Agenda item

Monitro Rhaglen Gyfalaf ac Ychwanegiadau - Medi 2020

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y sefyllfa monitro cyfalaf fel ar ddiwedd Medi a’r newidiadau i’r rhaglen ers yr adroddiad diwethaf. Mae hefyd yn rhoi cyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf sydd ar gael a’r derbyniadau cyfalaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd, o ran cyfoesiadau i’r rhaglen ers yr adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Awst, mae gan Gasnewydd raglen gyfalaf helaeth o fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau pwysig ledled Casnewydd o fuddsoddi mewn ysgolion, gweithgareddau adfywio, treftadaeth a chynlluniau effeithlonrwydd ynni. Yn dilyn ychwanegiadau o fwy na £2.4m, mae’r rhaglen gyfalaf yn awr yn £206.7m.

 

Ymysg ychwanegiadau i’r rhaglen mae: buddsoddi pellach yn Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B, gan gynnwys defnyddio arian Adran 106 a sicrhawyd a nifer o grantiau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys buddsoddi mewn cerbydau trydan casglu sbwriel,  a chefnogaeth i fusnesau trwy gydol pandemig Covid-19.

 

Dengys y sefyllfa fonitro am 2020/21 lithriad pellach i flynyddoedd i ddod o £3.8m; mae hyn yn adlewyrchu proffil cyflwyno cynlluniau am weddill y flwyddyn. Mae tanwariant bychan hefyd ar brosiectau a gwblhawyd o £470,000, yn bennaf yng Ngwasanaethau’r Ddinas.

 

Mae’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael (arian rhydd) yn dangos sefyllfa debyg i’r un a adroddwyd gynt o ryw £21m.  Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Arweinydd, wrth i’r Cyngor ddod at ddiwedd y rhaglen bum-mlynedd hon ac edrych ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol, rhaid adlewyrchu ar effaith refeniw yr arian rhydd hwn dros y CATC ac edrych ar baramedrau cyflwyno’r rhaglen gyfalaf nesaf. Bydd hyn yn rhan o’r strategaeth gyfalaf, sy’n cael ei hadolygu a’i chyfoesi’n flynyddol ac edrychir ar strategaeth cyfalaf tymor-hir y Cyngor.  Trafodir hyn gan y Cabinet, gyda’r Cynllun Ariannol Tymor Canol, ym mis Chwefror.

 

O ran y derbyniadau cyfalaf, yr oedd yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo defnyddio’r £2.03 miliwn o dderbyniadau cyfalaf er mwyn talu premiymau benthyciadau oedd yn daladwy pan ad-dalwyd benthyciadau yn gynnar yn 2015/16.  Er bod hyn wedi rhoi arbediad net ar y pryd, yr oedd premiwm taladwy o ryw £500,000 y flwyddyn. Mae ychydig dros £2 miliwn yn weddill i’w dalu, a gellir defnyddio derbyniadau cyfalaf i dalu hyn, a galluogi rhoi arbediad i’r CATC yn 2021/22 o £507,000, sy’n gadael balans o £3.1m o dderbyniadau nas ymrwymwyd, gan gynnwys £1.1m am dderbyniadau Cyd-fentrau Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet:

 

-        nodi’r sefyllfa fonitro a chymeradwyo’r ychwanegiadau a’r llithriad sydd yn yr adroddiad;

-        nodi’r adnoddau cyfalaf sydd ar gael, gan adlewyrchu y caiff hyn ei gyfoesi fel rhan o’r strategaeth gyfalaf sydd i ddod; a,

-        cymeradwyo defnyddio derbyniadau cyfalaf a nodi balans gweddill y derbyniadau cyfalaf

Gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr y Cabinet i roi sylwadau:

 

Canmolodd y Cynghorydd Giles y gwaith rhagorol yn Rhaglen Band B i Ysgolion a’r gwaith cyson sy’n gysylltiedig â hyn. Llongyfarchodd y gwasanaeth addysg a’r ysgolion am eu gwaith caled.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at dudalen 48 yr agenda - Gwasanaethau plant a Phobl Ifanc - a holodd am y cyfeiriad fod y prosiect yn cael ei gyllido gan ddyraniad cronfa Integredig plant o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Credai nad oedd y wybodaeth hon yn gywir, a bod y prosiect yn cael ei gyllido gan y Bwrdd RPB. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr fynd ar ôl hyn y tu allan i’r cyfarfod ac egluro’r sefyllfa am ffynhonnell y cyllid.

 

Yr oedd y Cynghorydd Harvey yn falch o gadarnhau y cyflwynwyd y ceisiadau cam 2 am waith ar y Bont Gludo. Cyfleodd hefyd ei diolch gan y busnesau bach ar hyd Ffordd Cas-gwent am y cymorth a gawsant gan y Cyngor yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at deithio llesol a chanmolodd y ffaith fod 20 km o ffyrdd wedi eu gwneud yn addas at y diben hwn; cyfrifwyd dros 27,500 o bobl yn defnyddio’r llwybrau beicio ym mis Mai. Yr oedd yr  Arweinydd yn cyd-fynd â’i sylwadau ac yr oedd yn falch o fod yn dyst i ba mor dda y mae’r Cyngor yn cynnal y llwybrau.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet wneud y canlynol:

 

1.     cymeradwyo’r ychwanegiadau a’r newidiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnir amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A);

 

2.     cymeradwyo llithriad o £3,808k i 2021/22;

 

3.     nodi’r adnoddau cyfalaf sydd yn dal ar gael (arian rhydd) tan 2022/23;

 

4.     nodi’r sefyllfa am ragolygon y gwariant cyfalaf fel ar Fedi 2020;

 

5.     nodi balans y derbyniadau cyfalaf am y flwyddyn gan gynnwys cymeradwyo defnyddio derbyniadau o £2.030m i leihau taliadau premiymau benthyciadau.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet a chymeradwyo yn unfrydol:

 

i.                 y newidiadau i’r Rhaglen Gyufalaf, a nodi’r sefyllfa fonitro fel y’i gosodir allan yn yr adroddiad, gan gynnwys defnyddio derbyniadau cyfalaf, a,

 

ii.                cytuno i roi blaenoriaeth i wariant cyfalaf i gynnal y gwariant o fewn yr hyn sy’n fforddiadwy yn gyfredol, gan gydnabod fod y pwysau refeniw o fenthyciadau’r dyfodol yn rhan o fwlch cyllideb cyffredinol y CATC.

 

Dogfennau ategol: