Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw Tachwedd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn ymdrin â’r gyllideb refeniw fel ym mis Tachwedd 2020.  Yr oedd yn cadarnhau fod y rhagolygon diweddaraf yn dangos tanwariant o £2.7 miliwn. Y mae hyn yn gynnydd ers sefyllfa mis Medi oedd yn dangos rhagolwg am danwariant o ryw £1.7 miliwn, ac sy’n adlewyrchu sefyllfa well y rhagolygon mewn ysgolion a hefyd y galw is na’r disgwyl mewn gofal cymdeithasol i oedolion o ganlyniad i bandemig Covid-19. Yr oedd tanwariant y llinell waelod yn cynnwys £1.4 miliwn o’r gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei angen ar hyn o bryd, ac yr oed dyn cyfrif am ychydig dan hanner y tanwariant. Yr oedd tanwariannau eraill yn ystod y flwyddyn yn gysylltiedig â rhai arbedion unwaith-am-byth yn y gyllideb eleni yn bennaf oherwydd cryn oedi wrth recriwtio a hefyd llawer llai o wariant amrywiol, er enghraifft, costau teithio/cynhaliaeth a chostau argraffu. Yr oedd y rhagolygon yn rhagdybio y byddai LlC yn  dal i ad-dalu a gwneud iawn am y meysydd gwario cyfredol a’r incwm a gollwyd oherwydd Covid-19. 

 

O ran materion allweddol, arbedion ar y CATC heb eu cyflawni yw’r prif fater unigol ar y gyllideb ar hyn o bryd. Cafodd Covid-19 gryn effaith ar berfformiad cyflwyno arbedion, ac er bod y sefyllfa wedi gwella ers mis Medi, yr oedd dros £1 miliwn o arbedion eto heb eu cyflawni. Byddai angen cyflwyno unrhyw arbedion nas gwnaed ar ddiwedd y flwyddyn mor fuan ag sydd modd y flwyddyn ddilynol, ond byddai hynny yn ychwanegol at unrhyw arbedion newydd am flwyddyn ariannol 2021/22.  Yn hynny o beth, er nad oedd modd osgoi hyn, fe fyddai yn achosi problemau a heriau. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Aelodau’r Cabinet i ganolbwyntio ar y rhain yn awr gymaint ag sy’n rhesymol bosib a pharhau â’r gwelliant. Y mae hyn yn cael ei wneud yn y cyd-destun mwyaf heriol, ac y mae’r Cyngor yn gwneud yr hyn a fedr i leihau pwysau at y flwyddyn nesaf.  Yn ychwanegol at hyn, y mae arall lle’r oedd pwysau ar y gyllideb oedd y galw cyson ar gyllidebau gofal cymdeithasol - plant yn enwedig - ac yr oedd gorwariant o £725 mil yn cael ei ragweld. Yr oedd y gorwariant yn cael ei leddfu gan arbedion yn erbyn meysydd eraill, rhai gwasanaeth a rhai heb fod yn wasanaethau, o bron i £3 miliwn, oedd yn dod i danwariant cyffredinol o £1.2 miliwn, sydd wedyn yn cael ei ychwanegu at y gyllideb gyffredinol wrth gefn nas gwariwyd ar hyn o bryd, sef £1.47 miliwn.

 

Er bod lefel y gorwariant oedd yn cael ei ragweld ar ysgolion yn faes pryder trwy gydol y flwyddyn, tanwariant oedd yn cael ei ragweld, fel y gwelir yn yr adroddiad.  Yr oedd y rhagolygon yn cael eu hadolygu yng ngoleuni effaith y pandemig a’r ad-daliad y byddai ysgolion yn ei dderbyn o gronfa caledi Llywodraeth Cymru a’r arian unwaith-am-byth fyddai’n cael ei dderbyn. Yr oedd yn dda nodi fod rhagolygon cyllidebau refeniw’r ysgolion wedi gwella; byddai hyn yn cynyddu’r arian wrth gefn sydd gan ysgolion i yn agos i £1.7 miliwn.  Yr oedd yr Arweinydd yn ymwybodol, serch hynny, fod cyllidebau ysgolion yn dal i fod dan gryn straen, a bod llawer o ysgolion yn dal i ddisgwyl gorwario yn y flwyddyn gyfredol. Mae’r swyddogion yn gweithio gydag ysgolion unigol ar eu cynlluniau adfer ariannol, a hyn yn dangos canlyniadau da. 

 

Dangosodd y rhagolygon fod y Cyngor mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau sydd o’n blaen. Mae angen mwy o waith i adolygu pa wariant ‘dal i fyny’ anorfod fyddai ei angen y flwyddyn nesaf, a byddai hyn yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth asesu sut i ddefnyddio’r tanwariant. Ni ddylai’r elfen honno fod yn sylweddol ynddi’i hun. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i’r Cabinet ystyried sut orau i ddefnyddio’r tanwariant. Yr oedd yr Arweinydd yn ymwybodol o risgiau cyson Covid a’r ansicrwydd ar hyn o bryd am faint yn union o gefnogaeth y byddai cynghorau yn dderbyn y flwyddyn nesaf am gostau Covid ac incwm a gollwyd yn chwarter neu hanner  cyntaf y flwyddyn.  Byddai Brexit hefyd yn bwnc i’w ystyried gan nad oedd llawer o’r manylion yn hysbys eto, a gallai hyn gael effaith. Bydd y rhain yn  bynciau allweddol i’w hystyried yn ogystal â blaenoriaethau eraill y Cabinet a’r angen fel arfer am arian unwaith-am-byth i gefnogi prosiectau. Byddai’r cyngor yn ystyried y rhain yn fanwl yn y man, ond yr oedd y sefyllfa yn caniatáu hyblygrwydd i asesu’r materion uchod.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Diolchodd y Cynghorydd Giles i holl staff, penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion, gan sicrhau y bydd yn eu cefnogi ym mhob ffordd i barhau i roi gwasanaeth addysg i’r disgyblion.

 

Yr oedd y Cynghorydd Truman yn pryderu am amwysedd ynghylch rheoliadau Brexit a’r hyfforddiant i swyddogion, gan ddweud fod angen eglurhad. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y Gwasanaethau  Plant a phalant a gyfeiriwyd, oedd wedi cynyddu yn ystod y pandemig; byddai cyfnod clo arall yn fater o bwys o ran diogelu plant.

 

Cytunwyd:

Gofynnwyd i’r Cabinet wneud y canlynol:

·        Nodi sefyllfa gyffredinol rhagolygon y gyllideb a’r meysydd lle bu gorwario sylweddol yn bennaf oherwydd arbedion CATC y dylai Penaethiaid Gwasanaeth ddal i ganolbwyntio ar weithredu’r arbedion y cytunwyd arnynt;

·        Nodi’r rhagdybiaethau gyda’r sefyllfa a ragwelwyd, ac yn enwedig yr ansicrwydd am (i) effaith Covid ar feysydd gwasanaeth a (ii) y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (LlC) am weddill y flwyddyn ariannol;

·        Nodi’r symudiadau a ragwelir yn yr arian wrth gefn;

·        Nodi’r heriau ariannol sylweddol y gallai ysgolion wynebu yn y dyfodol pe na baent yn rheoli eu cyllidebau, a’r effaith ddifrifol fyddai hyn yn gael ar gyllidebau refeniw eraill y Cyngor a’r arian wrth gefn, a bod gwaith ar y gweill i adolygu’r rhagolygon;

·        Nodi fod gwaith yn mynd rhagddo i nodi effaith cyllidebau heb eu gwario a meysydd sy’n derbyn grantiau er mwyn pennu beth i’w gario ymlaen i’r flwyddyn nesaf.

 

Dogfennau ategol: