Agenda item

Diweddariad Ymateb ac Adferiad Covid 19 Cyngor Dinas Casnewydd

Cofnodion:

Wrthgyflwyno’r adroddiad hwn, diolchodd yr Arweinydd yn gyntaf o waelod calon i bobl Casnewydd ar ran y Cyngor am bopeth a wnaethant ers Mawrth 2020 a hefyd yn ystod y toriad tân Covid-19 diweddar i gadw pawb yn ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad y clefyd. Gobaith yr Arweinydd oedd gweld gostyngiad yn ffigyrau Covid a fydd yn ganlyniad da i waith caled pawb, fel y gallwn oll symud ymlaen gyda’n gilydd fel dinas. 

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi cyfoesiad am gynnydd Cyngor Casnewydd a’i bartneriaid o ran cefnogi’r ddinas i gydymffurfio a’r mesurau cloi lleol a chefnogi cymunedau Casnewydd fel rhan o Nodau Adfer Strategol y  Cyngor. 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cabinet ym mis Mehefin wedi cadarnhau’r pedwar Nod Adfer Strategol fydd yn cefnogi cyflwyno Amcanion Lles y Cyngor a hefyd yn sicrhau y gall  gwasanaethau’r Cyngor ddychwelyd yn ddiogel a rheoli achosion o’r clefyd yn y dyfodol. 

Ers yr last adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Hydref, rhoddodd Llywodraeth Cymru ‘doriad tânar waith o 23 Hydref ymlaen i bara 17 diwrnod. Arweiniodd hyn at gau pob busnes heb fod yn rhai hanfodol (gan gynnwys tafarnau, bariau a bwytai); cynghori pob aelwyd i aros gartref a gweithio o gartref (lle bo modd); a chael dim ond disgyblion cynradd, a blwyddyn 7 ac 8 i ddychwelyd i’r ysgol. 

 

I Gyngor Casnewydd a’i bartneriaid golygodd hyn gau lleoliadau Adfywio Cymunedol (ac eithrio Dechrau’n Deg), ysgolion (i grwpiau blwyddyn penodol), cyfleusterau Casnewydd Fyw a’r safle Gwastraff Cartref.

Mae Lloegr bellach wedi gosod cyfnod clo cenedlaethol am bedair wythnos tan 2 Rhagfyr a gofynnwyd i drigolion yng Nghymru beidio â theithio yn ôl ac ymlaen i Loegr (onid oes esgus rhesymol) i’w helpu i leihau lledaeniad Covid.

Bydd y cyfnod hyd at y Nadolig yn beryglus i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Casnewydd, wrth i ymdrechion gael eu gwneud i leihau lledaeniad Covid-19 a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol y ddinas, e.e. ysbytai, meddygfeydd, ysgolion, gwasanaethau’r Cyngor a busnesau yn aros ar agor ac y gallant redeg yn ddiogel o fewn y gofynion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Dyna pam ei bod yn bwysig i drigolion a busnesau gydymffurfio â rheolau newydd Lywodraeth Cymru.  Mae Cyngor Casnewydd yn dal i weithio’n agos  gyda’i bartneriaid, grwpiau cymunedol a phartneriaid y trydydd sector i gyfleu’r rheolau hyn i’r trigolion a busnesau ac i gefnogi’r mwyaf bregus yn ein cymunedau.

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i bwysleisio i bawb mor bwysig oedd cadw  at y rheolau. Apeliodd i’r cyhoedd, petai’r gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu, i ddilyn y cyswllt hwnnw gan y buoch mewn cysylltiad â rhywun a brofodd yn bositif am covid-19.  Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, ac ni fydd pobl yn cael eu barnu, ond y mae’n gam pwysig i geisio atal y clefyd hwn.

Diolchodd yr Arweinydd i’r holl staff, partneriaid a chynghorwyr am gefnogi cymunedau a gwasanaethau. 

Addawodd yr Arweinydd roi diweddariad pellach am gynnydd y Cyngor yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

Gwahoddodd yr Arweinydd gydweithwyr y Cabinet i roi sylwadau:

 

Canmolodd y Cynghorydd Truman y gweithlu cyfan am eu gwaith wrth ddelio â’r sefyllfa hon, at atgoffodd bobl i gadw at y rheolau, gan ddiolch i  bobl Casnewydd am eu cymorth gyda hyn.

 

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r risgiau mae’r Cyngor yn wynebu o hyd.

 

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytuno i’r Cabinet/Aelodau’r Cabinet dderbyn cyfoesiadau gan swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

Dogfennau ategol: