Agenda item

Diweddariad ar Brexit Cyngor Dinas Casnewydd/Trafodaethau Masnach Paratoadau

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet sydd yn gosod allan baratoadau Cyngor Casnewydd am drefniadau masnach wedi 31 Rhagfyr a chyfoesiad am y TrafodaethauMasnach Brexit rhwngLlywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet ar Covid-19, prif ganolbwynt y Du a Chyngor Casnewydd fu ymateb i argyfwng Covid-19.  Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth y DU wedi parhau i drafod gyda’r  UE. 

Ers y cyfoesiad diwethaf, mae Gr?p Gorchwyl a Gorffen  swyddogion y Cyngor ar Brexit wedi parhau i gadw llygad fanwl ar safbwynt y DU, a pharatoi gymaint ag sydd modd ar gyfer pa bynnag drefniant a wneir. Mae hyn yn cynnwys cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fel rhan o rôl y Cyngor yn Fforwm Gwytnwch Lleol Gwent sydd yn sail hefyd i baratoadau’r Cyngor ei hun.  Fodd bynnag, pa hwyaf y bydd y trafodaethau hy  yn parhau, daw’n fwy heriol i wasanaethau’r Cyngor (gan gynnwys partneriaid) a busnesau yng Nghasnewydd i gynllunio’n effeithiol.

Ers yr adroddiad diwethaf, gwnaeth y Cyngor y canlynol:

·        Cefnogibusnesau a’u hannog i baratoi trwy’r Tîm Datblygu economaidd a chyfeirio busnesau at dudalennu Llywodraeth Cymru.

·        Monitro’rholl risgiau i gadwyni cyflenwi gyda’r cyflenwyr allweddol, gweld pa gyflenwadau sydd ar gael, a’r oblygiadau cost gan gynnwys oblygiadau tariffau a TAW.

·        Aros am holl ofynion rheolaethol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (Pwysleisiodd yr Arweinydd gymaint o bwysau mae hyn yn roi ar staff y cyngor sydd eisoes dan straen oherwydd pandemig Covid-19)

·        Fel rhan o ymateb y Cyngor i Covid-19 a chefnogaeth i fanciau bwyd yn y ddinas, sefydlwyd gweithgor i wella ymwneud a nodi pwysau mewn cymunedau sy’n dioddef effeithiau Covid -19 ac unrhyw drefniadau newydd posib.

·        Parhaui gefnogi ac annog partneriaid y Cyngor a grwpiau cymunedol i wneud cais am Gynllun Statws Sefydlu yr UE, e.e., trwy hysbysebion radio. Hyd yma, gwelodd Casnewydd dros 6,630 o geisiadau, ac y mae mwy o dargedu yn digwydd i annog cymunedau i ymgeisio. 

Mae’rtabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn yr holl feysydd sy’n dod dan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn amlwg yn sefyllfa sydd yn parhau, ac nad oes ateb clir ar y gorwel, ac na roddwyd canllawiau gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol fod wedi paratoi yn well.

Lleisiodd y Cynghorydd Truman bryder fod Casnewydd yn awdurdod porthladd o bwys, ac eto fod swyddogion y cyngor yn dal i aros am safonau monitro a gwirio mewnforion wedi Brexit.  Yr oedd yn falch o adrodd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu hyfforddiant i’r swyddogion i wneud y gwaith hwn, ond ni all yr hyfforddiant gychwyn hyd nes y gwyddom yr union ofynion.

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi paratoadau’r Cyngor ar gyfer Brexit.    

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytuno i’r Cabinet/Aelodau’r Cabinet dderbyn cyfoesiadau gan swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

Dogfennau ategol: