sicrwydd o arian ar gyfer gwaith cydlyniant o'r flwyddyn nesaf a fydd yn her. Fodd bynnag, drwy weithio gyda phartneriaid ac ardaloedd eraill yng Ngwent byddwn yn lledaenu'r adnodd cyn belled ag y gallwn ac yn dysgu ar y cyd.

       Gofynnodd yr Aelodau am Amcan 4 y cynllun: Trechu Tlodi. Buont yn trafod Cymunedau yn Gyntaf ac yn canmol eu gwaith yn gweithredu ar lefel ward, ond mae wedi dod i ben ers hynny. A yw'r gwasanaeth hwn yn dal i weithredu mewn rhai wardiau neu glystyrau?

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth mai dyma un o'r anawsterau o adrodd yn ôl ar flwyddyn olaf cynllun pum mlynedd. Ar y pryd, roedd Cymunedau yn Gyntaf yn dal i fod yn weithredol, ond ers hynny mae'r rhaglenni hynny bellach wedi newid. Ceisiodd y Gwasanaeth Adfywio, Buddsoddi a Thai ddwyn ynghyd y rhaglen bresennol a gynlluniwyd i drechu tlodi er mwyn creu set fwy cydlynol o raglenni mewn model hyb gymunedol. Mae hyn yn dal i fynd rhagddo. Gall y gwasanaeth roi gwybodaeth am hyn os hoffai'r pwyllgor gael y wybodaeth honno.

Dywedodd yr Aelodau y byddai rhai pobl yn hoffi gwneud gwaith gwirfoddol, gallai'r Cyngor gefnogi pobl i wneud hyn. Mae'r Aelod Cabinet yn hoff o'r cysyniad, ond nid yr arfer. Dywedodd fod y Cyngor wedi cyflwyno model hyb Ringland yn ddiweddar i bob hyb ei ddefnyddio, ond dechreuodd pandemig Covid wrth iddo agor. Ar ôl i Covid ddod i ben, bydd y gwasanaeth yn dysgu gwersi sydd wedi deillio o hyn ac yn gwneud y model yn llawer gwell. Dywedwyd hefyd y bydd grwpiau cymunedol yn cael eu cysylltu mewn rhyw ffordd drwy'r pedwar hyb cymunedol.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a’r swyddogion am fod yn bresennol.

Casgliad ar yr Adroddiad

       Roedd yr Aelodau am weld mwy o fanylion am ba waith cydgysylltu y mae awdurdodau eraill wedi'i wneud o ran osgoi gwersylloedd teithwyr anawdurdodedig.

       Dywedodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn fanwl iawn a'i fod yn llawn manylion. Mae'r rhan fwyaf o adroddiadau'r sector preifat yn dechrau gydag adroddiad gweithredol, lle mae ein hadroddiadau yn dechrau'n fanwl, yna'n mynd ymhellach ymlaen gyda manylion heb ddod i unrhyw uchafbwyntiau. A ellir cynhyrchu adroddiadau gweithredol yn y dyfodol?

       Roedd yr Aelodau am gydnabod y gwaith caled y mae'r eglwysi wedi'i wneud drwy'r pandemig ar gyfer y digartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd.

       Hoffai'r pwyllgor hyrwyddo'r rhyngweithio uniongyrchol rhwng y Cyngor Ieuenctid a Chyngor Dinas Casnewydd.

       Soniwyd am gasglu data, hoffai'r Aelodau wybod a ellid ychwanegu Dyneiddiwr ar y cwestiwn credoau crefyddol.

       Mae'r Aelodau'n gobeithio cael gwybodaeth am gymariaethau ag awdurdodau lleol eraill o'r DU a sut y gallwn o bosibl edrych ar dargedau ac arfer gorau ynghylch lleihau tlodi plant.

 

Dogfennau ategol: