Agenda item

Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a chynnydd Cyngor Dinas Casnewydd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth i’r Cabinet ar adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn rhoi argymhellion i’r Cyngor yng ngoleuni’r adroddiad.

 

Mae’radroddiad yn rhoi manylion am asesiad y Comisiynydd o welliannau y dylai cyrff cyhoeddus wneud i gyrraedd y nodau lles a gwreiddio egwyddor datblygu cynaliadwy yn y ffordd maent yn gweithio. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys y pwyntiau isod:

 

·        Atgoffa am brif ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

·        Yr wyth maes i ganolbwyntio arnynt  ac argymhellion lefel uchel sydd yn adroddiad y Comisiynydd; a,

·        Crynodebo’r cynnydd a wnaeth y Cyngor i weithredu’r Ddeddf, a’r camau nesaf.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd mai un o ddyletswyddau’r Comisiynyddyw cyhoeddiAdroddiadCenedlaethau’r Dyfodol, sydd yn cynnwys asesiad y Comisiynyddo’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus wneud i gyrraedd y nodau lles.

 

Mae adroddiad y Comisiynyddyn gosod allan nifer o feysydd i gyrff cyhoeddus ganoli arnynt:

 

·        Arweinyddiaeth a Newid

·        Defnydd Tir, Cynllunio a Chreu Lle

·        Trafnidiaeth

·        Tai

·        Dad-garboneiddio a Newid Hinsawdd

·        Sgiliau at y Dyfodol

·        ProfiadauAndwyol mewn Plentyndod

·        System Iechyd a Lles

 

O ran sefyllfa Casnewydd, mae’r Comisiynydd yn cydnabod mai taith yw gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn sefydliad. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd cyson tuag at weithredu’r Ddeddf dros y pedair blynedd diwethaf, yn fewnol a thrwy weithio gyda’r BGC.  Fodd bynnag, mae meysydd lle mae angen cynnydd o hyd, a nodwyd y  camau nesaf yn yr adroddiad dan bob un o’r meysydd canolbwyntio.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o weld y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf, ac yr oedd yn arbennig o falch i adrodd fod y Cyngor yn ehangu nifer yr unedau tai gyda chefnogaeth i ymateb i gynnydd yn y galw oherwydd Covid-19, a thrwy hynny sicrhau y gall y rhai mwyaf bregus yn y ddinas wella eu tai a’u lles. Hefyd, mae’r Cyngor yn symud tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 trwy amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys prosiect ynni adnewyddol cymunedol, fydd yn cynyddu nifer y paneli solar ar doeau yn y ddinas o 25%.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd ymrwymiad y Cyngor i gymryd agwedd gynaliadwy, ac yr oedd wedi penodi Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy gyda phortffolio i fwrw ymlaen â hyn.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i roi sylwadau.  Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am y gwaith a wnaed i ddatblygu adroddiad y Cabinet o’r wybodaeth yn adroddiad manwl y Comisiynydd sydd yn diffinio’r camau nesaf i’r Cyngor.  Dros y pum mlynedd a aeth heibio, gwnaeth y Cyngor gynnydd cyson, ac yr oedd yr Aelod Cabinet yn arbennig o falch o’r gostyngiad hyd yma yn ôl troed carbon Casnewydd, ac y mae’n edrych ymlaen at weld mwy o gynnydd gyda hyn. Cadarnhaodd, fel Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros agenda Cenedlaethau’r Dyfodol y bydd yn gofyn am ddiweddariadau cyson i ofalu bod y camau priodol yn cael eu cymryd yng nghyswllt y Ddeddf.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr y Cabinet i roi sylwadau:

 

Yr oedd y Cynghorydd Rahman yn falch o gydweithio gyda’r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy a chroesawodd y cynnydd a wnaed gyda gosod paneli solar ar adeiladau’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at drosglwyddiadau asedau cymunedol, a chrybwyll Maendy Diderfyn a throsglwyddo llyfrgell Maendy, a’r gwaith a wneir i drosglwyddo asedau eraill yn nhriongl Maendy.

Gofynnwydi’r Cabinet to:

 

i)                 nodi’rcynnydd a wnaed fel y nodir yn yr adroddiad blynyddol, a

ii)                cadarnhau’rMeysydd Canolbwyntio a’r Argymhellion fel y gall y Cyngor symud at gam nesaf gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

NODYN:

Ar y pwynt hwn, cafwyd trafferthion technegol gyda TG yn y cyfarfod, ac ataliwyd y Cabinet. Ail-gynullodd y cyfarfod am 1728 ac ymddiheurodd yr Arweinydd am y tarfu.

 

Penderfyniad:

 

Pleidleisiodd y Cabinet a chymeradwyo’r adroddiad yn unfrydol, fydd yn galluogi’r Cyngor, gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau, i wella lles cyffredinol y cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: