Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn cadarnhau, dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010), fod gofyn i’r Cyngor adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaeth yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol sydd yn eu CynllunCydraddoldeb Strategol. Mae Deddf Cydraddoldeb hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi data am gydraddoldeb staff, ac y mae manylion hyn yn yr adroddiad
Cadarnhaodd yr Arweinydd mai dyma’r pedwerydd Adroddiad Blynyddol a’r un olaf am gynnydd a osodir allan yn y CynllunCydraddoldeb Strategol am 2016/2020 a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2016. Mae CynllunCydraddoldeb Strategolnewydd y Cyngor wedi ei dderbyn gan y Cabinet a chytuno arno yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ac fe’i cyhoeddir ar wefan y Cyngor.
Esboniodd yr Arweinydd, ers gweithredu’r CynllunCydraddoldeb Strategol blaenorol yn 2016, fod y Cyngor wedi adeiladu ar eu hymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth, ac wedi ymwneud â’r staff, wedi ymgynghori â rhanddeiliaid allanol ac wedi ymwneud mwy â’r gymuned. Defnyddiwyd mesurau’r naw Amcan Cydraddoldeb i ddangos llwyddiannau yn ogystal â nodi lle i wella. Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau fod newidiadau wedi eu gwneud a bod y llwybr ymlaen yn edrych yn dda, ac o ddysgu’r gwersi hyn, gall y Cyngor symud ymlaen yn gadarnhaol.
Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys uchafbwyntiau o’r flwyddyn a aeth heibio, ac yn eu mysg:
Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr Adroddiad Blynyddol wedi ei adolygu’n ddiweddar gan y Pwyllgor Craffu, ac y mae eu sylwadau yn yr adroddiad. Un o’r materion a godwyd oedd dadansoddi’r data am weithlu’r Cyngor, sy’n nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella. Ymdrinnir â hyn yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/2024, ynghyd a gwaith cyson ar yr ymrwymiad i weithlu cynrychioliadol a recriwtio a chadw o blith grwpiau a dangynrychiolir.
Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau i roi sylwadau, ac ategodd sylwadau’r Arweinydd fod y gwaith hwn yn cael ei wneud nid yn unig i dicio bocsys, ond ei fod yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddiwylliant gweithle ac agwedd at gyflwyno gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth ar gynhwysiant ac amrywiaeth.
Gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr y Cabinet i roi sylwadau:
Dywedodd y Cynghorydd Rahman fod y Cyngor yn un o’r ychydig awdurdodau lleol sydd yn mynd ati i dacli hiliaeth systemig, ac adleisiodd y pwynt mai gwaith ar y gweill yw hyn, a bod mwy i’w wneud eto i wella materion fel tlodi a chynhwysiant.
Ategodd y Cynghorydd Davies hyn, gan nodi hefyd fod yn rhaid gweithredu’r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd erbyn 2021 a bod yn rhaid i bob penderfyniad gymryd i ystyriaeth yr effaith ar y trigolion; bydd y gwaith hwn yn sicrhau y gall y Cyngor gyflawni’r ddyletswydd honno.
Gofynnwydi’r Cabinet :
i) gymeradwyo’radroddiad a,
ii) chytunoi’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor
Penderfyniad:
Pleidleisiodd y Cabinet a chymeradwyo’r adroddiad yn unfrydol a chytuno i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor i sicrhau bod y Cyngor yn dal i gydymffurfio â’i oblygiadau statudol.
Dogfennau ategol: