Cofnodion:
Nododd yr adroddiad atodedig fod yr Adran Archwilio Mewnol yn gwneud cynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020/21 a dangosyddion perfformiad mewnol er mai dim ond o fis Hydref 2020 y daeth y cynllun diwygiedig y cytunwyd arno i rym oherwydd effaith pandemig Covid-19.
Roedd Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr Adran Archwilio Mewnol a'i gallu i gyflawni'r cynllun blwyddyn lawn wreiddiol. Yn gorfforaethol, canolbwyntiwyd ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol i ddelio â'r pandemig. Cefnogodd y Tîm Archwilio Mewnol y broses grantiau busnes a gwnaeth waith atal twyll helaeth ond cafodd mwyafrif yr archwiliadau rheolaidd eu gohirio am gyfnod dros dro.
Seiliwyd y cynllun archwilio gwreiddiol ar 1208 o ddiwrnodau archwilio; roedd y cynllun archwilio diwygiedig yn seiliedig ar 626 o ddiwrnodau archwilio.
Aeth y Prif Archwilydd Mewnol drwy'r atodiadau yn adroddiad y Pwyllgor.
Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:
Sicrhawyd y Cadeirydd fod hyn yn ymwneud â llawer o faterion, gan gynnwys gweithio gartref, gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth. Roedd yr archwiliad yn delio â staff rheng flaen gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ac roedd y tîm Archwilio yn parchu hynny ac yn rhoi lle i staff; gwneud lwfans ar gyfer yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19. Roedd hyn yn golygu ei bod wedi cymryd mwy o amser i'r gwaith gyrraedd y Tîm Archwilio mewn rhai ardaloedd ond eu bod yn gweithio eu ffordd drwy'r cynllun. Teimlai'r Cadeirydd pe bai'r papur yn cael ei ddarllen ar ei ben ei hun, gallai roi'r argraff nad oedd pethau mor weithredol ag yr esboniwyd mewn gwirionedd gan y Prif Archwilydd Mewnol. Wrth adolygu'r datganiad llywodraethu blynyddol, gallai'r Pwyllgor roi sicrwydd ynghylch y ffaith bod staff yn gwneud gwaith rhagweithiol a oedd yn helpu i reoli'r amgylchedd.
Cytunwyd:
Y dylai’r adroddiad gael ei nodi gan Bwyllgor Archwilio'r Cyngor.
Dogfennau ategol: