Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn amlinellu cynigion am gyllideb ddrafft 2021/22.  Bu’n destun cryn waith dros y misoedd diwethaf, a llawer ohono’n cael ei wneud yng nghyd-destun heriol dim neu fawr ddim gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru na’r DU am gyllid craidd a thymor-byr cysylltiedig â Covid-19 am 2021/22, ac ansicrwydd Brexit. Derbyniodd y Cyngor fanylion y drafft o’r Grant Cynnal Incwm (GCI) yn unig ar 22 Rhagfyr 2020, ac o gofio’r ansicrwydd a grybwyllwyd uchod, wedi hynny yn unig y llwyddwyd i greu’r cynigion terfynol. Yr oedd angen mwy o waith eto, o gofio’r  setliad grant oedd yn uwch na’r disgwyl, er i lawer o waith gael ei wneud wedi’r setliad, fel bod y gyllideb ddrafft mor gynhwysfawr ag oedd modd.

 

O ganlyniad i hyn, dechreuodd yr ymgynghoriad ar y gyllideb dipyn yn hwyrach nag arfer, ond addaswyd gweddill yr amserlen i osod y gyllideb er mwyn cael cymaint o amser ag oedd modd i ymgynghori. Golygodd hyn y byddai gan drigolion, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid fel y Comisiwn tegwch annibynnol bedair wythnos lawn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yr oedd yr ymgynghoriad  wedi dechrau, a gofynnodd yr Arweinydd i drigolion, partneriaid a phawb ymwneud yn llawn. Yr oedd wedi ymrwymo i ymwneud cynhwysfawr â hyn, gan gynnwys gyda phrosesau mewnol fel pwyllgorau craffu.

 

Fel erioed, rhestrwyd pob cynnig unigol, yn fuddsoddiadau ac yn arbedion, yn atodiadau’r adroddiad. Yr oedd arbedion yn y gyllideb fyddai’n cael effaith ar wasanaethau wedi eu cynnwys yn fanwl, ac yr oedd dolenni yn yr adroddiad i fanylion arbedion eraill y gyllideb. Yr oeddem yn ymgynghori’n benodol ar y rhai gydag effaith ar wasanaethau ac yn derbyn sylwadau a’u hystyried cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol ym mis Chwefror. Cytunir heddiw ar gynigion eraill na fyddant yn cael effaith ar wasanaethau, i’r Penaethiaid Gwasanaeth eu gweithredu.

 

I droi at y manylion:

 

§  Cynyddodd costau chwyddiant y swm i ychydig dros £5m y flwyddyn nesaf, ac yr oedd tua’r lefel hon bob blwyddyn, ar sail rhagdybiaethau cynllunio. Yr oedd cryn ansicrwydd am chwyddiant tâl y flwyddyn nesaf, gyda Changhellor y DU yn cyhoeddi rhewi cyflogau am flwyddyn ac eithrio i’r rhai ar y cyflogau isaf, a llywodraeth leol yn pennu eu trefniadau tâl eu hunain. Hefyd, roedd cyflogau athrawon yn cael eu pennu gan Weinidog perthnasol Llywodraeth Cymru. Gan fod hwn yn faes risg uchel i’r gyllideb, gwnaeth y Cyngor ddarpariaeth ar gyfer codiadau chwyddiant, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

§  I 2021/22 yn benodol, yr oedd y cyngor am fuddsoddi bron i £8m yn y gyllideb ddrafft yn ychwanegol i lwfans am chwyddiant tâl a phrisiau. Yr oedd mwy o fanylion am fuddsoddiadau arfaethedig yn atodiad 1, ac ymysg rhai o’r eitemau allweddol yr oedd:

 

  • £1.8m wedi ei fuddsoddi yng nghyllidebau ysgolion
  • £2.6m o fuddsoddiad yn y rhaglen gyfalaf, i hwyluso dyheadau’r Cyngor a’r Fargen Ddinesig ar gyfer y ddinas a’r rhanbarth
  • £1.5m ar gyfer y galw cynyddol am ofal cymdeithasol i wasanaethau plant ac oedolion
  • £305k o fuddsoddiad i gyflawni’r addewidion yn y Cynllun Corfforaethol, megis cyflwyno dyheadau digidol, a chanolfan newydd i ailgylchu gwastraff cartref.

 

§  O ran arbedion, y cwantwm am 2021/22 oedd £3.3m , ac ychydig dros £600k o hyn wedi cytuno arno ym mhenderfyniadau blaenorol y gyllideb, gyda £2.7m yn gynigion newydd. O hyn, nododd y Cyngor ychydig llai na £1 miliwn ar gyfer ymgynghori, ond buom yn gweithio’n galed i nodi cymaint o arbedion ag oedd modd na fyddai’n cael llawer o effaith, ac yr oedd y rhain yn £1.7 miliwn.

 

Yr oedd y Cyngor yn ymgynghori ac yn cytuno ar holl arbedion y gyllideb sydd yn yr adroddiad am eleni, ac yn cynnwys swm bychan o bron i £260k a nodwyd ar gyfer y dyfodol.

 

Cynigiwyd hefyd godi Treth y Cyngor o 5%.  Yr oedd yr Arweinydd yn sylweddoli fod y codiad hwn yn uwch na chwyddiant, ond fel y dywedodd yr adroddiad, yr oedd gan Gasnewydd Dreth Cyngor isel, a hyd yn oed gyda setliad ariannol da gan LlC, rhaid i ni gadw hyn mewn cof er mwyn cefnogi ein trigolion mwyaf bregus, buddsoddi yn ein seilwaith,a chefnogi ein hucheglais i adfywio’r ddinas. Hyd yn oed gyda llawer o arian ychwanegol gan LlC, mae ein hangen i fuddsoddi mewn gwasanaethau a’r ddinas yn golygu fod angen codi Treth y Cyngor a dod o hyd i arbedion. Nid mater o godi Treth y Cyngor yn unig oedd y gyllideb; yr oedd arbedion hefyd, a buddsoddiad yn y ddinas a gwasanaethau.

 

Sylwadau’r Cabinet:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rahman at yr arbediad o £35M a nodi, ers 2012, yr arbedwyd gwerth £74.8M a gwneud toriadau, ond fod gwasanaethau yn dal i redeg yn dda, diolch i’r staff a’r Cyngor gofalgar sy’n cynnal y trigolion.

 

Nododd y Cynghorydd Truman fod y rhain yn amseroedd heriol, ond y byddai’r Cyngor a’r trigolion yn goroesi. Dangosodd y gyllideb fod y Cyngor yn buddsoddi mewn gwasanaethau a bod y staff yn gweithio’n galed, felly roedd yn bwysig buddsoddi mewn gwasanaethau lle gallem. Yr oedd hon yn gyllideb oedd yn gwrando, a byddwn yn croesawu sylwadau gan aelodau’r cyhoedd. Soniwyd hefyd fod rhai cynghorau wedi mynd yn fethdalwyr, ond nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn y sefyllfa hon ac yn dal i gynnal gwasanaethau, oedd yn gadarnhaol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at dudalen 42 o bapurau’r agenda, a dweud fod angen i’r swyddogion gorfodi gwastraff barhau â’u hymdrechion, a diolchodd i’r trigolion am eu hymdrechion i ailgylchu. Mae’r gwasanaeth hanfodol hwn yn dal ar gael, sy’n dda i Gasnewydd.

 

Canmolodd y Cynghorydd Davies gynigion y gyllideb, ac ategu’r ffaith mai cyllideb sy’n gwrando yw hon, a’i fod yn flaenoriaeth allweddol fod trigolion yn ymateb. Un o’r nifer o fuddsoddiadau i’w canmol oedd y gronfa eiddo gwag.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey ein bod yn y sefyllfa waethaf ers yr Ail Ryfel Byd, a bod staff ar lawr gwlad yn dal i gasglu sbwriel er bod risg iddynt hwythau. Y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi gwasanaeth o’r radd flaenaf gan staff o’r radd flaenaf.

 

Nododd y Cynghorydd Giles fod y Cyngor yn wastad wedi ymrwymo i sicrhau fod gan y trigolion bopeth sydd arnynt ei angen. Yr oedd hwn yn gyfnod anodd i rieni, gofalwyr ac athrawon. Mae’r Gwasanaethau Addysg yn gwneud galwadau ar y gyllideb, gan roi darpariaeth hanfodol ac ymrwymo i godi ysgolion newydd, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Yr oedd y Cynghorydd Mayer am atgoffa aelodau’r cyhoedd fod gwahanol ffyrdd o wneud sylwadau am yr ymgynghoriad, drwy’r post, y gwefan, Fy Nghasnewydd a Materion Casnewydd. Y gobaith oedd y byddai’r trigolion yn ymwneud â’r Cyngor ac yn rhoi adborth.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Cockeram i ddweud gair am gynigion y gyllideb a sut y byddant yn effeithio ar ei bortffolio/maes gwasanaeth. Esboniwyd fod y cyngor yn gwneud camau cadarnhaol i wella’r gofal cymdeithasol i blant trwy fuddsoddi mewn llety fel Rose Cottage, oedd yn torri i alwr ar leoliadau allsirol. Gwnaed arbedion mawr trwy leihau lleoliadau allsirol, ac yr oedd.  Rose Cottage yn llwyddiant enfawr, a chafodd ei enwebu am Wobr Gofal Cymdeithasol: er nad enillodd, cafodd glod uchel. Rhoddodd y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad gwych i Gymru gyfan am Rose Cottage, gan roi enghraifft o blentyn lleol yn dychwelyd o leoliad allsirol yn yr Alban, ffynnu yn Rose Cottage, a dychwelyd yn y pen draw at ei fam. Mae arbedion o ryw £8K yr wythnos yn digwydd. Mae cartref arall yn cael ei adnewyddu, a bydd yn barod erbyn mis Chwefror; felly hefyd Fferm Windmill a thri th?, felly mae cyfiawnhad dros gau T? Caergrawnt. 

 

Adfyfyriodd yr Arweinydd ar sylwadau cydweithwyr, a datgan mai swydd y Cabinet yw ystyried y cynigion fyddai’n mynd i’r cyhoedd, a bod hyn yn benderfyniad pwysig. Diolchodd yr Arweinydd i Aelodau’r Cabinet am eu sylwadau gwerthfawr a phrofiad eu portffolios, yn enwedig y Cynghorwyr Cockeram a Truman, ac am ymrwymiad y swyddogion.  Mae’r Cyngor yn dal i foderneiddio Casnewydd heb i hynny gael effaith negyddol ar yr economi.

 

Mae hyn hefyd yn fater o fuddsoddi yn y meysydd gwasanaeth yn ôl cais Llywodraeth Cymru, a phenderfyniadau yw’r rhain ar sail tystiolaeth am gynnal gwasanaethau trwy’r pandemig, trwy gymharu â chynghorau eraill. Nid yw’r rhain yn benderfyniadau hawdd, ac y mae gan y Cyngor ddyletswydd moesol a moesegol. Y mae’r holl wybodaeth yno, ac y mae’r Cabinet yn croesawu sylwadau’r cyhoedd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i beidio ag ymgynghori ar adnewyddu Maes Parcio View, a chefnogwyd hyn gan y Cynghorwyr Harvey a Giles. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorwyr Mayer a Whitehead am eu cyfraniad.

 

Cytunwyd:

1.         Ystyriodd y Cabinet yn ofalus yr holl gynigion a roddwyd gerbron gan y swyddogion, a chytuno i’r cynigion drafft isod fynd i ymgynghoriad gan y cyhoedd:

i)                 Cynigion am arbedion y gyllideb yn atodiad 2 (tabl crynhoi) ac atodiad 5 (cynigion manwl), gan gynnwys y pwynt penderfynu (naill ai’r Cabinet llawn neu’r Pennaeth Gwasanaeth) am bob un. Yr eithriad i hyn oedd peidio â bwrw ymlaen â’r cynnig i gyflwyno taliadau parcio i dri maes gwledig a chefn gwlad - Glebelands, Pwynt Gwylio Christchurch (Gwarchodfa Natur Leol) Morgan’s Pond (oddi ar Lôn Betws) (cynnig rhif STR2122/07).

ii)                Cymeradwyo gweithredu’r penderfyniadau dirprwyedig yn atodiad 3 gan y Penaethiaid Gwasanaeth yn syth, yn dilyn prosesau arferol y Cyngor i wneud penderfyniadau.

iii)              Cynnydd yn nhreth y cyngor o 5%, sef cynnydd wythnosol o £0.77 - £1.02 i eiddo ym Mandiau A i C, y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd, fel y gwelir ym mharagraffau 3.21 – 3.24.

iv)              Ffioedd a thaliadau arfaethedig yn atodiad 7; nid oedd unrhyw gynnydd mewn ffioedd meysydd parcio yn yr Atodiad hwn.

v)               Buddsoddiadau’r gyllideb a ddangosir yn atodiad 1.

vi)              Darpariaeth fuddsoddi’r gyllideb mewn ysgolion o hyd at £4,937k, seiliedig ar ragdyb o godiad cyflog athrawon/ yr NJC ac yn darparu ar gyfer gofyniad cyllido wedi ei gyllido’n llawn, ynghyd â chost ysgolion estynedig/newydd fel y nodir ym mharagraff 3.14 - 3.20. Yn benodol, cytunodd y Cabinet i gadarnhau hyn a’i roi ar ei ffurf derfynol pan geir sicrwydd am gyflogau athrawon o fis Medi 2021 gyda’r bwriad o gadw’r amcan a ddisgrifir uchod, o fewn yr arian sydd ar gael.

 

2.    Nododd y Cabinet

i)                 Y sefyllfa am ddatblygu cyllideb gytbwys am 2021/22, gan gydnabod fod y sefyllfa yn destun adolygu cyson a chyfoesiadau yn wyneb cyhoeddiad hwyr LlC am gyllid terfynol 2021/22.

ii)                Y rhagfynegiadau ariannol tymor canol, rhagdybiaethau yno, a’r rhagfynegiadau am fuddsoddiadau sydd ei angen i gadw at addewidion y Cynllun Corfforaethol.

iii)              Y cwblheir Asesiadau Tegwch ac Effaith Cydraddoldeb cychwynnol ar gyfer pob un sydd angen un.

iv)              Yr angen i flaenoriaethu datblygu ‘rhaglen newid strategol’ er mwyn datblygu sefyllfa ariannol gynaliadwy yn y tymor hir i wasanaethau.

 

 

Dogfennau ategol: