Agenda item

Strategaeth Rheoli Cyfalaf a'r Trysorlys

Cofnodion:

Roedd gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y ddinas fel y'u nodir yn ei Gynllun Corfforaethol a'r addewidion a nodwyd ynddo. Un o'r prif alluogwyr i gyflawni'r uchelgais hwn oedd y rhaglen gyfalaf. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli Trysorlys ill dau a (i) gadarnhaodd y rhaglen gyfalaf fel rhan o'r Strategaeth Gyfalaf a’r (ii) terfynau benthyca amrywiol a dangosyddion eraill a oedd yn llywodraethu rheolaeth gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli Trysorlys.

 

Roedd y 'Strategaeth Gyfalaf' hefyd yn nodi'r cyd-destun hirdymor (10 mlynedd) lle y gwnaed penderfyniadau cyfalaf ac yn dangos sut roedd yr Awdurdod Lleol yn gwneud penderfyniadau cyfalaf/buddsoddiadau yn unol ag amcanion y gwasanaeth, gan ystyried risg/buddion ac effaith; yn ogystal ag ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd yn briodol.

 

Roedd cynlluniau cyfalaf yr Awdurdod wedi'u cysylltu'n gynhenid â gweithgareddau rheoli'r trysorlys yr ymgymerodd â nhw, felly roedd Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cael ei chynnwys ar y cyd ag adroddiad y Strategaeth Gyfalaf.

 

Crynhowyd y prif argymhellion a ddeilliodd o'r ddwy strategaeth yn yr adroddiad ac roeddent hefyd wedi'u hatodi. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r benthyca'n cynyddu dros y tair i bedair blynedd nesaf, felly roedd angen terfyn cynaliadwy.  Byddai'r terfyn hwn yn cael ei bennu er mwyn i'r Cyngor beidio â mynd dros y rhaglen gyfalaf.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Archwilio ddarparu eu hargymhellion i'r Cyngor.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Jordan at Dudalen 124, Tabl 1: Dangosyddion Darbodus Amcangyfrifon o Wariant Cyfalaf a Chyllid Cyfalaf ar gyfer y flwyddyn 2021/22 £62.3M a 2022/23 £71.6M.  Nododd y Cynghorydd Jordan gynnydd dramatig dros y cyfnod o 2020/21 gyda ffigurau’n dangos £33.1M.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod hyn oherwydd llithriad yn y blynyddoedd blaenorol, ond wrth i ni ddod i ben y rhaglen, roedd rhai cynlluniau yr oedd angen eu cwblhau.  Cyfeiriodd llawer o hyn at brosiect ysgolion Band B, ynghyd â chynlluniau mawr eraill a oedd yn dod yn y blynyddoedd hynny.  Roedd cost y Fargen Ddinesig wedi cyflymu ei rhaglen ymlaen i 2021/22 a 2022/23 i raddau helaeth ac yn ogystal, roedd cynlluniau a ariannwyd gan grantiau hefyd yn cael eu cynnal i'r cyfnod nesaf o ddwy flynedd.  Dangoswyd y Rhaglen Gyfalaf ymhellach i lawr yn yr atodiad mewn manylion pellach ond yn hanfodol roedd yn gorffen y Rhaglen Gyfalaf bresennol.

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at y Buddsoddiad Cyfalaf tymor canolig i hirdymor ac ystyried y 12 mis diwethaf, faint a gafodd ei ddileu o'n buddsoddiad o ganlyniad i hyn ac a oedd y Cyngor yn buddsoddi mewn risg ganolig a beth fyddai'n digwydd nesaf.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol nad oedd unrhyw fuddsoddiad mewn categori risg cyn y pandemig, felly o gydbwysedd buddsoddi, nid oedd wedi colli unrhyw arian o gwbl.  Fodd bynnag, roedd cyfraddau llog ar falansau arian parod yn isel iawn, e.e. 0% ac ar rai diwrnodau fe’u rhoddwyd gyda Swyddfa Rheoli Dyledion y Llywodraeth a roddodd gyfraddau llog negyddol ar hyn o bryd, a dyna pam yr oedd yn bwysig symud y £10M yn ddiogel i fuddsoddiadau cynhyrchu uwch a oedd yn mynd i 2021/22.  Roedd y Cyngor yn bwriadu gwneud hyn eleni ond nid yw wedi gwneud hynny oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, mae pethau wedi sefydlogi, fel yr oedd ein buddsoddwyr yn ei ddweud wrthym, ac nid ydym wedi colli gwerth cyfalaf.  Nid oedd yr ergyd ar y math o fuddsoddiadau yr oedd awdurdodau lleol wedi bod yn eu cyflawni wedi bod mor fawr â hynny.

 

Yn ail, o ran y pwynt bwled ar dudalen 147 ynghylch y galwadau diweddaraf ar y Rhaglen Gyfalaf ac a oedd buddsoddiad mewn perthynas â'r Bont Gludo a'r £8.5M diweddar gan CDL wedi newid y pwynt bwled hwn. Roedd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn ymwybodol o CDL yn dod drwodd ac yn cynnwys Cam 1 ac yn fwy diweddar Cam 2 arian y loteri, felly cymerwyd camau rhagweithiol mewn perthynas â hyn ac fe'i hymgorfforwyd yn yr adroddiad. 

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at gyflwyniad y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol lle soniwyd ein bod wedi cael prif grant da gan Lywodraeth Cymru eleni.  Fodd bynnag, ystyriodd y Cynghorydd Hourahine fod y grant yn ddigonol/gwell na'r disgwyl yn seiliedig ar boblogaeth Casnewydd yn hytrach na rhoi grant uwch i'r Cyngor eleni.  Cytunodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y cynlluniau'n llawer is.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn cael ei ystyried yn setliad da o'i gymharu â'r hyn a gynlluniwyd a bod addasiad ôl-weithredol wedi'i wneud hefyd.  Roeddem nawr yn cael ein hariannu ar sail poblogaeth wedi'i diweddaru, a olygai ein bod yn derbyn yr hyn yr oeddem yn ei ddyledus.

 

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd K Thomas at ddatblygiad Llanwern, gyda 4,000, a Cothill dros 2,000 o eiddo ac felly gofynnwyd pryd yr oedd Llywodraeth Cymru fel arfer yn ystyried ffigurau poblogaeth i drosglwyddo arian; a fyddai hyn 12 mis ymlaen llaw? Os felly, gallai gael effaith sylweddol ar Gasnewydd, gan ystyried maint y datblygiad sy'n digwydd ar hyn o bryd.  Nid oedd y Pennaeth Cyllid yn ymwybodol o'r manylion hyn ond cynhelir y Cyfrifiad bob 10 mlynedd, sydd, mae'n debyg, yn cymryd hyd at 18 mis i goladu’r data ohono, felly roedd hyn yn seiliedig ar ddata go iawn a gasglwyd.  O fewn y 10 mlynedd sy’n arwain at bob Cyfrifiad, defnyddir amcangyfrif o'r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  Roedd hwn yn bwynt da a godwyd gan y Cynghorydd; sut roedd y mewnfudiad yn cael ei gynnwys.  Er nad oedd y Pennaeth Cyllid yn gallu ateb hyn, byddai'n cysylltu â'i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i roi ateb i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ynghylch niferoedd cyffredinol y boblogaeth.

 

Gyda llaw, soniodd y Cynghorydd Jordan mai hwn oedd y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf i'w gynnal gan fod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol y gallu i ddatblygu eu hymchwil a darparu cyfoeth o ddata yngl?n â’r boblogaeth.

 

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at y symiau pwysig, a oedd ychydig yn ddryslyd, i'r graddau yr oedd dyledion anghynaliadwy o bosibl wrth symud ymlaen, lefelau uchel o gostau ariannu o'u cymharu ag awdurdodau eraill. Y cwestiwn yn y cyswllt hwnnw fyddai pa mor uchel oedd uchel.  Roedd cyfeirio cyn argymhelliad cyllid a'r Crynodeb Pennaeth Cyllid yn ailadrodd yr hyn a oedd eisoes yn y papur ac felly ni allai dynnu'r argymhellion allan ohono’n glir.  Felly, nid oedd yn si?r o’r hyn yr oedd y papur yn ceisio'i gyflawni.  Roedd lefel y benthyca yn seiliedig yn y bôn ar yr hyn yr oedd y Rhaglen Gyfalaf, a gallai fod wedi’i grynhoi’n gliriach, o ran benthyca a buddsoddiadau, e.e. ffiniau gweithredol pe bai'r rhain yn cael eu creu gan y gofyniad ariannu cyfalaf y gwir lefel y gallech fynd iddi oedd y terfynau awdurdodedig.  Os oedd rhywun felly'n dweud bod rhai o'r lefelau dyled o bosibl yn rhy uchel, yna dylid diwygio neu egluro'r gwaith yn y papur i dynnu sylw at y ffaith bod hyn yn achosi problem ac ar ba lefel na ddylai achosi problem.  Dywedodd y Cadeirydd na fyddai darllen yr adroddiad yn 'oer' yn helpu cynghorwyr ac yn ystyried mwy o eglurder mewn perthynas â'r dyledion o lefel weithredol ac a oedd y rhaglen gyfalaf yn rhy uchelgeisiol ar gyfer cronfeydd y Cyngor.  Esboniodd y Pennaeth Cyllid, gan ein bod yn ariannu costau refeniw cyllid cyfalaf y rhaglen bresennol hyd at ddiwedd 2023/24, fod hynny'n fforddiadwy.  Aeth â ni i sefyllfa a oedd yn lefel eithaf uchel o gost refeniw y bu'n rhaid ei gwario ar ddyledion sy'n weddill o'i gymharu â'n cyfoedion.  Fodd bynnag, nid oedd yn fwy nag yr oedd ar hyn o bryd fel canran o'n cyllideb ac nid oedd y risg y byddai cyllid yn arafu yn y dyfodol er bod y gyllideb hon wedi'i chloi, yn wahanol ac felly nid oedd yn risg newydd.  Am y pedair blynedd nesaf, y cyngor gwirioneddol i'r Cyngor oedd bod hyn yn fforddiadwy ac y byddai’n mynd â ni i lefel gymharol uchel o gost refeniw a dyledion ond fel canran o'n cyllideb, nid oedd yn llawer.  Roedd yr argymhelliad allweddol y tu hwnt i'r cyfnod o bedair blynedd. Roedd y llinell honno'n rhy serth i'w chynnal ac yn enghreifftio sut y byddai hynny'n edrych ar y ddwy lefel a grybwyllwyd yn flaenorol gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a byddai hyn yn cael ei ystyried yn rhybudd i'r Cyngor na allem barhau ar y lefel hon.  Mater i Gabinet y dydd felly fyddai rheoli'r rhaglen gyfalaf o fewn y terfynau benthyca. Ariannwyd hanner y rhaglen gyfalaf o grantiau, felly hyd yn oed gyda benthyciad blynyddol o £7M dros gyfnod o bum mlynedd, £35M, mae'n debyg y byddem yn edrych ar Raglen Gyfalaf o ymhell i £78M, gyda'r elfen ariannu grant yn cael ei chynnwys. Felly, byddai'r Pennaeth Cyllid yn myfyrio ar bwynt y Cadeirydd ynghylch bod yn gliriach ac yn mireinio'r elfen honno. Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y terfyn ffiniau gweithredol wedi'i bennu ar lefel a oedd yn fforddiadwy a'r hyn a ddywedodd y rhaglen bresennol, sef y lefel isel yr oedd y Pennaeth Gwasanaeth yn ei hargymell i'r Cyngor ac y byddai hynny'n darparu'r rhaglen gyfalaf bresennol.

 

·       Gofynnodd y Cynghorydd Jordan a oedd y Cyngor wedi arbed mwy o arian eleni nag a ddisgwylid oherwydd y pandemig ac a ellid ychwanegu hyn tuag at y gyllideb eleni.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod hwn yn ddarlun cymysg. Roedd pwysau ar refeniw i sicrhau arbedion; fodd bynnag, ar yr ochr arall roedd cyfleoedd i wneud arbedion fel costau swyddfa/teithio yn is, cau ysgolion ac ati.  Roedd y Cabinet wedi dangos tanwariant o £3M ond cafodd hyn ei wrthbwyso mewn meysydd eraill.  Roedd lleihau pobl yn y system gofal cymdeithasol hefyd wedi gwneud arbedion, a gwmpaswyd gan gronfa galedi Llywodraeth Cymru. Ni fyddai'n effeithio ar gyllideb y flwyddyn nesaf ond byddai'n mynd i gronfeydd wrth gefn y Cyngor.  Mewn ymateb i gwestiwn terfynol y Cynghorydd Jordan, fodd bynnag, ni fyddai hyn yn mynd tuag at leihau'r gronfa treth gyngor.

 

Yn olaf, soniodd y Pennaeth Cyllid fod y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn gadael Cyngor Dinas Casnewydd a diolchodd i'w gydweithiwr, a fyddai'n cael ei golli, am ei waith caled dros y blynyddoedd.  Llongyfarchodd y Pwyllgor Archwilio y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol ac ategodd sylwadau gan y Pennaeth Cyllid.

 

 Cytunwyd:

·       Y dylai’r Pwyllgor Archwilio roi sylwadau ar y Strategaeth Gyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y rhaglen gyfalaf bresennol ynddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1) a'r gofynion/terfynau benthyca sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen gyfalaf bresennol.

·       Y dylai’r Pwyllgor Archwilio roi sylwadau ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a'r Ddarpariaeth Refeniw Ofynnol (DRO) ar gyfer 2021/22. (Atodiad 3)

 

Hefyd fel rhan o'r uchod:

 

o   Nodwyd a gwnaeth sylwadau, yn ôl yr angen, am y ddyled gynyddol a chost refeniw gyfatebol hyn wrth gyflawni'r rhaglen gyfalaf bresennol, a goblygiadau hyn dros y tymor byr a'r tymor canolig o ran fforddiadwyedd, doethineb a chynaliadwyedd.

o   Nodwyd a gwnaeth sylwadau ar argymhelliad y Pennaeth Cyllid i'r Cabinet a'r Cyngor, bod angen cyfyngu benthyca i'r hyn a gynhwysir yn y rhaglen gyfalaf bresennol ac,

o   Dylai'r gwariant hwnnw a ariennir gan ddyledion yn y dyfodol gael ei gyfyngu a'i reoli o fewn y terfynau y cytunwyd arnynt i sicrhau bod benthyca allanol yn parhau o fewn lefel gynaliadwy dros y tymor hir. 

 

 

Dogfennau ategol: