Agenda item

Monitro cyllideb refeniw mis Medi

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi’r sefyllfa fonitro refeniw fel yr oedd ym Medi. Mae’n dangos tanwariant bychan o bron i £1.7m; mae hyn yn cynnwys £1.4m o arwain wrth gefn heb ei ymrwymo, a fydd, os bydd ei angen, yn gostwng y tanwariant cyffredinol. Dywedodd yr Arweinydd efallai y bydd angen yr arian wrth gefn tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan na wyddom beth fydd effaith ail don Covid-19. Felly, efallai y bydd yn rhai i wariant y Cyngor fod uwchlaw’r hyn sydd ar gael o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru. 

 

Mae’rtanwariant ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn gadarnhaol i’r Cyngor ac yn welliant ar y sefyllfa flaenorol yr adroddwyd arni i’r Cabinet ym mis Gorffennaf. Mae adroddiad monitro mis Medi yn rhoi eglurhad am y cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru o ran colli incwm a chynyddu gwariant yn sgil Covid-19.

 

Mater cadarnhaol arall yr adroddwyd amdano yw’r gwelliant yn rhagolygon y meysydd gwasanaeth, gan gynnwys gwelliant o £400k mewn arbedion. 

 

Nodwyd y materion allweddol canlynol ar gyfer y gyllideb, a gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaeth eu hadolygu a rhoi camau lliniaru ar waith i’w datrys:

 

·        Arwaethaf y gwelliant a nodwyd yn flaenorol, mae £1.1m o arbedion eto i’w gwneud. Mae hyn yn bennaf oherwydd pandemig Covid sydd wedi eu hoedi, ond wrth i’r pandemig barhau, mae perygl y gall oedi cyn cyflwyno’r arbedion hyn fynd drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Felly mae angen i Benaethiaid Gwasanaeth gytuno ar gamau i liniaru’r oedi hwn os na chyflwynir yr arbedion.

 

·        Fel yr adroddwyd yn y misoedd blaenorol, mae mwy o alw mewn llawer maes o ofal cymdeithasol gan gynnwys gwariant ar Asiantaethau Annibynnol Maethu Plant, sydd yn debyg o orwario o £450k a Lleoliadau Brys yn y sefyllfa bresennol yn rhagweld gorwariant o £354k. 

 

·        Mae sefyllfa’r ysgolion wedi newid ers y rhagolygon blaenorol, ac yn dangos gorwariant eleni o £1.3m, fydd yn golygu y byddant mewn sefyllfa gyffredinol o ddiffyg gwerth £186k.  Mae hon yn sefyllfa heriol iawn, ac yr ydym yn cydnabod fod ysgolion yn mynd trwy amser digynsail ac ansicr.  Fodd bynnag, wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, gyda Llywodraeth Cymru yn cadarnhau yr ad-delir costau cynyddol glanhau a thalu am staff sy’n gysylltiedig â Covid-19 trwy’r gronfa galedi, mae posibilrwydd y bydd y sefyllfa’n gwella. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y gwnaed iawn am y gorwariant trwy arbedion ar draws meysydd gwasanaeth, gan gynnwys cryn arbedion mewn staffio, a hefyd arbedion yn y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostwng Treth y Cyngor o £900k.   Fodd bynnag, £500k o orwario ar incwm Treth y Cyngor a gasglwyd yn gwrthweithio hyn. Gostyngodd yr incwm yn sylweddol ers dechrau’r pandemig, a bydd yn rhaid gosod swm o’r neilltu ar ddiwedd y flwyddyn rhag ofn iddo beidio cael ei gasglu. Mae’n bwysig nodi fod sefyllfa Cynllun Gostwng Treth y Cyngor  yn adlewyrchu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi talu am y cynnydd yn y galw am y cynllun oherwydd y pandemig.  Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld y fath gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i hyn.  

 

Terfynodd yr Arweinydd trwy ddweud, er bod yr adroddiad yn gyffredinol yn dangos tanwariant, fod hyn erbyn cefndir o ansicrwydd ynghylch y pandemig am weddill y flwyddyn ariannol, ac y caiff i fonitro’n agos a’i gyfoesi mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Gofynnwydi’r Cabinet:

 

·        nodi sefyllfa gyffredinol rhagolygon y gyllideb a’r meysydd o orwario sylweddol, yn deillio yn bennaf o arbedion CATC heb eu cyflwyno oherwydd y pandemig, y risgiau sy’n gysylltiedig â hyn, a’r argymhelliad fod Penaethiaid Gwasanaeth yn dal i ganolbwyntio ar weithredu’r arbedion cyn gynted ag y bo modd;

·        nodi’rrhagdybiaethau cynllunio yn y sefyllfa a ragwelir, ac yn arbennig yr ansicrwydd ynghylch (i) effaith gyson Covid ar feysydd gwasanaeth a (ii) y gefnogaeth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) am weddill y flwyddyn ariannol;

·        nodi’rsymudiadau a ragwelir mewn arian wrth gefn;

·        nodi’rheriau ariannol sylweddol sy’n wynebu ysgolion a’r effaith ddifrifol y bydd yn debyg o gael ar gyllidebau refeniw eraill y Cyngor a’r arian wrth gefn, a bod gwaith ar y gweill i adolygu’r rhagolygon.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet yn unfrydol i gytuno i’r adroddiad ac i’r Tîm Rheoli Corfforaethol dargedu lleihau gwariant ar draws y meysydd gwasanaeth, a sicrhau bod risgiau a chyllidebau allweddol yn cael eu rheoli.

 

Dogfennau ategol: