Agenda item

2020/21 Adolygiadau Canol Blwyddyn y Cynllun Gwasanaeth

Cofnodion:

Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

Yn Bresennol: 

-       Cynghorydd Paul Cockeram (Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol)

-       Chris Humphreys - Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod eleni wedi dod â heriau digynsail i'r gwasanaethau i oedolion a thra bod argyfwng Covid 19 yn parhau, byddai ansicrwydd yn parhau ynghylch sut y byddai effaith tymor canolig i hirdymor y pandemig yn effeithio ar y gymuned a’r ddarpariaeth gwasanaethau.

Roedd y pandemig wedi arwain at oedi i gynlluniau gwaith gan fod ffocws wedi canolbwyntio ar addasu'r ddarpariaeth gwasanaethau a chefnogi partneriaid i sicrhau parhad gwasanaethau.

 

O ran y gyllideb, roedd y Gwasanaeth wedi dechrau'r flwyddyn gyda gorwariant rhagamcanol ond roedd bellach mewn gwell sefyllfa, hyd yn oed gyda galwadau cynyddol sylweddol, wedi'i gefnogi'n rhannol gan gyllid ychwanegol oherwydd y pandemig.

Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yr aelodau fod y Gwasanaeth wedi parhau i gefnogi cartrefi gofal a darparwyr gofal, ymwneud yn fawr â dosbarthu cyfarpar diogelu personol a bod ganddynt weithrediadau sefydlog i ddelio â rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Roeddent wedi delio â nifer sylweddol o alwadau gan y cyhoedd ac wedi rhoi cymorth a chyngor ymarferol i oedolion a oedd yn hunan-warchod, megis darparu bwyd a meddyginiaethau yn ogystal â rhoi arweiniad a sicrwydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         O ystyried y pwysau presennol ar y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol, beth oedd yn cael ei wneud i liniaru'r pwysau ar y gwasanaeth a beth oedd y sefyllfa bresennol o ran diogelu?

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod gwaith agos mewn partneriaeth rhwng Timau Comisiynu, Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac BIPAB wedi golygu ein bod wedi gallu gweithio mewn ffordd integredig i ddarparu cymorth ac arweiniad, gan sicrhau parhad gwasanaethau. Roedd ein 2 hyb gofal yn y gymdogaeth wedi golygu cydweithio'n agos â meddygon teulu lleol a nyrsys ardal a rhoi cymorth i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau. Roedd agor Ysbyty’r Grange, a gynlluniwyd ar gyfer 17 Tachwedd wedi bod yn her enfawr i bawb ac roedd ein gwasanaethau wedi'u halinio i gyd-fynd â hyn. Byddai'r fenter Gartref Gyntaf wedi'i lleoli yno ac roedd y Gwasanaeth yn cefnogi'r newidiadau hyn.

 

O ran Diogelu, parhawyd i ragori ar y targed o 90% ar gyfer ymdrin ag ymholiadau diogelu gyda ffigur wedi'i gofnodi o 98.4% ar y pwynt canol blwyddyn. Roedd hyn yn berfformiad cryf iawn o ystyried y galwadau ychwanegol a roddodd Covid ar y gwasanaeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol y byddai 6 swyddog heddlu wedi'u lleoli yn y Ganolfan Ddinesig a fyddai'n cael mynediad ar unwaith i gronfeydd data'r heddlu ac y  byddai hyn yn rhoi hwb i'r Hyb Diogelu. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, gan mai Casnewydd oedd y peilot ar gyfer y fenter hon, ein bod ymhell ar y blaen o ran yr ymarfer hwn mewn arfer gorau mewn Diogelu.

 

·         Holodd yr Aelodau am y cymorth a roddwyd i staff oedd yn gweithio gyda Gofal Gartref a holl staff y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol bod y feirws wedi effeithio’n wael ar Gasnewydd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol a bod yr effaith ar leoliadau cartrefi gofal yn sylweddol ac yn ddinistriol i deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt a'r staff. Roedd y gwaith parhaus gyda chartrefi gofal yn cynnwys parhau i ddosbarthu cyfarpar diogelu personol a dyrannu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd cyfarfodydd amlasiantaethol ddwywaith yr wythnos i fonitro'r sefyllfa mewn cartrefi gofal yn barhaus gyda chymorth yn cael ei roi i sicrhau eu bod bellach mor ddiogel ag y gallent fod.

Cysylltwyd â phob Gofalwr ym mis Ebrill i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am sut i gael gafael ar wasanaethau a chymorth mewn argyfwng a rhoddwyd llawlyfr argyfwng i Ofalwyr.

Fel gyda holl staff y Gwasanaeth, roedd mesurau diogelu ar waith i roi cymorth i staff, gyda mynediad at gyngor y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a chwnsela i gael cymorth yn ôl yr angen.  Cwblhawyd Asesiadau Risg yn ôl yr angen ac roedd profion Covid cyflym hefyd ar gael. Roedd ystod lawn o Gyfarpar Diogelu Personol ar gael i'r staff i gyd hefyd.

 

 

·          Gofynnodd aelod sut y bu'n rhaid i'r gwasanaeth newid ac addasu i'r sefyllfa bresennol a sut y byddai angen i bethau newid yn y dyfodol hefyd?

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol fod llawer o'r gwasanaethau wedi parhau fel arfer. Roedd staff mewn timau asesu yn gweithio gartref yn bennaf, gan fynd  i'r swyddfa yn ôl yr angen. Roedd yn rhaid i wasanaethau dydd newid gan fod angen bod yn ofalus wrth ddod â phobl yn y grwpiau hyn at ei gilydd dan do felly cyflwynwyd ffyrdd newydd o weithio yn y gymuned. Wrth symud ymlaen i'r Gaeaf byddai hyn yn anoddach gan na fyddai gweithgareddau awyr agored yn gallu parhau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ei bod yn anodd rhagweld yr effaith barhaus ar y ddarpariaeth  gwasanaethau yn union, ond bod llawer iawn o waith wedi'i gwblhau a bod yr holl fesurau amddiffynnol ar waith.

Roedd y staff yn gyfarwydd â ffyrdd o weithio o bell ac roedd llinellau cyfathrebu â darparwyr a phartneriaid statudol yn parhau i weithredu'n effeithiol.

Roedd yn anodd rhagweld yn union beth fyddai’r galw tymor hirach am wasanaethau gan ddinasyddion. Roeddent yn ymwybodol o'r angen cynyddol am gymorth gyda phroblemau iechyd meddwl ac amharodrwydd parhaus rhai pobl i ailymgysylltu â gwasanaethau. Y bwriad oedd adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn ystod y cyfnod hwn gyda phwyslais ar fod yn fwy hyblyg o ran sut i gefnogi staff i wneud eu gwaith yn y ffordd orau tra'n lleihau'r effaith ar y gweithlu. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod yn rhaid i ni gofio bod angen cymaint o gymorth ar ein gofalwyr ag y gallem ei ddarparu, oherwydd gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, roedd llawer o'r gofalwyr bellach hefyd yn oedrannus eu hunain.

 

 

·         Gofynnodd yr Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb a mesurau perfformiad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol  fod yr amcanestyniad yn agos at fod yn gyllideb gytbwys. Roedd hyn o ganlyniad i fonitro a thargedu arian gofalus at yr hyn oedd ei angen yn hytrach nag ar sail 'braf ei gael'. Roedd yn rhaid i'r gwasanaeth ddiwallu anghenion ar unwaith yn ôl y gofyn. O weld y deilliannau gorau yn ystod y cam cyntaf yna gellid atal problemau yn nes ymlaen, gan osgoi gwario llawer mwy ar becynnau gofal hirdymor. Roedd datblygu a rhannu gwybodaeth i nodi risgiau ar gam mor gynnar â phosibl hefyd wedi helpu gyda’r mesurau hyn.

 

O safbwynt monitro perfformiad, cynlluniwyd fframwaith adrodd cenedlaethol newydd  i'w weithredu’n wreiddiol o fis Ebrill 2020. Roedd y gwaith hwn bellach wedi'i oedi. Roedd y Tîm Perfformiad wedi gweithio'n helaeth i sicrhau bod y mesurau perfformiad yn ystyrlon ac yn berthnasol. Roedd rhoi systemau ar waith i echdynnu'r wybodaeth berthnasol a'i gwneud yn gymaradwy ar draws 22 awdurdod wedi bod yn ymrwymiad enfawr, yn barod i weithredu'r fframwaith adrodd yn llawn yn 2021.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol am ei hadroddiad a'r wybodaeth a roddwyd i'r Pwyllgor a rhoddodd pob aelod eu diolch diffuant i holl staff y Gwasanaeth cyfan am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod argyfwng Covid.

 

         

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

Yn Bresennol: 

-       Cynghorydd Paul Cockeram (Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol)

-       Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, er bod chwe mis cyntaf y flwyddyn yn anochel wedi cael eu dominyddu gan y pandemig, bod y Gwasanaethau Plant wedi parhau i weithredu drwyddi draw, gan ddarparu diogelu a chymorth i'r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd. Er na ddylid tanddatgan y pwysau ar y Gwasanaethau Plant, roedd y Gwasanaeth wedi ymateb i'r her ac wedi ymdopi'n dda.

Roedd staff y Gwasanaethau Plant ym mhob maes gwasanaeth wedi cynnal darpariaeth ac  wedi ymateb yn gadarnhaol i'r heriau o weithio'n wahanol a gyda newidiadau cyflym mewn canllawiau.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Pa gamau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau gwell deilliannau i blant sy'n derbyn gofal?

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod Casnewydd yn cael trafferth gyda'r farchnad ddarparwyr, fel oedd yn wir ledled y wlad. Roeddem wedi cymryd camau breision i ddarparu ein cartrefi gofal ein hunain ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn golygu y gallem ganolbwyntio mwy ar natur y gofal yn y lleoliadau hyn a thrwy hynny ddarparu gwell deilliannau i'r plant ynddynt.Roedd cynlluniau i agor Cartref Plant Rosedale cyn y Nadolig a byddai'r gwaith yn dechrau ar Fferm Windmill yn y Flwyddyn Newydd.

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc bod cynlluniau, dros y chwe mis nesaf, i gefnogi cyflwyno MYST (My Support Team/Fy Nhîm Cymorth) fel gwasanaeth i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i blant sydd, yn enwedig y plant hynny a leolir y tu allan i Gasnewydd

 

 

·         Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelu a rhifau ar y gofrestr amddiffyn plant

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc bod,  er gwaethafniferoedd cynyddol o atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Pant, nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi aros yn sefydlog a diolch byth na fu unrhyw gynnydd cyffredinol yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant. Roedd y pwysau ar deuluoedd dros y saith mis diwethaf wedi bod yn aruthrol, ond roedd gweithwyr cymdeithasol wedi parhau i ymweld gydol y cyfnod ac roedd yr holl waith diogelu wedi'i wneud yn unol â chyfrifoldebau statudol. Roeddem wedi darparu mwy o gymorth gan fod teuluoedd agored i niwed wedi teimlo pwysau'r cyfnodau cloi yn gorfforol, yn ariannol ac yn feddyliol. Croesawyd y fenter i gael 6 swyddog heddlu yn y Ganolfan Ddinesig a fyddai'n cael mynediad ar unwaith i gronfeydd data'r heddlu a byddai hyn yn helpu'r Hyb Ddiogelu ac yn gwella materion diogelu plant. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol na ellid gorbwysleisio effaith hirdymor y pandemig ar les ac iechyd meddwl plant ac y byddai hyn yn bryder yn y dyfodol.

 

·         Holodd Aelod am y sefyllfa o ran mabwysiadu a maethu a hefyd goblygiadau cost hawliadau hanesyddol yn erbyn y Cyngor.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant y cytunwyd ar ganllawiau a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Mawrth ar gyfer gweithio'n ddiogel a bod gwasanaethau mabwysiadu wedi'u haddasu a'u parhau yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y plant wedi parhau i gael eu paru a'u gosod yn llwyddiannus. Roedd mesurau diogelu a mesurau cadarn oedd wedi eu rhoi ar waith i allu parhau i weithio yn y maes hwn megis hunanynysu cyn cyfarfodydd paru wedi gwneud hyn yn bosibl. Roedd y gwasanaeth wedi rhoi cymorth ychwanegol sylweddol i'n gofalwyr maeth yn ystod Covid. Roedd y cyfnodau cloi yn gyfnodau heriol i'r sector hwn ond roedd yn syndod, efallai, bod rhai wedi dweud eu bod wedi bod yn gyfnodau cadarnhaol gan eu bod yn gallu ymglymu'n ddwysach gyda'r plant yn eu gofal. Bu cynnydd hefyd yn nifer y ceisiadau a'r gofalwyr maeth yn ystod y cyfnod hwn a pharhaodd y gwaith yn y maes hwn, fetio, paru a chytuno.

O ran hawliadau hanesyddol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant ei bod yn amhosibl rhagweld beth allai godi. Er i geisiadau gan yr heddlu yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn i ni edrych ar ein cofnodion hanesyddol barhau i ddod i law, nid arweiniodd pob un o'r rhain at hawliadau yn erbyn yr awdurdod. Fodd bynnag, roedd bob amser yn bosibilrwydd ac felly roedd yn parhau i fod yn risg y gallai hawliad gael ei gyflwyno y gellid cael cosb ariannol amdano.

 

 

·         Gofynnodd aelod sut wnaeth y Gwasanaeth yn ymgysylltu â phobl ifanc agored i niwed yn ystod y cyfnodau cloi?

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant y bu problemau mewn rhai ardaloedd a'i fod wedi bod yn gyfnod heriol ond eu bod wedi ceisio cynnal rhai cynlluniau ar gyfer plant agored i niwed yn benodol, gyda gweithgareddau â ffocws iddynt er mwyn cadw plant yn brysur ac er mwyn ymglymu.  Roedd goblygiadau'r cyfnodau cloi ar iechyd meddwl plant yn bryder gan nad oedd yr effeithiau'n hysbys ar hyn o bryd gyda'r effeithiau llawn efallai'n cael eu teimlo ymhen 2 flynedd.  Nodwyd y byddai angen i'r Gwasanaeth gadw hyn mewn cof a bod yn barod ar gyfer materion yn y maes hwn yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei hadroddiad a'r wybodaeth a roddwyd i'r Pwyllgor a rhoddodd pob aelod eu diolch diffuant i staff y Gwasanaeth cyfan am eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ystod argyfwng Covid.

 

 

Casgliad

 

Nododd y Pwyllgor Adolygiadau Canol Blwyddyn y Cynllun Gwasanaeth a chytunon nhw i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau canlynol:

 

1.         Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau a wynebwyd gan y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol a'r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc yn ystod y pandemig a chanmolodd barhad y gwasanaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod recriwtio gofalwyr maeth yng Nghasnewydd yn hanfodol a phwysleisiodd yr angen am gefnogaeth barhaus i'n gofalwyr mewnol. Roeddent hefyd yn croesawu darpariaeth ein cartrefi gofal ein hunain ac yn pwysleisio bod cymorth i'r staff sy'n gweithio yn y lleoliadau hyn yn hanfodol.

 

2.         Roedd y pwyllgor yn dymuno ymchwilio ymhellach i'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a dysgu sut y maent wedi bod yn gweithredu yn ystod cyfnod y pandemig yn benodol.

 

Dogfennau ategol: